Skip to main content
Canllawiau

Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol: Cyngor Cyn-ymgeisio ar Asesu Effeithiau Amgylcheddol

Mae'r dudalen gyngor hon i roi cyngor ar elfennau o'r broses Asesiad Effaith Amgylcheddol (EIA) a nodir yn Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (EIA) 2017 yn ystod cam cyn-y-ymgeisio o Brosiect Seilwaith Cenedlaethol Sylweddol (NSIP). Mae hefyd yn trafod y defnydd o 'Amlen Rochdale' sy'n berthnasol i'r broses EIA.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Cyflwyniad

Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi canllawiau ar gynllunio seilwaith cenedlaethol y dylai ymgeiswyr, aelodau’r cyhoedd a phartïon eraill eu darllen. Gweler y Porth Canllawiau Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol. Dylid darllen y canllawiau ochr yn ochr â Deddf Cynllunio 2008. 

Mae’r cyngor hwn yn anstatudol. Fodd bynnag, mae cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio ynglŷn â chynnal y system cynllunio seilwaith a materion proses yn dod o arfer da a dylai ymgeiswyr a phobl eraill ddilyn ein hargymhellion. Bwriedir iddo ategu’r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a’r canllawiau a gyhoeddwyd gan y llywodraeth. 

Dylid darllen y cyngor hwn ynghyd â chanllawiau’r llywodraeth ar broses y Ddeddf Cynllunio.  

Deddfwriaeth

Y brif ddeddfwriaeth ar gyfer gwneud a phenderfynu ar geisiadau Prosiect Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol (NSIP) yw Deddf Cynllunio 2008. Mae’r broses Asesu Effeithiau Amgylcheddol (AEA) ar gyfer NSIPau yn cael ei llywodraethu gan Reoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017 (y Rheoliadau AEA).

Daeth y Rheoliadau AEA i rym yng Nghymru a Lloegr ar 16 Mai 2017. Mae’r Rheoliadau AEA yn mynnu bod effaith prosiectau datblygu mawr ar yr amgylchedd yn cael ei hasesu yn rhan o’r broses gydsynio.

Mae’r holl gyfeiriadau at reoliadau yn ymwneud â Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Asesu Effeithiau Amgylcheddol) 2017 oni nodir fel arall.

Diben AEA

Diffinnir y broses AEA yn rheoliad 5(1) y Rheoliadau AEA fel proses sy’n cynnwys paratoi Datganiad Amgylcheddol (ES) gan ymgeisydd, ymgynghori a hysbysu perthnasol fel sy’n ofynnol gan y Rheoliadau AEA, ac ystyried p’un a ddylid rhoi cydsyniad datblygu gan yr Ysgrifennydd Gwladol.

Mae’n broses systematig ac ailadroddus a gynhelir i:

  • Lywio dyluniad prosiectau o gamau cynnar y broses cynllunio a dylunio, gan ganiatáu ar gyfer amlygu effeithiau amgylcheddol yn brydlon a chymhwyso’r hierarchaeth liniaru’n briodol er mwyn osgoi neu leihau effeithiau niweidiol a, lle y bo’n ymarferol, cyflawni canlyniadau amgylcheddol cadarnhaol
  • Sicrhau bod yr awdurdod cymwys perthnasol ar gyfer prosiect yn gwneud ei benderfyniad yn gwbl ymwybodol o unrhyw effeithiau arwyddocaol tebygol ar yr amgylchedd

Mae cyfranogiad y cyhoedd yn elfen hanfodol o’r broses AEA. Anogir ymgeiswyr yn gryf i ymroi amser ac ymdrech i ymarferion ymgynghori AEA. Fe ddylai hyn gynnwys caniatáu amser i ystyried a mynd i’r afael â sylwadau.

AEA yn y broses NSIP

Mae’r ffigur isod yn crynhoi AEA yn y broses NSIP, gan dybio bod angen AEA.

Cadarnhau p’un a oes angen AEA (rheoliad 8)

Nid oes angen AEA ar bob NSIP. Mae’r Rheoliadau AEA yn diffinio datblygiad AEA fel datblygiad sydd naill ai:

  • wedi’i restru yn Atodlen 1 y Rheoliadau AEA, neu
  • wedi’i restru yn Atodlen 2 y Rheoliadau AEA ac yn debygol o gael effeithiau arwyddocaol ar yr amgylchedd o ganlyniad i’w natur, maint neu leoliad

Mae’n rhaid i Ddatganiad Amgylcheddol gael ei gyflwyno gyda chais Gorchymyn Cydsyniad Datblygu (DCO) ar gyfer datblygiad AEA.

Gall ymgeisydd naill ai:

  • benderfynu bod ei gais yn ddatblygiad AEA a hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol yn ysgrifenedig ei fod yn bwriadu darparu Datganiad Amgylcheddol mewn perthynas â’r datblygiad arfaethedig, neu
  • geisio barn sgrinio gan yr Ysgrifennydd Gwladol ynglŷn â ph’un a yw’r datblygiad arfaethedig yn ddatblygiad AEA

Mae’n rhaid i ymgeisydd gwblhau un o’r gweithgareddau hyn cyn rhoi cyhoeddusrwydd i’r cais arfaethedig o dan adran 48 Deddf Cynllunio 2008. Mae’r Arolygiaeth yn annog ymgeiswyr i gwblhau gweithgarwch (i) neu (ii) uchod cyn gynted â phosibl yn ystod y rhaglen cyn-ymgeisio.

Pan fydd ymgeisydd yn bwriadu gwneud cais am farn sgrinio neu gwmpasu, dylid cysylltu â’r Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer cyfarfod cychwynnol cyn gynted â phosibl i drafod manylion y datblygiad arfaethedig a’r cais.

Mae’n rhaid i ymgeiswyr gyflwyno shapefile GIS o’r datblygiad arfaethedig o leiaf 10 niwrnod gwaith cyn cyflwyno cais am farn sgrinio neu gwmpasu. Mae rhagor o fanylion am y gofynion mewn perthynas â shapefile GIS wedi’u hamlinellu isod.

Hysbysu am AEA

Pan fydd ymgeisydd yn dod i’r casgliad fod y datblygiad arfaethedig yn ddatblygiad AEA ac yn penderfynu peidio â gofyn am farn sgrinio, mae’n rhaid iddo hysbysu’r Ysgrifennydd Gwladol ei fod yn bwriadu cyflwyno Datganiad Amgylcheddol (rheoliad 8(1)(b)) i gyd-fynd â’r cais am gydsyniad datblygu. Mae’r Arolygiaeth yn cynghori bod yr hysbysiad hwn yn cael ei roi ar adeg cyflwyno cais am farn gwmpasu.

Mae’n rhaid i hysbysiadau o dan reoliad 8(1)(b) gynnwys digon o wybodaeth i alluogi’r Arolygiaeth Gynllunio i gynnal y gweithdrefnau sy’n ofynnol o dan reoliad 11 ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol. Felly, mae’n rhaid i ymgeiswyr gynnwys y wybodaeth a nodir yn rheoliad 8(3)(a) a (b) gyda’r hysbysiad er mwyn iddo gael ei ystyried yn ddilys. Dylai’r hysbysiad hwn nodi p’un a yw’r datblygiad arfaethedig yn ddatblygiad Atodlen 1 neu 2.

Sgrinio AEA

O dan reoliad 8(1)(a), gall ymgeisydd wneud cais am farn sgrinio gan yr Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer datblygiad a restrir yn Atodlen 2 y Rheoliadau AEA.

Cynghorir ymgeiswyr i ystyried y cwestiynau canlynol mewn perthynas â’r datblygiad arfaethedig cyn gwneud cais sgrinio:

  • A oes digon o fanylion a sicrwydd ynglŷn â lleoliad a nodweddion y datblygiad arfaethedig?
  • A oes hyder rhesymol na fydd newidiadau sylweddol i’r wybodaeth uchod a allai effeithio ar unrhyw ganlyniad o ystyried effeithiau arwyddocaol tebygol?
  • A yw absenoldeb effeithiau andwyol arwyddocaol tebygol yn dibynnu ar fesurau arfaethedig y disgwylir iddynt osgoi neu atal effeithiau o’r fath, ac a ellir diffinio’r mesurau hyn yn briodol er mwyn dangos eu heffeithiolrwydd?
  • A oes llwybr clir i gyflawni’r mesurau y dibynnir arnynt e.e. gofyniad cynllunio neu ddull arall cyfreithiol rwymol?

Wrth wneud cais sgrinio, mae’n rhaid i ymgeiswyr ddarparu’r wybodaeth a amlinellir yn rheoliad 8(3), sy’n cynnwys:

  • cynllun sy’n ddigonol i adnabod y tir
  • disgrifiad o nodweddion ffisegol y datblygiad arfaethedig cyfan
  • disgrifiad o’r lleoliad ac unrhyw ardaloedd sensitif y mae’n debygol yr effeithir arnynt
  • disgrifiad o’r agweddau ar yr amgylchedd y mae’n debygol y bydd effaith arwyddocaol arnynt
  • gwybodaeth am yr effeithiau arwyddocaol tebygol sy’n deillio o weddillion ac allyriadau a defnyddio adnoddau naturiol

Caiff ymgeisydd hefyd ddarparu manylion am unrhyw rai o nodweddion y datblygiad arfaethedig ac unrhyw fesurau y disgwylir iddynt osgoi neu atal yr hyn a allai fod yn effaith andwyol arwyddocaol ar yr amgylchedd fel arall, yn unol â rheoliad 8(5). Dylai ymgeiswyr esbonio’r rhain yn fanwl, gan gynnwys sut byddai mesurau o’r fath yn cael eu cyflawni a’u sicrhau.

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod y wybodaeth yn cael ei hamlinellu gan gyfeirio at y meini prawf yn Atodlen 3 y Rheoliadau AEA.

