Canllawiau

Cynhyrchu Wisgi Cymreig Brag Sengl

Dysgwch am sut i wneud cais am y Cynllun Dilysu Diodydd Gwirodol, sut i gyflwyno gwybodaeth am frand, ffioedd, a sut i sicrhau bod eich proses gynhyrchu yn cydymffurfio.

Os yw eich busnes yn ymwneud â chynhyrchu neu farchnata Wisgi Cymreig Brag Sengl, bydd yr arweiniad hwn yn eich helpu i ddarganfod y canlynol:

  • pwy ddylai wneud cais am ddilysiad
  • gwybodaeth am y ffioedd y bydd angen i chi eu talu
  • beth sy’n digwydd os canfyddir nad yw proses gynhyrchu yn cydymffurfio
  • sut mae CThEF yn gwirio cydymffurfiad â’r Fanyleb Cynnyrch ar gyfer Wisgi Cymreig Brag Sengl ac yn adennill ei gostau dilysu

Bydd yr eirfa ar ddiwedd yr arweiniad hwn yn eich helpu i ddeall rhai o’r termau a’r byrfoddau a ddefnyddir.

Dilysu Wisgi Cymreig Brag Sengl

Mae Wisgi Cymreig Brag Sengl yn Ddynodiad Daearyddol cofrestredig o dan Reoliad a ddargedwir 2019/787 sy’n ei gwneud yn ofynnol sicrhau bod cynhyrchion yn cydymffurfio â manylebau eu Manyleb Cynnyrch gofrestredig.

Mae’n rhaid i’r holl Wisgi Cymreig Brag Sengl a gynhyrchir yn y DU gael ei ddilysu. Mae hefyd yn rhaid iddo gydymffurfio â’r Fanyleb Cynnyrch ar gyfer Wisgi Cymreig Brag Sengl.

Byddwn yn:

  • cynnal ymweliadau dilysu â chyfleusterau cynhyrchu
  • gwirio bod prosesau’n cydymffurfio â’r Fanyleb Cynnyrch
  • cadarnhau bod cynhyrchion yn cydymffurfio, er enghraifft drwy wirio anfonebau, cofnodion dosbarthu, offer a gweithdrefnau
  • sicrhau prosesau cynhyrchu gan ddefnyddio’r gwiriadau dilysu hyn ar gyfer Wisgi Cymreig Brag Sengl (ODT, 31.6 KB))
  • cofnodi prosesau sy’n cydymffurfio fel rhai ‘sicredig’ ― dim ond os yw’r holl brosesau dan sylw wedi’u sicrhau, gan gynnwys cyfleusterau labelu y tu allan i’r DU, y bydd CThEF yn gallu dilysu brand
  • cyhoeddi manylion cyfleusterau cynhyrchu a brandiau sydd wedi’u dilysu ar ein gwasanaeth chwilio (yn agor tudalen Saesneg)
  • cael mynediad dim ond at gofnodion sy’n ymwneud â sicrwydd treth a thollau sydd gennym eisoes ac sy’n ofynnol i ategu’r dilysu, fel yr amlinellir yn y gwiriadau dilysu

Nid yw ein dyletswyddau’n ymestyn i waith gorfodi, a gyflawnir gan awdurdodau bwyd ac awdurdodau iechyd y porthladdoedd. Byddwn yn trosglwyddo gwybodaeth berthnasol i’r awdurdodau gorfodi priodol, pan ganiateir hynny a phan fo’n briodol.

Oni bai bod angen cynnal dilysiad yn amlach, neu ein bod wedi cytuno ar gyfnod hirach, rydym yn dilysu cynhyrchwyr bob 2 flynedd.

Y ddeddfwriaeth

Rhoddir y prif ddarnau canlynol o ddeddfwriaeth mewn perthynas â dynodiad daearyddol ar gyfer Wisgi Cymreig Brag Sengl.

