Canllawiau

Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol – Termau a ddefnyddir yn aml yn y broses

Bwriedir i’r rhestr hon o dermau a ddefnyddir yn aml gynorthwyo pobl y mae cais o dan Ddeddf Cynllunio 2008 yn effeithio arnynt a allai fod yn anghyfarwydd â’r iaith a ddefnyddir i ddisgrifio agweddau ar y broses.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Archwiliad safle angen mynediad (a dalfyrrir yn aml i ‘ARSI’)

Mae archwiliad safle angen mynediad yn ymweliad ag ardal o safle’r cais neu ei hamgylchoedd gan yr Awdurdod Archwilio ar dir na all y cyhoedd fynd arno. Bydd archwiliad safle o’r math hwn fel arfer yn golygu bod angen i’r tirfeddiannwr neu rywun arall sydd â buddiant yn y tir fod yn bresennol i roi mynediad i’r tir ac aros gyda’r Awdurdod Archwilio yn ystod yr ymweliad. Ni fydd partïon eraill â buddiant, gan gynnwys yr ymgeisydd, yn bresennol.

Archwiliad safle gyda chwmni (a dalfyrrir yn aml i ‘ASI’)

Mae archwiliad safle gyda chwmni yn ymweliad â safle’r cais a’i amgylchoedd gan yr Awdurdod Archwilio. Gall yr ymgeisydd a phartïon eraill â buddiant fod yn bresennol, hefyd. Mae’n gyfle i’r Awdurdod Archwilio weld yr ardal y mae’r prosiect yn effeithio arni ac i bartïon â buddiant dynnu sylw at nodweddion. Nid dyma’r adeg i bartïon â buddiant ddweud beth maen nhw’n ei hoffi neu ddim yn ei hoffi am y prosiect.

Unigolyn yr effeithir arno (a dalfyrrir yn aml i ‘AP’)

Mae unigolion yr effeithir arnynt yn bobl neu’n sefydliadau sy’n berchen ar y tir y gallai prosiect effeithio arno neu sydd â buddiant yn y tir hwnnw. Gall yr ymgeisydd geisio pwerau i gaffael tir a hawliau dros dir gan unigolyn yr effeithir arno i alluogi prosiect i gael ei adeiladu a’i weithredu. Gelwir hyn yn gaffael gorfodol Gall yr ymgeisydd hefyd geisio pwerau i gaffael tir a hawliau gan unigolyn yr effeithir arno am gyfnod dros dro, a elwir yn feddiant dros dro.

Ymgeisydd

Yr ymgeisydd yw’r sefydliad sy’n cyflwyno cais am orchymyn caniatâd datblygu i’r Arolygiaeth Gynllunio.

Cais

Mae hyn yn cyfeirio at gais yr ymgeisydd am orchymyn caniatâd datblygu. Mae cais yn cynnwys cyfres o ddogfennau a chynlluniau a gyhoeddir ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol.

Llyfr Cyfeirio (a dalfyrrir yn aml i ‘BoR’)

Mae’r Llyfr Cyfeirio yn ddogfen y mae’r ymgeisydd yn ei chyflwyno gyda’i gais sy’n rhestru’r holl leiniau o dir y mae’r prosiect yn effeithio arnynt a manylion yr holl unigolion neu sefydliadau sydd â buddiannau cyfreithiol yn y lleiniau hynny. Mae unigolion neu sefydliadau a restrir yn y Llyfr Cyfeirio yn unigolion yr effeithir arnynt ac yn unigolion neu’n sefydliadau a allai fod yn gymwys i wneud hawliad iawndal perthnasol.

Caffael gorfodol (a dalfyrrir yn aml i ‘CA’)

Mae caffael gorfodol yn cyfeirio at y pŵer cyfreithiol y gall yr ymgeisydd ei geisio i gymryd perchnogaeth ar dir a hawliau dros dir i alluogi prosiect i gael ei adeiladu a’i weithredu.

