Canllawiau

Anfonwch fanylion i ategu eich hawliad am ad-daliad TAW

Os ydych wedi cael llythyr neu e-bost oddi wrth CThEF yn gofyn i chi anfon rhagor o fanylion i ategu’ch hawliad am ad-daliad TAW, defnyddiwch y ffurflen hon.

Dylech ond defnyddio’r ffurflen hon os ydych wedi cael llythyr neu e-bost oddi wrth CThEF yn gofyn i chi anfon rhagor o fanylion i ategu’ch hawliad am ad-daliad TAW. Bydd y llythyr neu’r e-bost yn dweud wrthych am ddefnyddio’r ffurflen.

Pryd y dylech anfon manylion

Dim ond os yw pob un o’r canlynol yn berthnasol y dylech ddefnyddio’r ffurflen hon:

  • rydych wedi hawlio ad-daliad TAW ar eich Ffurflen TAW

  • anfonodd CThEF lythyr neu e-bost atoch yn rhoi gwybod i chi ein bod ni’n mynd i wirio’ch ffigurau

Gallwch hefyd ddefnyddio’r ffurflen hon os ydych yn asiant awdurdodedig sy’n anfon manylion ar ran cleient.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Bydd angen i chi gynnwys yr wybodaeth a’r dogfennau canlynol wrth lenwi’r ffurflen:

  • eich rhif cofrestru TAW
  • y cyfeirnod CFS, CFSS neu CFSRP sydd ar y llythyr neu’r e-bost a anfonwyd gennym (er enghraifft, CFSRP-12345)
  • manylion eich prif weithgareddau busnes
  • y dyddiad y gwnaethoch ddechrau masnachu (os mai dyma’ch Ffurflen TAW gyntaf)
  • y cyfraddau TAW sy’n berthnasol i’ch gwerthiannau

  • manylion unrhyw gynlluniau TAW rydych yn eu defnyddio, er enghraifft, y Cynllun Cyfrifyddu Arian Parod TAW

  • manylion am bwy lenwodd a phwy gyflwynodd y Ffurflen TAW

  • enwau unrhyw becynnau meddalwedd rydych yn eu defnyddio os ydych yn dilyn y rheolau Troi Treth yn Ddigidol

  • eich cyfrif TAW manwl

  • eich 10 anfoneb uchaf o ran gwerth wrth brynu lle mae TAW wedi’i chodi

  • copïau o gyfriflenni banc gwreiddiol

  • awdurdodiad ysgrifenedig gan y cwsmer sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW (os yw rhywun arall yn llenwi’r ffurflen)

Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, mae’n bosibl y bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth ychwanegol hefyd.

Os mai dyma’ch Ffurflen TAW gyntaf

Bydd angen i chi hefyd anfon tystiolaeth o’r TAW a dalwyd ar nwyddau a gwasanaethau a gafwyd cyn cofrestru ar gyfer TAW (darllenwch adran 11 o Hysbysiad TAW 700 (yn agor tudalen Saesneg)).

Os gwnaethoch brynu nwyddau cyn cofrestru, anfonwch gyfrif stoc yn dangos y canlynol:

  • disgrifiad o bob eitem
  • y dyddiad a brynwyd
  • y swm a’r swm a dalwyd (gan gynnwys TAW)

  • manylion a dyddiadau unrhyw werthiant neu warediad a nifer y nwyddau

Os cawsoch wasanaethau cyn cofrestru, anfonwch gyfrif o’r gwasanaethau sy’n dangos:

  • disgrifiad o bob gwasanaeth
  • y dyddiad y daeth i law
  • y swm a dalwyd (gan gynnwys TAW)

Os yw’ch busnes yn masnachu’n rhyngwladol

Os ydych yn mewnforio neu’n allforio nwyddau, cofiwch gynnwys:

  • anfonebau gwerthiannau wedi’u hallforio a dogfennau ategol
  • dogfennau TAW mewnforio

Os yw’ch hawliad yn ymwneud â thir neu eiddo

Os yw’ch hawliad am ad-daliad TAW yn ymwneud â phrynu tir neu eiddo, cofiwch gynnwys:

