Canllawiau

Talu treth fel gweinyddwr cynllun pensiwn

Sut i dalu tâl a godir ar daliadau o gynlluniau pensiwn cofrestredig a’r amser y mae’n ei gymryd i daliadau gyrraedd CThEF.

Mae’n rhaid i chi, fel gweinyddwr cynllun pensiwn ar gyfer cynllun pensiwn cofrestredig, anfon adroddiadau ar gynlluniau pensiwn a thalu taliadau treth i CThEF.

Cyn i chi dalu tâl treth, dylech ddarllen yr arweiniad ar y canlynol:

Gwneud taliadau ar unrhyw dâl sy’n codi o’ch ffurflen sy’n rhoi cyfrif am y dreth

Mae angen rhoi gwybod am daliadau treth a’u talu erbyn yr un dyddiad cau.

Cyfnod treth Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno a thalu
1 Ionawr i 31 Mawrth 15 Mai
1 Ebrill i 30 Mehefin 14 Awst
1 Gorffennaf i 30 Medi 14 Tachwedd
1 Hydref i 31 Rhagfyr 14 Chwefror

Ble i ddod o hyd i’ch cyfeirnod talu, sy’n 14 o gymeriadau

Gallwch ddod o hyd i’ch cyfeirnod talu, sy’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’, yn y llefydd canlynol:

  • ar eich derbynneb ar-lein, os gwnaethoch gyflwyno Ffurflen Dreth drwy’r gwasanaeth ar-lein ar gyfer cynlluniau pensiwn
  • yn sgrin y ‘taliadau a thâl’ ar gyfer pob Ffurflen Dreth a gyflwynwyd drwy’r gwasanaeth rheoli cynlluniau pensiwn

Gwneud taliadau ar unrhyw dâl sy’n codi o adroddiad am ddigwyddiad a gyflwynoch

Pryd mae’n rhaid i chi gyflwyno adroddiad am ddigwyddiad

Os oes digwyddiad y mae’n rhaid rhoi gwybod amdano yn digwydd o fewn blwyddyn dreth, mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch adroddiad am ddigwyddiad erbyn 31 Ionawr yn dilyn diwedd blwyddyn dreth y digwyddiad.

Os yw cynllun wedi’i ddirwyn i ben, mae’n rhaid i chi gyflwyno’r adroddiad am ddigwyddiad cyn pen 3 mis i’r dyddiad y cafodd y cynllun ei ddirwyn i ben, neu erbyn y dyddiad cau, sef 31 Ionawr, p’un bynnag sydd gynharaf.

Tâl sancsiwn y cynllun ar daliadau heb awdurdod

Os yw’r digwyddiad rydych wedi rhoi gwybod amdano yn daliad heb awdurdod (yn agor tudalen Saesneg), bydd CThEF hefyd yn codi asesiad am dâl sancsiwn y cynllun.

Bydd gennych 30 diwrnod o’r dyddiad y byddwn yn anfon yr hysbysiad o asesiad i dalu. Bydd cosbau am dalu’n hwyr yn dod yn daladwy os nad yw’r dreth wedi’i thalu 30 diwrnod ar ôl y dyddiad dyledus.

Bydd llog yn cael ei godi os nad yw tâl sancsiwn y cynllun yn cael ei dalu erbyn 31 Ionawr yn dilyn y flwyddyn dreth y cododd y tâl ynddi.

Gwneud taliadau ar gyfrif

Er mwyn osgoi neu leihau llog a godir, gall gweinyddwyr cynllun wneud taliadau ar gyfrif. Defnyddiwch eich cyfeirnod talu, sy’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’, fel y gallwn wneud yn siŵr y caiff taliadau eu dyrannu’n gywir.

Help gyda thalu tâl ar ôl cyflwyno adroddiad am ddigwyddiad

Os oes angen i chi wneud taliad yn dilyn cyflwyno adroddiad am ddigwyddiad, anfonwch e-bost at: gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk. Byddwn yn rhoi gwybod i chi sut y gallwch wneud y taliadau.

