Skip to main content
Canllawiau

Rhoi manylion TAW eich partneriaeth, neu ddiweddaru’r manylion hynny

Defnyddiwch ffurflen VAT2 i roi gwybod i CThEF am bartneriaeth newydd, neu i ddiweddaru manylion partner.

Pryd i ddefnyddio ffurflen VAT2 

Gallwch ddefnyddio ffurflen VAT2 i wneud y canlynol:

  • rhoi manylion partneriaid pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer TAW
  • diweddaru manylion partner
  • ychwanegu partneriaid a’u tynnu
  • cadarnhau bod y partneriaid yn cytuno i newid manylion banc y bartneriaeth

Gallwch ychwanegu manylion hyd at 8 o bartneriaid i bob ffurflen VAT2. Os oes gennych fwy o bartneriaid, bydd angen i chi anfon ffurflenni ychwanegol.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch 

Bydd angen y canlynol arnoch: 

  • eich rhif cofrestru TAW, os oes gennych un
  • enw’ch busnes
  • manylion y partneriaid, gan gynnwys dyddiadau geni a rhifau Yswiriant Gwladol
  • llofnodion y partneriaid

Sut i lenwi’r ffurflen a’i hanfon i CThEF

  1. Argraffwch ffurflen VAT2 (PDF, 262 KB, 2 dudalen).

  2. Nodwch y rhif cofrestru (os yw’n hysbys), enw’r busnes a’ch rheswm dros lenwi’r ffurflen. 

  3. Gofynnwch i bob partner nodi eu manylion a llofnodi un o’r 8 adran sydd ar gael.

  4. Gallwch wedyn uwchlwytho’r ffurflen pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer TAW, neu ei phostio i Wasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF. 

Efallai na fydd y ffurflen hon yn addas ar eich cyfer os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol (megis darllenydd sgrin). Os oes angen fformat mwy hygyrch arnoch, e-bostiwch gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk a rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd o gymorth i ni os nodwch pa dechnoleg gynorthwyol yr ydych yn ei defnyddio. Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni CThEF (yn agor tudalen Saesneg). 

Ar ôl i chi anfon eich ffurflen 

Ar ôl i ni wirio’ch ffurflen, byddwn yn rhannu’r canlyniad â chi naill ai drwy’r post neu ar-lein drwy’ch cyfrif treth busnes.

Gallwch wirio pryd y gallwch ddisgwyl ateb gan CThEF.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 28 Medi 2026

Argraffu'r dudalen hon