Y prif reoliadau sy’n berthnasol ym Mhrydain Fawr

Mae’r rheoliadau yn cynnwys:

Mae’r rhain yn darparu ar gyfer gorfodi’r rheoliadau eraill. O dan Reoliad 5, ni (CThEF) yw’r awdurdod dynodedig sy’n gyfrifol am ddilysu diodydd gwirodol â dynodiad daearyddol gwarchodedig. Rydym hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod cynhyrchion yn cydymffurfio â’r Fanyleb Cynnyrch. Caiff awdurdodau gorfodi (awdurdodau bwyd ac awdurdodau iechyd y porthladdoedd) eu dynodi o dan Reoliad 6.

Mae Rheoliadau Diodydd Gwirodol (Costau Dilysu) 2013 hefyd yn berthnasol, gan ddarparu’r sail gyfreithiol ar gyfer ein cynlluniau dilysu a chan ein galluogi i godi ffi ddilysu.

Pwy ddylai wneud cais

Dylech wneud cais am y Cynllun Dilysu Diodydd Gwirodol (yn agor tudalen Saesneg) os ydych yn cynnal unrhyw un o’r prosesau cynhyrchu canlynol ar gyfer Wisgi Cymreig Brag Sengl yng Nghymru:

  • brecáu neu fragu
  • eplesu
  • distyllu
  • aeddfedu
  • potelu a labelu

Dylai cynhyrchwyr Wisgi Cymreig Brag Sengl ddewis ‘Dangosyddion Daearyddol eraill’ ar y ffurflen hon, a theipio enw’r cynnyrch priodol.

Wrth lenwi’r adran prosesau cynhyrchu ar y ffurflen, dylai cynhyrchwyr sy’n cynnal gwaith brecáu neu fragu ddewis ‘arall (rhowch fanylion)’ a theipio brecáu neu fragu.

Trefniadau trosiannol

Trefniadau dilysu trosiannol ar gyfer cynhyrchwyr Wisgi Cymreig Brag Sengl presennol yng Nghymru

Bydd trefniadau trosiannol yn cael eu cyflwyno i gwmpasu cynhyrchwyr, a oedd eisoes yn gweithredu pan gyhoeddwyd y Fanyleb Cynnyrch i Defra, neu a ddechreuodd weithredu’n fuan wedi hynny. Yn amodol ar y trefniadau trosiannol hynny, ni all cynhyrchwyr gynhyrchu na marchnata’u cynnyrch fel Wisgi Cymreig Brag Sengl yn gyfreithiol, os nad yw eu prosesau wedi’u sicrhau neu os nad yw eu cynhyrchion wedi’u dilysu gennym.

Bydd unrhyw gynhyrchwyr Wisgi Cymreig Brag Sengl a oedd yn gweithredu ar 13 Awst 2021 (pan gyflwynwyd y cais Dangosydd Daearyddol), neu a ddechreuodd gynhyrchu cyn 21 Awst 2023 (dyddiad lansio’r cynllun) yn cael eu trin fel pe baent wedi’u dilysu tan 21 Awst 2024 ar yr amod bod y canlynol yn wir:

  • mae cais cyflawn cywir am ddilysiad wedi dod i’n llaw ar gyfer pob cyfleuster cynhyrchu o’r fath erbyn 21 Medi 2023 (cyn pen mis i ddyddiad lansio’r cynllun dilysu)
  • mae’r ffi ddilysu briodol wedi’i thalu
  • rydym yn fodlon y cynhelir gwaith cynhyrchu yn unol â’r Fanyleb Cynnyrch ar ôl 21 Awst 2023, ac na sefydlir y gwrthwyneb yn dilyn ein hymweliad dilysu cychwynnol

Os byddwch yn dechrau busnes newydd ar ôl 21 Awst 2023, bydd yn rhaid i chi wneud cais am ddilysiad cyn i chi ddechrau cynhyrchu, gan mai dim ond ar ôl i ni ddilysu bod eich prosesau cynhyrchu’n cydymffurfio â’r Fanyleb Cynnyrch y cewch eich trin fel busnes sydd â phrosesau cynhyrchu wedi’u dilysu. Fodd bynnag, os canfyddir bod y cyfleuster cynhyrchu yn cydymffurfio, efallai y byddwn yn ôl-ddyddio’r dilysiad i’r dyddiad y daeth y cais am ddilysiad i law. Dylai cyfleusterau cynhyrchu newydd felly wneud cais am ddilysiad cyn dechrau gweithredu.

