Skip to main content
Canllawiau

Codi arian ar gyfer elusen: canllawiau cyhoeddus

Canllawiau i bobl sy'n ystyried codi arian ar gyfer elusen, gan gynnwys ar gyfer sefyllfa argyfwng, gan Gomisiwn Elusennau Cymru a Lloegr a'r Rheoleiddiwr Codi Arian.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Gall unrhyw un sefydlu apêl i godi arian ar gyfer achos sy’n bwysig iddyn nhw. Efallai eich bod wedi ystyried lansio’ch apêl ers peth amser, neu efallai yr hoffech sefydlu un mewn ymateb i argyfwng fel trychineb naturiol neu ddamwain fawr.

Mae’r gallu i godi arian ar-lein yn golygu ei bod hi’n bosibl sefydlu apêl codi arian mewn ychydig funudau a bod yn casglu rhoddion yn fuan. Fodd bynnag, heb fod yn ofalus gallai hyn arwain at wneud camgymeriadau y gellid eu hosgoi.

Beth bynnag yw eich rheswm dros sefydlu apêl codi arian, darllenwch y canllawiau hyn yn gyntaf. Bydd yn eich helpu i sicrhau bod eich gwaith codi arian yn gyfreithlon ac yn foesegol ac yn rhoi’r cyfle gorau i chi lwyddo.

Codi arian yn effeithiol, yn gyfreithiol ac yn foesegol

Mae llawer o elusennau’n elwa o’r cyhoedd yn codi arian ar eu cyfer, fel pobl yn codi arian trwy wneud rhediadau noddedig.

Os penderfynwch godi arian i elusen, chi, nid yr elusen, sy’n gyfrifol am y codi arian. Er mwyn eich helpu i wneud hyn mewn ffordd sy’n eich amddiffyn chi a’r elusen, dilynwch y canllawiau hyn.

Darllenwch ganllawiau ychwanegol isod os ydych chi’n ystyried codi arian mewn ymateb i argyfwng neu ar gyfer achos personol.

1. Codi arian ar gyfer elusen benodol

Penderfynwch pa elusen rydych chi am ei chefnogi. Gall codi arian ar gyfer elusen benodol annog pobl i gefnogi eich gweithgaredd codi arian.

Efallai bfod gennych chi reswm personol dros gefnogi elusen benodol. Neu, efallai eich bod chi eisoes yn gwybod am yr achos yr hoffech chi godi arian ar ei gyfer ond nad ydych chi wedi dewis elusen i’w chefnogi eto.

I ddod o hyd i elusennau gallwch chwilio cofrestrau’r rheoleiddiwr perthnasol:

Rhaid i elusennau gydymffurfio â’r gyfraith, a rhaid i’r rhai sy’n rhedeg ac yn rheoli elusennau (ymddiriedolwyr) gydymffurfio â dyletswyddau cyfreithiol penodol. Gall elusennau hefyd hawlio Cymorth Rhodd.

Os na fyddwch chi’n dewis pa elusen i’w chefnogi nes i chi godi’r arian, mae risg na all eich elusen ddewisol dderbyn yr arian rydych chi wedi’i godi. Gallai hyn ddigwydd os nad yw dibenion yr elusen yn cyd-fynd â sut y dywedoch chi y byddai rhoddion yn cael eu gwario. Ac, os bydd hynny’n digwydd, efallai y bydd yn rhaid i’r Comisiwn Elusennau ymyrryd i benderfynu beth ddylai ddigwydd i’r arian a godwyd gennych.

Os byddwch chi’n dewis elusen, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n dweud eich bod chi’n codi arian yn bersonol ac ‘er budd’ yr elusen rydych chi wedi’i dewis, ac nad yw’r elusen yn gyfrifol am eich gweithredoedd.

2. Byddwch yn glir gyda rhoddwyr ynglŷn â’r hyn y bydd eich codi arian yn ei gefnogi

Byddwch yn glir yn eich cyfathrebiadau codi arian, gan gynnwys unrhyw bostiadau cyfryngau cymdeithasol, ynglŷn â’r hyn rydych chi’n codi arian ar ei gyfer. Bydd hyn yn helpu rhoddwyr i benderfynu a ddylent gefnogi eich codi arian a’ch helpu i osgoi problemau yn ddiweddarach.

Dilynwch y camau hyn i’ch helpu i gyfathrebu’n glir â rhoddwyr:

  1. Cynhwyswch enw ac, os yw wedi’i gchofrestru, rhif elusen yr elusen rydych chi’n codi arian ar ei chyfer yn eich holl gyfathrebiadau.

