Canllawiau

Talu’r Dreth Deunydd Pacio Plastig

Sut i dalu Treth Deunydd Pacio Plastig a’r amser y mae’n ei gymryd i daliadau gyrraedd CThEF.

Pryd i dalu

Unwaith y byddwch wedi cofrestru ar gyfer Treth Deunydd Pacio Plastig, mae’n rhaid i chi gyflwyno Ffurflen Dreth a thalu unrhyw dreth sydd arnoch erbyn diwrnod gwaith olaf y mis ar ôl diwedd y cyfnod treth.

Er enghraifft, mae’n rhaid i’ch Ffurflen Dreth a’ch taliad ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin ddod i law CThEF erbyn diwrnod gwaith olaf mis Gorffennaf.

Byddwch yn darganfod faint y bydd yn rhaid i chi ei dalu pan fyddwch yn cyflwyno’ch Ffurflen Dreth.

Os bydd y dyddiad cau ar y penwythnos neu ar ŵyl y banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn diwedd y diwrnod gwaith olaf cyn hynny.

Os na fyddwch yn talu erbyn y dyddiad cau, efallai y bydd yn rhaid i chi dalu cosb, llog, neu’r ddau.

Yr hyn sydd ei angen arnoch

Bydd angen eich cyfeirnod Treth Deunydd Pacio Plastig arnoch i wneud taliad. Mae’n 15 o gymeriadau ac yn dechrau gydag X.

Gallwch ddod o hyd iddo:

  • gan ddefnyddio eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth os gwnaethoch gofrestru ar-lein
  • ar y llythyr y mae CThEF wedi’i anfon atoch

Os ydych yn defnyddio rhif cyfeirnod anghywir:

  • bydd oedi cyn i’r taliad gael ei ddyrannu’n gywir
  • byddwch yn derbyn nodyn atgoffa talu

Os bydd angen i chi dalu cosb Treth Deunydd Pacio Plastig

Bydd angen eich cyfeirnod tâl arnoch, sy’n 14 o gymeriadau ac sy’n dechrau gydag X, i wneud taliad. Gallwch ddod o hyd iddo ar y llythyr a anfonom atoch ynghylch eich cosb

Talu ar-lein

Gallwch ddefnyddio un o’r dulliau canlynol i dalu ar-lein:

  • cymeradwyo taliad drwy ddefnyddio’ch cyfrif banc ar-lein
  • Debyd Uniongyrchol
  • cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

Talu nawr

Talu ar-lein gan ddefnyddio’ch cyfrif banc

Gallwch dalu drwy gymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein — gallwch wneud hyn drwy ddewis yr opsiwn ‘talu drwy gyfrif banc’.

Bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc ar-lein, neu’ch cyfrif banc symudol, i gymeradwyo’ch taliad.

Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif.

Gallwch ddewis dyddiad talu, cyn belled â’i fod cyn dyddiad dyledus eich taliad.

Mae’n rhaid i chi wirio gyda’ch banc i sicrhau bod y taliad wedi gadael eich cyfrif ar y dyddiad rydych wedi dewis ein talu.

Talu ar-lein drwy Ddebyd Uniongyrchol

Trefnwch Ddebyd Uniongyrchol drwy’ch cyfrif ar-lein CThEF.

Bydd angen y Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’r cyfrinair Porth y Llywodraeth a ddefnyddioch wrth gofrestru am y cyfrif.

Gallwch hefyd ei ddefnyddio i wneud y canlynol:

  • newid neu ganslo’ch Debyd Uniongyrchol
  • bwrw golwg dros y dyddiad y bydd CThEF yn casglu’ch taliad

Ni fydd y Debyd Uniongyrchol yn casglu taliadau ar gyfer Ffurflenni Treth sydd dros £20 miliwn. Os oes arnoch fwy, bydd angen i chi dalu mewn ffordd arall.

Bydd CThEF yn casglu’r taliad o’ch cyfrif banc yn awtomatig, yn seiliedig ar y swm yn eich datganiad. Dim ond unwaith y bydd angen i chi drefnu’r Debyd Uniongyrchol. 

Ewch ati i’w drefnu o leiaf 4 diwrnod gwaith cyn y dyddiad dyledus ar gyfer eich taliad. 