I gynorthwyo’r broses sgrinio, mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn cynghori y dylai cynllun(iau) i adnabod y tir gynnwys:

  • ffin safle’r datblygiad arfaethedig (a ddangosir gan linell goch), gan gynnwys unrhyw ddatblygiad cysylltiedig
  • unrhyw dir y mae’n ofynnol ei gymryd yn barhaol ar gyfer y datblygiad arfaethedig
  • unrhyw dir y mae’n ofynnol ei gymryd dros dro ar gyfer adeiladu, gan gynnwys cyfadeiladau adeiladu
  • unrhyw seilwaith presennol a fyddai’n cael ei gadw neu ei uwchraddio i’w ddefnyddio yn rhan o’r datblygiad arfaethedig ac unrhyw seilwaith presennol a fyddai’n cael ei symud ymaith
  • nodweddion perthnasol, gan gynnwys cyfyngiadau amgylcheddol a chynllunio (e.e. ardaloedd dynodedig ar y safle ac o’i amgylch)

Os oes angen mwy nag un cynllun, dylai’r cynlluniau fod wrth yr un raddfa a dylid darparu cynllun trosolwg.

Dylai ymgeiswyr hefyd sicrhau yr ymdrinnir â phob agwedd ar yr amgylchedd y mae’r datblygiad yn debygol o gael effaith arwyddocaol arni. Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn cyfeirio at ‘agweddau’ fel y disgrifiadau perthnasol o’r amgylchedd a nodwyd yn unol â’r Rheoliadau AEA, e.e. ansawdd aer, yr amgylchedd dŵr ac ati.

Gweler ‘Cyflwyno ceisiadau sgrinio a chwmpasu’ ar y dudalen gyngor hon i gael rhagor o fanylion am fformat electronig cais sgrinio.

Mae’n rhaid i farn sgrinio gael ei chyhoeddi o fewn 21 diwrnod o dderbyn cais sgrinio (rheoliad 8(8)). Mae’n rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio, ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, ystyried y wybodaeth a ddarparwyd gan ymgeiswyr, canlyniadau unrhyw asesiad amgylcheddol perthnasol gan yr Undeb Ewropeaidd sydd ar gael yn rhesymol, a meini prawf perthnasol yn Atodlen 3 a rheoliad 9 y Rheoliadau AEA. Mae’n rhaid i farn sgrinio ddarparu rhesymau ysgrifenedig dros y penderfyniad ynglŷn â ph’un a yw’r datblygiad arfaethedig yn ddatblygiad AEA.

Os bydd barn sgrinio’n datgan nad yw datblygiad yn ddatblygiad AEA, bydd angen i ymgeiswyr gyflwyno unrhyw wybodaeth amgylcheddol sy’n ofynnol gan ddeddfwriaeth a pholisi arall o hyd. Fe allai hyn gynnwys asesiad perygl llifogydd neu wybodaeth am yr amgylchedd hanesyddol sy’n ofynnol ar gyfer pob NSIP (gweler rheoliad 5(2) Rheoliadau Cynllunio Seilwaith (Ceisiadau: Ffurflenni a Gweithdrefn Ragnodedig) 2009 (fel y’u diwygiwyd) (y Rheoliadau CFfGR)).

Mae barn sgrinio’n seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael a ddarparwyd gan yr ymgeisydd ar yr adeg y gwnaed y cais. Mae’n bosibl y daw gwybodaeth newydd i’r amlwg yn ystod y broses cyn-ymgeisio a allai effeithio ar y penderfyniad hwnnw. Os felly, dylai ymgeiswyr ystyried cyflwyno cais sgrinio newydd i’r Arolygiaeth Gynllunio.

Nid yw’r broses sgrinio’n pennu a yw datblygiad yn NSIP. Bydd angen i ymgeiswyr gael eu cyngor eu hunain ynglŷn â ph’un a yw datblygiad yn NSIP o dan y meini prawf yn Neddf Cynllunio 2008.

Beth fydd yn digwydd os na chyflwynir Datganiad Amgylcheddol gyda chais DCO?

Os cyflwynir cais heb Ddatganiad Amgylcheddol, bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn ailystyried a yw’r datblygiad arfaethedig yn ddatblygiad AEA ai peidio. Bydd yn cynnal y broses sgrinio eto (gweler rheoliad 15) ar yr un pryd â phenderfynu p’un ai derbyn y cais i’w archwilio, gan ystyried unrhyw wybodaeth newydd sy’n berthnasol i’r penderfyniad sgrinio.

Os bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn ailsgrinio’r datblygiad arfaethedig yn ystod y cam derbyn ac yn penderfynu ei fod yn ddatblygiad AEA, bydd rhaid i’r ymgeisydd ddarparu Datganiad Amgylcheddol (rheoliad 5(2)(a) Rheoliadau CFfGR 2009) a byddai’r broses o ystyried y cais DCO yn cael ei hatal dros dro hyd nes i’r ymgeisydd ddarparu Datganiad Amgylcheddol (rheoliad 15(4)).

Hysbysu’r cyrff ymgynghori AEA

Hysbysiad rheoliad 11 a Rhestr rheoliad 11

Mae rheoliad 11 yn gosod dyletswyddau hysbysu ar yr Ysgrifennydd Gwladol ar ôl derbyn hysbysiad rheoliad 8(1)(b) gan ymgeisydd neu fabwysiadu barn sgrinio gadarnhaol sy’n pennu bod y datblygiad arfaethedig yn ddatblygiad AEA.

Mae’n rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio, ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, hysbysu’r cyrff ymgynghori am enw a chyfeiriad yr ymgeisydd a’r ddyletswydd a osodir arnynt i gychwyn trafodaethau â’r ymgeisydd i bennu a oes ganddynt unrhyw wybodaeth yr ystyrir ei bod yn berthnasol i baratoi’r Datganiad Amgylcheddol neu’r Datganiad Amgylcheddol wedi’i ddiweddaru; ac, os felly, mae’n rhaid iddynt sicrhau bod y wybodaeth honno ar gael i’r ymgeisydd (rheoliad 11(3)).

Nid yw’r ddyletswydd hon yn berthnasol i’r unigolion hynny a restrir yn rheoliad 11(1)(c) (gweler isod) na chyrff ymgynghori nad ydynt yn rhagnodedig.

Bydd yr Arolygiaeth Gynllunio yn darparu rhestr i’r ymgeisydd o’r cyrff ymgynghori a hysbyswyd ac unrhyw unigolion rheoliad 11(1)(c). Darperir manylion unrhyw gyrff ymgynghori nad ydynt yn rhagnodedig hefyd, os yw’n briodol.

Cyrff rheoliad 11(1)(c)

Mae’r rhain yn gyrff y mae’r Arolygiaeth Gynllunio o’r farn:

  • bod y datblygiad arfaethedig yn effeithio arnynt neu’n debygol o effeithio arnynt, neu sydd â buddiant yn y datblygiad arfaethedig neu’n debygol o fod â buddiant ynddo; ac
  • sy’n annhebygol o fod yn ymwybodol o’r datblygiad arfaethedig yn ystod y broses cyn-ymgeisio o dan Ddeddf Cynllunio 2008

Mae’n rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio hysbysu’r ymgeisydd am unrhyw gyrff o’r fath (rheoliad 11(1)(c)), ac mae’n ddyletswydd ar yr ymgeisydd i anfon copi o’r deunydd cyhoeddusrwydd, sy’n ofynnol o dan Adran 48 y Ddeddf Cynllunio, at unrhyw unigolion a hysbyswyd o dan reoliad 11(1)(c) ar yr un pryd â chyhoeddi’r hysbysiad adran 48 (rheoliad 13). Adlewyrchir y gofyniad hwn yn y Ffurflen Gais DCO o dan Adran 14(c) lle y gofynnir i’r ymgeisydd nodi p’un a hysbyswyd y cyrff hyn.

Mae gwybodaeth fanylach am hysbysu ac ymgynghori mewn perthynas ag AEA wedi’i hamlinellu yng nghyngor yr Arolygiaeth Gynllunio ar y broses hysbysu ac ymgynghori Asesu Effeithiau Amgylcheddol.

Cwmpasu AEA

Caiff ymgeisydd sy’n bwriadu gwneud cais am orchymyn sy’n rhoi cydsyniad datblygu ofyn i’r Ysgrifennydd Gwladol am ei farn ynglŷn â chwmpas a manylder y wybodaeth sydd i’w darparu yn y Datganiad Amgylcheddol (rheoliad 10(1)). Er nad oes gofyniad statudol i wneud cais am farn gwmpasu gan yr Ysgrifennydd Gwladol, mae’r farn gwmpasu’n ddogfen bwysig a defnyddiol.

Dylai proses gwmpasu effeithiol alluogi mireinio’r ymagwedd at yr asesiad arfaethedig a’r wybodaeth sy’n ofynnol i ffurfio’r Datganiad Amgylcheddol, a’u cwmpas. Fe all helpu i amlygu’r effeithiau arwyddocaol tebygol ac mae’n rhoi cyfle i ymgysylltu â chyrff ymgynghori rhagnodedig ac nad ydynt yn rhagnodedig, a cheisio cytundeb ar gwmpas yr AEA.

Mae’n rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio, ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, fabwysiadu barn gwmpasu o fewn 42 diwrnod o dderbyn cais cwmpasu (rheoliad 10(6)). Os cyflwynir ceisiadau sgrinio a chwmpasu ar yr un pryd ar gyfer yr un prosiect, bydd y cyfnod 42 diwrnod yn dechrau o’r dyddiad y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn mabwysiadu barn sgrinio gadarnhaol (rheoliad 10(7)).

