Prosiectau Seilwaith o Arwyddocâd Cenedlaethol: Enghreifftiau o ddogfennau a gynhyrchwyd ym mhroses Deddf Cynllunio 2008
Mae’r cyngor hwn yn rhoi’r hyn sydd, ym marn yr Arolygiaeth Gynllunio, yn enghreifftiau defnyddiol o ddogfennau a gynhyrchwyd yn rhan o broses Deddf Cynllunio 2008.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Dogfennau enghreifftiol
Nid yw’r ffaith bod dogfen wedi’i chynnwys yn y cyngor hwn yn golygu bod yr Arolygiaeth Gynllunio yn cytuno â’r dystiolaeth a gyflwynir yn y ddogfen. Yn hytrach, mae’n dangos bod yr arddull, y fformat a/ neu’r dull a ddefnyddiwyd wedi bod yn fuddiol i’r broses. Ar gyfer pob dogfen, mae’r Arolygiaeth Gynllunio wedi datgan beth sy’n dda am y ddogfen enghreifftiol a, lle bo’n berthnasol, beth gellid ei wella.
Bydd dogfennau enghreifftiol yn cael eu hychwanegu at y rhestr pan fydd enghreifftiau addas yn cael eu hamlygu.
Rydym yn croesawu sylwadau ac awgrymiadau ynglŷn â dogfennau posibl i’w cynnwys yn y rhestr hon trwy anfon neges e-bost at NIEnquiries@planninginspectorate.gov.uk.
Rhestr o ddogfennau enghreifftiol
Math o ddogfen: Canllaw i’r cais
Prosiect: Prosiect Cysylltiad Richborough
Cyflwynwyd gan: Y Grid Cenedlaethol
Beth sy’n dda am yr enghraifft hon?
Gweithredodd y Canllaw i’r Cais hwn (PDF, 82KB) fel ‘dogfen ymarferol’, gan gyfleu’r holl ddiweddariadau a diwygiadau i ddogfennau’r cais ac unrhyw ddogfennau newydd a gyflwynwyd i’r archwiliad gan yr ymgeisydd. Fe’i diweddarwyd yn rhagweithiol gan yr ymgeisydd ar ôl pob dyddiad cau yn amserlen yr archwiliad.
Ar y cyd â Llyfrgell yr Archwiliad yr Arolygiaeth Gynllunio, roedd y ffaith bod yr ymgeisydd wedi cynhyrchu a chynnal y ddogfen hon wedi rhoi sicrwydd i’r Awdurdod Archwilio (ExA) a phartïon â buddiant ynglŷn â fersiynau dogfennau. Roedd hefyd wedi galluogi partïon â buddiant i wirio a oedd eu sylwadau’n cael eu gwneud yn seiliedig ar fersiwn ddiweddaraf y ddogfen a gyflwynwyd i’r archwiliad.
Bu o gymorth i’r ExA yn ystod y cyfnod adrodd, gan sefydlu cofnod cynhwysfawr o’r ‘cais terfynol’ o safbwynt yr ymgeisydd. Yn yr un cyd-destun, eglurodd hefyd ba fersiynau o ddogfennau yr oedd yr ymgeisydd yn bwriadu iddynt gael eu hardystio yn y Gorchymyn Cydsyniad Datblygu drafft argymelledig.
Mae’r ddogfen wedi’i strwythuro mewn modd defnyddiol oherwydd ei bod yn:
- dangos cyfeirnod Llyfrgell yr Archwiliad yr Arolygiaeth Gynllunio a chyfeirnod dogfen lleol cyfatebol yr ymgeisydd
- darparu cod lliw deuaidd clir i ddangos statws pob un o ddogfennau’r cais
- cynnal strwythur y cais fel y’i cyflwynwyd, sy’n hwyluso llywio
Beth gellid ei wella yn yr enghraifft hon?
Gellid bod wedi gwella’r ddogfen hon ymhellach trwy:
- ddarparu hyperddolenni i bob dogfen ar wefan yr Arolygiaeth Gynllunio
Math o ddogfen: Adroddiad ymgynghori
Prosiect: Fferm Wynt Alltraeth Triton Knoll
Cyflwynwyd gan: Triton Knoll Offshore Wind Farm Ltd
Beth sy’n dda am yr enghraifft hon?