  2. Nodwch a yw’r arian rydych chi’n ei godi ar gyfer yr elusen yn gyffredinol neu a ydych chi eisiau i’r elusen ei wario ar rywbeth penodol. Os ydych chi’n codi arian ar gyfer rhywbeth penodol, cysylltwch â’r elusen yn gyntaf i wneud yn siŵr ei fod yn rhywbeth y mae’r elusen yn derbyn arian ar ei gyfer a chynnwys ail ddiben.

  3. Os nad ydych chi wedi penderfynu eto pa elusen rydych chi’n codi arian ar ei chyfer, byddwch mor glir ac mor benodol ag y gallwch ynglŷn â phwrpas eich codi arian a chynnwys ail ddiben bwrpas.

  4. Dywedwch wrth eich rhoddwyr ymlaen llaw os ydych chi wedi gosod swm targed o arian rydych chi’n gobeithio ei godi.

  5. Nodwch derfyn amser ar gyfer eich apêl.

  6. Os ydych chi’n codi arian ar gyfer mwy nag un elusen, byddwch yn glir gyda rhoddwyr ynglŷn â sut y bydd yr arian rydych chi’n ei godi yn cael ei rannu rhwng pob elusen.

  7. Os ydych chi’n gwneud her yn gyfnewid am roddion, byddwch yn glir beth fydd yn digwydd os na fyddwch chi’n gallu ei chwblhau.

  8. Os ydych chi’n defnyddio platfform codi arian ar-lein, gwnewch yn siŵr bod rhoddwyr yn gwybod am unrhyw ffioedd y mae’r platfform yn eu codi gan gynnwys, er enghraifft, tipiau dewisol.

  9. Dywedwch yn eich cyfathrebiadau a fyddwch chi’n didynnu treuliau rhesymol o’r arian rydych chi’n ei godi cyn trosglwyddo’r gweddill i’r elusen. Gallai hyn fod, er enghraifft, y costau rhesymol ar gyfer teithio neu offer sydd eu hangen i gynnal y codi arian.

  10. Gwnewch yn siŵr y gall rhoddwyr posibl gysylltu â chi gydag unrhyw gwestiynau sydd ganddynt a’u hateb yn onest bob amser.

Rydym yn argymell eich bod yn dilyn y safonau ymddygiad yn adran 1 o’r Cod Codi Arian i wneud yn siŵr bod eich gweithgaredd yn dilyn arfer da a sicrhau bod eich codi arian yn gyfreithlon, yn agored, yn onest ac yn barchus.

3. Darllenwch y telerau ac amodau yn gyntaf cyn codi arian ar-lein

Os ydych chi’n bwriadu defnyddio platfform codi arian ar-lein, efallai y bydd gofyn i chi esbonio pwrpas yr apêl yn glir cyn y gallwch chi ddechrau codi arian.

Darllenwch unrhyw delerau ac amodau yn ofalus cyn i chi ddechrau codi arian ar y platfform fel nad ydych chi’n ymrwymo i ofynion nad oeddech chi’n eu disgwyl, er enghraifft ffioedd gweinyddol.

4. Trosglwyddwch roddion yn gyflym ac yn ddiogel i’ch elusen ddewisol bob amser.

Rydych chi’n gyfrifol am sicrhau bod rhoddwyr yn gwybod sut y bydd eu rhoddion yn cyrraedd yr elusen rydych chi’n codi arian ar ei chyfer.

Defnyddiwch blatfform codi arian ar-lein neu system trosglwyddo taliadau ag enw da, y gellir gwneud rhoddion drwyddi. Fel arfer, bydd llwyfannau codi arian ar-lein yn trosglwyddo’r arian rydych chi wedi’i godi i’ch elusen ddewisol. Fel arfer, byddant yn darparu gwybodaeth ar eu gwefannau am sut y bydd hyn yn digwydd.

Osgowch ddefnyddio cyfrifon banc personol i gasglu neu drosglwyddo’r arian rydych chi wedi’i godi ar gyfer elusen. Gall defnyddio cyfrif personol eich gadael yn agored i amheuaeth bod eich codi arian er budd personol. Gall hefyd gael goblygiadau treth i chi os nad yw’n glir a yw’r arian yn incwm personol.