Cyn mabwysiadu barn gwmpasu, mae’n rhaid i’r Arolygiaeth Gynllunio ymgynghori â’r cyrff ymgynghori, y rhoddir 28 niwrnod iddynt ymateb (rheoliad 10(11)). Yn ogystal, caiff yr Arolygiaeth Gynllunio ymgynghori â’r cyrff ymgynghori perthnasol nad ydynt yn rhagnodedig, y rhoddir 28 niwrnod iddynt ymateb hefyd. Ni fydd ymatebion a dderbynnir ar ôl y terfyn amser 28 niwrnod yn cael eu hystyried yn y farn gwmpasu, ond fe’u hanfonir ymlaen at yr ymgeisydd i’w hystyried a’u cyhoeddi ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol.

Bydd rhai cyrff ymgynghori’n codi tâl am wasanaethau yn ystod y cam cyn-ymgeisio. Felly, mae’n bwysig bod y cytundebau gwasanaeth angenrheidiol ar waith gyda’r cyrff ymgynghori perthnasol cyn cyflwyno cais am farn gwmpasu.

Dylai ymgeiswyr ystyried amseriad cais am farn gwmpasu yn ofalus. Fe allai cyflwyno’r cais yn rhy gynnar neu’n rhy hwyr yn ystod y cam cyn-ymgeisio wneud y farn gwmpasu’n llai defnyddiol wrth ddiffinio cwmpas y Datganiad Amgylcheddol. Lle y bo’n bosibl o fewn cyfyngiadau’r rhaglen, dylai ymgeisydd osgoi gorgyffyrddiad rhwng unrhyw ymarfer ymgynghori a/ neu ymgysylltu cyn-ymgeisio anstatudol y mae’n dewis ei gynnal a phroses ymgynghoriad cwmpasu statudol yr Arolygiaeth Gynllunio er mwyn osgoi dryswch rhwng y gwahanol ddibenion a dulliau ymateb ar gyfer yr ymgynghoriadau. 

Dylai ymgeiswyr wneud cais am farn gwmpasu pan fydd digon o sicrwydd ynglŷn â’r amgylchedd sy’n derbyn yn lleoliad daearyddol y datblygiad arfaethedig, dyluniad y datblygiad arfaethedig a’r prif elfennau dylunio sy’n debygol o gael effaith amgylcheddol arwyddocaol, ond yn ddigon cynnar fel y gall y broses AEA lywio’r dyluniad terfynol.

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn cydnabod efallai y bydd angen gadael rhai materion yn agored ar adeg y cais cwmpasu. Er enghraifft, efallai na fydd manylion y datblygiad arfaethedig wedi’u cwblhau’n derfynol ac, yn wir, na fydd hynny’n digwydd am beth amser. Yn yr achos hwn, gellid defnyddio Amlen Rochdale ar yr adeg gwmpasu (gweler ‘Amlen Rochdale’ isod).

Dylai ymgeiswyr osgoi cyflwyno ceisiadau sy’n cynnwys opsiynau dylunio a gosodiad amrywiol oherwydd fe allai hyn effeithio ar allu’r Arolygiaeth Gynllunio a chyrff ymgynghori i ddarparu sylwadau manwl ac fe allai gyfyngu ar allu’r Arolygiaeth Gynllunio i gytuno i hepgor agweddau neu faterion. Fodd bynnag, deëllir na ellir osgoi hyn mewn rhai achosion, ac fe allai opsiynau barhau i gael eu hystyried (er enghraifft, sawl coridor llwybr ar gyfer datblygiad llinellol arfaethedig).

Gall ymweliadau safle cyn-gwmpasu helpu’r Arolygiaeth Gynllunio i ddeall y safle a’i gyffiniau ac fe allant fod yn fuddiol wrth lywio’r broses gwmpasu. Anogir ymgeiswyr i ddarparu digon o amser ar ôl cyfarfod cychwynnol y prosiect i ganiatáu ar gyfer ymweliad safle cyn cyflwyno cais cwmpasu. Dylai ymgeiswyr drafod yr ymagwedd at ymweliadau safle gyda’r Arolygiaeth Gynllunio ac mae’n bosibl y gofynnir i’r ymgeisydd am ymweliad safle gyda chwmni.

Gwybodaeth i’w chynnwys mewn cais cwmpasu

Mae’n rhaid i gais cwmpasu a wneir o dan reoliad 10(1) gynnwys:

  • cynllun sy’n ddigonol i adnabod y tir
  • disgrifiad o’r datblygiad arfaethedig, gan gynnwys ei leoliad a’i gapasiti technegol
  • esboniad o effeithiau arwyddocaol tebygol y datblygiad ar yr amgylchedd a’r
  • cyfryw wybodaeth neu sylwadau eraill ag y dymuna’r unigolyn sy’n gwneud y cais eu darparu neu eu gwneud

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn argymell bod ymgeiswyr yn darparu gwybodaeth y cais cwmpasu ar ffurf adroddiad cwmpasu, gan rifo paragraffau’n syml i hwyluso cyfeirio. Yn unol â chanllawiau’r llywodraeth, sef Canllawiau ar baratoi cais: Rhan 1 – Camau cyn-ymgeisio (egwyddor 2: cymesuroldeb), anogir ymgeiswyr i gynhyrchu ceisiadau cwmpasu sy’n gymesur â graddfa a natur y datblygiad arfaethedig, ac sy’n osgoi gwybodaeth amherthnasol neu ailadroddus nad yw’n ofynnol gan y Rheoliadau AEA. Er enghraifft, nid yw’r Arolygiaeth Gynllunio o’r farn bod angen cynnwys manylion helaeth am ddeddfwriaeth a pholisi, na chanllawiau a ddefnyddiwyd i lywio dull(iau) asesu lle y cynigir dulliau safonol y diwydiant; byddai cyfeiriadau at enw a fersiwn y canllawiau’n ddigonol.

Byddai’n ddefnyddiol petai’r adroddiad cwmpasu’n cynnwys y wybodaeth ganlynol er mwyn helpu i ddeall y cynigion yn ddigonol a phenderfynu p’un ai cynnwys materion yn yr AEA neu eu hepgor ohono:

  • disgrifiad o bob elfen o’r datblygiad arfaethedig
  • disgrifiad o leoliad y datblygiad arfaethedig
  • cynlluniau wedi’u cyfeirnodi a gyflwynir wrth raddfa briodol i sicrhau eu bod yn ddarllenadwy ac sy’n dangos yr holl nodweddion hysbys sy’n gysylltiedig â’r datblygiad arfaethedig
  • esboniad o’r dull o fynd i’r afael ag ansicrwydd mewn perthynas ag elfennau o’r datblygiad arfaethedig sy’n ansicr o hyd, a nodi’n glir lle y mae’n debygol y ceisir hyblygrwydd neu opsiynau
  • disgrifiad o’r camau datblygu a sut y bydd pob cam yn cael ei asesu yn y Datganiad Amgylcheddol (adeiladu, gweithredu gan gynnwys cynnal a chadw, a datgomisiynu)
  • amlinelliad o’r dewisiadau amgen rhesymol a astudiwyd a’r rhesymau dros ddewis yr opsiwn a ffefrir, gan gynnwys unrhyw safbwyntiau a geisiwyd trwy ymgynghori a/ neu ymgysylltu a sut mae’r rhain wedi llywio’r penderfyniad – neu, os yw dewisiadau amgen yn parhau i gael eu hystyried, disgrifiad o sut y bwriedir dewis yr opsiwn/ opsiynau a ffefrir gan ystyried effeithiau ar yr amgylchedd
  • canlyniadau astudiaethau bwrdd gwaith a llinell sylfaen a gynhaliwyd hyd yma, lle y bônt ar gael
  • disgrifiad manwl o’r agweddau a’r materion y bwriedir eu hepgor o asesiad pellach, gan ddarparu rhesymau a gwybodaeth ategol
  • tabl crynhoi sy’n dangos pob un o’r agweddau a’r materion y gofynnir am gael eu hepgor
  • o ran agweddau a materion sydd i’w cynnwys, disgrifiad o’r dulliau a ddefnyddir i fireinio amodau sylfaenol ymhellach ac asesu arwyddocâd effeithiau
  • crynodeb o unrhyw fesurau a gynigir i osgoi, lleihau neu atal effeithiau arwyddocaol tebygol sy’n hysbys ar y cam hwn a sut gellid eu sicrhau (gan gyfeirio at gofrestr ymrwymiadau ddrafft lle y dibynnir arni i hepgor materion)
  • cyfeiriadau at unrhyw ganllawiau ac arferion gorau sydd i’w cymhwyso wrth ddiffinio’r llinell sylfaen, asesu effeithiau neu ragnodi mesurau lliniaru
  • tystiolaeth o unrhyw gytundebau ar gwmpas arfaethedig asesu gyda chyrff perthnasol (e.e. y cyrff cadwraeth natur statudol neu awdurdodau lleol)
  • amlinelliad o strwythur y Datganiad Amgylcheddol arfaethedig

Pan na fydd ymgeisydd wedi gofyn am farn sgrinio neu ddarparu hysbysiad o dan reoliad 8(1)(b) y Rheoliadau AEA, bydd yr Arolygiaeth yn gofyn i’r hysbysiad rheoliad 8(1)(b) gael ei ddarparu yn rhan o’r cais cwmpasu.

Gwybodaeth a ddefnyddir i hepgor materion

Trwy ddefnyddio ymagwedd gynhwysfawr, wedi’i seilio ar dystiolaeth at gwmpasu AEA, gellir hepgor agweddau neu faterion penodol o’r AEA, gan sicrhau bod y Datganiad Amgylcheddol yn canolbwyntio ar y ‘prif’ effeithiau amgylcheddol tebygol neu’r effeithiau amgylcheddol ‘arwyddocaol’ tebygol a ddisgwylir. Gall ymgeiswyr gynnig hepgor materion neu agweddau o fewn adroddiad cwmpasu, a bydd y farn gwmpasu’n cadarnhau safbwynt yr Ysgrifennydd Gwladol ynglŷn â ph’un a yw’r cynigion hynny’n briodol. Mae hyn yn galluogi’r holl bartïon i ddyrannu adnoddau’n fwy penodol yn ystod y cam cyn-ymgeisio, ac yn rhoi mwy o eglurder i bawb sy’n gysylltiedig â’r broses.