Gwrandawiad caffael gorfodol (a dalfyrrir yn aml i ‘CAH’)

Diben gwrandawiad caffael gorfodol yw galluogi’r Awdurdod Archwilio i drafod achos yr ymgeisydd dros ofyn am gaffael gorfodol a meddiant dros dro yn ei gais. Mae hefyd yn gyfle i’r Awdurdod Archwilio wrando ar safbwyntiau unigolion yr effeithir arnynt. Dim ondunigolion yr effeithir arnynt sydd â’r hawl i ofyn am gael cynnal gwrandawiad caffael gorfodol.

Cais am gael gwneud newid

Ar ôl i gais gael ei dderbyn gan yr Arolygiaeth Gynllunio, mae’n bosibl y bydd amgylchiadau pan fydd yr ymgeisydd(#ymegisydd) yn ystyried gwneud newid i’r prosiect. Bydd yr ymgeisydd yn ymgynghori â phobl a sefydliadau ynglŷn â’r newid arfaethedig cyn gofyn i’r Awdurdod Archwilio ei archwilio.

Gorchymyn cywiro

Defnyddir gorchymyn cywiro i orchymyn caniatâd datblygu i gywiro mân gamgymeriadau neu wallau yn y gorchymyn caniatâd datblygu gwreiddiol a gymeradwywyd eisoes. Fe allai mân gamgymeriadau neu wallau gynnwys gwallau argraffu, dyddiadau anghywir neu gyfeiriadau anghywir.

Rhwymedigaeth caniatâd datblygu (a dalfyrrir yn aml i ‘DCOb’)

Cytundeb cyfreithiol rhwng yr ymgeisydd ac awdurdod lleol neu barti arall â buddiant a fydd yn amlinellu’r rhwymedigaethau cynllunio na ystyrir ei bod yn briodol eu sicrhau fel gofyniongorchymyn caniatâd datblygu. Mae rhwymedigaeth caniatâd datblygu yn debyg i gytundeb adran 106 o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

Gorchymyn caniatâd datblygu (a dalfyrrir yn aml i ‘DCO’)

Gorchymyn statudol sy’n rhoi caniatâd i’r prosiect ac sy’n golygu na fydd angen ystod o gydsyniadau eraill, fel caniatâd cynllunio a chydsyniad adeilad rhestredig. Gall gorchymyn caniatâd datblygu hefyd gynnwys pwerau sy’n awdurdodi caffael gorfodol a meddiant dros dro ar dir a hawliau dros dir sy’n destun cais. Mae’r ymgeisydd yn cyflwyno gorchymyn caniatâd datblygu drafft fel rhan o’i gais.

Gofyniad gorchymyn caniatâd datblygu

Gofyniad o dan y gorchymyn caniatâd datblygu y bwriedir iddo reoli’r broses o adeiladu, gweithredu a chynnal a chadw’r datblygiad os rhoddir caniatâd iddo. Mae gofynion yn debyg i amodau cynllunio o dan Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

Asesiad o’r effaith amgylcheddol (a dalfyrrir yn aml i ‘EIA’)

Proses, a gynhelir gan yr ymgeisydd i amlygu ac asesu’r effeithiau arwyddocaol sy’n debygol o ddeillio o brosiect Bydd angen ystyried y newidiadau tebygol i’r amgylchedd, a fydd yn digwydd oherwydd y prosiect, trwy gymharu â’r amodau presennol ac yn y dyfodol a disgrifio unrhyw fesurau lliniaru sy’n ofynnol.

Datganiad amgylcheddol (a dalfyrrir yn aml i ‘ES’)

Adroddiad, a baratoir gan yr ymgeisydd, sy’n cofnodi proses a chanlyniadau’r asesiad o’r effaith amgylcheddol. Mae’r ymgeisydd yn cyflwyno’r datganiad amgylcheddol yn rhan o’r cais.

