Canllawiau

Anfon data car i CThEM: cynnwys buddiannau car a buddiannau tanwydd car yn y gyflogres

Sut i roi gwybod am ddata car i Gyllid a Thollau EM (CThEM) pan fo buddiannau car a buddiannau tanwydd car wedi'u cynnwys yn y gyflogres.

Trosolwg

Rhaid i gyflogwyr sydd wedi cofrestru i gynnwys treuliau a buddiannau trethadwy cyflogeion anfon y symiau trethadwy i Gyllid a Thollau EM (CThEM), drwy ddefnyddio Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS).

O 6 Ebrill 2017 ymlaen, gall cyflogwyr sydd wedi cofrestru anfon gwybodaeth am y ceir a ddefnyddir gan gyflogeion i CThEM yn wirfoddol. Mae hyn yn debyg i anfon gwybodaeth ar ffurflen P46 (Car), gan gyflogwyr nad ydynt yn cynnwys buddiannau yn y gyflogres.

O 6 Ebrill 2018 ymlaen, bydd yr wybodaeth hon yn orfodol os ydych yn gyflogwr sydd wedi cofrestru i gynnwys buddiannau yn y gyflogres pan fo car a thanwydd car ar gael i’r cyflogai.

Rhaid i gyflogwyr nad ydynt wedi cofrestru erbyn 6 Ebrill barhau i lenwi ffurflen P46 (Car).

Cael gwybod pa wybodaeth i’w hanfon

Mae’r rhestr isod yn dangos pa wybodaeth sydd ei hangen (os yw’ch meddalwedd cyflogres yn cydweddu):

  • gwneuthuriad a model y car
  • dyddiad y cofrestrwyd yn gyntaf
  • allyriadau carbon deuocsid (CO2)
  • milltiroedd allyriadau sero
  • math o danwydd
  • rhif adnabod y car
  • pris wedi’i gyfrifo
  • o ba ddyddiad roedd y car ar gael
  • tan ba ddyddiad roedd y car ar gael
  • arian parod cyfwerth neu’r swm perthnasol
  • y dyddiad pan ddarparwyd tanwydd am ddim
  • arian parod Cyfwerth neu’r enillion a aberthwyd yn gyfnewid am y tanwydd
  • dyddiad y tynnwyd y tanwydd am ddim yn ôl
  • dangosydd y diwygiad

Llenwi’r blychau

Mae’r penawdau isod yn dangos pa wybodaeth i’w chyflwyno yn y FPS cyntaf sy’n cynnwys treth wedi’i chynnwys yn y gyflogres.

Gwneuthuriad a model y car

Nodwch wneuthuriad a model y car a ddarperir.

Allyriadau CO2

Nodwch y ffigur allyriadau CO2 cymeradwy a ddangosir ar y Dystysgrif cofrestru cerbyd (V5C). Does dim angen ffigur CO2 ar gyfer:

  • ceir a gofrestrwyd gyntaf cyn 1998

  • rhai ceir prin sydd wedi’u mewnforio o dramor

Rhowch ‘X’ yn y blwch ar gyfer y ceir hyn.

Dyddiad y cofrestrwyd yn gyntaf

Rhaid i’r dyddiad a nodwyd fod yn heddiw neu’n gynharach. Gellir gweld y dyddiad y cofrestrwyd yn gyntaf ar eich dogfen V5C.

Milltiroedd allyriadau sero

O 2020 i 2021 Os oes gan gar ffigur allyriadau CO2 sy’n 1-50g/km, bydd yn rhaid i chi nodi milltiroedd allyriadau sero’r car. Dyma’r pellter mwyaf mewn milltiroedd y mae’n bosibl gyrru yn y modd trydan heb ailwefru’r batri.

Gall cyflogwyr gael yr wybodaeth hon gan y cwmni ceir ar brydles neu gan ddarparwr y fflyd.

Os ydych yn berchen ar y cerbyd, gallwch ddod o hyd i’r ffigur milltiroedd allyriadau sero ar Dystysgrif Cydymffurfio eich cerbyd.