Dylai ymgeisydd gyfiawnhau hepgor agweddau neu faterion yn yr adroddiad cwmpasu. Fe allai hyn gynnwys darparu gwybodaeth i gyfiawnhau na fyddai effaith arwyddocaol debygol yn digwydd.

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio o’r farn y dylai cyfiawnhad addas i gefnogi hepgor agweddau a materion gynnwys gwybodaeth i fynd i’r afael â’r cwestiynau canlynol:

  1. A oes llwybr effaith o’r Datblygiad Arfaethedig i’r agwedd/mater?
  2. A yw’r agwedd/mater yn sensitif i’r effaith dan sylw?
  3. A yw’r effaith yn debygol o fod ar raddfa a allai arwain at effeithiau arwyddocaol ar yr agwedd/mater?
  4. A allai’r effaith gael cyfraniad cronnol gydag effeithiau eraill i arwain at effeithiau arwyddocaol ar yr agwedd/mater?
  5. A oes dull osgoi neu liniaru a fyddai’n lleihau’r effaith ar yr agwedd/mater i lefel lle na fyddai effeithiau arwyddocaol yn digwydd?
  6. A oes digon o hyder yn y dull osgoi neu liniaru o ran cyflawnadwyedd ac effeithiolrwydd i gefnogi’r cais?
  7. A oes tystiolaeth empirig ar gael i gefnogi’r cais? A yw ymgyngoreion statudol perthnasol yn cytuno â’r cais?
  8. A ydych wedi ystyried Datganiad(au) Polisi Cenedlaethol (NPS) perthnasol ac, yn benodol, unrhyw ofyniad a nodir yn yr NPS(au) ynglŷn ag asesu’r agwedd hon/y mater hwn?

Gall ymgysylltu’n gynnar â’r cyrff ymgynghori perthnasol cyn cais cwmpasu helpu i hwyluso cytundeb ar hepgor agweddau neu faterion o’r AEA. Pan ellir darparu tystiolaeth o gytundeb â chyrff ymgynghori perthnasol o fewn y cais cwmpasu, fe allai hyn helpu’r Arolygiaeth Gynllunio i gytuno i hepgor agweddau neu faterion o’r asesiad.

Mewn rhai amgylchiadau, fe allai cynnig i hepgor materion neu agweddau o’r asesiad fod wedi’i seilio ar dybiaethau yn ymwneud ag adeiladu, gweithredu neu ddylunio’r datblygiad arfaethedig e.e. uchder mwyaf adeiladau neu symudiadau disgwyliedig cerbydau. Yn yr achos hwn, dylid amlinellu tybiaethau’n glir yn y cais cwmpasu ar ffurf tabl, gan nodi pa asesiadau agwedd maen nhw’n sail iddynt.  

Fe allai’r achos dros hepgor rhai materion neu agweddau gael ei gefnogi hefyd trwy ddarparu gwybodaeth i ddisgrifio ymrwymiadau y mae’r ymgeisydd yn hyderus y byddant yn ffurfio rhan o’r cais arfaethedig. Er enghraifft, mabwysiadu safonau’r diwydiant, rhoi mesurau rheoli amgylcheddol profedig ar waith, neu nodi dull adeiladu penodol (megis dull penodol o osod seilbyst).

Yn yr achos hwn, dylai’r cais cwmpasu gynnwys digon o wybodaeth i ddangos y gellir sicrhau a gweithredu’r mesurau arfaethedig, a bod lefel uchel o hyder yn llwyddiant / effeithiolrwydd y mesurau hynny i osgoi effaith andwyol arwyddocaol. Fe allai hyn gynnwys tystiolaeth o lwyddiant blaenorol neu gytundeb gan gyrff ymgynghori perthnasol. 

Dylai ymrwymiadau gael eu cofnodi mewn fersiwn gyntaf o gofrestr ymrwymiadau i’w chyflwyno yn rhan o’r cais cwmpasu a’u cadarnhau mewn fersiwn wedi’i diweddaru yn rhan o’r cais DCO. Gweler cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio ar y Gofrestr Ymrwymiadau ar gyfer templed a gwybodaeth ychwanegol am ei ddefnydd bwriadedig o fewn y broses gynllunio NSIP. 

Dangos cydymffurfedd â phrofion polisi o dan Ddatganiadau Polisi Cenedlaethol (NPSau) perthnasol pan fydd materion yn cael eu hepgor o asesiad pellach

Efallai y bydd agweddau neu faterion sydd wedi’u hepgor o asesiad pellach y mae angen darparu tystiolaeth ohonynt yn nogfennau’r cais o hyd i ddangos cydymffurfedd ag NPSau perthnasol (pan fydd NPS mewn grym neu’n bwysig ac yn berthnasol).

Gall y dystiolaeth hon gynnwys deunydd a ddefnyddiwyd yn wreiddiol i gyfiawnhau hepgor mater o’r Datganiad Amgylcheddol. Os yw ymgeisydd yn bwriadu dibynnu ar y wybodaeth gynharach hon i fodloni profion NPS, mae’n rhaid iddo ei holrhain a gwirio ei bod yn gywir ac yn ddigonol o hyd wrth gyflwyno’r cais DCO.

Weithiau, efallai y bydd y wybodaeth a ddarperir ar y cam cwmpasu AEA yn bodloni gofynion profion NPS yn rhannol yn unig. Mewn achosion o’r fath, bydd angen i ymgeiswyr ddarparu’r wybodaeth ychwanegol sy’n angenrheidiol i fodloni’r profion perthnasol yn rhan o’r cais DCO. Gellir cynnwys hyn mewn dogfennau cais eraill, y tu allan i’r Datganiad Amgylcheddol .

Dylai’r wybodaeth sy’n ofynnol i fynd i’r afael â phrofion polisi gael ei nodi’n glir yn nogfennau’r cais DCO, gan ddefnyddio ‘dogfen cydymffurfio â pholisïau’ (pan fydd wedi’i chyflwyno) i gyfeirio at ble yn y cais y darperir tystiolaeth ategol.  

Cyngor penodol i sector

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi cynhyrchu cyngor technegol sydd wedi’i deilwra i ddatblygiad solar, ac mae’n bosibl y bydd canllawiau tebyg yn cael eu creu ar gyfer mathau ychwanegol o ddatblygiadau yn y dyfodol. Nod y canllawiau hyn yw helpu ymgeiswyr i gyflwyno gwybodaeth berthnasol a sicrhau bod Datganiad Amgylcheddol yn effeithiol ac yn gymesur ar gyfer y math o ddatblygiad.

Gweler Tudalen Cyngor Technegol yr Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer Cwmpasu Datblygiad Solar.  

Effeithiau trawsffiniol

Ar yr un pryd â gwneud cais cwmpasu, fe allai’r ymgeisydd hefyd ddymuno darparu matrics sgrinio trawsffiniol wedi’i gwblhau sy’n delio ag effeithiau posibl y datblygiad arfaethedig ar wladwriaethau’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE). Byddai hyn yn hwyluso ystyriaeth yr Ysgrifennydd Gwladol o dan reoliad 32 y Rheoliadau AEA.

Darperir rhagor o fanylion am fformat awgrymedig y matrics sgrinio trawsffiniol yng Nghyngor yr Arolygiaeth Gynllunio ar Effeithiau a Phrosesau Trawsffiniol.

Cyflwyno ceisiadau sgrinio a chwmpasu

Mae’n rhaid i ymgeiswyr ddarparu copi electronig o’r dogfennau sgrinio neu gwmpasu drwy e-bost neu, os nad yw hyn yn bosibl, gysylltu â thîm achos yr Arolygiaeth Gynllunio ar gyfer y prosiect i gytuno ar system rhannu ffeiliau addas.

Dylai’r copi electronig fodloni’r manylebau canlynol:

  • Dylai’r adroddiad cwmpasu gynnwys cyn lleied o ffeiliau ar wahân ag sy’n ymarferol.
  • Ni ddylai unrhyw ffeil unigol fod yn fwy na 50MB fesul dogfen a dylai’r holl ffeiliau gael eu hoptimeiddio ar gyfer y we. Pan fydd yr adroddiad cwmpasu’n cynnwys cynlluniau neu ffigurau cydraniad uchel, dylid darparu copi electronig cydraniad isel hefyd i alluogi lawrlwytho gwybodaeth yn haws.
  • Anogir defnyddio hyperddolenni mewnol, gan gynnwys tudalennau cynnwys y gellir clicio arnynt, i hwyluso llywio’n rhwydd o fewn y ddogfen/dogfennau. Yn yr un modd, gall defnydd effeithiol o nodau tudalen o fewn dogfennau helpu darllenwyr i lywio.
  • Dylid defnyddio maint ffont 12pt o leiaf a ffont clir fel Arial ar gyfer y prif destun (i gael rhagor o wybodaeth, cyfeiriwch at ganllawiau dylunio print clir y Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol Pobl Ddall).
  • Dylid cynnwys adroddiadau technegol fel atodiadau dim ond pan fydd y rhain yn darparu tystiolaeth sy’n allweddol i gefnogi penderfyniad ynglŷn â ph’un a ellir hepgor agwedd neu fater o asesiad pellach.
  • Dylid osgoi troednodiadau er mwyn sicrhau hygyrchedd.

