Canllawiau

Talu Ardoll y Diwydiant Diodydd Ysgafn (hysbysiad 5)

Sut i dalu Ardoll y Diwydiant Diodydd Ysgafn, cosb Ardoll y Diwydiant Diodydd Ysgafn, neu hawlio credyd ardoll.

Pryd i dalu

Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch datganiad (yn agor tudalen Saesneg) a thalu unrhyw ardoll sy’n ddyledus cyn pen 30 diwrnod o ddiwedd pob cyfnod adrodd.

Nodir hyn yn Rheoliadau 20(3) a 22 o Reoliadau Ardoll y Diwydiant Diodydd Ysgafn 2018, sydd â grym cyfreithiol.

Byddwch yn cael gwybod faint y bydd yn rhaid i chi ei dalu pan fyddwch yn cyflwyno’ch datganiad.

Os bydd y dyddiad cau ar benwythnos neu ŵyl y banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn diwedd y diwrnod gwaith olaf cyn hynny.

Os na fyddwch yn talu erbyn y dyddiad cau, efallai y bydd un o’r cosbau canlynol yn cael eu codi arnoch:

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Bydd angen eich cyfeirnod arnoch, sy’n 15 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’.

Gallwch ddod o hyd i hwn ar naill ai:

  • eich cyfrif CThEF ar-lein — bydd arnoch angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair Porth y Llywodraeth a ddefnyddioch wrth gofrestru
  • yr e-bost cadarnhau a gawsoch ar ôl i chi gofrestru

Os na wnaethoch gofrestru ar-lein, gallwch ddod o hyd iddo ar eich tystysgrif cofrestru.

Os byddwch yn defnyddio cyfeirnod anghywir: 

  • bydd oedi cyn i’r taliad gael ei ddyrannu’n gywir 
  • byddwch yn cael nodyn i’ch atgoffa i wneud taliad

Os bydd angen i chi dalu cosb Ardoll y Diwydiant Diodydd Ysgafn

Bydd angen eich cyfeirnod tâl arnoch, sy’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’, i wneud taliad. Bydd hwn yn wahanol i’r un rydych yn ei ddefnyddio i dalu’ch Ardoll y Diwydiant Diodydd Ysgafn.

Gallwch ddod o hyd iddo ar y llythyr a anfonom atoch ynghylch eich cosb.

Talu ar-lein

Gallwch ddefnyddio un o’r dulliau canlynol i dalu ar-lein:

  • cymeradwyo taliad drwy ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein
  • Debyd Uniongyrchol
  • cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

Talu nawr

Talu ar-lein gan ddefnyddio’ch cyfrif banc

Gallwch dalu drwy gymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein – gallwch wneud hyn drwy ddewis yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’.

Bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein, neu’r cyfrif banc ar eich ffôn symudol, i gymeradwyo’ch taliad.

Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.

Gallwch ddewis dyddiad talu, cyn belled â’i fod cyn dyddiad dyledus eich taliad.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif.

Ar eich dyddiad talu sydd wedi’i drefnu, gwiriwch fod y taliad wedi gadael eich cyfrif banc.

Talu ar-lein drwy Ddebyd Uniongyrchol

Defnyddiwch eich cyfrif ar-lein CThEF i drefnu Debyd Uniongyrchol.

Bydd angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair Porth y Llywodraeth a ddefnyddioch wrth gofrestru am y cyfrif.

Gallwch hefyd ei ddefnyddio i wneud y canlynol:

  • newid neu ganslo eich Debyd Uniongyrchol
  • bwrw golwg dros y dyddiad y bydd CThEF yn casglu’ch taliad

Ni fydd y Debyd Uniongyrchol yn casglu taliadau ar gyfer datganiadau sydd dros £20 miliwn. Os oes arnoch fwy, bydd angen i chi dalu mewn ffordd arall.

Talu’ch bil yn awtomatig

Bydd CThEF yn casglu’r taliad o’ch cyfrif banc yn awtomatig, yn seiliedig ar y swm yn eich datganiad. Dim ond unwaith y bydd angen i chi drefnu’r Debyd Uniongyrchol. 

Ewch ati i’w drefnu o leiaf 4 diwrnod gwaith cyn y dyddiad dyledus ar gyfer eich taliad. 

Bydd y taliadau’n ymddangos ar eich cyfriflen banc fel ‘HMRC SDDS’. 