Os oes rhaid i chi ddefnyddio cyfrif personol, gwnewch yn siŵr:

  • eich bod chi’n trosglwyddo’r arian yn brydlon i’r elusen berthnasol

  • eich bod chi’n cadw cofnodion clir sy’n profi bod yr arian wedi’i drosglwyddo i’r elusen (neu wedi’i wario yn y ffordd ay sonioch amdani yn eich cyfathrebiadau codi arian)

5. Cymerwch ofal os ydych chi’n bwriadu gwneud didyniadau

Caniateir i chi ddidynnu treuliau rhesymol o roddion, ond rhaid i chi ddweud yn glir wrth eich rhoddwyr o’r cychwyn beth fyddwch chi’n ei ddidynnu. Gallai treuliau fod yn gysylltiedig â chostau rhesymol teithio neu offer sydd eu hangen ar gyfer eich codi arian.

Os nad ydych chi’n agored am hyn o’r cychwyn rydych chi mewn perygl o gynnal ymgyrch codi arian twyllodrus, sydd ‘yn erbyn y gyfraith.

6. Gwnewch gynlluniau wrth gefn

Dylech ddweud wrth roddwyr beth fydd yn digwydd i unrhyw gronfeydd os na ellir gwario’r arian yn y ffordd y dywedoch y byddech. Er enghraifft, oherwydd bod cronfeydd dros ben. Gelwir hyn yn ddiben eilaidd.

Os ydych chi wedi hysbysu rhoddwyr am ddiben eilaidd, gellir defnyddio’r cronfeydd at y diben hwnnw.

Dylai eich diben eilaidd fod mor agos â phosibl at y dibenion rydych chi’n codi arian ar eu cyfer.

Dyma rai enghreifftiau:

“Rwy’n codi arian i gyfarparu ystafell newydd yn [hosbis a enwir]. Os na fyddaf yn codi digon, os oes unrhyw arian dros ben neu os bydd cynlluniau’n newid, bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio gan [yr un hosbis] i gefnogi ei chostau rhedeg.”

“Rwy’n codi arian ar gyfer [elusen a enwir ar gyfer y pobl ddigartref]. Os oes unrhyw broblem gyda throsglwyddo’r arian i [yr un elusen a enwir ar gyfer y pobl ddigartref], byddaf yn trosglwyddo’r arian i elusen arall ar gyfer y pobl ddigartref.”

Os nad oes gennych ddiben eilaidd, neu os na wnaethoch hysbysu rhoddwyr amdano, mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i chi gysylltu â phob rhoddwr i gael eu caniatâd cyn y gellir defnyddio eu harian at ddiben arall (pa mor debyg bynnag however similar).

7. Wrth gynnal her codi arian

Os ydych chi’n bwriadu cynnal her neu dasg, fel rhedeg marathon, yn gyfnewid am roddion, rhaid i chi ddatgan ymlaen llaw beth fydd yn digwydd i roddion os na allwch chi gwblhau’r her.

Eich opsiynau yw:

  • trosglwyddo’r rhoddion i’r elusen p’un a ydych chi’n cwblhau’r her ai peidio, neu
  • dychwelyd rhodd pob person

Os na fyddwch chi’n cwblhau’r gweithgaredd ac nad ydych chi wedi dweud wrth roddwyr o’r blaen y byddwch chi’n dal i drosglwyddo’r arian a godwyd gennych chi, rhaid i chi ad-dalu rhodd pob person.

8. Casglu a rhoi nwyddau

Fel arfer, mae rhoddion i apeliadau codi arian ar ffurf arian. Ond gallant fod yn eiddo o unrhyw fath, er enghraifft nwyddau fel dillad neu fwyd.

Weithiau gall elusennau ofyn am roddion o nwyddau penodol. Lle mae hynny’n wir, dilynwch gyngor yr elusen bob amser ynghylch sut i ymateb i apeliadau am nwyddau.

Lle nad yw hynny’n wir, fel arfer mae’n fwy effeithiol (yn enwedig wrth ymateb i argyfwng) anfon arian yn hytrach na nwyddau. Mae hyn oherwydd efallai na fydd angen nwyddau a roddir o gwbl neu gallai eu hanfon rwystro gwaith cymorth brys, yn enwedig os oes angen amser ac adnoddau i ddidoli, glanhau, storio neu gludo’r nwyddau.

Mae codi arian ar gyfer elusennau sydd eisoes yn gweithio yn yr ardal yn galluogi’r elusennau hynny i ymateb i anghenion y rhai yr effeithir arnynt gan argyfwng, sy’n aml yn newid yn gyflym.

Codi arian ar gyfer sefyllfa argyfwng

Mae’n reddf ddealladwy ymateb i argyfwng drwy fod eisiau codi arian i’r rhai yr effeithir arnynt. Gallwch wneud hyn ond meddyliwch bob amser am y risgiau o lansio eich apêl eich hun, yn enwedig pan fo elusennau eisoes yn codi arian ar gyfer yr argyfwng.

