Canllawiau

Ffioedd ar gyfer Rhaglenni Rheoli Cenedlaethol ar gyfer Salmonela: profi a chymeradwyo

Ffioedd ar gyfer profi heidiau o ddofednod masnachol ar gyfer salmonela ac i gymeradwyo labordai i brofi am salmonela.

Applies to England, Scotland and Wales

Mae’r Rhaglen Reoli Genedlaethol (NCP) ar gyfer salmonela yn cynnwys profi heidiau o ieir a thyrcwn masnachol ledled Prydain Fawr.

Pwy sy’n gallu casglu samplau swyddogol o dan y Rhaglen Reoli Genedlaethol

Rhaid i samplau swyddogol o dan y Rhaglen Reoli Genedlaethol gael eu casglu naill ai gan:

  • yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA)

  • Corff Rheoli Annibynnol cymeradwy, gyda’r samplau’n cael eu profi gan APHA Newcastle

  • milfeddygon preifat hyfforddedig (mewn nifer cyfyngedig o senarios)

Samplau gweithredwyr NCP

Rhaid i gynhyrchwyr dofednod gasglu a chyflwyno samplau gweithredwyr NCP.

Ffioedd ar gyfer ceidwaid dofednod

Rhaid i chi dalu ffioedd am samplau rheoli swyddogol a gymerir o’ch daliad ac a brofir gan APHA.

Ffioedd ar gyfer casglu a phrofi samplau

Bydd angen i chi dalu’r canlynol:

  • £12 fesul chwarter awr neu lai ar gyfer yr amser y mae APHA yn ei dreulio yn cymryd samplau ac yn teithio i’r safle ac oddi yno er mwyn casglu samplau
  • £18 fesul sampl a brofir mewn labordy
  • ffi sefydlog yn dibynnu ar y math o heidiau rydych yn eu cadw
Math o haid Ffioedd o 1 Gorffennaf 2023 Ffioedd o 1 Gorffennaf 2024
Heidiau o ieir sy’n dodwy wyau £41 £49
Heidiau o ieir bridio £68 £83
Heidiau o frwyliaid (sy’n cael eu magu ar gyfer cig) £95 £117
Heidiau o dyrcwn (pesgi) £95 £117
Heidiau o dyrcwn (bridio) £68 £83

Enghraifft

Ar sail ffioedd o 1 Gorffennaf 2023 i 30 Mehefin 2024, pe byddai un o swyddogion APHA yn treulio 30 munud yn teithio i’ch safle ac yna’n treulio 80 munud yn cymryd 2 sampl o haid o ieir sy’n dodwy wyau ar eich daliad, byddai ffi o £197 yn cael ei chodi arnoch. Mae hyn yn cynnwys:

  • y ffi sefydlog o £41
  • 2 x £18 i dalu cost cynnal profion labordy ar bob sampl (cyfanswm o £36)
  • 6 x £12 am y 5 chwarter awr, ac 1 rhan o chwarter awr a gymerwyd (cyfanswm o £72)
  • 4 x £12 am y 4 chwarter awr, ar gyfer amser teithio yn ôl ac ymlaen o 60 munud (cyfanswm o £48)

Ffioedd am herio canlyniad prawf positif o haid sy’n cynhyrchu wyau i’w bwyta gan bobl

Os caiff mathau penodol o salmonela eu canfod yn eich haid, bydd APHA yn rhoi cyfyngiadau ar waith.

Gallech fod yn gymwys i gael profion ychwanegol er mwyn sicrhau na chafwyd canlyniad prawf positif ffug posibl.

APHA fydd yn penderfynu a oes angen gwneud rhagor o waith samplu ar sail eich cais ysgrifenedig. Bydd yn rhoi cyngor ar ba samplau sydd eu hangen ac naill ai’n goruchwylio’r broses o’u casglu neu’n casglu’r samplau ei hun.

