Canllawiau

Mewngofnodi i’ch cyfrif asiant awdurdodedig

Mae’n rhaid i chi fod wedi cofrestru fel Darparwr Gwasanaeth Corfforaethol Awdurdodedig (DGCA, a elwir hefyd yn asiant awdurdodedig), neu’n ddefnyddiwr ar gyfer DGCA.

Os ydych wedi cofrestru fel DGCA neu wedi cael eich ychwanegu fel defnyddiwr, defnyddiwch y cyfrif awdurdodedig er mwyn:

  • cael mynediad at wasanaethau DGCA – er enghraifft, er mwyn dweud wrth Tŷ’r Cwmnïau eich bod wedi gwirio hunaniaeth rhywun
  • gweld gwybodaeth am y DGCA – er enghraifft, rhif a statws DGCA

Bydd angen i chi fewngofnodi gan ddefnyddio eich GOV.UK One Login eich hun.

Mewngofnodi

Dyma fwy o wybodaeth am fod yn DGCA, gan gynnwys pa wasanaethau gallwch gael mynediad atynt a sut i gofrestru.

Beth allwch ddefnyddio’r cyfrif ar ei gyfer

Bydd y gwasanaethau y gallwch gael mynediad atynt yn dibynnu a ydych chi’n berchennog cyfrif, yn weinyddwr, neu’n ddefnyddiwr safonol.

Gall holl ddefnyddwyr DGCA fewngofnodi i’r cyfrif er mwyn:

  • gweld rhestr o ddefnyddwyr ar gyfer y DGCA
  • gwirio hunaniaeth pobl ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau

Os oes gennych gyfrif ar gyfer DGCA, gallwch hefyd:

  • ddiweddaru manylion y DGCA – bydd angen i chi wneud hyn o fewn 14 diwrnod os yw unrhyw fanylion wedi newid
  • cau’r cyfrif – os ydych yn gwneud hyn, ni fydd bellach wedi’i gofrestru fel DGCA

Ychwanegu a dileu defnyddwyr

Gall perchnogion cyfrifon ychwanegu a dileu’r holl ddefnyddwyr.

Gall gweinyddwyr ychwanegu a dileu gweinyddwyr eraill a defnyddwyr safonol.

Ni all defnyddwyr safonol ychwanegu na dileu defnyddwyr eraill.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 13 Ionawr 2026

Argraffu'r dudalen hon