Archwiliad

Dyma’r cam pan fydd yr [Awdurdod Archwilio]yn](#awdurdod-archwilio-a-dalfyrrir-yn-aml-i-exa) archwilio’r cais. Bydd yn:

  • gofyn cwestiynau ysgrifenedig a chwestiynau llafar mewn gwrandawiadau

  • gwahodd sylwadau yn ysgrifenedig ac mewn gwrandawiadau

  • ymweld â’r ardal lle y bwriedir adeiladu a gweithredu’r prosiect

  • casglu gwybodaeth a phrofi tystiolaeth

  • gwneud penderfyniadau gweithdrefnol ynglŷn â sut y bydd yr archwiliad yn symud ymlaen, fel y bo angen

Awdurdod Archwilio (a dalfyrrir yn aml i ‘ExA’)

Caiff Awdurdod Archwilio ei benodi gan yr Arolygiaeth Gynllunio ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol i gynnal yr archwiliad o’r cais. Mae’r Awdurdod Archwilio yn cynnwys naill ai arolygydd cynllunio annibynnol unigol neu banel o hyd at bum arolygydd a gyflogir gan yr Arolygiaeth Gynllunio. Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn gwneud y penodiad ar ôl ystyried natur, graddfa a chymhlethdod yr achos.

Llyfrgell yr archwiliad (a dalfyrrir yn aml i ‘EL’)

Bydd gan bob cais lyfrgell o’r holl sylwadau a dogfennau a gyflwynwyd ac a gyhoeddwyd ar y dudalen gwybodaeth am y prosiect ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol. Mae’r llyfrgell yn rhestru’r holl ddogfennau unigol, gan gynnwys dogfennau’r cais, sylwadau, cynlluniau, a datganiadau, ac mae’n cael ei diweddaru’n rheolaidd yn ystod yr archwiliad. Rhoddir rhif cyfeirnod unigol i bob eitem ar y rhestr.

Asesiad perygl llifogydd (a dalfyrrir yn aml i ‘FRA’)

Dogfen sy’n amlinellu sut mae datblygiad wedi ystyried yr angen i liniaru perygl llifogydd. Mae’r ymgeisydd yn cyflwyno’r asesiad perygl llifogydd yn rhan o’r cais.

Asesiad rheoliadau cynefinoedd (a dalfyrrir yn aml i ‘HRA’)

Yr asesiad o effeithiau gweithredu cynllun neu bolisi ar safle sy’n ofynnol o dan y Gyfarwyddeb Cynefinoedd. Mae’r ymgeisydd yn cyflwyno’r asesiad rheoliadau cynefinoedd yn rhan o’r cais.

Gwrandawiad

Cyfarfod ffurfiol a strwythuredig a gynhelir yn ystod yr archwiliad ac a arweinir gan yr Awdurdod Archwilio. Gweler hefydgwrandawiad caffael gorfodol, gwrandawiad llawr agored a gwrandawiad mater penodol.

Asesiad cychwynnol o’r prif faterion (a dalfyrrir yn aml i ‘IAPI’)

Dyma feddyliau cyntaf yr Awdurdod Archwilio ynglŷn â’r prif faterion a allai fod yn gysylltiedig â’r archwiliad o’r cais. Er y bydd yr Awdurdod Archwilio yn amlygu’r prif faterion i’w harchwilio ar y cam hwn, bydd yn ystyried materion neu bynciau eraill pwysig a pherthnasol a allai godi yn ystod yr archwiliad o hyd.

Buddiant mewn tir

Mae hyn yn golygu buddiant cyfreithiol sydd gan unigolyn neu sefydliad yn y tir y gallai gorchymyn caniatâd datblygu effeithio arno. Mae enghreifftiau o fuddiannau mewn tir yn cynnwys pan fydd unigolyn yn berchen ar y tir neu’n ei lesio, ei rentu neu’n ei feddiannu, neu pan fydd ganddo ryw hawl gyfreithiol arall drosto neu mewn perthynas ag ef.

Parti â buddiant (a dalfyrrir yn aml i ‘IP’)

Mae parti â buddiant yn unigolyn neu’n sefydliad sydd â hawliau arbennig ym mhroses Deddf Cynllunio 2008. Mae gan barti â buddiant yr hawl i:

Mae’r ymgeisydd, unigolion yr effeithir arnynt a rhai cyrff statudol yn bartïon â buddiant, a gall aelodau’r cyhoedd gofrestru i ddod yn barti â buddiant trwy wneud sylw perthnasol.