Sut i gyflwyno gwybodaeth am frand

Unwaith y bydd eich cynnyrch wedi’i ddilysu o dan y cynllun, dylai potelwyr dilys gyflwyno gwybodaeth am frand.

Os ydych chi’n berchennog brand, a bod rhywun arall yn cynhyrchu neu’n potelu ac yn labelu’ch brand, nid oes angen i chi wneud cais am ddilysiad. Y potelwr sydd â’r cyfrifoldeb am wneud cais am ddilysiad ac am roi gwybod i ni am eich brandiau.

Ail-botelu ac ail-labelu

Mae angen dilysiad os yw Wisgi Cymreig Brag Sengl yn cael ei botelu am y tro cyntaf, neu’n cael ei ail-botelu neu ei ail-labelu, neu’r ddau.

Mae ail-labelu’n broses ddilysadwy sy’n dod o dan y dilysiad ar gyfer potelu a labelu neu labelu yn unig. Os byddwch yn cyflawni’r broses hon ac os nad ydych eisoes wedi’ch dilysu ar gyfer potelu a labelu neu labelu yn unig, dylech wneud cais am ddilysiad.

Dylai potelwyr a labelwyr wneud cais am ddilysiad a dangos bod eu prosesau’n cydymffurfio â’r manylebau yn y Fanyleb Cynnyrch ar gyfer Wisgi Cymreig Brag Sengl yn yr un modd ag unrhyw gynhyrchydd neu brosesydd Wisgi Cymreig Brag Sengl arall. Os na chaiff y prosesau hyn eu sicrhau, ni ellir dilysu’r cynnyrch terfynol wedi’i botelu neu ei labelu ac ni ellir ei farchnata’n gyfreithlon.

Mae enghreifftiau o ail-labelu neu ail-botelu y mae angen eu dilysu yn cynnwys:

  • pan fo busnes yn ardywallt stoc potel i boteli llai ac yn defnyddio ei labeli ei hun
  • labelu poteli mewn canolfannau ymwelwyr. Yn aml, bydd y rhain wedi’u personoli ac mae’n bosibl mynd â nhw i ffwrdd ― byddai angen i’r safleoedd hyn gadw cofnodion yn manylu ar y poteli a werthwyd a’r stoc ― efallai y bydd yr Uned Dilysu Diodydd Gwirodol yn gofyn am gael gweld y labeli i sicrhau cydymffurfiad â’r Fanyleb Cynnyrch
  • ail-labelu poteli os yw’r label wedi’i ddifrodi neu os yw brand presennol sydd wedi’i labelu yn mynd i gael ei anfon i farchnad wahanol ac felly bod angen label gwahanol arno (am resymau cyfreithiol neu farchnata) ― mae’r cyfleusterau hyn yn gyfrifol am sicrhau bod y labeli’n cydymffurfio â gofynion y Fanyleb Cynnyrch

Dim ond yng Nghymru y gall potelu a labelu, gan gynnwys ail-botelu ac ail-labelu, ddigwydd.

Faint y bydd angen i chi ei dalu

Bydd CThEF yn codi ffi ddilysu safonol, sef £250 fesul cyfleuster, ar gyfer dilysiadau a gynhelir rhwng 1 Gorffennaf 2025 a 30 Mehefin 2031.

Os bydd ymweliadau pellach, gan gynnwys er mwyn dilysu prosesau newydd neu gynnal gwiriadau cydymffurfio, codir £250 ychwanegol fesul cyfleuster.

Mae’n rhaid talu pob ffi cyn i unrhyw waith dilysu gael ei gynnal drwy ymweliadau dilysu mewn person.

Dysgwch sut i dalu’r ffi ddilysu (yn agor tudalen Saesneg).

Beth sy’n digwydd os nad yw proses gynhyrchu yn cydymffurfio

Byddwn yn nodi prosesau cynhyrchu nad ydynt yn cydymffurfio, a brandiau efallai nad ydynt yn cydymffurfio (brandiau heb eu dilysu), naill ai:

  • yn ystod ymweliadau dilysu
  • drwy hysbysiadau gan gynhyrchwyr eraill
  • drwy wybodaeth a ddarperir gan aelodau o’r cyhoedd

Os nad yw eich prosesau’n cydymffurfio, bydd yr Uned Dilysu Diodydd Gwirodol yn trafod â chi sut y gallwch chi sicrhau bod eich prosesau’n cydymffurfio. Byddwn yn cytuno ar gyfnod cywiro rhesymol i sicrhau bod eich prosesau’n cydymffurfio. Bydd y cyfnod hwn fel arfer yn cael ei awgrymu gan yr Uned Dilysu Diodydd Gwirodol a bydd yn cael ei gytuno gennych chi.

