Canllawiau

Diogelu eich cwmni rhag dwyn hunaniaeth gorfforaethol

Sut y gall y cynllun Protected Online Filing (PROOF) eich helpu i atal newidiadau twyllodrus i’ch cwmni.

Mae’r gwasanaeth di-dâl hwn yn gadael ichi ddiogelu’ch cwmni rhag newidiadau anawdurdodedig i’ch cofnodion. Mae’n atal ffeilio rhai ffurflenni papur penodol, gan gynnwys:

  • newidiadau i gyfeiriad eich swyddfa gofrestredig
  • newidiadau i’ch swyddogion (penodiadau, ymddiswyddiadau neu fanylion personnol)
  • newid enw’r cwmni trwy benderfyniad

Mae’n bwysig bod cofnodion eich cwmni’n gywir oherwydd weithiau cânt eu defnyddio i wirio ei ddilysrwydd os ydych yn gwneud cais am fenthyciad.

Mae’n hysbys bod twyllwyr yn herwgipio cwmni trwy newid manylion cyfarwyddwyr a swyddfa gofrestredig y cwmni. Mae hyn yn gadael y cwmni’n agored i ragor o dwyll.

Mae Tŷ’r Cwmnïau yn delio ag oddeutu 50-100 o achosion o ddwyn hunaniaeth gorfforaethol bob mis. Os ydych chi’n amau gweithgarwch twyllodrus yn erbyn cwmni dylech roi gwybod i Dŷ’r Cwmnïau am hyn.

Ymuno â PROOF

Ymuno â PROOF gan ddefnyddio gwasanaeth ffeilio ar-lein Tŷ’r Cwmnïau. . Mae angen i chi fod wedi’ch cofrestru am ffeilio ar-lein.

Ar ôl i chi mewngofnodi, cwblhewch y camau canlynol:

  1. dewiswch y ddolen ‘Ymuno â PROOF’ ochr yn ochr â’r clo clap ar frig y sgrin trosolwg
  2. cytuno â’r amodau a thelerau
  3. dewis ‘Diogelwch y cwmni hwn’

Byddwn yn anfon neges e-bost atoch i gadarnhau bod eich cais wedi llwyddo.

Unwaith eich bod wedi ymuno, dim ond ar-lein gallwch chi ffeilio’r ffurflenni mae cynllun PROOF yn eu cwmnpasu, felly:

  • dywedwch wrth unrhyw un sy’n ffeilio dogfennau dros eich cwmni eich bod yn ymuno â PROOF
  • rhowch iddynt y codau dilysu y bydd eu hangen i ffeilio ar lein

Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn gwrthod unrhyw fersiynau papur o’r ffurflenni ac yn eu gyrru’n ôl i gyfeiriad y swyddfa.

Gallwch ymadael â chynllun PROOF ar unrhyw bryd

Gwyliwch fideo arddangos yn Saesneg i weld sut i ymuno â PROOF

Fideo arddangos yn Saesneg i weld sut i ymuno â PROOF

Gwirio a ydych wedi’ch cofrestru ar gyfer PROOF

Mae statws eich cwmni o ran PROOF yn cael ei ddangos ar ei sgrin trosolwg ar lein ac:

  • rydych wedi’ch cofrestru ar gyfer PROOF os yw’r eicon clo clap wedi’i gloi
  • nid ydych wedi’ch cofrestru ar gyfer PROOF os yw’r eicon clo clap ar agor
  • mae’ch cais ar y gweill os oes eicon cloc

Pryd allwch chi ddim ymuno â PROOF

Os oes gan eich cwmni anghydfod mewnol sy’n dal i fynd ymlaen rhwng ei swyddogion, ni fyddwch yn gallu ymuno â PROOF hyd nes iddo gael ei ddatrys.

