Canllawiau

Paratoi ar gyfer yr Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Dysgwch am yr Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol gan gynnwys sut y gallai effeithio ar eich cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

This guidance was withdrawn on

This page has been withdrawn because it’s out of date. The Health and Social Care Levy will no longer go ahead.

From 6 November 2022, the temporary 1.25 percentage point increase in National Insurance rates is being reversed for the rest of the financial year.

The introduction of a separate Health and Social Care Levy tax in April 2023 has been cancelled.

Gallai’ch cyfraniadau Yswiriant Gwladol gynyddu pan ddaw’r Ardoll Iechyd a Gofal Cymdeithasol i rym yn y DU (Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon) ar 6 Ebrill 2022.

Bydd y cynnydd yn eich cyfraniadau yn cael ei ddefnyddio i helpu i ariannu’r GIG, iechyd a gofal cymdeithasol.

Dylech ddarllen yr arweiniad hwn i baratoi ar gyfer yr ardoll os ydych yn unrhyw un o’r canlynol:

  • cyflogwr
  • hunangyflogedig
  • cyflogai
  • hunangyflogedig neu’n gyflogai a dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth o fis Ebrill 2023 ymlaen

Ni fydd y newidiadau hyn yn effeithio arnoch os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac nad ydych yn gyflogai neu’n hunangyflogedig. Cewch ragor o wybodaeth yn yr adran ‘Os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth’.

Beth yw’r newidiadau a phryd y byddant yn effeithio arnoch

Ar gyfer blwyddyn dreth 6 Ebrill 2022 i 5 Ebrill 2023

Bydd cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1 y cyflogwr, Dosbarth 1 y cyflogai, Dosbarth 1A, Dosbarth 1B a Dosbarth 4 yn cynyddu 1.25 pwynt canrannol am flwyddyn.

O 6 Ebrill 2023 ymlaen

Bydd cyfraddau cyfraniadau’r Yswiriant Gwladol yn gostwng i lefelau 2021 i 2022, a bydd yr ardoll yn dod yn dreth newydd ar wahân o 1.25%.

Sut y bydd yr ardoll yn effeithio arnoch

Rhwng 6 Ebrill 2022 a 5 Ebrill 2023

Os ydych yn gyflogwr, yn gyflogai neu’n hunangyflogedig (ac o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth), byddwch yn talu’r cynnydd o 1.25 pwynt canrannol mewn cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

O 6 Ebrill 2023 ymlaen

Bydd yr ardoll ar wahân o 1.25% yn berthnasol i’r un symiau ar gyfer y dosbarthiadau canlynol o gyfraniadau Yswiriant Gwladol:

  • Dosbarth 1 sydd dros y prif drothwy a’r trothwy eilaidd
  • Dosbarth 1A a Dosbarth 1B ar gyfer cyflogwyr
  • Dosbarth 4 ar gyfer yr hunangyflogedig

Bydd yr holl ryddhadau mewn perthynas â chyfraniadau Yswiriant Gwladol presennol yn berthnasol i’r ardoll ar wahân ar gyfer:

Bydd CThEM yn casglu’r ardoll drwy systemau presennol y gyflogres TWE a Hunanasesiad.

Cyhoeddwyd ar 31 January 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 22 September 2022 + show all updates
  1. The Health and Social Care Levy will no longer go ahead. From 6 November 2022, the temporary 1.25 percentage point increase in National Insurance rates is being reversed for the rest of the financial year. The introduction of a separate Health and Social Care Levy tax in April 2023 has been cancelled.

  2. You can now use the Health and Social Care Levy interactive guidance tool to check if you’ll need to pay the Health and Social Care Levy in the tax year 2022 to 2023.

  3. Added translation

  4. Updated to clarify that for the tax year 6 April 2022 to 5 April 2023 employer Class 1, employee Class 1, Class 1A, Class 1B and Class 4 National Insurance contributions will increase by 1.25 percentage points rather than 1.25%.

  5. First published.