Ni ddylid cyflwyno gwybodaeth fideo na sain oni chytunwyd ymlaen llaw gyda’r Arolygiaeth Gynllunio.

Hysbysu ymlaen llaw a shapefile System Gwybodaeth Ddaearyddol (GIS)

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod digon o amser rhwng y cyfarfod cychwynnol a chyflwyno cais sgrinio neu gwmpasu i ganiatáu ar gyfer cytuno ar yr haen gwasanaeth, ac i’r Arolygiaeth gyhoeddi’r anfoneb a’r hysbysiad, a derbyn y taliad. Mae gan yr Arolygiaeth Gynllunio ddisgresiwn i beidio â dechrau gweithgareddau sgrinio neu gwmpasu hyd nes y bydd ffi cyn-ymgeisio’r ymgeisydd wedi cael ei thalu. Gweler Prosbectws Cyn-ymgeisio’r Arolygiaeth Gynllunio i gael rhagor o wybodaeth.

Ar ôl y cyfarfod cychwynnol, dylid darparu shapefile GIS i’r Arolygiaeth Gynllunio o leiaf ddeng niwrnod gwaith cyn cyflwyno cais sgrinio neu gwmpasu. Mae’n rhaid i’r shapefile GIS gyfateb yn union i’r llinell goch a fydd yn cael ei chyflwyno gyda’r cais sgrinio neu gwmpasu. Mae’n rhaid iddi fodloni’r manylebau technegol canlynol:

  • Math geometreg polygon a chynnwys un neu fwy o nodweddion polygon sy’n cynrychioli ffin safle’r datblygiad arfaethedig (gan gynnwys unrhyw ddatblygiad dros dro, parhaol a chysylltiedig).
  • Un Shapefile ESRI ddilys ar gyfer ffin safle’r datblygiad arfaethedig, wedi’i darparu fel ffeil *.zip gan ddefnyddio gosodiadau diofyn WinZip (h.y. dim amgryptiad, gyda chywasgiad arferol ac ati). Nid yw ffeiliau *.zip lluosog neu ffeiliau .shp lluosog o fewn un ffeil sip yn cydweddu â system GIS yr Arolygiaeth Gynllunio. Os yw ffin safle’r datblygiad arfaethedig yn cynnwys sawl polygon ar wahân, dylai’r rhain i gyd gael eu cynnwys o fewn y shapefile unigol a gynhwysir yn y ffeil *.zip.
  • Dylai’r ffeil *.zip gynnwys un yn unig o bob un o’r ffeiliau canlynol: *.prj, *.dbf, *.shp, *.shx. Ni ddylid cynnwys unrhyw ffeiliau eraill yn y ffeil *.zip.
  • Bod yn fformat y Grid Cenedlaethol Prydeinig (OSGB1936).

Bydd gwybodaeth geo-ofodol a gyflwynir ar y cam sgrinio, cwmpasu a derbyn yn cael ei chyhoeddi ar wefan yr Arolygiaeth Gynllunio a bydd ar gael i’w lawrlwytho gan bartïon allanol, ar yr adeg y cyhoeddir y cais sgrinio neu gwmpasu ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol, neu pan gychwynnir y cam derbyn. Felly, dylai ymgeiswyr sicrhau nad yw’r wybodaeth geo-ofodol yn cynnwys unrhyw wybodaeth na haenau sensitif neu bersonol. Anogir ymgeiswyr hefyd i anfon shapefiles at y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol i’w cyhoeddi ar y wefan ‘Set Ddata Prosiect Seilwaith’.

Ymgysylltu a/ neu ymgynghori yn ystod y cam cyn-ymgeisio

O ganlyniad i’r diwygiadau i’r Rheoliadau AEA yn sgil Deddf Cynllunio a Seilwaith 2025, nid yw’n ofynnol mwyach i ymgeisydd gyhoeddi gwybodaeth amgylcheddol ragarweiniol (PEI) cyn cwblhau’r Datganiad Amgylcheddol yn derfynol. Yn unol â chanllawiau’r Llywodraeth, sef Canllawiau ar baratoi cais: Rhan 1 – Camau cyn-ymgeisio, fe allai ymgysylltu a/ neu ymgynghori yn seiliedig ar ddisgrifiad cryno o’r effeithiau fod yn briodol ac mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn annog y dull hwn yn gryf, ynghyd â rhannu gwybodaeth amgylcheddol berthnasol yn ailadroddus gyda chyrff statudol er mwyn trafod a chael adborth.

Fe allai darparu cynllun tystiolaeth gwirfoddol a gytunwyd rhwng yr ymgeisydd a chorff statudol helpu i amlygu a mynd i’r afael ag effeithiau posibl ar gam cynnar o’r broses AEA.

Fe allai Nodyn Cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio ar Weithio gyda Chyrff Cyhoeddus helpu ymgeiswyr i benderfynu sut i weithio gyda chyrff statudol.

Datganiadau Amgylcheddol

Fe ddylai Datganiad Amgylcheddol gynnwys y wybodaeth sy’n ofynnol i ddod i gasgliad rhesymedig ynglŷn ag effeithiau amgylcheddol arwyddocaol tebygol y datblygiad ar yr amgylchedd. Fe ddylai ddarparu modd i ddisgrifio a deall effeithiau amgylcheddol gweddilliol arwyddocaol a chanlyniadau buddiol posibl datblygiad arfaethedig yn gynhwysfawr, gan gymhwyso’r hierarchaeth liniaru’n briodol.

Mae’r Datganiad Amgylcheddol yn cael ei adolygu a’i archwilio yn rhan o’r broses gynllunio NSIP, gan ffurfio rhan annatod o’r wybodaeth amgylcheddol sy’n galluogi’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau i ddod i gasgliadau gwybodus am effeithiau’r datblygiad. Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn disgwyl i’r Datganiad Amgylcheddol gyflwyno adroddiad cytbwys, gan bwysleisio’r effeithiau hynny sy’n fwyaf tebygol o gynhyrchu effeithiau arwyddocaol. Lle yr amlygir effeithiau cyfyngedig neu ddibwys, fe allai canfyddiadau’r penodau agwedd cyfatebol fod yn fwy cryno.

Dylai’r Datganiad Amgylcheddol fod yn ddogfen ar wahân a baratowyd yn unol ag arfer gorau a chyfraith achosion. Dylai’r wybodaeth sy’n ategu’r canfyddiadau technegol ym mhob pennod o’r Datganiad Amgylcheddol gael ei darparu o fewn atodiadau a’i chyfeirnodi’n glir o fewn prif gorff y Datganiad Amgylcheddol. Gweler cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio ar Baratoi a Chyflwyno Dogfennau Cais i gael rhagor o wybodaeth am fformatio’r Datganiad Amgylcheddol yn briodol.

Mae’n rhaid i’r Datganiad Amgylcheddol gael ei baratoi gan arbenigwyr cymwys a dylid darparu tystiolaeth o hyn ynddo.

Rhannu data

Anogir ymgeiswyr i hwyluso rhannu data trwy gyflwyno data amgylcheddol perthnasol a gasglwyd yn ystod pob cam o’r AEA i’r ganolfan cofnodion amgylcheddol lleol (LERC) briodol, grwpiau a chynlluniau cofnodi amgylcheddol eraill priodol ac, ar gyfer prosiectau alltraeth, Cyfnewidfa Data Morol (MDE) Ystad y Goron. Mae’r Arolygiaeth o’r farn bod hyn yn cyd-fynd â pholisi’r Llywodraeth ac arfer gorau sefydledig y diwydiant, a byddai’n helpu i fynd i’r afael â rhwystr allweddol rhag effeithiolrwydd AEA.

Cynnwys y Datganiad Amgylcheddol

Mae rheoliad 14 y Rheoliadau AEA yn amlinellu’r isafswm gwybodaeth sy’n ofynnol mewn Datganiad Amgylcheddol. Mae atodlen 4 y Rheoliadau AEA yn darparu manylion ychwanegol am y nodweddion penodol y dylid eu cynnwys yn y Datganiad Amgylcheddol lle y bônt yn berthnasol i’r datblygiad arfaethedig neu nodweddion amgylcheddol sy’n debygol o fod yn destun effeithiau arwyddocaol. Amlinellir hyn hefyd yng nghyngor yr Arolygiaeth Gynllunio ar Baratoi a Chyflwyno Dogfennau Cais. 

Mae’r Arolygiaeth yn disgwyl i’r Datganiad Amgylcheddol gynnwys disgrifiad o’r canlynol (a esbonnir yn fanylach isod):

  • disgrifiad o’r prosiect a lleoliad y safle
  • Amlen Rochdale
  • newidiadau ar ôl derbyn
  • disgrifiad o’r dewisiadau amgen rhesymol
  • yr amgylchedd sylfaenol
  • methodoleg asesu
  • agweddau i’w hasesu
  • cydberthynasau rhwng effeithiau amgylcheddol
  • mesurau lliniaru a monitro

Pan fabwysiadwyd barn gwmpasu, dylid seilio’r Datganiad Amgylcheddol ar y farn gwmpasu ddiweddaraf (cyhyd â bo’r prosiect yn aros yr un fath i raddau helaeth). Bydd y farn gwmpasu’n egluro y caiff ymgeisydd gytuno gyda’r cyrff ymgynghori perthnasol i hepgor agweddau neu faterion o’r Datganiad Amgylcheddol wedi hynny, lle y darparwyd tystiolaeth ychwanegol i gyfiawnhau’r dull. Fodd bynnag, i ddangos bod agweddau neu faterion wedi derbyn sylw’n briodol, dylai’r Datganiad Amgylcheddol esbonio’r rhesymeg a darparu tystiolaeth o gytundeb â’r cyrff perthnasol.