Gwrandawiad mater penodol (a dalfyrrir yn aml i ‘ISH’)

Gwrandawiad am faterion penodol sy’n gysylltiedig â’r prosiect. Bydd yr Awdurdod Archwilio yn penderfynu p’un ai cynnal y gwrandawiadau hyn a beth fyddant yn ei drafod. Fe’u cynhelir os bydd yr Awdurdod Archwilio yn credu bod angen cael gwybod mwy am fater y mae wedi darllen amdano yn nogfennau’r cais neu sylwadau a wnaed gan bartïon â buddiant.

Adroddiad ar yr effaith leol (a dalfyrrir yn aml i ‘LIR’)

Mae adroddiad ar yr effaith leol yn adroddiad ysgrifenedig a gyflwynir gan awdurdod lleol sy’n rhoi manylion am effaith debygol y prosiect ar ardal yr awdurdod lleol. Fe allai adroddiad ar yr effaith leol ar y cyd gael ei baratoi os yw awdurdodau lleol cyfagos yn dymuno gwneud datganiad ar y cyd.

Datganiad polisi cenedlaethol (a dalfyrrir yn aml i ‘NPS’)

Mae datganiadau polisi cenedlaethol yn amlinellu’r fframwaith polisi ar gyfer datblygu prosiectau seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol. Mae’n rhaid i’r Awdurdod Archwilio wrth wneud ei argymhelliad, a’r Ysgrifennydd Gwladol wrth benderfynu ar gais, ystyried y datganiad neu’r datganiadau polisi cenedlaethol perthnasol ar gyfer y cais. Gweler y dudalen hon i gael rhagor o wybodaeth am ddatganiadau polisi cenedlaethol.

Prosiect seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol (a dalfyrrir yn aml i ‘NSIP’)

Mae prosiectau seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol yn brosiectau datblygu ar raddfa fawr yng Nghymru a Lloegr y mae arnynt angen caniatâd o dan Ddeddf Cynllunio 2008. Gallant fod yn brosiectau fel:

  • gorsafoedd cynhyrchu pŵer, ffermydd gwynt alltraeth, llinellau trydan

  • ffyrdd, llinellau rheilffordd, meysydd awyr newydd

  • cyfleusterau gwastraff peryglus

  • gweithfeydd trin dŵr gwastraff

  • cronfeydd dŵr

Ystyrir bod prosiectau o arwyddocâd cenedlaethol dim ond os ydynt yn cyrraedd y trothwy perthnasol a amlinellir yn Neddf Cynllunio 2008.

Gwrandawiad llawr agored (a dalfyrrir yn aml i ‘OFH’)

Gwrandawiad er mwyn i bartïon â buddiant siarad yn uniongyrchol â’r Awdurdod Archwilio ynglŷn â’u safbwyntiau ar y cais. Dim ond partïon â buddiant sydd â’r hawl i siarad mewn gwrandawiad llawr agored.

Sylwadau llafar

Dyma’r term a ddefnyddir i ddisgrifio tystiolaeth lafar a roddir mewn gwrandawiad. Mae’n rhaid i sylwadau llafar ymwneud â’rsylwadau perthnasol neu’r sylwadau ysgrifenedig a wnaed eisoes.

Tir y gorchymyn

Y tir y mae’r cais yn ceisio pwerau caffael gorfodol neu feddiant dros dro drosto. Mae’n rhaid i dir y gorchymyn gael ei nodi mewn cynllun tir a ddarperir gyda’r cais, gyda lleiniau unigol wedi’u rhestru mewn llyfr cyfeirio.

Terfynau’r gorchymyn

Terfynau daearyddol y pwerau y mae’r ymgeisydd yn eu ceisio trwy’r gorchymyn caniatâd datblygu. Mae terfynau’r gorchymyn fel arfer yn cael eu nodi gan linell goch ddi-dor a ddarperir gyda’r cais.