Math o danwydd

Os ydych yn cyfrifo gwerth trethadwy ar gyfer blwyddyn dreth 2019 i 2020, dewiswch:

  • ‘F’ ar gyfer ceir diesel sy’n bodloni safon Ewro 6d (a elwir hefyd yn RDE2)
  • ‘D’ ar gyfer pob car diesel arall
  • ‘A’ ar gyfer pob car arall

Ar gyfer 2019 i 2020, bydd gwybodaeth ar gael gan yr Asiantaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA) er mwyn eich galluogi i wybod a yw car yn bodloni safon Ewro 6d drwy ei Gwasanaeth Ymholiadau Cerbydau ar-lein ar gyfer ceir a gynhyrchwyd ar ôl mis Medi 2018. Yn yr un modd, mae gwybodaeth safon Ewro 6d ar gael ar y ffurflen V5C ar gyfer ceir a gofrestrwyd o 1 Medi 2018 ymlaen.

Rhif adnabod y car

Mae’r blwch hwn yn eich helpu i adnabod pa gar rydych wedi’i ddyrannu i gyflogai, e.e. pan gaiff yr un modelau eu darparu. Awgrymwn eich bod yn nodi rhif cofrestru’r car.

Pris wedi’i gyfrifo

Nodwch y pris wedi’i gyfrifo. Y pris wedi’i gyfrifo yw pris sylfaenol y car ynghyd â phris unrhyw ategolion. Yna, tynnwch i ffwrdd unrhyw gyfraniad cyfalaf a dalwyd gan y cyflogai. Ni chaiff taliadau ar gyfer defnydd preifat, neu symiau eraill ‘a gyfrannwyd’, eu cynnwys yn y cyfrifiad hwn.

O ba ddyddiad roedd y car ar gael

Nodwch y dyddiad pan oedd y car ar gael am y tro cyntaf yn y FPS nesaf pan gaiff y cyflogai ei dalu. Dylech nodi 6 Ebrill yn y FPS cyntaf os oedd y car ar gael o’r dyddiad hwnnw.

Os oedd car newydd neu gar arall ar gael ar ôl anfon y FPS olaf ar gyfer blwyddyn dreth, dylech ddefnyddio’r FPS gyntaf yn y flwyddyn dreth newydd a nodi 6 Ebrill ar gyfer ‘ar gael o’.

I weld pa dreth sy’n daladwy ar gyfer y cyfnod roedd y car ar gael yn y flwyddyn dreth flaenorol, dylech ailgyfrifo’r swm trethadwy a’r dreth sy’n ddyledus. Yna, anfonwch y rhain ynghyd ag unrhyw ddiwygiad i’r cyflog trethadwy mewn FPS neu Ddiweddariad Blwyddyn Gynharach (EYU).

Tan ba ddyddiad roedd y car ar gael

Nodwch y dyddiad olaf roedd y car ar gael. Ni allwch nodi dyddiad sydd ar ôl 5 Ebrill mewn FPS ar gyfer yr un flwyddyn dreth.

Os nad oes car ar gael bellach ar ôl anfon y FPS olaf ar gyfer blwyddyn dreth, does dim rhaid i chi anfon FPS wedi’i ddiwygio ar gyfer data car yn y flwyddyn dreth nesaf. Byddai dyddiad ‘ar gael tan’ cyn 6 Ebrill yn cael ei wrthod.

Ni ellir anfon FPS mis 1 fel diwygiad ar gyfer data car â dyddiad 31 Mawrth arno. Er enghraifft, os mai 20 Mawrth oedd y dyddiad cyflog olaf, a doedd y car ddim ar gael o 31 Mawrth ymlaen.

Rhaid diwygio’r symiau trethadwy wedi’u cynnwys yn y gyflogres ar gyfer y FPS olaf yn ystod blwyddyn dreth, neu rhaid eu cynnwys fel rhan o EYU i ddangos y swm trethadwy diwygiedig. Mae hyn oherwydd y bydd y cyflogai wedi talu’r swm anghywir o dreth yn seiliedig ar argaeledd y car tan 31 Mawrth.

Arian parod cyfwerth neu’r swm perthnasol

Nodwch yr arian parod cyfwerth disgwyliedig neu’r swm perthnasol wrth anfon gwybodaeth am y tro cyntaf mewn FPS.

Y swm perthnasol yw’r ffigur trethadwy pan fo cyflogai’n ildio’i hawl i gael cyflog er mwyn cael buddiant yn lle hynny, megis car cwmni.