Gadael gwasanaeth PROOF

Er mwyn gadael y gwasanaeth dewiswch y ddolen ‘Ymadewch â PROOF’ ar frig sgrin trosolwg ar lein eich cwmni. Byddwch yn cael neges e-bost yn cadarnhau eich bod wedi gadael y gwasanaeth.

Ar ôl ichi adael y gwasanaeth ni fydd eich cwmni’n cael ei ddiogelu mwyach rhag ffeilio dogfennau papur yn dwyllodrus. Gall y Cofrestrydd hefyd derfynu’r cytundeb ar unwaith o dan gymal 8.2 o delerau ac amodau PROOF.

Amodau a thelerau PROOF (MS Word Document, 748 KB)

Ffurflenni sy’n cael eu cynnwys yng nghynllun PROOF

Ffurflenni cwmnïau cyfyngedig

Ffurflen Disgrifiad
AR01c Ffurflen Flynyddol
AP01c Penodi cyfarwyddwr
AP02c Penodi cyfarwyddwr corfforaethol
AP03c Penodi ysgrifennydd
AP04c Penodi ysgrifennydd corfforaethol
CH01c Newid manylion cyfarwyddwr
CH02c Newid manylion cyfarwyddwr corfforaethol
CH03c Newid manylion yesgrifennydd
CH04c Newid manylion ysgrifennydd corfforaethol
TM01c Terfynu penodiad cyfarwyddwr
TM02c Terfynu penodiad ysgrifennydd
AD01c Newid cyfeiriad y swyddfa gofrestredig
NM01c Newid enw cwmni
Newid enw’r cwmni trwy benderfyniad arbennig  

Ffurflenni partneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (PAC)

Ffurflen Disgrifiad
LL AR01c Ffurflen Flynyddol
LL AP01c Penodi aelod
LL AP02c Penodi aelod corfforaethol
LL CH01c Newid manylion aelod
LL CH02c Newid manylion aelod corfforaethol
LL TM01c Terfynu penodiad aelod
LL AD01c Newid cyfeiriad y swyddfa gofrestredig

Ym mis Mehefin 2016, wnaeth y datganiad cadarnhad cymryd lle’r ffurflen flynyddol. Nid yw’r ffurflenni hyn yn y cynllun PROOF.

Mae pob dogfen arall yn cael ei derbyn ar bapur os caiff ei chyflwyno gan gwmni sy’n aelod o gynllun PROOF.

FFfeilio ffurflenni papur sydd wedi’u cynnwys yng nghynllun PROOF

Os oes angen ichi ffeilio un o’r ffurflenni sydd wedi’u cynnwys yng nghynllun PROOF ar bapur a chithau wedi’ch cofrestru ar gyfer PROOF o hyd, bydd angen ichi lenwi ffurflen ganiatâd bapur.

Ni ddylech ddefnyddio ffurflen ganiatâd bapur ond os yw’n gwbl angenrheidiol. Gweler telerau ac amodau PROOF i gael mwy o wybodaeth.

Ffoniwch ganolfan gyswllt Tŷ’r Cwmnïau ar 0303 1234 500 i ofyn am ffurflen ganiatâd bapur.

Amodau a thelerau PROOF

Mae’r cofrestrydd cwmnïau’n rhedeg cynllun PROOF o dan gytundeb o dan adran 1070 o Ddeddf Cwmnïau 2006.

Mae unrhyw gwmni sy’n ymuno â chynllun PROOF yn gwneud hynny ar y telerau a nodir yn nhelerau ac amodau cynllun PROOF.

Amodau a thelerau PROOF (MS Word Document, 748 KB)

Cyhoeddwyd ar 21 November 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 May 2021 + show all updates
  1. NM01 and change of name by special resolution added to the PROOF service.

  2. Updated PROOF T & C

  3. Terms and conditions updated due to new insolvency rules.

  4. Note added that confirmation statement won't be in PROOF scheme.

  5. Leaving PROOF guidance updated.

  6. Welsh translation added

  7. First published.