Canllawiau

Talu ffioedd rheoliadau gwyngalchu arian

Sut i dalu ffioedd gwyngalchu arian, a’r amser y mae’n ei gymryd i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Mae’n rhaid i chi dalu ffioedd gwyngalchu arian (yn agor tudalen Saesneg) i CThEF pan fyddwch yn cofrestru ar gyfer goruchwyliaeth gwrth-wyngalchu arian.

Os na fyddwch yn talu’ch ffi goruchwylio flynyddol mewn pryd, gall CThEF ganslo’ch cofrestriad.

Pryd i dalu

Dylech dalu’ch ffioedd pan fyddwch yn gwneud cais i gofrestru gyntaf a phan fyddwch yn cwblhau’ch goruchwyliaeth flynyddol.

Os bydd y dyddiad cau ar y penwythnos neu ar ŵyl banc, gwnewch yn siŵr bod eich taliad yn dod i law CThEF erbyn diwedd y diwrnod gwaith blaenorol.

Os na fyddwch yn talu erbyn y dyddiad cau, efallai y bydd angen i chi dalu cosb, llog, neu’r ddau.

Yr hyn y bydd ei angen arnoch

Mae angen eich cyfeirnod 14 o gymeriadau arnoch sy’n dechrau gydag X. Bydd hwn yn cael ei gynhyrchu gan y gwasanaeth ar-lein. Mae’n rhaid i chi wneud nodyn o hyn a’i gadw’n ddiogel.

Anfonwch e-bost at MLRCIT@hmrc.gov.uk os nad oes gennych gyfeirnod eich taliad.

Os byddwch yn defnyddio cyfeirnod anghywir:

  • bydd oedi cyn i’r taliad gael ei ddyrannu’n gywir

  • byddwch yn cael nodyn i’ch atgoffa i wneud taliad

Talu ar-lein

Gallwch ddefnyddio un o’r dulliau canlynol i dalu ar-lein:

  • cymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif banc ar-lein

  • cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

Talwch now

Talu ar-lein drwy’ch cyfrif banc

Gallwch dalu drwy gymeradwyo taliad drwy’ch cyfrif bancio ar-lein – gallwch wneud hyn drwy ddewis yr opsiwn i dalu drwy gyfrif banc.

Bydd gofyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif bancio ar-lein, neu’r cyfrif bancio ar eich ffôn symudol, i gymeradwyo’ch taliad.

Bydd angen i chi fod â’ch manylion bancio ar-lein wrth law er mwyn talu drwy’r dull hwn.

Fel arfer, bydd y taliad yn digwydd ar unwaith, ond weithiau mae’n gallu cymryd hyd at 2 awr i ymddangos yn eich cyfrif banc.

Talu â cherdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol

Gallwch wneud taliad yn llawn ar-lein drwy ddefnyddio cerdyn debyd neu gerdyn credyd corfforaethol. Bydd ffi na ellir ei had-dalu yn cael ei chodi os byddwch yn defnyddio cerdyn debyd neu gredyd corfforaethol. Ni allwch dalu â cherdyn credyd personol.

Bydd eich taliad yn cael ei dderbyn gennym ar y dyddiad y byddwch yn ei wneud, ac nid y dyddiad y mae’n cyrraedd cyfrif CThEF (gan gynnwys penwythnosau a gwyliau banc).  

Mae’n rhaid i chi sicrhau bod y manylion rydych wedi’u nodi’n cyd-fynd â’r rheini sydd gan eich banc neu ddarparwr y cerdyn. Er enghraifft, dylai’r cyfeiriad bilio gyd-fynd â’r cyfeiriad y mae’ch cerdyn wedi’i gofrestru iddo ar hyn o bryd.

Talu drwy drosglwyddiad banc

Os byddwch yn talu drwy CHAPS (System Dalu Awtomataidd y Tŷ Clirio) neu Daliadau Cyflymach, bydd eich taliad yn ein cyrraedd ar yr un diwrnod, neu’r diwrnod gwaith nesaf.

Os byddwch yn talu drwy Bacs (System Glirio Awtomataidd y Bancwyr), dylech ganiatáu 3 diwrnod gwaith i’ch taliad gyrraedd CThEF.

Cyn i chi dalu, rydym yn argymell eich bod yn gwirio amserau prosesu’ch banc a’i derfynau o ran trafodion mwyaf.

Manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif yn y DU ac rydych yn cofrestru neu wedi cofrestru ar-lein

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif yn y DU:

  • cod didoli — 08 32 10

  • rhif y cyfrif — 12001020

  • enw’r cyfrif — Shipley receipts

Manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif yn y DU ac nad ydych wedi adnewyddu ar-lein

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif yn y DU:

  • cod didoli — 08 32 40

  • rhif y cyfrif — 12000857

  • enw’r cyfrif — HMRC Money Services Receipts

Mae’n rhaid i chi nodi’ch rhif rheoliad gwyngalchu arian 8 cymeriad.

Gellir dod o hyd i hyn ar eich llythyr sy’n cymeradwyo neu’n penderfynu’r cofrestriad.

Manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif dramor ac rydych yn cofrestru neu wedi cofrestru ar-lein

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif dramor:

  • rhif y cyfrif (IBAN) — GB03 BARC 2011 4783 9776 92

  • Cod Adnabod y Busnes (BIC) — BARCGB22

  • enw’r cyfrif — HMRC Shipley receipts

Manylion cyfrif i’w defnyddio os yw’ch cyfrif dramor ac nad ydych wedi adnewyddu ar-lein

Defnyddiwch y manylion canlynol i wneud taliad os yw’ch cyfrif dramor:

  • rhif y cyfrif (IBAN) — GB60 BARC 2050 4610 3659 98

  • Cod Adnabod y Busnes (BIC) — BARCGB22

  • enw’r cyfrif — HMRC Money Services Receipts (HMRC MS RCTS)

Mae’n rhaid i chi wneud pob taliad mewn punnoedd sterling. Mae’n bosibl y bydd eich banc yn codi tâl arnoch os byddwch yn defnyddio unrhyw arian cyfred arall.

Os bydd angen, gallwch roi’r cyfeiriad canlynol fel cyfeiriad bancio CThEF i’ch banc chi:

Barclays Bank Plc
1 Churchill Place
London
Y Deyrnas Unedig
E14 5HP

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Hydref 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 24 Ebrill 2026 show all updates
  1. A Welsh translation has been added.

  2. Bank details for customers who’ve not renewed online have been updated.

  3. HMRC's sort code for use by customers who are registering or are already registered online has been updated.

  4. Information about approving a payment through your online bank account and online debit or corporate credit card payments has been added.

  5. Guidance on ways you can pay HMRC has been updated, as you can no longer pay by cheque in the post.

  6. The information about making a payment by cheque through the post has been updated.

  7. The sort code and account number details have been updated for customers who are registering or already registered online.

  8. Overseas payment details updated.

  9. First published.

Argraffu'r dudalen hon