Canllawiau

Cofrestru i wneud datganiad cryno cyn cyrraedd ym Mhrydain Fawr

Defnyddiwch y gwasanaeth Diogelwch ym Mhrydain Fawr (S&S GB) os ydych yn mewnforio nwyddau i mewn i Brydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban) a bod angen i chi wneud datganiad cryno cyn cyrraedd.

Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru

Cyn i chi gofrestru

Bydd arnoch angen y canlynol:

  • dyddiad sefydlu’r busnes
  • cyfeiriad e-bost
  • enw masnachu neu enw’r busnes
  • Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR) ar gyfer y busnes os ydych wedi cofrestru yn y DU at ddibenion treth
  • cyfeiriad y busnes
  • rhif EORI sy’n dechrau gyda ‘GB’ — os nad oes un gennych, gallwch wneud cais am rif EORI pan fyddwch yn cofrestru

Sut i gofrestru

I gofrestru i wneud datganiad cryno cyn cyrraedd ym Mhrydain Fawr, bydd angen i chi fewngofnodi. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi eisoes, gallwch greu rhai pan fyddwch yn mewngofnodi am y tro cyntaf.

Cofrestru nawr

Gall gwasanaethau ar-lein fod yn araf ar adegau prysur. Gwiriwch a oes unrhyw broblemau gyda’r gwasanaeth hwn (yn agor tudalen Saesneg).

Ar ôl i chi gofrestru

Gallwch gyflwyno datganiadau cryno cyn cyrraedd drwy wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • prynu meddalwedd sy’n cydweddu
  • defnyddio gwasanaethau gan Ddarparwr System Gymunedol

Er mwyn cyflwyno datganiad cryno cyn cyrraedd ar gyfer mewnforio nwyddau i mewn i Brydain Fawr, bydd angen i chi wybod y cod lleoliad S&S GB ar gyfer y porthladd mynediad (yn agor tudalen Saesneg).

Prynu meddalwedd sy’n cydweddu

Mae angen i chi brynu meddalwedd sy’n cydweddu gan ddatblygwyr meddalwedd. Gallwch ddod o hyd i ddatblygwyr meddalwedd sy’n darparu cymorth meddalwedd ar gyfer datganiadau cryno cyn cyrraedd (yn agor tudalen Saesneg).

Bydd angen eich manylion mewngofnodi arnoch. Os nad oes gennych fanylion mewngofnodi, gallwch eu creu pan fyddwch yn cofrestru.

Defnyddio gwasanaethau gan Ddarparwr System Gymunedol

Gallwch ddefnyddio gwasanaethau gan Ddarparwr System Gymunedol (yn agor tudalen Saesneg).

Yr hyn i’w wneud os nad yw’r gwasanaeth S&S GB ar gael

Dylai Gweithredwyr Economaidd a Darparwyr Systemau Cymunedol barhau i anfon negeseuon at wasanaeth S&S GB hyd nes y bydd CThEF yn cadarnhau bod y gwasanaeth ar gael eto. Bydd y negeseuon hyn yn cael eu rhoi mewn ciw hyd nes y bydd y system ar gael eto.

Os na allwch anfon negeseuon at wasanaeth S&S GB yn ystod cyfnod hwn, dylech anfon datganiad cryno cyn cyrraedd yn ôl-weithredol pan fydd gwasanaeth S&S GB ar gael eto.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 15 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 Mehefin 2025 show all updates
  1. Welsh translation added.

  2. To submit an entry summary declaration of imports into Great Britain, you will need to know the S&S GB location code for the port of entry.

  3. Information has been added about what to to if the S&S GB service is not available.

  4. First published.

Argraffu'r dudalen hon