Mae’r Adroddiad Ymgynghori hwn (PDF, 6MB) yn glir ac yn rhwydd ei lywio gyda diagram defnyddiol o’r broses yn agos i ddechrau’r adroddiad.
Math o ddogfen: Adroddiad ymgynghori
Prosiect: Dogger Bank Creyke Beck
Cyflwynwyd gan: Forewind
Beth sy’n dda am yr enghraifft hon?
Mae’r Adroddiad Ymgynghori hwn (PDF, 4MB) wedi’i strwythuro’n dda gan ei fod yn gwahanu ymarferion ymgynghori anstatudol a statudol a gynhaliwyd yn glir, yn ogystal ag ymarferion ymgynghori sy’n ofynnol o dan y Rheoliadau Asesu Effeithiau Amgylcheddol.
Mae hefyd yn cynnwys ‘Rhestr Wirio Cydymffurfio’ sy’n ddefnyddiol wrth adolygu dogfennau yn ystod y cam derbyn.
Mae’r tablau sydd wedi’u cynnwys yn yr adroddiad yn nodi’r gofynion yn ystod y cam derbyn yn glir. Mae hyn yn ddefnyddiol, unwaith eto, wrth adolygu cais.
Math o ddogfen: Sylwadau ar ddigonoldeb ymgynghori
Prosiect: Fferm Wynt Alltraeth Rampion
Cyflwynwyd gan: Cyngor Brighton a Hove
Beth sy’n dda am yr enghraifft hon?
Mae’r ddogfen Sylwadau ar Ddigonoldeb Ymgynghori hon (PDF, 1.9MB) yn gryno ond hefyd yn gynhwysfawr, ac mae’n cyfiawnhau’n glir pam roedd yr ymgynghoriad yn ddigonol ym marn yr awdurdod lleol.
Math o ddogfen: Adroddiad ar yr effaith leol
Prosiect: Atgyfnerthu (Llinell Drydan) Gogledd Llundain
Cyflwynwyd gan: Awdurdod Llundain Fwyaf
Beth sy’n dda am yr enghraifft hon?
Mae’r Adroddiad ar yr Effaith Leol hwn (PDF, 865KB) yn arbennig o ddefnyddiol gan ei fod yn defnyddio dull graddfa strategol o amlygu effeithiau o gynllun llinellol sy’n ymestyn ar draws sawl ardal awdurdod lleol, ac mae’n sicrhau bod yr effeithiau ar wasanaethau fel priffyrdd a thrafnidiaeth yn cael eu hintegreiddio.
Math o ddogfen: Adroddiad ar yr effaith leol
Prosiect: Fferm Wynt Alltraeth UN Dwyrain Anglia
Cyflwynwyd gan: Cyngor Sir Suffolk, Cyngor Dosbarth Canol Suffolk a Chyngor Dosbarth Arfordir Suffolk
Beth sy’n dda am yr enghraifft hon?
Mae’r Adroddiad ar yr Effaith Leol hwn (PDF, 2.4MB) yn darparu asesiad cynnar cynhwysfawr o’r holl brif effeithiau a amlygwyd gan yr Awdurdod Archwilio (ExA). Mae’n amlinellu’r cynlluniau datblygu amrywiol (gan gynnwys statws a pholisïau perthnasol pob un) ac wedyn yn rhoi asesiad clir o effeithiau o dan wahanol feysydd gyda chasgliad ar bob un. Mae hefyd yn esbonio sut gellid gwella’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu drafft neu ddogfennau cysylltiedig.
Mae’n cydymffurfio â chanllawiau perthnasol y llywodraeth a dogfen Cyngor ar gyfer awdurdodau lleol yr Arolygiaeth Gynllunio, yn benodol trwy aros yn wrthrychol a pheidio â dod i gasgliadau ynglŷn â derbynioldeb y datblygiad arfaethedig. Mae’n aros yn asesiad technegol o natur gynghorol i gynorthwyo’r ExA.
