Gwneud cais i gysylltu daliadau gwartheg a defnyddio'r cysylltiadau hynny (cysylltiadau SOG)
Gallwch gysylltu eich daliad â daliadau eraill ar y System Olrhain Gwartheg os ydych yn symud gwartheg yn aml rhyngddynt.
Yn berthnasol i Loegr a Scotland
Mae rhai ceidwaid gwartheg yn symud gwartheg rhwng dau ddaliad neu fwy yn rheolaidd, er enghraifft:
- er mwyn defnyddio tir pori tymhorol neu gyfleusterau a rennir
- oherwydd bod ganddynt fwy nag un daliad
Yn y sefyllfa hon, gallwch ofyn i GSGP sefydlu cysylltiad neu gysylltiadau rhwng y daliadau ar y System Olrhain Gwartheg (SOG). Nid yw hyn yr un peth ag Awdurdod Meddiannaeth Unigol (Cymru a Lloegr yn unig).
Mae cysylltiadau yn caniatáu i chi symud gwartheg rhwng daliadau heb orfod rhoi gwybod i GSGP am y symudiadau hynny. Fodd bynnag, mae’n rhaid i chi wneud y canlynol o hyd:
- cofnodi’r symudiadau rhwng daliadau â chysylltiad ar gofrestr eich daliad
- cydymffurfio â’r holl reolau eraill o ran symud gwartheg
- rhoi gwybod am unrhyw symudiadau eraill a’u cofnodi yn y ffordd arferol
Un o ganlyniadau pwysig creu cysylltiad rhwng daliadau yw y caiff pob daliad â chysylltiad ei osod o dan gyfyngiadau symud os bydd achosion o glefyd anifeiliaid ar un o’r daliadau.
Ni ddyfernir cysylltiadau SOG yn awtomatig. Mae’n rhaid i geidwaid gwartheg â mwy nag un daliad wneud cais o hyd am y cysylltiadau SOG angenrheidiol er mwyn symud gwartheg rhwng eu daliadau heb orfod rhoi gwybod am y symudiadau hynny.
Y rheolau ar ddaliadau â chysylltiad
Nid oes rhaid i chi roi gwybod i GSGP pan fyddwch yn symud gwartheg rhwng y daliadau â chysylltiad, ond mae’n rhaid i chi gofnodi’r symudiadau hynny ar gofrestr eich daliad o hyd (yr eithriad i hyn yw teirw llogi a gaiff eu symud at ddibenion cyplu - rhaid i chi bob amser roi gwybod am y symudiadau hyn).
Mae’n rhaid i chi gyflawni pob un o amodau eraill y drwydded gyffredinol ar gyfer symud gwartheg o dan y gorchymyn rheoli clefydau yn Lloegr neu yr Alban, gan gynnwys y gofynion gwahardd symud da byw.
Mae’n rhaid i chi sicrhau bod profion TB cyn symud yn cael eu cynnal ar y gwartheg os ydynt yn gymwys i gael y profion hynny.
Mae’n rhaid i chi gofnodi manylion y cysylltiadau rhwng eich daliad a daliadau eraill ar gofrestr eich daliad.
Gwneud cais am gysylltiad SOG
Er mwyn gwneud cais am gysylltiad SOG, cysylltwch â GSGP gan nodi manylion y daliadau dan sylw (gan gynnwys Rhifau’r Daliadau).
GSGP fydd yn penderfynu p’un a ddylid cymeradwyo cysylltiad ai peidio, gan ddibynnu ar yr amgylchiadau unigol. Nid yw cysylltiadau bob amser yn barhaol.
Cadarnhau a oes cysylltiadau yn berthnasol i’ch daliad
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod y System Olrhain Gwartheg yn gywir. Mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod yn ymwybodol o unrhyw gysylltiadau rhwng eich daliad a daliadau eraill a’r dyddiadau dirwyn i ben, os yw’n berthnasol. Er mwyn gwneud hyn, gallwch naill ai:
- gweld eich cysylltiadau, a chysylltiadau sy’n berthnasol i’ch daliad, ar SOG Ar-lein o dan ‘Keeper and holding details’
- cysylltu â GSGP
Dyddiadau dirwyn i ben
Mae terfynau amser ar rai cysylltiadau SOG ac maent yn dirwyn i ben ar ôl cyfnod penodedig. Bydd p’un a oes dyddiad dirwyn i ben yn berthnasol i’ch cysylltiad yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol. Bydd GSGP yn rhoi gwybod i chi am unrhyw ddyddiad dirwyn i ben pan gaiff eich cysylltiad ei gymeradwyo, ond eich cyfrifoldeb chi yw cysylltu â GSGP er mwyn gofyn i adnewyddu cysylltiad.
Os nad oes dyddiad dirwyn i ben ar eich cysylltiad SOG ond nad oes ei angen arnoch mwyach, cysylltwch â llinell gymorth GSGP er mwyn ei ddiddymu.
Os yw eich daliad yn Lloegr
Gwneir newidiadau i’r ffordd y caiff daliadau eu diffinio yn Lloegr, gan gynnwys diddymu cysylltiadau SOG, dros gyfnod trosiannol o ddwy flynedd gan ddechrau yn 2016. Yn y cyfamser, gallwch gysylltu â BCMS o hyd i wneud cais am gysylltiad SOG.
Cyhoeddir rhagor o wybodaeth am y newid hwn yma wrth iddi ddod yn hysbys.
Os yw eich daliad yn yr Alban
Caiff trefniadau ar gyfer daliadau â chysylltiadau eu hadolygu’n barhaus a chyhoeddir gwybodaeth yma os bydd unrhyw newidiadau.
Cysylltwch â GSGP
Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain
BCMS
Curwen Road
Workington
Cumbria
CA14 2DD
E-bost bcmsenquiries@rpa.gov.uk
Llinell gymorth Gwasanaeth Symud Gwartheg Prydain i geidwaid gwartheg yng Nghymru 0345 050 3456
Llinell Saesneg 0345 050 1234
Oriau agor arferol llinell gymorth GSGP: rhwng 8:30am a 5pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, ar gau ar y penwythnosau a gwyliau banc. Codir y gyfradd leol am bob galwad.