Bydd taliadau’n cael eu casglu’n awtomatig o’ch cyfrif banc. Mae hyn fel arfer 4 diwrnod ar ôl dyddiad dyledus eich datganiad a’ch taliad. Byddwn yn anfon neges atoch gyda’r union ddyddiad a’r union swm ar ôl i chi gyflwyno’ch datganiad. 

Os byddwch yn cyflwyno’ch datganiad yn hwyr, bydd eich taliad fel arfer yn cael ei gymryd 4 diwrnod ar ôl i’r datganiad gael ei gyflwyno. Ni all y Debyd Uniongyrchol gasglu unrhyw log neu gosbau sydd arnoch.

Talu â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

Gallwch wneud taliad yn llawn ar-lein drwy ddefnyddio cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol. Bydd ffi na ellir ei had-dalu yn cael ei chodi os byddwch yn defnyddio cerdyn debyd neu gredyd credyd corfforaethol. Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.

Bydd eich taliad yn cael ei dderbyn ar y dyddiad y byddwch yn ei wneud, ac nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF (gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc).  

Mae’n rhaid i chi sicrhau bod y manylion a nodwyd gennych yn cyd-fynd â’r rheini sydd gan eich banc neu ddarparwr y cerdyn. Er enghraifft, dylai’r cyfeiriad bilio gyd-fynd â’r cyfeiriad y mae’ch cerdyn wedi’i gofrestru iddo ar hyn o bryd.

Talu drwy drosglwyddiad banc

Os byddwch yn talu drwy CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio) neu Daliadau Cyflymach, gallwch gyflwyno’ch taliad ar yr un diwrnod, neu’r diwrnod nesaf. 

Os byddwch yn talu drwy Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr), dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF. 

Rydym yn argymell eich bod yn gwirio amserau prosesu ac uchafswm y terfynau trosglwyddo a osodir gan eich banc cyn i chi dalu.

Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif yn y DU

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif yn y DU:

  • cod didoli — 20 05 17
  • rhif y cyfrif — 40204374
  • enw’r cyfrif — HMRC General BT Receipts

Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif dramor

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif dramor:

  • rhif y cyfrif (IBAN) — GB86BARC20051740204374
  • cod adnabod y banc (BIC) — BARCGB22
  • enw’r cyfrif — HMRC General BT Receipts

Mae’n rhaid i chi wneud pob taliad mewn punnoedd sterling (GBP). Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os defnyddiwch unrhyw arian cyfred arall.

Os bydd angen, gallwch roi’r cyfeiriad canlynol fel cyfeiriad bancio CThEF i’ch banc chi:

Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
Llundain
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP

Hawlio credyd ardoll

Os ydych yn hawlio credyd ardoll (yn agor tudalen Saesneg), ac mae’r swm yn fwy na’r hyn sydd arnoch yn ystod cyfnod adrodd, gallai arwain at gredyd net. Ni chewch ad-daliad ar gyfer y credyd hwn yn awtomatig. Caiff ei gario ymlaen i’r cyfnod adrodd nesaf a fydd yn gostwng y swm y bydd yn rhaid i chi ei dalu am y cyfnod hwnnw.

Os ydych yn credu na fydd yn rhaid i chi adrodd a thalu am ragor o ddiodydd yn y dyfodol, cysylltwch â CThEF i ganslo’ch cofrestriad ar gyfer yr ardoll a hawlio unrhyw gredyd net sy’n ddyledus.

Cyhoeddwyd ar 1 July 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 27 February 2024 + show all updates
  1. Added translation

  2. Pay by one off Direct Debit information has been removed. Links to set up a Direct Debit have been added.

  3. Guidance has been added about when you can select a date to pay when you pay online.

  4. Information added on the details you need to pay a Soft Drinks Industry Levy penalty. You can no longer set up a Direct Debit by print and post so this has been removed.

  5. Added translation

  6. The account name for online or telephone banking, CHAPS or Bacs and overseas payments has been updated.

  7. Information about how to approve a payment through your online bank account has been added.

  8. Information about a non-refundable fee for corporate debit cards being introduced from 1 November 2020 has been added.

  9. Direct Debit has been added as payment method for the Soft Drinks Industry Levy.

  10. Welsh translation has been added.

  11. Information about how much time to allow for your payment to reach HMRC has been added.

  12. The Bank Identifier Code (BIC) for overseas payments has been updated.

  13. Pay the levy section updated with information about what happens if you pay late.

  14. First published.