Deddf Cynllunio 2008 (a dalfyrrir yn aml i ‘PA2008’)

Mae Deddf Cynllunio 2008 yn ddeddf yn y Deyrnas Unedig a sefydlodd broses wedi’i symleiddio ar gyfer cymeradwyo prosiectau seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol mewn meysydd fel ynni, trafnidiaeth, dŵr, dŵr gwastraff a gwastraff. Cyflwynodd ddatganiadau polisi cenedlaethol sy’n amlinellu polisi’r llywodraeth ar gyfer gwahanol fathau o seilwaith. Ategir Deddf Cynllunio 2008 gan gasgliad o is-ddeddfwriaeth.

Cyfarfod rhagarweiniol (a dalfyrrir yn aml i ‘PM’)

Cyfarfod gweithdrefnol yw hwn a gynhelir ar ôl i’r cyfnod ar gyfer sylwadau perthnasol gau. Yn y cyfarfod rhagarweiniol, bydd yr Awdurdod Archwilio yn esbonio proses yr archwiliad, yr asesiad cychwynnol o’r prif faterion a’r amserlen ddrafft ar gyfer yr archwiliad. Nid dyma’r adeg i bartïon â buddiant ddweud beth maen nhw’n ei hoffi neu ddim yn ei hoffi am y prosiect.

Datganiad crynhoi prif feysydd anghytundeb (a dalfyrrir yn aml i ‘PADSS’)

Mae datganiadau crynhoi prif feysydd anghytundeb yn ddogfennau y gellir eu paratoi gan rai partïon â buddiant i amlinellu’r prif feysydd anghytundeb â’r ymgeisydd ynglŷn â’r prosiect. Mae’r parti â buddiant yn eu rhoi i’r ymgeisydd ar ddiwedd y cam cyn-ymgeisio ac maen nhw’n cael eu cynnwys yn nogfennau’r cais.

Penderfyniad gweithdrefnol

Mae penderfyniadau gweithdrefnol yn benderfyniadau a wneir gan yr Awdurdod Archwilio ynglŷn â sut y dylid archwilio’r cais. Mae’n rhaid i’r Awdurdod Archwilio roi gwybod i’r holl bartïon â buddiant bob tro y bydd yn gwneud penderfyniad gweithdrefnol.

Prosiect

Dyma’r datblygiad arfaethedig, fel gorsaf bŵer, fferm wynt alltraeth, rhan o reilffordd, ffordd neu linell drydan, y mae caniatâd datblygu’n cael ei geisio ar ei gyfer/chyfer yn y cais.

Hawliad iawndal perthnasol

Gall hawliadau gael eu gwneud gan bobl neu sefydliadau a allai fod â’r hawl i wneud hawliad perthnasol am iawndal os rhoddir caniatâd i’r prosiect ac mae’r gorchymyn caniatâd datblygu yn cael ei weithredu’n llawn. Mae hawliad perthnasol yn golygu hawliad o dan:

Sylwadau perthnasol (a dalfyrrir yn aml i ‘RR’)

Sylwadau perthnasol yw sylwadau manwl unigolyn neu sefydliad ynglŷn â phrosiect seilwaith o arwyddocâd cenedlaethol. Dylai sylwadau perthnasol gynnwys manylion llawn y materion y mae’r unigolyn neu’r sefydliad eisiau iddynt gael eu hystyried, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth. Mae hyn yn golygu na ddylai sylwadau perthnasol ddweud yn syml ‘rydym yn cefnogi’ neu ‘rydym yn gwrthwynebu’ prosiect. Mae’n rhaid i’r sylwadau perthnasol gael eu cyflwyno ar ffurflen gofrestru a chyrraedd cyn y dyddiad cau a bennwyd.

Adroddiad ar y goblygiadau i safleoedd Ewropeaidd (a dalfyrrir yn aml i ‘RIES’)

Adroddiad yrAwdurdod Archwilio i’r Ysgrifennydd Gwladol sy’n disgrifio effeithiau posibl y prosiect ar faterion cadwraeth natur, yn benodol ar safleoedd Ewropeaidd a amlygir o dan y Rheoliadau Cynefinoedd.