Os na fyddwch yn cymryd camau unioni yn ystod y cyfnod hwn y cytunwyd arno i gydymffurfio, byddwn yn diwygio eich manylion ar y gwasanaeth chwilio (yn agor tudalen Saesneg), neu’n eu tynnu oddi arno, neu’n peidio â’u cynnwys yno.

Os bydd proses gynhyrchu yn colli ei statws sicredig, ni fydd unrhyw wirodydd a gynhyrchir wedyn yn cael eu dilysu ac ni ellir eu gwerthu fel Wisgi Cymreig Brag Sengl. Dylech sicrhau bod eich cwsmeriaid yn ymwybodol o hyn, fel y gallant wneud trefniadau cyflenwi amgen.

Efallai y byddwn yn:

  • hysbysu’r awdurdod gorfodi perthnasol fel y’i penodwyd gan Reoliadau Diodydd Gwirodol 2008
  • hysbysu perchennog y brand am y newid yn statws y broses gynhyrchu a allai effeithio ar ei gynhyrchion
  • hysbysu’r cyfleuster neu’r cynhyrchydd am y newid yn statws ei frand
  • dangos ar y gwasanaeth chwilio y newid yn statws y brandiau yr effeithir arnynt

Gallai diffyg cydymffurfio hefyd arwain at dorri cyfreithiau lleol mewn gwledydd lle mae Wisgi Cymreig Brag Sengl yn cael ei ddiffinio neu ei warchod fel Dynodiad Daearyddol.

Pan na fyddwn yn cyhoeddi manylion cyfleusterau cynhyrchu a brandiau

Ni fyddwn yn cyhoeddi manylion cyfleusterau cynhyrchu na brandiau pan fo’r canlynol yn wir:

  • nid oes cais am ddilysiad
  • nid yw cyfleuster cynhyrchu erioed wedi gweithredu proses sicredig
  • nid ydym wedi cael gwybod am frand
  • nid yw brand erioed wedi cael ei ddilysu

Pan na chyhoeddir cyfleuster cynhyrchu fel un sydd â phrosesau sicredig, bydd hyn yn peryglu pob brand sy’n defnyddio prosesau yn y cyfleuster cynhyrchu hwnnw.

Os nad yw cyfleuster cynhyrchu yn cadw ei brosesau cynhyrchu’n sicredig, neu os nad yw brand yn cynnal ei statws wedi’i ddilysu, bydd dyddiad dod i rym y newid statws hwnnw yn cael ei ddangos yn y manylion a gyhoeddir ar y gwasanaeth chwilio, yn hytrach na bod y manylion yn cael eu dileu neu ddim yn cael eu cyhoeddi.

Os caiff cynhyrchion nad ydynt yn cydymffurfio eu gwerthu neu eu darparu o’r cyfleuster cynhyrchu, neu os yw’r cynhyrchion hynny’n destun proses gynhyrchu ddilynol, ni fyddant yn cael eu dilysu fel Wisgi Cymreig Brag Sengl. Ni ellir gwerthu’r cynhyrchion hyn fel Wisgi Cymreig Brag Sengl yn gyfreithiol.

Os daw proses i ben er mwyn ei dilysu, bydd unrhyw gynnyrch a ddarperir o’r cyfleuster cynhyrchu hwnnw ar neu ar ôl y dyddiad y caiff y statws dilysu ei ddileu yn gynnyrch nad yw’n cydymffurfio.

Os oes gennych bryderon am gynhyrchion heb eu dilysu

Dylech gysylltu â’r awdurdodau gorfodi dynodedig yn uniongyrchol. Gallwch ddod o hyd i’r rhain drwy wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Geirfa

Mae’r arweiniad hwn yn defnyddio termau a all fod â gwahanol ystyron yn dibynnu ar y cyd-destun. Er mwyn sicrhau eglurder, dylai’r termau isod bob amser fod yn gysylltiedig â’r diffiniadau perthnasol.