Os bydd y tybiaethau neu’r ymrwymiadau a wnaed ar y cam cwmpasu’n newid cyn cyflwyno cais, fe allai hyn arwain at oblygiadau i gwmpas yr asesiad. Dylid amlygu newidiadau o’r fath yn glir yn y Datganiad Amgylcheddol, ochr yn ochr ag ystyriaeth yr ymgeisydd o b’un a effeithir ar gwmpas yr asesiad. Bydd hyn yn helpu’r Arolygiaeth Gynllunio i ystyried digonolrwydd y Datganiad Amgylcheddol a ph’un a fu’n seiliedig ar y farn gwmpasu ddiweddaraf, cyn belled ag y bo’r datblygiad arfaethedig yn parhau i fod yr un fath, i raddau helaeth, â hwnnw a ffurfiodd y sail i’r farn honno.

Os nad yw’r ymgeisydd wedi ceisio barn gwmpasu, mae’n rhaid i’r Datganiad Amgylcheddol esbonio’n glir sut y pennwyd cwmpas yr asesiad.

Mae’n rhaid cyflwyno crynodeb annhechnegol gyda’r Datganiad Amgylcheddol (rheoliad 14(2)(e), Atodlen 4). Fe ddylai hwn grynhoi’r asesiad mewn iaith syml a dylid ei ategu gan ffigurau priodol, lle y bo’n berthnasol.

Mae’n rhaid i’r Datganiad Amgylcheddol gynnwys rhestr gyfeiriadau sy’n manylu ar y ffynonellau a ddefnyddiwyd i lywio’r wybodaeth yn y Datganiad Amgylcheddol, gan gynnwys yr awdur, y dyddiad a theitl y cyhoeddiad ar gyfer pob cyfeiriad. Dylid cynnwys yr holl gyhoeddiadau y cyfeiriwyd atynt yn yr adroddiadau technegol.

Gwybodaeth amgylcheddol sensitif

Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd angen i wybodaeth amgylcheddol sensitif yn y Datganiad Amgylcheddol gael ei chadw’n ôl a pheidio â chael ei chyhoeddi. Dylai ymgeiswyr ddefnyddio ymagwedd gymesur wedi’i seilio ar risg wrth amlygu gwybodaeth y gallai ei datgelu achosi niwed amgylcheddol. Fe allai hyn ymwneud â gwybodaeth sy’n nodi presenoldeb a lleoliadau rhywogaethau sensitif fel moch daear, adar a phlanhigion prin neu nodweddion amgylcheddol eraill bregus. Dylid defnyddio ychwanegiadau ar wahân dim ond pan fydd risg go iawn o niwed, a dylai ymgeiswyr gyfyngu hyn i rywogaethau y mae arnynt angen amddiffyniad o’r fath. Dylai’r holl wybodaeth asesu arall aros ym mhennod berthnasol y Datganiad Amgylcheddol, gyda dalfan testun sy’n esbonio pam y cadwyd ychwanegiadau yn ôl ac yn cadarnhau bod Datganiad Amgylcheddol cyflawn wedi’i gyflwyno i’r Arolygiaeth. 

Disgrifiad o’r prosiect a lleoliad y safle

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio o’r farn bod cyfle yn rhan o unrhyw broses ymgynghori a/ neu ymgysylltu anstatudol, ac o fewn y Datganiad Amgylcheddol, i esbonio sut mae dyluniad y datblygiad arfaethedig wedi esblygu dros amser. Dylai’r cais esbonio’r newidiadau allweddol sydd wedi digwydd wrth i ddyluniad y datblygiad arfaethedig symud tuag at gyflwyno’r cais.

Dylai’r Datganiad Amgylcheddol gynnwys disgrifiad o leoliad a nodweddion ffisegol y datblygiad arfaethedig, fel sy’n ofynnol gan ran 1 Atodlen 4 Rheoliadau AEA 2017.

Dylai’r disgrifiad o’r datblygiad arfaethedig gynnwys camau’r cyfnod adeiladu a rhaglen adeiladu. Dylid asesu unrhyw ddatblygiad cysylltiedig (fel y’i diffinnir yn adran 115 Deddf Cynllunio 2008); mae hyn yn cynnwys datblygiad a allai fod yn ddarostyngedig i hawliau datblygu a ganiateir ond sy’n angenrheidiol neu’n ganlyniadol i’r datblygiad arfaethedig.

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn cydnabod efallai y bydd achosion pan fydd Datganiad Amgylcheddol unigol yn cael ei gynhyrchu i gefnogi ceisiadau am nifer o gyfundrefnau cydsynio, fel ar gyfer prosiect y mae arno angen cydsyniad DCO a thrwydded forol. Yn yr un modd, gellid cynhyrchu un Datganiad Amgylcheddol ar gyfer prosiect trawsffiniol y mae arno angen cydsyniad o dan gyfundrefnau cydsynio sydd ar wahân yn ddaearyddol. Mewn achosion o’r fath, mae’n rhaid i’r Datganiad Amgylcheddol nodi’n glir yr effeithiau a fyddai’n codi o waith sydd i’w awdurdodi o dan y DCO ac effeithiau a fyddai’n codi o waith arall i allu amlygu gofynion perthnasol y DCO yn glir.

Amlen Rochdale

Mae’r Arolygiaeth yn cydnabod efallai y bydd angen hyblygrwydd pan nad yw rhannau o ddatblygiad arfaethedig wedi’u cadarnhau ar adeg y cais a byddent yn cael eu penderfynu ar ôl cydsyniad. Bydd paramedrau perthnasol sy’n galluogi hyblygrwydd o fewn DCO yn benodol i’r prosiect a’r datblygiad. Fodd bynnag, mae enghreifftiau’n cynnwys:

  • uchafswm neu isafswm nifer y tyrbinau a’u gosodiad, uchafswm uchder tyrbinau i flaen y llafn, y math o sylfeini a lleoliad llwybr y ceblau allforio sy’n gysylltiedig â fferm wynt alltraeth
  • uchafswm neu isafswm uchder neu led adeiladau a strwythurau sy’n gysylltiedig â chyfnewidfa nwyddau rheilffordd strategol
  • uchafswm uchder stac sy’n gysylltiedig â gorsaf bŵer nwy
  • lleoliad y lanfa ar gyfer prosiectau alltraeth
  • lleoliad diffiniol unrhyw is-orsaf ar y tir neu bwynt cysylltu â’r grid ar gyfer prosiectau ar y tir y mae arnynt angen seilwaith o’r fath
  • dulliau adeiladu ac amseriad

Mae dull asesu ‘Amlen Rochdale’ yn ffordd gydnabyddedig o asesu datblygiad arfaethedig sy’n cynnwys datblygiad AEA lle y ceir ansicrwydd ac y ceisir hyblygrwydd angenrheidiol. Mae’n deillio o gyfraith achosion yn dilyn dau ddyfarniad llys: R. v Rochdale MBC ex parte Milne (1) ac R. v Rochdale MBC ex parte Tew [1999] ac R. v Rochdale MBC ex parte Milne (2) [2000]. Y prif ganlyniadau oedd:

  • dylai’r asesiad gael ei seilio ar ddull ‘achos gwaethaf’ gochelgar a dylai’r mesurau lliniaru a gynigir fynd i’r afael â’r achos gwaethaf yn ddigonol
  • dylai’r wybodaeth fod yn ddigonol i allu asesu’r prif effeithiau arwyddocaol neu’r effeithiau arwyddocaol tebygol ar yr amgylchedd a dylai’r mesurau lliniaru gael eu disgrifio, ac
  • ni ddylid camfanteisio ar yr angen am hyblygrwydd ac nid yw’n rhoi esgus i ymgeiswyr ddarparu disgrifiadau annigonol o brosiectau.

Dylai paramedrau dylunio mwyaf gael eu diffinio’n glir ym mhennod y Datganiad Amgylcheddol sy’n disgrifio’r prosiect a chyd-fynd â’r rhai a ddiffinnir yn y DCO drafft a dogfennau cysylltiedig (fel cynlluniau rheoli, yr Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd, yr Asesiad Parth Cadwraeth Morol, a’r Asesiad Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr). Dylai dogfennau cais DCO esbonio’n glir yr angen am unrhyw hyblygrwydd a geisir o fewn y paramedrau hyn, a graddau’r hyblygrwydd hwnnw. Dylai nodweddion nad ydynt wedi’u cwblhau’n derfynol eto gael eu nodi’n glir yn y disgrifiad o’r datblygiad arfaethedig yn y Datganiad Amgylcheddol.

Dylai ymgeiswyr sicrhau nad yw’r hyblygrwydd a geisir yn arwain at ddisgrifiad o’r prosiect sydd mor eang fel nad yw’n sicr o fynd i’r afael â gofynion y Rheoliadau AEA. Mae’n rhaid i baramedrau fod yn ddigon manwl i allu asesu’r effeithiau arwyddocaol tebygol yn briodol a chaniatáu ar gyfer nodi mesurau lliniaru angenrheidiol. Dylai ymgeiswyr ystyried a oes modd asesu’n gadarn ystod o effeithiau sy’n deillio o fwy o hyblygrwydd a nifer fawr o baramedrau sydd heb eu penderfynu.

Fe allai’r effaith andwyol fwyaf o elfen benodol o brosiect amrywio yn dibynnu ar yr agwedd a’r mater sy’n cael ei hasesu/asesu. Er enghraifft, fe allai stac simnai dal fod yn fuddiol i ansawdd aer ond arwain at fwy o effeithiau ar y dirwedd ac effeithiau gweledol. Felly, fe ddylai’r Datganiad Amgylcheddol nodi a chyfiawnhau’r paramedrau sy’n debygol o arwain at yr effaith andwyol fwyaf (y senario achos gwaethaf) ar gyfer pob agwedd a mater a asesir.