Mae hefyd yn enghraifft dda o awdurdodau lleol yn cydweithio.
Math o ddogfen: Datganiad tir cyffredin
Prosiect: Fferm Wynt Alltraeth Rampion
Cyflwynwyd gan: E.ON Climate and Renewables UK Rampion Offshore Wind Farm Limited ac Awdurdod Parc Cenedlaethol South Downs
Beth sy’n dda am yr enghraifft hon?
Mae’r Datganiad Tir Cyffredin hwn (PDF, 416KB) yn gryno ond mae’n darparu digon o wybodaeth i ddeall y safbwynt.
Mae’n ymdrin yn ddefnyddiol â materion na chytunwyd arnynt (neu ‘dir anghyffredin’) ac yn croesgyfeirio’r materion hyn i’r Adroddiad ar yr Effaith Leol i osgoi dyblygu.
Math o ddogfen: Datganiad tir cyffredin
Prosiect: Fferm Wynt Alltraeth Estyniad Walney
Cyflwynwyd gan: DONG Energy Walney Extension (UK) Limited a Natural England (diweddariad)
Beth sy’n dda am yr enghraifft hon?
Roedd y Datganiad Tir Cyffredin hwn (PDF, 1.8MB) yn canolbwyntio’n glir ar faterion a oedd heb eu datrys ac yn olrhain cynnydd tuag at ddatrysiad. Roedd hyn yn ddefnyddiol iawn i’r partïon a oedd yn gysylltiedig a rhoddodd wybod i’r Awdurdod Archwilio am y cynnydd diweddaraf a’r cynllun ar gyfer y dyfodol erbyn pob dyddiad cau yn yr amserlen archwilio.
Beth gellid ei wella yn yr enghraifft hon?
Gellid bod wedi gwella’r dogfennau hyn ymhellach trwy groesgyfeirio i ddogfennau perthnasol er mwyn cadw eu maint cyffredinol yn fyrrach.
Math o ddogfen: Datganiad cyffredinrwydd
Prosiect: Prosiect Cysylltiad Richborough
Cyflwynwyd gan: Y Grid Cenedlaethol
Beth sy’n dda am yr enghraifft hon?
Roedd y Datganiad Cyffredinrwydd (PDF, 706KB) yn ddogfen ‘ymarferol’ yn ystod y cam archwilio.
Cyflwynwyd y fersiwn gychwynnol (erbyn dyddiad cau 2) i ymateb i gais gan yr Awdurdod Archwilio (ExA) i’r ymgeisydd ddarparu tabl sy’n dangos cyffredinrwydd yn gysylltiedig â phwyntiau penodol rhwng datganiadau tir cyffredin (SoCGau). Yna, diweddarwyd y fersiwn gychwynnol sawl gwaith yn ystod yr archwiliad erbyn dyddiadau cau priodol, i ddangos y safbwynt wedi’i ddiweddaru ar y pwyntiau penodol.
Roedd strwythur clir a chyson y SoCGau unigol, a’r ddogfen Datganiad Cyffredinrwydd, o gymorth i’r ExA (a phartïon eraill) trwy roi trosolwg hygyrch o’r sefyllfa bresennol rhwng yr ymgeisydd a phartïon perthnasol. Cynorthwyodd hefyd i amlygu meysydd lle’r oedd gwahaniaeth barn rhwng partïon.
Roedd y ddogfen wedi’i strwythuro’n ddefnyddiol fel a ganlyn:
- rhoddodd adran 2 fanylion am strwythur pob dogfen SoCG a rhestr gyfredol o SoCGau (ar gyfer pob dyddiad cau yn yr archwiliad)
- rhoddodd adran 3 ddiweddariad ar statws pob SoCG
- rhoddodd adran 4 amlinelliad o’r cyffredinrwydd rhwng SoCGau a chrynodeb o’r prif faterion a oedd yn weddill
- rhoddodd adran 4.2 grynodeb o feysydd penodol lle yr amlygwyd bod materion ‘yn destun trafodaeth barhaus’ neu ‘heb eu cytuno’
Math o ddogfen: Ymateb i gwestiynau ysgrifenedig
Prosiect: Fferm Wynt Alltraeth Rampion
Cyflwynwyd gan: Natural England
Beth sy’n dda am yr enghraifft hon?