Yn aml, gall apeliadau mewn ymateb i argyfyngau godi symiau mawr o arian yn gyflym. Fel arfer, mae elusennau mewn gwell sefyllfa i reoli a gwario’r arian a godir. Maent hefyd fel arfer yn fwy profiadol o gael cymorth yn gyflym i’r rhai sydd ei angen.

Os penderfynwch godi arian ar gyfer apêl elusen sy’n bodoli eisoes, mae croeso i chi roi gwybod i’r elusen. Byddant yn falch o’ch cefnogaeth. Penderfynwch pa apêl elusen rydych chi am ei chefnogi cyn i chi ddechrau codi arian.

Dylech feddwl am y canllawiau a restrir yn yr adran uchod ac yn enwedig am:

  • sut i eirio’ch apêl, a
  • sut y caiff yr arian a godwch yn cael ei wario

Dyma p’un a ydych chi’n codi arian ar gyfer apêl elusennol sy’n bodoli eisoes neu ar gyfer apêl rydych chi’n ei lansio eich hun.

Os na fyddwch chi’n geirio’ch apêl yn glir ac yn unol â’r rheolau, efallai y byddwch chi’n canfod na ellir defnyddio’r arian a godwch yn y ffordd rydych chi’n bwriadu, er enghraifft:

  • ni all yr elusen a ddewisoch dderbyn yr arian a godwch, neu
  • ni all yr arian a godwch gael ei wario yn y ffordd a ddisgrifiwyd gennych yn eich apêl

Os bydd hyn yn digwydd, efallai y bydd yn rhaid i’r Comisiwn Elusennau ymyrryd i benderfynu beth ddylai ddigwydd i’r arian a godwyd. Gall hyn gymryd amser, sy’n golygu efallai na fydd yr arian rydych chi wedi’i godi o fudd i’r derbynwyr rydych chi’n eu bwriadu neu’n eu cyrraedd mor gyflym ag yr ydych chi’n disgwyl. Gallai hefyd ddenu beirniadaeth gan eich rhoddwyr.

Darllenwch y canllawiau ynglŷn â geirio’ch apêl.

Elusennau sy’n ymateb i argyfyngau

Ar gyfer argyfwng tramor gallwch godi arian ar gyfer apêl berthnasol a lansiwyd gan:

Ar gyfer argyfwng yn y DU gallwch godi arian ar gyfer apêl berthnasol a lansiwyd gan:

Os dewiswch gynnal eich apêl eich hun, meddyliwch yn ofalus am:

  • sut y bydd yr arian a godwch yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd a ddisgrifiwyd gennych yn eich apêl, gan ystyried unrhyw anawsterau ymarferol oherwydd natur yr argyfwng
  • pa mor gyflym y bydd yr arian a godwch yn cael ei ddefnyddio
  • sut y byddwch yn rhoi gwybod i’ch rhoddwyr am sut y defnyddiwyd eu rhoddion

Codi arian at achos personol

Mae codi arian at achos personol yn godi arian nad yw at elusen nac at ddiben elusennol, hyd yn oed os ydych chi’n teimlo ei fod yn ‘elusennol’. Os ydych chi’n codi arian ar gyfer person - fel aelod o’ch teulu, ffrind, neu rywun arall - mae’n debygol y bydd hyn yn codi arian at achos personol.

Nid yw codi arian at achos personol yn cael ei reoleiddio ond rydym yn argymell dilyn y canllawiau hyn beth bynnag, i’ch helpu i godi arian yn gyfreithiol ac yn deg.

Rhaid i chi byth gamarwain rhoddwyr yn fwriadol neu’n anfwriadol i feddwl eich bod chi’n codi arian at elusen os yw at achos personol: byddai’n dwyllodrus gwneud hynny. Os ydych chi’n awgrymu bod eich gweithgaredd yn codi arian at elusen pan nad yw, gallech fod yn cyflawni twyll.

Gall y ffordd rydych chi’n disgrifio’r hyn rydych chi’n codi arian ar ei gyfer arwain at drin yr arian rydych chi’n ei godi fel arian elusennol, p’un a oedd hynny’n fwriad gennych chi ai peidio. Os bydd hynny’n digwydd, efallai y byddwn ni (neu reoleiddiwr elusennau arall) yn eich cyfarwyddo i drosglwyddo’r arian i elusen benodol neu’n eich cyfarwyddo i gofrestru elusen newydd.