Dylai ymgeiswyr ofalu nad yw’r dull asesu’n rhy gymhleth, oherwydd fe allai hyn atal dealltwriaeth o’r asesiad a’r canfyddiad o effeithiau arwyddocaol tebygol. Bydd llai o opsiynau ac amrywiadau yn y disgrifiad o brosiect yn ei wneud yn haws ei ddeall ac yn bwydo i ddylunio da (gweler cyngor yr Arolygiaeth Gynllunio ar ddylunio da).

Bydd yr archwiliad yn ystyried, ymhlith materion eraill, yr angen am yr hyblygrwydd a gynigir yn y DCO drafft, a’i dderbynioldeb, o ystyried yr NPS perthnasol. Mae’r un egwyddorion yn berthnasol i gwmpas y pwerau a gynigir mewn unrhyw drwydded forol dybiedig (DML) sydd wedi’i hatodi i DMO. Yn y pen draw, mater i’w sawl sy’n penderfynu ar y prosiect yw pennu faint o hyblygrwydd y gellir ei ganiatáu i brosiect penodol, o ystyried ffeithiau penodol cais.

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod yr ystod o effeithiau posibl sy’n ymhlyg yn yr hyblygrwydd a ddarperir gan y DML neu’r DCO drafft wedi cael eu hasesu yn y Datganiad Amgylcheddol.

Wrth lunio dogfennau cais eraill, fel gwybodaeth caffael gorfodol (cynlluniau tir a datganiad o’r rhesymau), a thrwyddedau amgylcheddol (os ydynt wedi’u cynnwys), bydd angen i ymgeisydd ystyried sut mae wedi pwyso a mesur yr hyblygrwydd a geisir yn y DCO drafft.

Fe allai’r NPS perthnasol roi arweiniad ar sut y dylai ymgeiswyr a’r Ysgrifennydd Gwladol reoli hyblygrwydd mewn NSIPau.

Newidiadau ar ôl derbyn

Os gofynnir am gael gwneud newidiadau i gais NSIP ar ôl y cam derbyn, mae’r ymgeisydd yn gyfrifol am sicrhau bod unrhyw oblygiadau i’r Datganiad Amgylcheddol (a’r broses AEA, gan gynnwys cyhoeddusrwydd ac ymgynghori) yn derbyn sylw. Mae ceisiadau am gael gwneud newidiadau i gais NSIP yn cyflwyno cymhlethdod ychwanegol ac oedi posibl i’r broses gydsynio.

Mae hefyd yn bwysig nodi efallai na fydd cais yn gallu parhau i ddilyn y llwybr ‘gweithdrefn garlam’ pan gynigir newidiadau (gweler Prosbectws Cyn-ymgeisio’r Arolygiaeth Gynllunio i gael rhagor o wybodaeth am y weithdrefn garlam). 

Disgrifiad o’r dewisiadau amgen rhesymol

Mae’n rhaid i’r Datganiad Amgylcheddol ddarparu disgrifiad o’r dewisiadau amgen rhesymol a astudiwyd gan ymgeisydd a’r prif resymau dros ddewis ymgeisydd, gan gynnwys cymharu’r effeithiau amgylcheddol (rheoliad 14(2)(d) ac Atodlen 4).

Dylai’r ystyriaeth o ddewisiadau amgen esbonio sut y cymhwyswyd yr hierarchaeth liniaru o’r dechrau i esblygu a mireinio dyluniad y datblygiad arfaethedig i’r disgrifiad ohono ar yr adeg cyflwyno.

Dylai’r disgrifiad o’r dewisiadau amgen a ystyriwyd gynnwys y penderfyniadau a wnaed ynglŷn â lleoliadau neu lwybrau amgen (lle y bo’n berthnasol); opsiynau dylunio amgen fel gosodiadau, technoleg, ystyriaethau màs a chapasiti; a thechnegau adeiladu neu foddau gweithredol amgen.

Dylid disgrifio’r cyfiawnhad dros y dewis terfynol ac esblygiad y datblygiad arfaethedig yn glir, gan gynnwys sut y’u llywiwyd gan faterion amgylcheddol ac ymgysylltu a/ neu ymgynghori.

Yr amgylchedd sylfaenol

Dylai’r Datganiad Amgylcheddol ddisgrifio cyflwr presennol yr amgylchedd sy’n derbyn (y senario sylfaenol) ar draws yr agweddau y mae’r datblygiad arfaethedig yn debygol o effeithio arnynt yn sylweddol. Dylid nodi’r llinell sylfaen ar gyfer yr ardal y mae’r datblygiad arfaethedig wedi’i leoli ynddi a’r parth dylanwad ar gyfer effeithiau (gweler isod). Mae cywirdeb y senario sylfaenol, gan gynnwys cyfredoldeb y data, yn bwysig i sicrhau bod yr asesiad o effeithiau arwyddocaol tebygol yn gadarn. 

Dylai’r Datganiad Amgylcheddol ddisgrifio’r dulliau a ddefnyddiwyd i bennu’r llinell sylfaen gyfredol ar gyfer pob agwedd ar yr amgylchedd a gynhwyswyd yn yr asesiad. Fe ddylai hyn gynnwys amseriad a chwmpas unrhyw arolygon, yn ogystal ag unrhyw gyfyngiadau ar y data arolwg. Dylai unrhyw ffynonellau data neu arolygon a ddefnyddiwyd i lywio’r llinell sylfaen gael eu cyfeirnodi’n briodol. Dylid cytuno ar y dull o nodweddu’r llinell sylfaen gyda’r cyrff ymgynghori perthnasol, cyn belled ag y bo’n bosibl.

Pan fydd asesiadau Datganiad Amgylcheddol wedi’u seilio ar linell sylfaen yn y dyfodol, dylid ei disgrifio’n glir gan ddefnyddio sail resymegol a thybiaethau priodol.

Methodoleg asesu

Mae’r Rheoliadau AEA yn mynnu bod y Datganiad Amgylcheddol yn cynnwys disgrifiad o ‘effeithiau arwyddocaol tebygol y datblygiad arfaethedig ar yr amgylchedd’. Dylai’r Datganiad Amgylcheddol amlinellu’r fethodoleg asesu a ddefnyddiwyd i asesu effeithiau posibl a phennu arwyddocâd yr effaith ar gyfer pob agwedd a aseswyd, yn ogystal ag effeithiau cronnol a chydberthynasau.

Dylai’r fethodoleg gael ei seilio ar arfer gorau ac arweiniad proffesiynol cydnabyddedig pan fydd ar gael, a’i chytuno gyda chyrff ymgynghori perthnasol, cyn belled ag y bo’n bosibl. Os nad yw hyn yn bosibl, dylai’r Datganiad Amgylcheddol ddarparu cyfiawnhad rhesymedig gan gyfeirio at yr effeithiau tebygol a llwybrau effaith. Lle bynnag y bo’n bosibl, dylid defnyddio dulliau asesu meintiol yn hytrach nag ansoddol.

Dylai ardaloedd astudio gael eu seilio ar barthau dylanwad priodol yn hytrach na phellteroedd mympwyol. Lle y bo’n ymarferol, dylid defnyddio modelau ffynhonnell-llwybr-derbynnydd i bennu’r parth dylanwad, gan ystyried nodweddion y canlynol:

  • ffynhonnell – er enghraifft, pa lefel allyriadau sŵn a ddisgwylir a pha dystiolaeth y mae hyn wedi’i seilio arni
  • llwybr – beth yw’r llwybr a pha mor bell y gallai’r llwybr gludo effaith, er enghraifft cwrs dŵr, a pha mor bell y gallai llygryddion penodol gael eu gwasgaru
  • derbynnydd – er enghraifft, ble mae derbynyddion wedi’u lleoli o fewn y llwybr a ddiffinnir uchod ac y gallai’r ffynhonnell effeithio arnynt

Dylai’r cwmpas amserol ystyried effeithiau yn ystod gwaith dymchwel ac adeiladu, gweithredu (gan gynnwys cynnal a chadw) a datgomisiynu (lle y bo’n berthnasol, gweler isod). Dylai’r Datganiad Amgylcheddol ddiffinio effeithiau dros dro, tymor byr, tymor canolig a thymor hir ac esbonio sut mae’r rhain yn dylanwadu ar bennu arwyddocâd effeithiau.

Fe allai fod yn anodd asesu effeithiau o weithgareddau datgomisiynu oherwydd diffyg sicrwydd ynglŷn â dulliau, fframweithiau rheoleiddiol a llinellau sylfaen yn y dyfodol. Os yw’r DCO drafft yn cynnwys pwerau sy’n awdurdodi datgomisiynu neu’n diffinio hyd cyfyngedig ar gyfer prosiect, dylai’r Datganiad Amgylcheddol gynnwys asesiad o ddatgomisiynu sy’n seiliedig ar wybodaeth bresennol am y gweithdrefnau perthnasol. Fe ddylai ddisgrifio sut y dewiswyd y gweithdrefnau hyn ac amlinellu’r broses ar gyfer cadarnhau’r dull ac unrhyw fesurau lliniaru sy’n ofynnol cyn i ddatgomisiynu ddechrau.

Dylai’r asesiad gydnabod unrhyw ansicrwydd sy’n deillio o raddfeydd amser y datblygiad arfaethedig, a phan fydd effeithiau arwyddocaol yn debygol fe ddylai nodi’r fframwaith ar gyfer ailwerthuso’r rhain ar adeg pan fydd mwy o sicrwydd a phan fydd y mesurau lliniaru perthnasol wedi’u rhagnodi. Dylai unrhyw ailwerthusiad gael ei sicrhau trwy’r DCO.  