  • datganiad cwblhau
  • y ddogfen gofrestru tir (neu debyg)
  • tystiolaeth o daliad neu drosglwyddo arian (gan gynnwys ystyriaeth nad ydynt yn ariannol)
  • tystiolaeth o dalu unrhyw drethi tir
  • anfonebau prynu

Os ydych yn cyflenwi gwasanaethau adeiladu

Os yw’ch busnes yn gwneud gwaith adeiladu, cofiwch gynnwys:

  • cyfeiriad a chod post safleoedd adeiladu
  • unrhyw gyfeirnodau cynllunio

Os oes gennych ddogfennau neu wybodaeth ategol eraill

Dylech gynnwys unrhyw wybodaeth neu ddogfennau ychwanegol sy’n ymwneud â’ch hawliad am ad-daliad TAW, megis:

  • cytundebau hurbwrcasu neu gytundebau prydlesu
  • anfonebau gwerthiannau lle codwyd cyfraddau TAW ansafonol
  • unrhyw ddogfennau eraill y credwch y byddant yn helpu CThEF i brosesu’ch hawliad

Sut i awdurdodi rhywun i weithredu ar eich rhan

Gallwch awdurdodi asiant i weithredu ar eich rhan i ategu’ch hawliad am ad-daliad TAW gan ddefnyddio’r canlynol:

Gallwch hefyd ddefnyddio trydydd parti, fel cyflogai neu aelod o’r teulu, i weithredu ar ran y busnes. Mae’n rhaid i chi roi caniatâd ysgrifenedig. Gallwch uwchlwytho’r caniatâd hwn yn y ffurflen ar-lein.

Pan fyddwch yn rhoi caniatâd, mae’n rhaid i chi gynnwys y canlynol:

  • enw pob person rydych yn ei awdurdodi, a’u llofnodion wedi’u dyddio, hyd at uchafswm o 2 berson
  • enw’r cwsmer sydd wedi’i gofrestru ar gyfer TAW, ei swydd yn y busnes a’i lofnod wedi’i ddyddio
  • cadarnhad y gall pob person weithredu ar ran y busnes ar gyfer hawliadau am ad-daliad TAW

Os oes angen i chi roi gwybod i ni am fwy nag un cyfnod Ffurflen TAW

Bydd angen i chi lenwi ffurflen newydd ar gyfer pob cyfnod rydym wedi gofyn am fanylion yn ei gylch.

Bydd angen i chi nodi manylion amdanoch chi’ch hun a’r busnes bob tro, ac uwchlwytho dogfennau i ategu’r cyfnod hwnnw.

Sut i anfon manylion

Bydd angen arnoch y manylion mewngofnodi a ddefnyddioch wrth gofrestru ar gyfer TAW.

Os ydych yn asiant awdurdodedig sy’n anfon manylion ar ran cleient, dylech ddefnyddio eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer asiantau. Gallwch ond llenwi’r ffurflen hon ar ran cleientiaid sydd wedi’u hawdurdodi.

Gallwch gadw’r hyn yr ydych wedi’i nodi a dod yn ôl yn nes ymlaen.

Dechrau nawr

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Rydym yn bwriadu edrych ar yr wybodaeth y byddwch yn ei hanfon cyn pen 7 diwrnod gwaith.

Byddwn yn cysylltu â chi pan fyddwn wedi dod i benderfyniad, neu os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom.

Os na fyddwch yn clywed gennym ar ôl 7 diwrnod gwaith, gallwch gysylltu â ni gan ddefnyddio’r rhif ffôn sydd ar y llythyr a anfonwyd gennym.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 2 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 9 Rhagfyr 2025 show all updates
  1. Updated the 'what you'll need' section to remove examples of specific documents so the guidance is clearer.

  2. Information added about the evidence needed for VAT paid on goods and services received, before VAT registration.

  3. Instructions have been added for how to authorise someone to act on your behalf and what to do if you need to tell us about more than one VAT period.

  4. Guidance about what you’ll need has been updated to explain that you can also use your 'CFS' reference number.

  5. Added translation

  6. First published.

Argraffu'r dudalen hon