Canllawiau

Dychwelyd rhodd: sut y gall elusennau wneud taliadau moesol (ex gratia)

Sut gall eich elusen wneud taliad moesol ('ex gratia') nad yw'n cefnogi ei nodau.

This guidance was withdrawn on

This guidance is no longer current. Please see our guidance Ex gratia payments by charities (CC7).

Applies to England and Wales

Am daliadau moesol (ex gratia)

Gall elusennau wario eu harian ar brosiectau neu weithgareddau sy’n cefnogi’r nodau yn eu dogfennau llywodraethol yn unig. Ond gall fod adegau pan fydd ymddiriedolwyr yn teimlo y dylent wneud taliad oherwydd rheidrwydd moesol.

Os nad yw’r taliad wedi’i ganiatáu gan ddogfen lywodraethol eich elusen neu’r gyfraith, ac nid yw er lles gorau’r elusen mewn gwirionedd, fe’i gelwir yn daliad moesol neu’n daliad ‘ex gratia’.

Gall y sefyllfa hon godi os yw’ch elusen yn derbyn cymynrodd ond mae tystiolaeth i ddangos bod y sawl sydd wedi marw wedi newid ei feddwl ers gwneud yr ewyllys.

Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i’ch elusen gadw popeth y mae’n ei dderbyn fel cymynrodd. Ond gallwch dalu rhywun o gyfran yr elusen o’r gymynrodd, fel bod ef neu hi yn derbyn beth roedd yr ymadawedig wedi bwriadu iddo neu iddi ei gael, os oes:

  • tystiolaeth addas, ac
  • mae’r ymddiriedolwyr yn teimlo rheidrwydd moesol i wneud y taliad

Er enghraifft, mae rhywun yn gadael arian yn ei ewyllys i’w wyrion ac i elusen. Mae’n newid ei ewyllys i gynnwys ŵyr ond yn marw cyn arwyddo’r ewyllys. Mae’r elusen am anrhydeddu bwriadau’r sawl sydd wedi gwneud yr ewyllys drwy roi rhywfaint o’r arian yn ôl.

Mae’n rhaid i chi ofyn i’r comisiwn gymeradwyo unrhyw daliad ‘moesol’:

  • nad oes unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol arnoch i’w wneud
  • nid yw’ch dogfen lywodraethol yn caniatáu i chi ei wneud
  • ni allwch ei gyfiawnhau fel taliad sydd er lles gorau eich elusen

Sut i benderfynu a oes rheidrwydd moesol arnoch

Mae’n rhaid i chi a’r ymddiriedolwyr eraill benderfynu a oes rheidrwydd moesol arnoch i wneud y taliad, gan gofio:

  • mae hawl gan unrhyw un sy’n gwneud ewyllys i roi ei arian neu ei eiddo i bwy bynnag y mae’n dymuno
  • os yw perthnasau yn siomedig, nid yw hynny’n ddigon ynddo’i hun i gyfiawnhau taliad ex gratia
  • gall gwneud taliad ex gratia effeithio ar eich buddiolwyr, oherwydd ni fydd eich elusen yn gallu defnyddio’r arian neu’r eiddo a gymynwyd mwyach

Bydd rhaid i chi brofi i’r Comisiwn Elusennau ‘pe bai’r elusen yn unigolyn byddai’n anghywir yn foesol i wrthod gwneud y taliad’.

Gwnewch gais i’r comisiwn am ganiatâd dim ond os ydych:

  • yn teimlo bod rheidrwydd moesol arnoch i wneud y taliad
  • gallwch ddarparu tystiolaeth glir i gefnogi eich penderfyniad

Gwneud cais am ganiatâd y Comisiwn Elusennau

Cwblhewch ffurflen ar-lein y comisiwn ac amlinellwch ffeithiau’r achos mor glir ag y gallwch. Bydd rhaid i chi gael tystiolaeth glir a diduedd i gefnogi eich penderfyniad.

Bydd y comisiwn yn derbyn ceisiadau gan ymddiriedolwyr elusen neu eu cynrychiolwyr yn unig. Ni all dderbyn ceisiadau gan unrhyw un a fyddai’n elwa o’r taliad arfaethedig.

Pa wybodaeth i’w darparu ar y ffurflen

Mae’n drosedd o dan adran 60(1)(b) o Ddeddf Elusennau 2011 i ddarparu’n fwriadol neu’n ddi-hid wybodaeth anghywir neu gamarweiniol.

Bydd rhaid i chi ddarparu::

  • manylion am y taliad(au) ac enw(au) llawn y sawl sydd i’w dalu
  • os yw’n gymwys, copi o’r ewyllys a phrawf ei bod yn ddilys yn gyfreithiol (profiant) fel ffeiliau PDF
  • tystiolaeth nad yw’r ewyllys yn ystyried bwriadau’r ymadawedig
  • tystiolaeth i ddangos pam nad oedd modd gwireddu dymuniadau’r ymadawedig
  • copïau o unrhyw gyngor cyfreithiol rydych wedi’i geisio (fel ffeiliau PDF)

Dylech hefyd ddarparu unrhyw dystiolaeth arall sy’n cefnogi eich penderfyniad, megis cofnodion y cyfarfod lle y penderfynwyd bod rheidrwydd moesol ar yr elusen i wneud y taliad.

Nid yw datganiad gan rywun sy’n honni bod hawl ganddo/ganddi gael taliad yn ddiduedd ac yn ddigon o dystiolaeth ar ei phen ei hun. Mae ewyllys ddrafft (heb ei chyflawni) yn enghraifft o dystiolaeth dderbyniol.

Cyhoeddwyd ar 23 May 2013