Y dyddiad pan ddarparwyd tanwydd am ddim

Nodwch 6 Ebrill ar gyfer y dyddiad os darparwyd tanwydd am ddim o ddechrau’r flwyddyn dreth. Fel arall, nodwch ddyddiad yn ystod y flwyddyn dreth pan rydych wedi cytuno i ddarparu tanwydd am ddim.

Arian parod cyfwerth neu’r enillion a aberthwyd yn gyfnewid am y tanwydd

Nodwch yr arian parod cyfwerth disgwyliedig neu swm yr enillion a aberthwyd yn gyfnewid am y tanwydd sydd ar gael i gyflogai.

Y swm a aberthwyd yw swm yr enillion a aberthwyd er mwyn cael buddiant tanwydd car yn lle hynny.

Y dyddiad y tynnwyd y tanwydd am ddim yn ôl

Nodwch y dyddiad y tynnwyd y tanwydd am ddim yn ôl. Os cafodd y tanwydd am ddim ei dynnu’n ôl ar ddiwedd y flwyddyn dreth flaenorol, ond ni chaiff ei ddarparu yn y flwyddyn dreth newydd, peidiwch â llenwi’r blwch hwn.

Diwygiadau a chywiriadau

Mae’r penawdau isod yn dangos sut i gywiro neu ddiwygio cyflwyniad.

Dangosydd y diwygiad

Dylech nodi ‘Iawn’ os oes angen cywiriad yn ystod y flwyddyn dreth ar gyfer y blychau canlynol:

  • gwneuthuriad a model y car
  • dyddiad y cofrestrwyd yn gyntaf
  • allyriadau CO2
  • milltiroedd allyriadau sero
  • math o danwydd
  • rhif adnabod y car
  • pris wedi’i gyfrifo
  • o ba ddyddiad roedd y car ar gael
  • tan ba ddyddiad roedd y car ar gael
  • arian parod cyfwerthneu’r swm perthnasol
  • y dyddiad pan ddarparwyd tanwydd am ddim
  • arian parod cyfwerth/swm a aberthwyd yn gyfnewid am y tanwydd
  • dyddiad y tynnwyd y tanwydd am ddim yn ôl

Yna, nodwch y manylion diwygiedig ar gyfer un neu ragor o’r blychau uchod yn y FPS nesaf yn y flwyddyn dreth. Os oes angen i chi gyflwyno newid i ddata car yn unig ond ddim manylion cyflog a threth, dylech:

  • adael y blychau ‘cyflog yn ystod y cyfnod’ yn wag
  • gynnwys y manylion cyflog a threth hyd yma ar gyfer y flwyddyn

Os na thelir incwm yn ystod y cyfnod cyflog nesaf, rhaid i chi roi gwybod am y newid i’r data car yn unig. Er enghraifft, os telir y cyflogai’n afreolaidd.

Os daw data car anghywir i’r amlwg ar ôl i chi anfon y FPS olaf, dylech anfon y manylion cywir yn y FPS cyntaf yn y flwyddyn dreth newydd, os yw’r car ar gael o hyd. Ni ddylid defnyddio dangosydd y diwygiad.

Cywiriadau

Dim ond yn y FPS nesaf yn ystod y flwyddyn dreth y dylid nodi cywiriadau i wybodaeth am ddata car. Ni allwch roi gwybod am ddiwygiadau i ddata car mewn EYU.

Gwneuthuriad a model y car

Os ydych wedi rhoi disgrifiad anghywir, gwnewch y newidiadau ac anfon y wybodaeth gywir.

CO2

Os ydych wedi nodi’r ffigur CO2 anghywir, dylech ddewis ‘Iawn’ ar gyfer dangosydd y diwygiad ac anfon y ffigur CO2 cywir yn eich FPS nesaf.

Os byddwch yn dod o hyd i’r ffigur CO2 anghywir ar ôl diwedd y flwyddyn dreth, gwnewch yn siŵr fod y FPS cyntaf ar gyfer y flwyddyn dreth newydd yn dangos y ffigur cywir os yw’r car yn dal i gael ei gynnwys yn y gyflogres.

