Canllawiau

Cyfleusterau deunyddiau: samplu gwastraff ac adroddiadau o fis Hydref 2024 ymlaen

O 1 Hydref 2024 ymlaen, bydd angen i ragor o gyfleusterau deunyddiau samplu eu gwastraff a chyflwyno adroddiadau arno. Bydd y gwaith samplu ac adrodd yn fanylach ac yn amlach o dan y rheoliadau diwygiedig.

Applies to England and Wales

Dylai gweithredwyr cyfleusterau deunyddiau (MFs) wirio a fydd Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) 2016 yn gymwys iddyn nhw ai peidio o fis Hydref 2024 ymlaen.

Dylai pob busnes mae’r rheoliadau’n effeithio arno o fis Hydref 2024 ymlaen fynd ati i gael gwybod beth sy’n newid a sut y dylen nhw baratoi.

Bydd y rheoliadau diwygiedig yn golygu:

  • y bydd rhaid i ragor o MFs weithredu o dan y rheoliadau
  • y bydd ffrydiau gwastraff sengl yn cael eu mesur a’u hadrodd am y tro cyntaf
  • y bydd amlder y samplu yn cynyddu i 60kg am bob 75 tunnell o ddeunydd sy’n dod i mewn
  • y bydd angen i MFs fesur a chyflwyno adroddiadau ar 10 math o ddeunydd gwastraff sy’n dod i mewn yn hytrach na 4 a dweud o ble mae’r deunydd gwastraff yn dod.
  • y bydd angen samplu a chyflwyno adroddiadau am gyfran y deunyddiau pecynwaith a’r cynllun dychwelyd ernes (DRS)
  • bod rhaid i’r holl ddata sy’n cael ei gasglu (nid cyfartaleddau yn unig) gael eu hadrodd i’r rheoleiddiwr

Pwy sy’n cael eu heffeithio o fis Hydref 2024 ymlaen

O fis Hydref 2024 ymlaen, bydd yn ofynnol i lawer o gyfleusterau deunyddiau (MFs) weithredu o dan y rheoliadau am y tro cyntaf.

Mae hyn yn cynnwys MFs:

  • sy’n derbyn ac yn rheoli o leiaf 1,000 o dunelli o wastraff cartrefi (neu wastraff tebyg i wastraff cartrefi) y flwyddyn, gan gynnwys ffrydiau gwastraff sengl neu wastraff sydd eisoes wedi’i wahanu wrth ei gasglu
  • sy’n cydgrynhoi neu’n ‘swmpio’ gwastraff (er enghraifft, gorsafoedd swmpio neu drosglwyddo) oddi wrth nifer o gyflenwyr
  • sy’n didoli gwastraff yn ddeunyddiau allbwn penodol, fel caniau alwminiwm neu gardfwrdd

Bydd angen i MFs hunanasesu i ddarganfod a yw’r rheoliadau’n gymwys iddyn nhw ai peidio.

Hysbysu’r rheoleiddiwr

Os ydych chi’n weithredwr MF y mae’r rheoliadau’n effeithir arno am y tro cyntaf ym mis Hydref 2024, bydd angen ichi hysbysu’r rheoleiddiwr yn ysgrifenedig. Y rheoleiddiwr yw:

  • Cyfoeth Naturiol Cymru os ydych chi yng Nghymru
  • Asiantaeth yr Amgylchedd os ydych chi yn Lloegr

Bydd angen ichi hunanasesu ar ddechrau pob cyfnod adrodd o 3 mis.

Bydd angen ichi hysbysu’r rheoleiddiwr ar ddiwedd eich cyfnod adrodd cyntaf o 3 mis os yw’r ddau o’r canlynol yn gymwys:

  • bod eich math chi o MF wedi’i gynnwys yn y rheoliadau am y tro cyntaf
  • bod eich asesiad yn dangos eich bod yn debygol o dderbyn o leiaf 1,000 o dunelli o wastraff cartrefi neu wastraff tebyg i wastraff cartrefi yn ystod y 12 mis nesaf

Er enghraifft, os gwnewch chi’ch asesiad cyntaf yn y cyfnod adrodd sy’n dechrau ym mis Hydref 2024, bydd angen ichi hysbysu’r rheoleiddiwr cyn diwedd mis Rhagfyr 2024.

Does dim angen ichi barhau i hysbysu’r rheoleiddiwr ar ôl y tro cyntaf.

Os yw’ch hunanasesiad chwarterol yn dangos nad ydych chi mwyach yn debygol o dderbyn o leiaf 1,000 o dunelli o wastraff dros y 12 mis nesaf, rhaid ichi ddweud wrth y rheoleiddiwr nad yw’r rheoliadau yn effeithio arnoch chi bellach.

