Skip to main content
Canllawiau

Talu Treth Tollau Stamp Wrth Gefn

Sut i dalu’ch Tollau Stamp Wrth Gefn, a faint o amser mae’n ei gymryd i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Telir Tollau Stamp Wrth Gefn (SDRT) ar brynu cyfranddaliadau’n ddi-bapur.

Ni ddylid ei gymysgu â thalu un o’r canlynol:

Y ddau fath o daliad SDRT yw stociau a chyfranddaliadau a wneir:

  • drwy system ’CREST’ — cofrestr gyfrifiadurol o gyfranddaliadau a pherchnogion cyfranddaliadau

  • y tu allan i CREST — taliadau ‘oddi ar y farchnad’

Mae’r dyddiadau cau ar gyfer talu, cyfeirnodau talu a manylion cyfrif banc CThEF yn wahanol ym mhob achos.

Yr hyn y mae angen i chi ei wneud

Taliadau CREST stociau a chyfranddaliadau

Mae CREST yn didynnu SDRT yn awtomatig o fasnachau trethadwy ac yn talu’r dreth i CThEF. Nid oes angen taliad â llaw na hysbysiad.

Taliadau stociau a chyfranddaliadau y tu allan i CREST

Os gwnewch fasnach y tu allan i CREST, taliadau ‘oddi ar y farchnad’, mae’n rhaid i chi gysylltu ag ymholiadau Treth Wrth Gefn mewn perthynas â’r Tollau Stamp (yn agor tudalen Saesneg) gan anfon hysbysiad ysgrifenedig sy’n cynnwys:

  • manylion y prynwr a’r gwerthwr

  • pa warantau sydd wedi’u trosglwyddo a faint ohonynt

  • unrhyw ryddhad neu esemptiad, neu’r ddau, a hawlir

  • manylion y taliad neu gyfnewidiad arall, gan gynnwys gwerth ariannol, a wnaed

  • cyfeirnod, a ddewisir gennych, fel y gall CThEF adnabod y taliad

Lle mae sawl trafodiad wedi digwydd mewn cyfnod adrodd, mae’n rhaid i chi ddarparu manylion pob trafodyn unigol.

Dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch hysbysiad gyrraedd CThEF.

Pryd i dalu

Os gellid bod wedi gwneud y taliad drwy CREST ond na wnaed hynny, y dyddiad cau ar gyfer y taliad a’r hysbysiad yw 14 diwrnod o ddyddiad y fasnach.

Os na ellid bod wedi gwneud y taliad drwy CREST, y dyddiad cau ar gyfer y taliad a’r hysbysiad yw’r 7fed diwrnod o’r mis ar ôl y mis calendr y digwyddodd y cytundeb ynddo.

Os bydd y dyddiad cau ar y penwythnos neu ar ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn diwedd y diwrnod gwaith blaenorol.

Os na fyddwch yn talu erbyn y dyddiad cau, efallai y bydd angen i chi dalu cosb neu log, neu’r ddau (yn agor tudalen Saesneg).

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Mae angen y cyfeirnod a ddarparwyd gennych ar eich hysbysiad talu oddi ar y farchnad arnoch.

Os byddwch yn defnyddio’r cyfeirnod anghywir, mae’n bosibl y bydd eich taliad yn cael ei oedi neu’n cael ei ddefnyddio i dalu bil treth arall sydd arnoch. Os yw’ch taliad wedi talu’r bil treth anghywir, gallwch gysylltu ag ymholiadau Treth Wrth Gefn mewn perthynas â’r Tollau Stamp (yn agor tudalen Saesneg) i ofyn bod eich taliad yn cael ei symud.

Talu drwy drosglwyddiad banc

Os byddwch yn talu drwy CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio) neu Daliadau Cyflymach, gallwch gyflwyno’ch taliad ar yr un diwrnod, neu’r diwrnod nesaf.

Os byddwch yn talu drwy Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr), dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Cyn i chi dalu, rydym yn argymell eich bod yn gwirio amserau prosesu’ch banc a’i derfynau o ran trafodion mwyaf.

Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif yn y DU

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif yn y DU:

  • cod didoli — 08 32 10

  • rhif y cyfrif — 12237210

  • enw’r cyfrif — HMRC Stamp Office Shares Unit

Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif dramor

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif dramor:

  • rhif y cyfrif (IBAN) — GB89 BARC 2011 4733 7025 96

  • Cod Adnabod y Busnes (BIC) — BARCGB22

  • enw’r cyfrif — HMRC SDRT

Mae’n rhaid i chi wneud pob taliad mewn punnoedd sterling (GBP). Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.

Os bydd angen, gallwch roi’r cyfeiriad canlynol fel cyfeiriad bancio CThEF i’ch banc chi:

Barclays Bank plc
1 Churchill Place
London
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP

 Peidiwch â phostio taliad siec atom. Os na allwch dalu’n electronig, dylech gysylltu â ni (yn agor tudalen Saesneg).

Argraffu'r dudalen hon