Term Diffiniad
Cynhyrchydd Perchennog cyfleuster cynhyrchu sy’n cynnal o leiaf un broses o gynhyrchu Wisgi Cymreig Brag Sengl.
Gweithredwr Person sy’n gyfrifol am weithredu cyfleuster cynhyrchu. Gall hwn fod yn rheolwr distyllfa, er enghraifft.
Cyfleuster neu gyfleuster cynhyrchu Cyfleuster sy’n gweithredu un neu fwy o’r prosesau cynhyrchu sydd eu hangen i greu Wisgi Cymreig Brag Sengl.
Proses neu broses gynhyrchu Un o’r prosesau sydd eu hangen i greu Wisgi Cymreig Brag Sengl.
Brand Enw’r label ar gynnyrch mewn potel heb gynnwys oedrannau, disgrifyddion na rhanbarthau.
Perchennog y Brand Perchennog brand Wisgi Cymreig Brag Sengl sy’n cael ei roi ar y farchnad i’w werthu.
Manyleb Cynnyrch Dogfen sy’n manylu ar ofynion Wisgi Cymreig Brag Sengl. Mae hyn yn cynnwys gofynion ar gyfer cynhyrchu, disgrifio, cyflwyno a labelu Wisgi Cymreig Brag Sengl.
Eplesi Dyma’r broses o drosi siwgrau yn alcohol drwy ychwanegu burum. Mae hyn yn cynnwys pob cam yn y broses gynhyrchu hyd at, ond heb gynnwys, y broses ddistyllu.
Distyllu Dyma’r broses o gaffael diodydd gwirodol drwy ddefnyddio cymysgedd eplesedig. Mae hyn yn cynnwys pob cam sy’n dilyn yr eplesu, hyd at y pwynt pan gaiff gwirod newydd ei ddistyllu.
Aeddfedu Dyma’r broses o heneiddio gwirod.
Brecáu neu fragu Paratoi brag gwlyb o farlys wedi’i fragu.
Potelu a Labelu Y prosesau o wagio cynwysyddion o Wisgi Cymreig Brag Sengl at ddiben potelu, gwanhau’r cynnwys i’r cryfder cywir ar gyfer potelu, potelu’r cynnwys gwanhaëdig, a labelu ar gyfer cyflwyniad. Unrhyw ail-botelu ac ail-labelu Wisgi Cymreig Brag Sengl a botelwyd yn flaenorol. Mae labelu’n golygu pob disgrifiad a phob nod masnach, dyluniad, arwydd neu gyfeiriad arall sy’n hynodi diod, ac sy’n ymddangos ar yr un cynhwysydd. Mae hyn yn cynnwys y ddyfais sy’n selio’r cynhwysydd neu’r tag sydd wedi’i atodi i’r cynhwysydd a’r gorchudd sydd dros wddf y botel.

Rhagor o wybodaeth

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynghylch eich cais, os hoffech ragor o gyngor, neu os oes angen newid eich manylion, e-bostiwch yr Uned Dilysu Diodydd Gwirodol yn enquiries.sdvs@hmrc.gov.uk.

Gallwch hefyd gysylltu â thîm Polisi Alcohol CThEF naill ai drwy e-bost i mailbox.alcoholpolicy@hmrc.gov.uk neu drwy’r post:

CThEF 
Tîm Polisi Alcohol 
Trinity Bridge House 
2 Dearmans Place 
Salford 
M3 5BS 
Y Deyrnas Unedig

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 21 Awst 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 Gorffennaf 2025 show all updates
  1. Added Welsh translation. Information about the transitional arrangements for Single Malt Welsh Whisky SDVS online application form has been deleted.

  2. The verification fee information has been updated to reflect the fees payable between 1 July 2025 and 30 June 2031.

  3. Verification checks for Single Malt Welsh Whisky document has been updated.

  4. Added details of a new verification fee that will start on 1 July 2025.

  5. Added translation

  6. Added translation

Argraffu'r dudalen hon