Canllawiau

Talu treth ar gryptoasedion

Sut i dalu treth sydd heb ei thalu os ydych yn cael incwm neu enillion o gryptoasedion, a faint o amser mae’n ei gymryd i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Cyn i chi wneud taliad, mae angen i chi roi gwybod i CThEF am unrhyw dreth heb ei thalu ar gryptoasedion (yn agor tudalen Saesneg). Byddwn yn anfon cyfeirnod talu atoch y gallwch ei ddefnyddio i wneud taliad.

Pryd i dalu

Mae’n rhaid i chi dalu’r swm llawn sydd arnoch cyn pen 30 diwrnod o wneud eich datgeliad. Os nad ydych yn gwneud hyn, bydd CThEF yn cymryd camau i adennill yr arian.

Os bydd y dyddiad cau ar y penwythnos neu ar ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn diwedd y diwrnod gwaith blaenorol.

Os na fyddwch yn talu erbyn y dyddiad cau, efallai y bydd angen i chi dalu cosb, llog, neu’r ddau.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Bydd angen eich cyfeirnod arnoch, sy’n 14 o gymeriadau ac yn dechrau gydag ‘X’.

Gallwch ddod o hyd i hwn ar y llythyr gwnaethom anfon atoch ar ôl i chi wneud eich datgeliad.

Os ydych yn defnyddio cyfeirnod anghywir, bydd oedi cyn i’r taliad gael ei ddyrannu’n gywir.

Talu ar-lein

Gallwch ddefnyddio un o’r dulliau canlynol i dalu ar-lein:

  • cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein

  • cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

Talu nawr

Talu ar-lein drwy’ch cyfrif banc

Gallwch dalu drwy gymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif bancio ar-lein — gallwch wneud hyn drwy ddewis yr opsiwn i dalu drwy gyfrif banc.

Bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif bancio ar-lein, neu’ch cyfrif bancio symudol, i gymeradwyo’ch taliad.

Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.

Talu â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

Gallwch wneud taliad yn llawn ar-lein drwy ddefnyddio cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol. Bydd ffi na ellir ei had-dalu yn cael ei chodi os byddwch yn defnyddio cerdyn debyd neu gredyd corfforaethol. Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.

Bydd eich taliad yn cael ei dderbyn gennym ar y dyddiad y byddwch yn ei wneud, ac nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF (gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc).

Mae’n rhaid i chi sicrhau bod y manylion rydych wedi’u nodi’n cyd-fynd â’r rheini sydd gan eich banc neu ddarparwr y cerdyn. Er enghraifft, dylai’r cyfeiriad bilio gyd-fynd â’r cyfeiriad y mae’ch cerdyn wedi’i gofrestru iddo ar hyn o bryd.

Talu drwy drosglwyddiad banc 

Os byddwch yn talu drwy CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio) neu Daliadau Cyflymach, bydd eich taliad yn ein cyrraedd ar yr un diwrnod, neu’r diwrnod gwaith nesaf.

Os byddwch yn talu drwy Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr), dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Cyn i chi dalu, rydym yn argymell eich bod yn gwirio amserau prosesu’ch banc a’i derfynau o ran trafodion mwyaf.

Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif yn y DU

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif yn y DU:

  • cod didoli — 08 32 10

  • rhif y cyfrif — 12001020

  • enw’r cyfrif — HMRC Shipley

Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif dramor

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif dramor:

  • rhif y cyfrif (IBAN) — GB03 BARC 2011 4783 9776 92

  • Cod Adnabod y Busnes (BIC) — BARCGB22

  • enw’r cyfrif — HMRC Shipley

Mae’n rhaid i chi wneud pob taliad mewn punnoedd sterling. Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.

Os bydd angen, gallwch roi’r cyfeiriad canlynol fel cyfeiriad bancio CThEF i’ch banc chi:

Barclays Bank Plc
1 Churchill Place
London
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP

Ar ôl i chi dalu

Byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi os ydym wedi derbyn eich datgeliad. Mae hyn yn golygu bod y swm rydych wedi’i dalu wedi clirio unrhyw dreth a oedd arnoch. Bydd rhagor o wybodaeth ynghylch faint o amser y bydd hyn yn ei gymryd ar y llythyr a gawsoch sy’n cynnwys eich cyfeirnod talu.

Os nad ydym wedi cael eich datgeliad, byddwn yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi beth yw’r camau nesaf.

Os na allwch dalu’r swm llawn

Dylech wneud taliad llawn o’r hyn sydd arnoch pan fyddwch yn gwneud eich datgeliad.

Os nad ydych yn gallu talu’r swm llawn sydd arnoch, mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni cyn gynted ag y bydd gennych eich cyfeirnod talu. Mae’n bosibl y bydd angen i ni drafod a chytuno ar gynnig newydd.

Ffôn: 03000 55 22 94
Dydd Llun i ddydd Iau, 9am i 5pm
Dydd Gwener, 9am tan 4:30pm
Rhagor o wybodaeth am gostau galwadau.

I’n helpu i benderfynu pryd y bydd angen i chi dalu’r swm sydd arnoch, mae angen i chi roi gwybod i ni am y canlynol:

  • eich cyfeirnod talu

  • sut a phryd rydych yn meddwl y byddwch yn gallu talu’r hyn sydd arnoch

  • beth yw eich incwm a’ch gwariant presennol, naill ai’n wythnosol neu’n fisol

  • eich asedion (er enghraifft, eich cartref, eiddo neu dir arall, cerbydau, buddsoddiadau, arian yn y banc)

  • unrhyw symiau sydd arnoch (er enghraifft, morgeisi, benthyciadau a chardiau credyd)

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 29 Tachwedd 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 29 Ebrill 2026 show all updates
  1. A Welsh translation has been added.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon