Dewisiadau ar gyfer dewislen ffôn Cofrestrfa Tir EF
Defnyddiwch y dewisiadau hyn i'ch helpu i lywio'n dewislen ffôn
Yn berthnasol i England and Gymru
Cymorth ar gyfer defnyddio’n gwasanaethau ar-lein
Porthol ac e-wasanaethau busnes
Os ydych yn gwsmer busnes ac mae angen cymorth gyda’r porthol neu e-wasanaethau busnes arnoch:
- ffoniwch 0300 006 0411
- dewiswch 1 ar gyfer gwasanaethau ar-lein
- dewiswch 1 ar gyfer y porthol ac e-wasanaethau busnes
- dewiswch opsiwn 1 ar gyfer gwybodaeth am ddefnyddio’r gwasanaethau
- dewiswch opsiwn 2 ar gyfer ymholiadau am daliadau neu broblemau gyda chyfrifon na all eich gweinyddwr eu datrys
Gwasanaethau Chwilio am wybodaeth am dir ac eiddo neu forgeisi digidol
Os ydych yn defnyddio gwasanaethau Chwilio am wybodaeth am dir ac eiddo neu Sign your mortgage deed:
- ffoniwch 0300 006 0422
Mae angen cyfeiriad ebost arnoch i gael cyfrif.
Os oes cwestiwn gennych am archeb, bydd yn rhaid ichi ddarparu:
- cyfeiriad neu rif teitl yr eiddo
- cyfeirnod 10 neu 11 digid World Pay
I gael gwybodaeth gan Gofrestrfa Tir EF
Terfynau
Nid ydym yn cadw gwybodaeth am berchnogaeth terfynau fel rheol. Os oes gwybodaeth gennym, ni allwn:
- ddweud wrthych pwy sy’n berchen ar derfyn neu’n gyfrifol am derfyn dros y ffôn
- datrys neu gynnig cyngor cyfreithiol ynghylch anghydfodau
I gael gwybodaeth am berthi, waliau, coed a ffensys:
- ffoniwch 0300 006 0422
Cymorth pan fydd rhywun yn marw
I gael gwybodaeth am yr hyn i’w wneud pan fydd rhywun yn marw:
- ffoniwch 0300 006 0422
Perchnogaeth tir ac eiddo
Nid ydym yn cadw gweithredoedd gwreiddiol. Gallwch gael copi o gofrestri, cynlluniau a dogfennau am ffi fach.
I gael gwybodaeth am sut i gael gweithredoedd, dogfennau neu wybodaeth arall am berchnogaeth tir ac eiddo:
- ffoniwch 0300 006 0422
Ceisiadau
Gofyn am lythyr neu ebost (a dderbyniwyd gennym neu a anfonwyd gennym)
Os hoffech drafod unrhyw ohebiaeth â ni (gan gynnwys ymholiadau cofrestr/ymholiadau neu lythyr neu ebost a anfonwyd atom):
- ffoniwch 0300 006 0422
Gofynnir ichi ddarparu rhif teitl neu gyfeirnod cais.
I gael diweddariad ar eich cais
I wybod beth sy’n digwydd gyda chais (gan gynnwys ceisiadau ar gyfer chwiliadau, chwiliadau o’r map mynegai neu gopïau swyddogol):
- ffoniwch 0300 006 0422
Gallwn drafod manylion cais gyda’r sawl a anfonodd y cais atom yn unig.
Gweler y diweddariad diwethaf i’n gwasanaethau.
Sylwer: ni fyddwn yn cyflymu chwiliad swyddogol oni bai bod y safon gwasanaeth ar gyfer y cais wedi mynd heibio. Dylech wneud cais o leiaf 5 diwrnod gwaith cyn cwblhau er mwyn cael y dystysgrif chwiliad swyddogol mewn pryd.
Ceisiadau a wrthodwyd ac a ddilëwyd
Os oes angen gwybodaeth arnoch i’ch helpu i wneud cais (gan gynnwys ceisiadau ar gyfer chwiliadau, chwiliadau o’r map mynegai neu gopïau swyddogol), neu os yw’ch cais wedi cael ei wrthod neu ei ddileu:
- ffoniwch 0300 006 0422
Os yw’ch cais wedi cael ei ddileu neu ei wrthod, bydd yn rhaid ichi gywiro’r broblem ac anfon y cais yn ôl atom. Nid ydym yn cadw copïau o ddogfennau sydd wedi cael eu dychwelyd.
Cofrestri, cynlluniau a dogfennau
Os oes cwestiwn gennych am gofrestr, cynllun neu ddogfen a anfonwyd atoch:
- ffoniwch 0300 006 0422
Pridiannau Tir Lleol
Mae cyfrifoldeb ar gyfer cofrestri Pridiannau Tir Lleol yn cael ei drosglwyddo i Gofrestrfa Tir EF. Gweler y Rhaglen Pridiannau Tir Lleol.
I gael gwybodaeth am Bridiannau Tir Lleol, ffoniwch:
- ffoniwch 0300 006 0422
Pridiannau tir
I gael gwybodaeth am bridiannau tir, ffoniwch:
- 0300 006 6616
Methdaliad
I gael gwybodaeth am lythyron ymholi ynghylch methdaliad a beth i’w wneud os ydych yn cael un, ffoniwch:
- 0300 006 6107
Gwasanaethau Data
Gweler y gwasanaethau masnachol a gynigir gan Gofrestrfa Tir EF neu ffoniwch:
- 0300 006 0478
Rhoi gwybod am dwyll
Dywedwch wrth Gofrestrfa Tir EF am dwyll cofrestru eiddo.
Gwarchod eich eiddo rhag twyll
I helpu gwarchod eich eiddo rhag twyll, defnyddiwch ein gwasanaeth Property Alert neu ffoniwch:
- 0300 006 0478