Pan ddeuir i’r casgliad y byddai effeithiau’n wrthdroadwy yn dilyn datgomisiynu neu ar ddiwedd oes y datblygiad arfaethedig, dylai’r Datganiad Amgylcheddol nodi dyddiad datgomisiynu tebygol, cynllun priodol ar gyfer adfer, a chadarnhau’r cyflwr amgylcheddol y byddai’n ofynnol i waith adfer ei gyflawni. Pan na fydd dyddiad datgomisiynu wedi’i sicrhau, dylai’r Datganiad Amgylcheddol gyfiawnhau’r dull hwn ac asesu effeithiau perthnasol fel petaent yn ‘barhaol’ i gyfleu senario achos gwaethaf.

Pennir arwyddocâd effeithiau fel arfer trwy gyfuno sensitifrwydd y derbynnydd a maint yr effaith. Dylid darparu diffiniadau clir o’r meini prawf hyn yn y Datganiad Amgylcheddol. Dylai’r asesiad ystyried p’un a yw effaith yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, yn gadarnhaol neu’n negyddol a ph’un a yw’n wrthdroadwy, yn barhaol neu dros dro yn y tymor byr, y tymor canolig neu’r tymor hir gan gyfeirio at ganllawiau perthnasol.

Mae’n hanfodol i’r Datganiad Amgylcheddol ddiffinio ystyr ‘arwyddocaol’ yng nghyd-destun pob un o’r agweddau a asesir ac i effeithiau arwyddocaol gael eu nodi’n glir. Mewn egwyddor, mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn defnyddio’r dull rhagofalus o asesu arwyddocâd effeithiau. Ystyrir bod ‘yn debygol o effeithio ar’ yn golygu bod tebygolrwydd neu risg y byddai’r datblygiad arfaethedig yn cael effaith, ac nid y byddai datblygiad yn cael effaith o’r fath yn bendant.

Fel yr amlinellir yn Atodlen 4 (paragraff 6) y Rheoliadau AEA, dylai’r Datganiad Amgylcheddol gynnwys disgrifiad o unrhyw anawsterau (diffygion technegol neu ddiffyg gwybodaeth) y daeth yr ymgeisydd ar eu traws wrth gasglu’r wybodaeth sy’n ofynnol.

Agweddau i’w hasesu

Mae Atodlen 4 y Rheoliadau AEA yn mynnu bod y Datganiad Amgylcheddol yn cynnwys, o leiaf, disgrifiad o’r effeithiau arwyddocaol tebygol ar yr agweddau amgylcheddol canlynol pan fyddant yn berthnasol i’r datblygiad arfaethedig (mae hyn yn cynnwys unrhyw effeithiau trawsffiniol a chronnol):

  • bioamrywiaeth (er enghraifft ffawna a fflora)
  • dŵr (er enghraifft newidiadau hydroforffolegol, cyfaint ac ansawdd)
  • aer
  • y dirwedd
  • treftadaeth ddiwylliannol, gan gynnwys agweddau pensaernïol ac archaeolegol
  • tir (er enghraifft cymryd tir)
  • pridd (er enghraifft deunydd organig, erydu, cywasgu, selio)
  • asedau materol
  • y boblogaeth
  • iechyd dynol
  • yr hinsawdd (er enghraifft allyriadau nwyon tŷ gwydr, effeithiau sy’n berthnasol i addasu)
  • damweiniau mawr a thrychinebau – y potensial i’r datblygiad arfaethedig eu hachosi, a bregusrwydd y datblygiad arfaethedig i risgiau o’r ffactor hwn

Dylai ymgeiswyr hefyd adrodd ar agweddau amgylcheddol eraill lle y ceir potensial ar gyfer effeithiau arwyddocaol tebygol, hyd yn oed os nad ydynt wedi’u henwi yn y Rheoliadau AEA.

Cydberthynasau rhwng effeithiau amgylcheddol

Mae’r Arolygiaeth o’r farn bod rhaid asesu’r cydberthynasau rhwng agweddau er mwyn mynd i’r afael ag effeithiau amgylcheddol y datblygiad arfaethedig yn eu cyfanrwydd. Er enghraifft, gellid asesu effeithiau ar iechyd dynol ar draws nifer o benodau, fel ansawdd aer, sŵn a dirgryniad, y dirwedd ac ati, neu gellid eu hasesu mewn pennod ar wahân ar iechyd dynol.

Dylai pob un o’r agweddau a ystyrir groesgyfeirio at agweddau eraill perthnasol pan fydd angen. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y Datganiad Amgylcheddol yn asesiad cynhwysfawr sy’n dwyn ynghyd effeithiau amgylcheddol y datblygiad arfaethedig.

Mesurau lliniaru a monitro

Dylai’r Datganiad Amgylcheddol amlinellu unrhyw fesurau lliniaru, ac i ba raddau y disgwylir i’r rhain osgoi, atal, lleihau neu wrthbwyso effeithiau andwyol ar yr agweddau amgylcheddol perthnasol. Fe ddylai ddangos sut y cymhwyswyd yr hierarchaeth liniaru, a nodi unrhyw fesurau digolledu a gwella arfaethedig yn unol â hynny. Ni ddylai mesurau lliniaru gael eu datblygu ar wahân oherwydd fe allent ymwneud â mwy nag un agwedd. Dylai mesurau lliniaru arfaethedig gael eu trafod gyda chyrff ymgynghori perthnasol a’u cytuno gyda nhw, lle y bo’n bosibl. Dim ond mesurau lliniaru sy’n ymrwymiad cadarn ac y gellir dangos bod modd eu cyflawni y dylid eu hystyried yn rhan o’r asesiad.

Dylai unrhyw drefniadau monitro a fyddai’n berthnasol gael eu disgrifio hefyd ochr yn ochr â disgrifiad o fesurau adferol arfaethedig. Dylai monitro ymwneud â meini prawf llwyddiant, rheoli addasol, ac adrodd yn rheolaidd ar weithredu mesurau lliniaru, digolledu a gwella. Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn annog ymgeiswyr i esbonio yn y Datganiad Amgylcheddol sut y byddai data monitro’n cael ei gyhoeddi a’i rannu gyda grwpiau cofnodi priodol fel LERCau ac MDE Ystad y Goron.

Dylai’r mesurau lliniaru a monitro a gynigir gael eu croesgyfeirio at ddarpariaethau a/ neu ofynion penodol a gynigir yn y DCO drafft (neu amod DML, os yw’n berthnasol). Dylai’r Datganiad Amgylcheddol amlinellu hyn yn glir mewn tabl crynhoi priodol neu ddull cyfatebol ar gyfer yr holl fesurau lliniaru a monitro.

Pan ddibynnir ar gynllun rheoli a/neu fonitro amgylcheddol, dylid cyflwyno cynllun(iau) amlinellol gyda’r cais. Dylai’r cynllun(iau) gynnwys digon o fanylion i alluogi awdurdod archwilio neu’r Ysgrifennydd Gwladol i fod yn hyderus y byddai’r cynllun(iau) terfynol yn gallu rhoi’r mesurau lliniaru angenrheidiol ar waith, ynghyd ag unrhyw fonitro sy’n ofynnol. Dylai’r Datganiad Amgylcheddol esbonio sut mae mesurau lliniaru wedi mynd i’r afael â’r cydberthynasau rhwng agweddau. Er enghraifft, mae angen i gynllun ar gyfer y dirwedd a bioamrywiaeth ystyried mesurau lliniaru ar gyfer yr asesiadau tirwedd a bioamrywiaeth.

Mae’n arfer da esbonio sut mae cynlluniau rheoli arfaethedig yn gysylltiedig â’i gilydd. Dylai ymgeisydd ystyried cynnwys diagram neu siart ‘hierarchaeth cynlluniau’.

Gwybodaeth a gyhoeddir ar y wefan Cynllunio Seilwaith Cenedlaethol

Bydd y dogfennau cyn-ymgeisio canlynol ar gael ar dudalen y prosiect perthnasol ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol:

  • ceisiadau sgrinio a chwmpasu ymgeisydd
  • unrhyw wybodaeth sgrinio a chwmpasu ychwanegol a geisiwyd gan yr Arolygiaeth Gynllunio ac a gyflwynwyd gan ymgeisydd
  • barn(au) sgrinio’r Arolygiaeth Gynllunio
  • barn gwmpasu/barnau cwmpasu’r Arolygiaeth Gynllunio, gan gynnwys yr holl ymatebion ymgynghori a dderbyniwyd o fewn y terfyn amser statudol
  • ymatebion hwyr i ymgynghoriad cwmpasu a dderbyniwyd ar ôl y terfyn amser statudol

Gan y bydd dogfennau cais yn cael eu cyhoeddi ar y wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol, dylai ymgeisydd osgoi cynnwys unrhyw ddata personol sy’n ymwneud ag unigolion yn y dogfennau.

Mae’r wefan Dod o Hyd i Brosiect Seilwaith Cenedlaethol yn cynnwys tudalen Map Prosiectau, sy’n dangos ffiniau cam cwmpasu a derbyn NSIPau ar gofrestr brosiectau’r Arolygiaeth Gynllunio yn seiliedig ar shapefiles GIS a ddarparwyd gan ymgeiswyr. Mae’n cynnwys swyddogaeth i lawrlwytho ffeil geo-ofodol o’r holl ffiniau prosiectau sydd ar gael.

Mae’r Arolygiaeth Gynllunio yn ystyried ei chyfrifoldebau diogelu data mewn perthynas â’r wybodaeth a ddarparwch i ni o ddifrif. Mae rhagor o wybodaeth am sut rydym yn defnyddio a rheoli’ch data personol ar gael yn ein hysbysiad preifatrwydd.

Rydym yn dilyn protocolau a sefydlwyd gan Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth, y mae rhagor o fanylion amdanynt ar gael yn www.ico.org.uk. Cysylltwch â’r tîm achos Seilwaith Cenedlaethol i gael rhagor o wybodaeth a chyngor ynglŷn â’r mater hwn.

Argraffu'r dudalen hon