Bydd y taliadau’n ymddangos ar eich cyfriflen banc fel ‘HMRC SDDS’. 

Bydd taliadau’n cael eu casglu’n awtomatig o’ch cyfrif banc. Mae hyn fel arfer 4 diwrnod ar ôl dyddiad dyledus eich datganiad a’ch taliad. Byddwn yn anfon neges atoch gyda’r union ddyddiad a’r union swm ar ôl i chi gyflwyno’ch datganiad. 

Os byddwch yn cyflwyno’ch datganiad yn hwyr, bydd eich taliad fel arfer yn cael ei gymryd 4 diwrnod ar ôl i’r datganiad gael ei gyflwyno. Ni all y Debyd Uniongyrchol gasglu unrhyw log neu gosbau sydd arnoch.

Ni all y Debyd Uniongyrchol gasglu unrhyw log neu gosbau sydd arnoch.

Talu â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

Gallwch wneud taliad yn llawn ar-lein drwy ddefnyddio cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol. Bydd ffi na ellir ei had-dalu yn cael ei chodi os byddwch yn defnyddio cerdyn debyd neu gredyd credyd corfforaethol. Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.

Bydd eich taliad yn cael ei dderbyn ar y dyddiad y byddwch yn ei wneud, ac nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF (gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc).  

Mae’n rhaid i chi sicrhau bod y manylion a nodwyd gennych yn cyd-fynd â’r rheini sydd gan eich banc neu ddarparwr y cerdyn. Er enghraifft, dylai’r cyfeiriad bilio gyd-fynd â’r cyfeiriad y mae’ch cerdyn wedi’i gofrestru iddo ar hyn o bryd.

Talu drwy drosglwyddiad banc

Os byddwch yn talu drwy CHAPS (Clearing House Automated Payment System) neu Daliadau Cyflymach, gallwch gyflwyno’ch taliad ar yr un diwrnod, neu’r diwrnod nesaf.

Os byddwch yn talu drwy Bacs (Bankers Automated Clearing System), dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Rydym yn argymell eich bod yn gwirio amserau prosesu ac uchafswm y terfynau trosglwyddo a osodir gan eich banc cyn i chi dalu.

Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif yn y DU

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif banc yn y DU:

  • cod didoli — 20 05 17
  • rhif y cyfrif — 40204374
  • enw’r cyfrif — HMRC General BT Receipts

Y manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif dramor

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif dramor:

  • rhif y cyfrif (IBAN) — GB86 BARC 2005 1740 2043 74
  • cod adnabod y banc (BIC) — BARCGB22
  • enw’r cyfrif — HMRC General BT Receipts

Mae’n rhaid i chi wneud pob taliad dramor mewn punnoedd sterling (GBP). Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os defnyddiwch unrhyw arian cyfred arall.

Cyfeiriad bancio CThEF yw:

Barclays Bank PLC
1 Churchill Place
Llundain
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP

Gwneud cais am ad-daliad Treth Deunydd Pacio Plastig

Gallwch ddefnyddio eich Dynodydd Defnyddiwr (ID) ar gyfer Porth y Llywodraeth i wneud cais am ad-daliad mewn perthynas â’r Dreth Deunydd Pacio Plastig, os ydych wedi talu gormod i mewn i’ch cyfrif Treth Deunydd Pacio Plastig.

Bydd angen eich cyfeirnod Treth Deunydd Pacio Plastig arnoch.

Cyhoeddwyd ar 1 July 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 20 March 2024 + show all updates
  1. Information about checking with your bank to make sure your payment has left your account has been added.

  2. Guidance about the character references you need to use when paying Plastic Packaging Tax and any penalties has been updated.

  3. Approve a payment through your online bank account has been updated to say that you can select a date to pay, as long as it's before your payment is due.

  4. Guidance about the different ways you can make a payment online has been updated.

  5. Translation added.

  6. Details of the information you need to pay a Plastic Packaging Tax penalty has been added.

  7. Content has been removed from the 'When to pay' section. Information about 'If you do not submit your return or pay on time' has also been removed. This is to prevent unnecessary duplication.

  8. You will need your 14 character charge reference number starting with an X to make a payment.

  9. The account name for online or telephone banking, CHAPS or Bacs and overseas payments has been updated.

  10. Added translation