Roedd y ddogfen Ymatebion i Gwestiynau Ysgrifenedig hon (PDF, 647KB) wedi’i llunio’n ddefnyddiol ar ffurf tabl gyda’r cwestiwn a’r ymateb nesaf at ei gilydd.
Math o ddogfen: Sylw ysgrifenedig
Prosiect: Fferm Wynt Alltraeth Estyniad Banc Burbo
Cyflwynwyd gan: Cwmni Dociau a Harbwr Mersi
Beth sy’n dda am yr enghraifft hon?
Mae’r Sylw Ysgrifenedig hwn (PDF, 1.4MB) yn gosod y cyd-destun, yn rhesymegol ac yn amlinellu mesurau lliniaru (a rhesymau).
Math o ddogfen: Ymagwedd ddylunio at seilwaith penodol i safle
Prosiect: Prosiect Cysylltiad Pwynt Hinkley C
Cyflwynwyd gan: Y Grid Cenedlaethol
Beth sy’n dda am yr enghraifft hon?
Mae’r Gorchymyn Cydsyniad Datblygu (DCO) ar gyfer Prosiect Cysylltiad Pwynt Hinkley C (HPCC) yn cynnwys gofyniad sy’n datgan bod rhaid i gynlluniau cymeradwyo ôl-gydsyniad ar gyfer seilwaith penodol gael eu cynhyrchu gan roi ystyriaeth i’r Ymagwedd Ddylunio at Seilwaith Penodol i Safle (DASSI) (PDF, 60MB), oni bai bod yr awdurdod cynllunio perthnasol yn cytuno fel arall.
Mae’r DASSI yn ategu Datganiad Dylunio a Mynediad HPCC trwy ddarparu egwyddorion dylunio y byddai cynigion dylunio manwl yn cael eu darparu ar eu cyfer i gyflawni gofynion y DCO ar ôl cael cydsyniad.
Ystyrir ei bod yn arfer da oherwydd ei bod yn:
- diffinio cyd-destun y dirwedd a derbynyddion
- esbonio prosesau gweithredol y seilwaith
- amlinellu’r sail resymegol dros leoli a dylunio’r seilwaith penodol i safle
- amlinellu gweledigaeth gyffredinol
- amlinellu egwyddorion dylunio o ran màs, graddfa, deunyddiau a gweadau, ac arddull ddylunio
- cynnwys llawer o ddarluniau gan roi enghreifftiau (nid rhai i’w hefelychu o reidrwydd, ond enghreifftiau dyheadol o arloesedd dylunio)
- dadansoddi’r cyfle i wneud amrywiadau wrth ddatblygu dyluniad manwl
- crynhoi gofynion a phrosesau cymeradwyo’r DCO
Math o ddogfen: Canllaw technegol ar gyfer cynhyrchu, storio, cynnal a chadw a datgomisiynu pŵer solar
Prosiect: Parc Solar Little Crow
Cyflwynwyd gan: INRG Solar (Little Crow) Ltd
Beth sy’n dda am yr enghraifft hon?
Mae’r Canllaw Technegol hwn (PDF, 8.9MB) yn helpu i ddeall sut byddai’r orsaf gynhyrchu solar a’r system batris storio ynni ym Mharc Solar Little Crow yn gweithredu a rhyngweithio â’r rhwydwaith trydan lleol.
Mae’n rhoi esboniad mewn iaith glir sy’n ymdrin â’r canlynol:
- terminoleg dechnegol
- sut mae paneli solar yn cynhyrchu trydan
- esblygiad y dechnoleg gynhyrchu hon a beth mae hynny’n ei olygu i allbwn paneli
- y proffil cynhyrchu trydan disgwyliedig ar gyfer gorsaf gynhyrchu solar
- sut mae’r trydan a gynhyrchir yn cyrraedd y rhwydwaith dosbarthu trydan
- gweithrediad y system batris storio, gofynion cynnal a chadw a datgomisiynu
Updates to this page
-
Added translation
-
First published.