Gwnewch yn siŵr bod eich rhoddwyr yn gwybod bod eich apêl ar gyfer achos personol ac nid ar gyfer elusen cyn i chi dderbyn eu rhoddion.

Os ydych chi’n bwriadu codi arian ar gyfer achos elusennol, ac nid achos personol, rydym yn argymell eich bod chi’n cefnogi elusen sy’n bodoli eisoes.

Y Rheoleiddiwr Codi Arian

Mae’r Rheoleiddiwr Codi Arian yn rheoleiddio codi arian elusennol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Os ydych chi’n codi arian ar gyfer elusen ond nad ydyn nhw wedi’ch cyfarwyddo i wneud hynny, mae’n debygol eich bod chi’n codi arian ‘er budd’ eu hachos neu eu pwrpas.

Yn yr achos hwn, ni fydd eich codi arian yn cael ei reoleiddio gan y Rheoleiddiwr Codi Arian. Fodd bynnag, fe’ch anogir i ddilyn y cyngor hwn a’r safonau sy’n berthnasol i’ch gweithgaredd a nodir yn y Cod Ymarfer Codi Arian. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod eich codi arian yn adlewyrchu arfer da ac yn amddiffyn enw da’r elusen rydych chi’n codi arian ar ei chyfer. Dylai hefyd annog mwy o bobl i gyfrannu at eich apêl.

Pan fydd eich codi arian yn cael ei reoleiddio gan y Rheoleiddiwr Codi Arian

Os ydych chi’n codi arian oherwydd eich bod chi wedi cael eich gofyn neu eich cyfarwyddo i wneud hynny gan elusen, byddwch chi’n codi arian‘ar ran’yr elusen.

Yn yr achos hwn, mae eich codi arian yn cael ei reoleiddio gan y Rheoleiddiwr Codi Arian, a dylech i chi ddilyn y Cod Ymarfer Codi Arian. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod eich codi arian yn gyfreithlon, agored, gonest a pharchus.

Os ydych chi’n ansicr a ydych chi wedi cael cyfarwyddyd ffurfiol ai peidio, gwiriwch gyda’r elusen berthnasol yn gyntaf.

Comisiwn Elusennau Cymru a Lloegr

Mae’r Comisiwn Elusennau yn cofrestru ac yn rheoleiddio elusennau yng Nghymru a Lloegr, er mwyn sicrhau y gall y cyhoedd gefnogi elusennau yn hyderus.

O ran codi arian, mae’n gweithio gyda’r Rheoleiddiwr Codi Arian pan fo pryderon nad yw ymddiriedolwyr elusennau wedi cyflawni eu dyletswyddau ymddiriedolwyr neu’r gyfraith.

Mae gan y Comisiwn Elusennau awdurdodaeth hefyd dros arian a godir fel apeliadau elusennol ar gyfer elusennau, neu at ddibenion elusennol, fel gan aelodau’r cyhoedd. Gall weithredu i sicrhau bod arian yn cael ei gymhwyso i’r elusennau, neu at y dibenion elusennol, y maent wedi’iu cgodi ar eu cyfer.

Cymorth a gwybodaeth bellach

Dewch o hyd i ragor o ganllawiau gan y Rheoleiddiwr Codi Arian ynghylch awgrymiadau ar roi mewn ffordd mfwy diogel.

Os oes gennych gwestiynau am y safonau a nodir yn y Cod Ymarfer Codi Arian, defnyddiwch Gwasanaeth Cynghori ar y Cod y Rheoleiddiwr Codi Arian.

Os oes problemau gydag arian rydych chi wedi’i godi, er enghraifft ei drosglwyddo i elusen, dylech gysylltu â’r rheoleiddiwr elusennau perthnasol:

Os yw’r elusen rydych chi’n codi arian ar ei chyfer wedi’i chofrestru yn yr Alban yn unig, dylech gysylltu â Swyddfa Rheoleiddiwr Elusennau’r Alban neu Panel Dyfarnu Codi Arian yr Alban.

Os ydych chi’n credu bod casgliad neu apêl codi arian yn cael ei gynnal yn anghyfreithlon, rhowch wybod amdano i’r heddlu.

Os ydych chi’n credu bod casgliad neu apêl yn dwyllodrus, cysylltwch ag Adrodd am TDwyll, y ganolfan adrodd genedlaethol ar gyfer twyll a seiberdroseddu yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Yn yr Alban, cysylltwch â Heddlu’r Alban.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 12 Mehefin 2026

Argraffu'r dudalen hon