Bydd angen i chi dalu £123 (a fydd yn cynyddu i £146 ar 1 Gorffennaf 2024) ar gyfer:

  • haid buarth neu ysgubor nad yw’n cael ei chadw mewn uned aml-haen: 2 sampl llwch a 5 pâr o samplau swab o esgidiau
  • haid buarth neu ysgubor sy’n cael ei chadw mewn uned aml-haen: 2 sampl llwch, 3 phâr o swabiau ffabrig o feltiau tail a 2 bâr o samplau swab o esgidiau
  • haid mewn cawell lle nad oes digon o ysgarthion i’w samplu ar y beltiau tail: 2 sampl llwch a 5 sampl o ysgarthion wedi’u cronni
  • haid mewn cawell lle mae digon o ysgarthion i’w samplu ar y beltiau tail: 2 sampl llwch, a 5 pâr o swabiau ffabrig o’r beltiau tail

Bydd angen i chi dalu £3,203 (a fydd yn cynyddu i £3,936 ar 1 Gorffennaf 2024) ar gyfer sampl o 300 o garcasau ieir.

Bydd angen i chi dalu £3,517 (a fydd yn cynyddu i £3,954 ar 1 Gorffennaf 2024) ar gyfer sampl o 4,000 o wyau.

Rhaid i chi dalu’r un ffioedd ar gyfer amser a theithio APHA â’r hyn sy’n cael ei godi am gasgliad safonol o samplau a phrofion.

Sut i dalu eich ffioedd

Byddwch yn cael un anfoneb pan fydd APHA wedi cynnal y gwaith samplu swyddogol ac y bydd y prawf wedi’i gwblhau mewn labordy APHA.

Byddwch yn cael anfoneb am brofion y labordy yn unig os bydd milfeddygon neu samplwyr preifat nad ydynt yn rhan o APHA yn casglu’r samplau swyddogol.

Mae’r holl ffioedd wedi’u heithrio rhag TAW.

Ffioedd ar gyfer gweithredwyr labordy

Rhaid i labordai preifat cymeradwy dalu ffioedd i wneud cais am gymeradwyaeth i gyflawni profion NCP.

Ffioedd i gael cymeradwyaeth neu i adnewyddu cymeradwyaeth

Pan fyddwch yn gwneud cais am gymeradwyaeth neu i adnewyddu cymeradwyaeth i brofi o dan y Rhaglenni Rheoli Cenedlaethol ar gyfer Salmonela, mae’n rhaid i chi dalu:

  • £86 i brosesu eich cais neu i adnewyddu cais am gymeradwyaeth
  • £176 i dalu am brofion medrusrwydd ar gyfer salmonela 4 gwaith y flwyddyn

Mae’r flwyddyn yn dechrau ym mis Ebrill ac os byddwch yn gwneud cais yn ddiweddarach, bydd APHA yn codi tâl pro rata arnoch (£44 fesul prawf).

Os bydd prawf yn methu, bydd yn rhaid i chi dalu £44 ychwanegol am bob prawf medrusrwydd ychwanegol.

Bydd angen i chi wneud cais i adnewyddu eich cymeradwyaeth bob 2 flynedd.

Ffioedd am archwiliadau

Gall APHA gynnal archwiliad sy’n gysylltiedig â’r amser cymeradwyo neu ailgymeradwyo (bob 2 flynedd). Gall fod angen i APHA hefyd archwilio eich safle os bydd materion sicrwydd ansawdd yn gysylltiedig â’r gymeradwyaeth.

Mae archwiliadau sicrhau ansawdd yn costio £688, a fydd yn cynyddu i £1,025 o 1 Gorffennaf 2024.

Cyhoeddwyd ar 18 November 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 5 July 2023 + show all updates
  1. In Wales, there are new fees for Salmonella NCP services from 5 July 2023. Some fees will increase again on 1 July 2024.

  2. In England and Scotland, there are new fees for Salmonella National Control Programmes from 1 July 2023. Some fees will increase again on 1 July 2024.

  3. Updated to clarify this page is about surveillance in commercial flocks in Great Britain and when keepers need to pay fees. Also updated the sections 'Fees for poultry keepers' and ‘Egg-laying chicken flocks: fees to dispute a positive test result’.

  4. Fees updated

  5. Note added about changes to the issuing of invoices introduced on 1 February 2016.

  6. First published.