Math o danwydd

Os ydych wedi cyflwyno’r llythyren anghywir ar gyfer y math o danwydd, anfonwch yr un cywir yn eich FPS nesaf a dewiswch ‘Iawn’ ar gyfer dangosydd y diwygiad.

Os yw’n dod i’r amlwg bod y math o danwydd yn anghywir ar ôl diwedd y flwyddyn dreth, gwnewch yn siŵr fod y FPS cyntaf ar gyfer y flwyddyn dreth newydd yn dangos y math cywir, os yw’r car yn dal i gael ei gynnwys yn y gyflogres.

Rhif adnabod y car

Os ydych wedi sylweddoli bod cofnod yn anghywir, cyflwynwch y manylion cywir yn eich FPS nesaf a dewiswch ‘Iawn’ ar gyfer dangosydd y diwygiad.

Pris wedi’i gyfrifo

Os yw’r pris wedi’i gyfrifo yn anghywir, dylech ddewis ‘Iawn’ ar gyfer dangosydd y diwygiad a chynnwys y pris newydd yn y FPS nesaf.

O ba ddyddiad roedd y car ar gael

Os yw’r dyddiad ‘ar gael o’ yn anghywir, dylech ddewis ‘Iawn’ ar gyfer dangosydd y diwygiad a chynnwys y dyddiad newydd yn y FPS nesaf.

Tan ba ddyddiad roedd y car ar gael

Os sylweddolir, nes ymlaen, bod y dyddiad hwn yn anghywir, dylech ddewis ‘Iawn’ ar gyfer dangosydd y diwygiad a chynnwys y dyddiad newydd yn y FPS nesaf cyn diwedd y flwyddyn dreth.

Arian parod cyfwerth/swm perthnasol

Os nad yw’r car ar gael bellach, neu os yw’r arian parod cyfwerth neu’r swm perthnasol yn anghywir, dylid newid yr arian parod cyfwerth neu’r swm perthnasol yn y FPS nesaf, a rhoi gwybod amdano fel diwygiad.

Y dyddiad pan ddarparwyd tanwydd am ddim

Os yw’r dyddiad y rhoddir gwybod amdano yn anghywir, dylid anfon diwygiad a nodi dyddiad diwygiedig. Os caiff y tanwydd am ddim ei dynnu’n ôl, nid yw hynny’n ddiwygiad. Dylech lenwi’r blwch ‘dyddiad y cafodd y tanwydd am ddim ei dynnu’n ôl’.

Arian parod cyfwerth neu’r enillion a aberthwyd yn gyfnewid am y tanwydd

Dylid diwygio’r blwch hwn os yw’r arian parod cyfwerth neu swm yr enillion a aberthwyd yn gyfnewid am y tanwydd yn anghywir, neu os yw argaeledd y tanwydd yn newid.

Y dyddiad y tynnwyd y tanwydd am ddim yn ôl

Os oedd y dyddiad a nodwyd gennych mewn FPS blaenorol yn yr un flwyddyn dreth yn anghywir, anfonwch y cywiriad fel diwygiad.

Dyddiad y cofrestrwyd yn gyntaf

Os ydych wedi nodi’r dyddiad y cofrestrwyd yn gyntaf yn anghywir, dylech ddewis ‘Iawn’ yn y dangosydd diwygiadau, a nodi’n gywir y dyddiad y cofrestrwyd yn gyntaf yn eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) nesaf.

Milltiroedd allyriadau sero

Os ydych wedi nodi’r milltiroedd allyriadau sero yn anghywir, dylech ddewis ‘Iawn’ yn y dangosydd diwygiadau, a nodi’r milltiroedd allyriadau sero cywir yn eich Cyflwyniad Taliadau Llawn (FPS) nesaf.

Cyhoeddwyd ar 20 February 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 April 2020 + show all updates
  1. Amendments and corrections information updated for zero emission mileage and date first registered.

  2. Car fuel type information amended for the 2020 to 2021 tax year.

  3. Car fuel type information amended for the 2019 to 2020 tax year.

  4. Updated with information for RDE2 (also known as Euro 6d) compliant diesel cars for tax year 2018 to 2019.

  5. Guidance on payrolling car fuel benefits for employees has been added.

  6. A Welsh language version of the guidance has been added.

  7. First published.