Sylwadau

Mae 3 math o sylwadau y gellir eu gwneud ynglŷn â phrosiect:

-sylwadau perthnasol

-sylwadau ysgrifenedig

-sylwadau llafar

Llythyr rheol 6

Dyma lythyr gan yr Awdurdod Archwilio sy’n gwahodd partïon i’r cyfarfod rhagarweiniol. Fe’i cyhoeddir o dan reol 6 Rheolau Cynllunio Seilwaith (Gweithdrefn Archwilio) 2010 ac mae’n rhaid ei anfon at bartïon â buddiant o leiaf 21 diwrnod cyn y cyfarfod rhagarweiniol. Yn ogystal â rhoi gwybod am ddyddiad, amser a lleoliad y cyfarfod rhagarweiniol, bydd y llythyr rheol 6 yn cynnwys amserlen archwilio ddrafft a phenderfyniadau eraill a wnaed gan yr Awdurdod Archwilio.

Llythyr rheol 8

Dyma lythyr gan yr Awdurdod Archwilio a anfonir ar ôl y cyfarfod rhagarweiniol sy’n cadarnhau’r amserlen ar gyfer yr archwiliad. Fe’i cyhoeddir o dan reol 8 Rheolau Cynllunio Seilwaith (Gweithdrefn Archwilio) 2010. Bydd y llythyr rheol 8 hefyd yn cynnwys penderfyniadau eraill a wnaed gan yr Awdurdod Archwilio ac fe all weithiau gynnwys hysbysiad am wrandawiadau neu rchwiliad safle gyda chwmni.

Datganiad tir cyffredin (a dalfyrrir yn aml i ‘SoCG’)

Mae datganiad tir cyffredin yn ddatganiad y cytunwyd arno rhwng yr ygeisydd a pharti arall sy’n amlygu materion nad ydynt yn destun dadl neu nad oes angen iddynt fod yn destun tystiolaeth bellach. Mae hefyd yn amlygu’r gwahaniaethau rhwng y partïon a’r rhesymau dros unrhyw anghytundeb neu faterion sy’n weddill. Mae datganiadau tir cyffredin yn cynnwys gwahanol fathau o dystiolaeth ac maen nhw’n wahanol i ddatganiadau crynhoi prif feysydd anghytundeb oherwydd yr ymgeisydd sy’n gyfrifol amdanynt ac sy’n eu llunio.

Corff statudol

Mae corff statudol yn sefydliad a ffurfiwyd gan y gyfraith sydd â chyfrifoldebau arbenigol penodol neu wybodaeth leol benodol. Mae enghreifftiau o gyrff statudol yn cynnwys Natural England, Asiantaeth yr Amgylchedd a Historic England. Mae’n rhaid i gyrff statudol gadarnhau i’r Awdurdod Archwilio a ydynt am gael eu trin fel parti â buddiant yn yr archwiliad o gais.

Meddiant dros dro (a dalfyrrir yn aml i ‘TP’)

Mae meddiant dros dro yn cyfeirio at y pŵer cyfreithiol sy’n caniatáu i’r ymgeisydd reoli tir a hawliau dros dir am gyfnod cyfyngedig, heb ei gaffael yn barhaol.

Archwiliad safle digwmni (a dalfyrrir yn aml i ‘USI’)

Mae archwiliad safle digwmni yn ymweliad â safle’r cais a’i amgylchoedd gan yr Awdurdod Archwilio nad yw’n cynnwys partïon eraill â buddiant. Mae’n gyfle i’r Awdurdod Archwilio weld yr ardal y mae’r prosiect yn effeithio arni o dir y gall y cyhoedd fynd arno.

Sylwadau ysgrifenedig

Cyfle i bartïon â buddiant ychwanegu at y sylwadau yn eu sylwadau perthnasol a darparu tystiolaeth ychwanegol os oes angen. Nid oes rhaid i bartïon â buddiant gyflwyno sylwadau ysgrifenedig ac ni ddylent ailadrodd y sylwadau a wnaed yn eu sylwadau perthnasol.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 4 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 3 Tachwedd 2025 show all updates
  1. Welsh translation added to reflect the English version

  2. Added translation

  3. First published.

Argraffu'r dudalen hon