Tâl ar daliadau heb awdurdod

Os yw’r aelod wedi llenwi a llofnodi mandad, bydd hefyd yn rhaid i chi dalu’r tâl ar daliadau heb awdurdod ar ei ran.

Pryd i dalu

Gwnewch yn siŵr eich bod yn talu CThEF erbyn y dyddiad cau neu mae’n bosibl y bydd yn rhaid i chi dalu cosb.

Mae’r amser y mae angen i chi ei ganiatáu yn dibynnu ar eich dull o dalu.

Dull talu Amser i’w ganiatáu
Cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein Yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf
Bancio ar-lein neu dros y ffôn (Taliadau Cyflymach) Yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf
Bacs 3 diwrnod gwaith
CHAPS Yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf
Gwasanaeth Bancio’r Llywodraeth Yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf
Cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol ar-lein Yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf
Yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu Yr un diwrnod neu’r diwrnod nesaf
Siec drwy’r post 3 diwrnod gwaith

Os bydd y dyddiad cau ar ddiwrnod dros y penwythnos neu ar ŵyl y banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn y diwrnod gwaith olaf cyn hynny (oni bai eich bod yn talu drwy ddefnyddio Taliadau Cyflymach).

Talu ar-lein

Gallwch dalu drwy gymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein — gallwch wneud hyn drwy ddewis yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’.

Bydd angen eich cyfeirnod talu arnoch, sy’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’.

Yna, gofynnir i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein neu’ch cyfrif banc symudol i gymeradwyo’ch taliad.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n cymryd hyd at ddwy awr i ymddangos yn eich cyfrif.

Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.

Fel arall, gallwch wneud taliad yn llawn ar-lein drwy ddefnyddio cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol. Bydd ffi na ellir ei had-dalu yn cael ei chodi os byddwch yn defnyddio cerdyn debyd neu gredyd corfforaethol. Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.

Bydd eich taliad yn cael ei dderbyn ar y dyddiad y byddwch yn ei wneud, ac nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF (gan gynnwys ar benwythnosau a gwyliau banc).

Bydd yn rhaid i chi sicrhau bod y manylion a nodwch yn cyd-fynd â’r rheini sydd gan eich banc neu ddarparwr y cerdyn. Er enghraifft, dylai’r cyfeiriad bilio gyd-fynd â’r cyfeiriad y mae’ch cerdyn wedi’i gofrestru iddo ar hyn o bryd.

Talu nawr

Talu drwy drosglwyddiad banc

Os byddwch yn talu drwy CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio) neu Daliadau Cyflymach, gallwch gyflwyno’ch taliad ar yr un diwrnod, neu’r diwrnod nesaf.

Os byddwch yn talu drwy Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr), dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Dylech ddefnyddio’ch cyfeirnod talu sy’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’.

Rydym yn argymell eich bod yn gwirio amserau prosesu ac uchafswm y terfynau trosglwyddo a osodir gan eich banc cyn i chi dalu.

Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif yn y DU

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif yn y DU:

  • cod didoli — 08 32 10
  • rhif y cyfrif — 12001020
  • enw’r cyfrif — HMRC Shipley

Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif dramor

Fel gweinyddwr cynllun ar gyfer cynllun pensiwn cofrestredig, dylech ddefnyddio’r manylion canlynol i dalu o gyfrif dramor:

  • rhif y cyfrif (IBAN) — GB03 BARC 2011 4783 9776 92
  • cod adnabod y banc (BIC) neu god SWIFT — BARCGB22
  • enw’r cyfrif — HMRC Shipley

Mae’n rhaid i chi wneud pob taliad mewn punnoedd sterling (GBP).

Os bydd angen, gallwch roi’r cyfeiriad canlynol fel cyfeiriad bancio CThEF i’ch banc chi:

Barclays Bank plc
1 Churchill Place
London
United Kingdom
E14 5HP

Os ydych yn rheolwr cynllun pensiwn tramor (yn Saesneg), dylech gysylltu â CThEF cyn talu’r tâl ar drosglwyddiadau tramor.

