Canllawiau

Rhoi gwybod i CThEF am gymhorthdal Ardoll Newid yn yr Hinsawdd

Rhowch wybod am ddyfarniadau cymhorthdal ar gyfer yr Ardoll Newid yn yr Hinsawdd i CThEF, gan ddefnyddio ein ffurflen ar-lein.

Cyn i chi roi gwybod, darllenwch ‘Gwiriwch pryd i adrodd am gymorth treth newid yn yr hinsawdd’ er mwyn:

  • cyfrifo’ch dyfarniadau cymhorthdal ​​ar gyfer Ardoll Newid yn yr Hinsawdd
  • gwirio pryd mae angen i chi roi gwybod amdanynt i CThEF

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Bydd angen i chi gadarnhau a ydych yn rhoi gwybod fel:

  • cyfranogwr fel rhan o Gytundeb Newid yn yr Hinsawdd
  • yn weithredwr o dan y gwasanaeth rheilffordd â mynediad agored

Bydd angen i chi roi gwybod i ni am y canlynol:

  • enw a chyfeiriad eich cwmni
  • rhif cofrestru TAW eich cwmni
  • nifer y cyflogeion yn eich busnes
  • a yw’ch busnes wedi’i ymgorffori a’i gofrestru yng Ngogledd Iwerddon
  • y math o weithgaredd busnes megis nwyddau neu wasanaethau lle defnyddir y cymhorthdal yn bennaf, a gwybodaeth am y sector
  • y rhanbarth sydd wedi elwa fwyaf o’r cymhorthdal
  • swm y cymhorthdal y mae’ch busnes wedi’i gael ar gyfer y cyfnod adrodd gofynnol, wedi’i dalgrynnu i lawr i’r bunt agosaf

Llenwi’r ffurflen ar-lein ar gyfer busnesau sydd wedi cofrestru ar gyfer TAW

Os ydych yn fusnes endid unigol, bydd angen i chi roi gwybod am eich dyfarniad cymhorthdal ​​drwy’ch cofrestriad TAW.

Os ydych yn rhoi gwybod am fanylion dyfarniad cymhorthdal ​​ar gyfer busnes mewn grŵp TAW:

  • mae’n rhaid i chi adio cyfanswm y cymorthdaliadau perthnasol a ddaeth i law at yr holl fusnesau yn y grŵp TAW a rhoi gwybod am y ffigur hwnnw os ydych uwchlaw lefelau’r trothwy
  • nodwch enw’r aelod cynrychioliadol yn unig pan fyddwch yn rhoi gwybod

Os ydych yn fusnes endid unigol sydd â chofrestriad adrannol, nodwch enw’r endid cyfreithiol unigol, yn hytrach nag aelodau’r adran.

Rhoi gwybod am gymorthdaliadau

Os ydych yn gynrychiolydd o’r cwmni

Bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr (ID), gallwch greu un pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf.

Os ydych yn asiant

Bydd angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth y gwnaethoch eu defnyddio wrth gofrestru am y cyfrif gwasanaethau asiant. Gallwch greu cyfrif gwasanaethau asiant os nad oes gennych un. Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn gofyn i chi nodi manylion eich asiant â llaw.

Rhowch wybod nawr

Os byddwch yn cyflwyno’r ffurflen ar-lein ac yna’n sylweddoli’ch bod wedi gwneud camgymeriad, cwblhewch hi eto. Dim ond y ffurflen ddiweddaraf a llenwch y byddwn yn ei phrosesu.

Cysylltwch â CThEF i gael help

Cysylltwch â ni drwy e-bost: energy.taxes@hmrc.gov.uk:

  • os ydych wedi methu’r dyddiad cau ar gyfer adrodd am flwyddyn galendr, neu rydych yn credu y byddwch yn methu’r dyddiad hwn
  • os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch adrodd am gymorthdaliadau Ardoll Newid yn yr Hinsawdd

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 9 Mehefin 2025

Argraffu'r dudalen hon