Gwasanaeth Bancio’r Llywodraeth

Gall cyflogwyr, megis adrannau o’r llywodraeth ac awdurdodau iechyd sydd â chyfrif Gwasanaeth Bancio’r Llywodraeth, dalu gan ddefnyddio Gwasanaeth Bancio’r Llywodraeth ar-lein.

Os byddwch yn nodi manylion cyfrif CThEF ar gyfer Gwasanaeth Bancio’r Llywodraeth yn anghywir, efallai y bydd oedi cyn diweddaru’ch cofnod neu efallai na fydd eich taliad yn cyrraedd CThEF.

Cyn belled â’ch bod yn gwneud taliad erbyn dyddiad cau Gwasanaeth Bancio’r Llywodraeth, bydd yn cyrraedd CThEF ar yr un diwrnod.

Talu yn eich banc neu’ch cymdeithas adeiladu

Gallwch dalu ag arian parod neu siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’. Ysgrifennwch eich cyfeirnod talu ar gefn y siec - mae’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’.

Gall eich taliad gael ei oedi os ydych yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir.

Bydd CThEF yn derbyn eich taliad ar y dyddiad pan wnewch y taliad, ac nid y dyddiad pan fydd yn cyrraedd cyfrif banc CThEF, os ydych yn talu rhwng dydd Llun a dydd Gwener.

Talu â siec

Gwnewch eich siec yn daladwy i ‘Cyllid a Thollau EF yn unig’.

Ysgrifennwch eich cyfeirnod talu ar gefn y siec – mae’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’.

Peidiwch â phlygu’r siec na’i glynu wrth unrhyw bapurau eraill.

Dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF. Anfonwch eich siec i:

HM Revenue and Customs
Direct
BX5 5BD

Nid oes angen i chi gynnwys enw stryd, enw dinas na blwch Swyddfa’r Post gyda’r cyfeiriad hwn.

Os ydych yn anfon eich taliad drwy’r post, gallwch gynnwys llythyr er mwyn gofyn am dderbynneb oddi wrth CThEF.

Cyhoeddwyd ar 30 October 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 27 May 2022 + show all updates
  1. Information about approving a payment through your online bank account has been added.

  2. Added translation

  3. Information about how to make a payment following the submission of an event report has been updated.

  4. Information about a non-refundable fee for corporate debit cards has been updated.

  5. Where to find a charge reference on the Managing Pension Scheme service and using a charge reference when making a payment on account has been updated.

  6. Information about a non-refundable fee for corporate debit cards being introduced from the 1 November 2020 has been added.

  7. Information about contacting us for a charge reference and when using your pension scheme tax reference (PSTR) to make a payment has been added.

  8. Welsh translation has been added.

  9. Sections about reporting and making payments on charges arising from your Accounting for Tax Return or Event and what reference to use if you’re making a payment, have been added to the guidance.

  10. Guidance on paying by cheque through the post has been updated.

  11. Guide updated to show payments can't be made with a personal credit card.

  12. Payments can no longer be made at a Post Office.

  13. Guidance updated to show it won't be possible to make a payment with a personal credit card from 13 January 2018.

  14. Guidance updated to show it won't be possible to pay at the Post Office from 15 December 2017.

  15. Information about payments at a Post Office from December 2017 has been added to the guide.

  16. Change of address for ordering payslips.

  17. Guidance has been updated to advise that all Post Offices don't accept payment by cheque.

  18. Credit card fees have changed.

  19. Overseas payment details updated.

  20. The pay by cheque through the post address has changed to HM Revenue and Customs, Direct, BX5 5BD.

  21. Notification that from 1 January 2016 changes will be introduced to limit the number of credit and debit card payments that can be made to any single tax regime within a given period.

  22. The online debit or credit card non-refundable fee has been increased to 1.5%.

  23. HMRC have launched a new payment service - you may be directed to WorldPay if you pay online by debit or credit card. The new service uses a different service provider to BillPay.

  24. Pension scheme administrators can pay tax owing to HM Revenue and Customs at the Post Office (up to a maximum of £10,000)

  25. First published.