Cyfnodau adrodd

Mae pedwar cyfnod adrodd mewn blwyddyn, sef:

  • 1 Ionawr i 31 Mawrth
  • 1 Ebrill i 30 Mehefin
  • 1 Gorffennaf i 30 Medi
  • 1 Hydref i 31 Rhagfyr

Cyfleusterau deunyddiau sy’n aros y tu allan i’r rheoliadau

Mae MFs y tu allan i’r rheoliadau os oes unrhyw un neu ragor o’r canlynol yn gymwys:

  • eu bod yn delio â nwyddau trydan gwastraff yn unig
  • eu bod yn derbyn ac yn cydgrynhoi gwastraff oddi wrth un cyflenwr yn unig (er enghraifft, gwastraff un awdurdod lleol)
  • eu bod nhw’n gyfleusterau a ddarperir gan gynghorau ar gyfer ailgylchu a gwaredu gwastraff cartrefi (er enghraifft, canolfannau ailgylchu gwastraff cartrefi)

Beth i’w fesur a’i gofnodi o fis Hydref 2024 ymlaen

Yn ystod pob cyfnod adrodd o 3 mis, rhaid i MFs fesur a chofnodi:

  • pwysau cyfanswm y deunydd gwastraff sydd wedi dod i law oddi wrth bob cyflenwr (deunydd mewnbwn)
  • enw a chyfeiriad cyflenwr pob llwyth
  • dyddiad derbyn llwyth pob cyflenwr
  • pwysau’r deunydd sy’n gadael y safle (deunydd allbwn), y dyddiad y mae’n gadael a’i gyrchfan
  • mesuriadau samplu ar gyfer deunyddiau mewnbwn ac, os oes angen, deunyddiau allbwn

Rhaid cyflwyno adroddiad ar yr wybodaeth hon i’r rheoleiddiwr ar ddiwedd y cyfnod adrodd.

Samplu’r mewnbwn

Samplu’r mewnbwn yw’r broses o gymryd samplau o wastraff sy’n dod i mewn er mwyn mesur ei gyfansoddiad a’i ansawdd. O fis Hydref 2024 ymlaen, rhaid ichi samplu’r mewnbwn os ydych chi:

  • yn cydgrynhoi deunyddiau gwastraff 2 neu fwy o gyflenwyr
  • yn didoli gwastraff yn ddeunydd allbwn penodedig cyn ei anfon i rywle arall i gael ei baratoi i’w ailddefnyddio neu ei ailgylchu

Bydd angen ichi gymryd un sampl o 60kg am bob 75 tunnell o wastraff sy’n dod i law oddi wrth bob cyflenwr.

Bydd angen ichi fesur a chofnodi:

  • cyfansoddiad pob sampl
  • cyfanswm y samplau a gymerwyd oddi wrth bob cyflenwr
  • cyfanswm y pwysau mewn kg o’r holl samplau oddi wrth bob cyflenwr
  • cyfanswm pob math o ddeunydd fel cyfran o’r sampl y mae’n rhan ohoni
  • y gyfran o bob math o ddeunydd (ac eithrio gwydr) a nodwyd fel pecynwaith neu gynwysyddion diodydd sy’n rhan o’r cynllun dychwelyd ernes (DRS)

Categorïau deunydd gwastraff

Bydd angen ichi nodi’r gwastraff o fewn sampl fel un o dri chategori o ddeunydd:

  • deunydd targed – deunydd y mae angen ei wahanu oddi wrth ddeunydd gwastraff arall neu ei gydgrynhoi’n feintiau swmp o ddeunydd penodol
  • deunydd nad yw’n ddeunydd targed – deunydd a all gael ei ailgylchu ond na fydd yn cael ei wahanu na’i gydgrynhoi
  • deunydd nad yw’n gallu cael ei ailgylchu

10 math o ddeunydd mewnbwn

O fis Hydref 2024 ymlaen, rhaid nodi deunydd gwastraff o fewn sampl fel un o 10 math o ddeunydd mewnbwn. (Pedwar math sydd ar hyn o bryd.)

Y 10 math o ddeunydd mewnbwn o fis Hydref 2024 ymlaen yw:

  • gwydr
  • alwminiwm
  • dur
  • papur
  • cerdyn
  • poteli plastig
  • potiau, tybiau a hambyrddau plastig
  • ffilm neu blastig hyblyg arall
  • plastig arall
  • deunydd cyfansawdd wedi’i seilio ar ffeibrau

Deunyddiau pecynwaith a’r cynllun dychwelyd ernes (DRS)

Yn eich samplau mewnbwn ac allbwn, rhaid ichi fesur a chofnodi

  • y gyfran sy’n becynwaith
  • y gyfran sy’n becynwaith DRS

Pecynwaith gwydr a’r DRS

Does dim angen ichi fesur a chofnodi pecynwaith gwydr yn rheolaidd.

Er hynny, gall y rheoleiddwyr ofyn am samplau mewnbwn ac allbwn o becynwaith gwydr. Bydd yn rhaid iddyn nhw:

  • rhoi o leiaf 4 wythnos o rybudd i MFs cyn dechrau’r cyfnod adrodd y cymerir y mesuriadau ynddo.
  • nodi’r isafswm samplau ar gyfer pob cyflenwr

Bydd angen i MFs gadw cofnodion o’u methodolegau wrth gymryd a mesur samplau. Y rheswm am hyn yw er mwyn sicrhau bod y samplau’n adlewyrchu cyfansoddiad y deunydd gwastraff cyffredinol yn gywir.

Samplu’r allbwn

Bydd angen i MFs sy’n didoli gwastraff pecynwaith yn ddeunydd allbwn penodedig gofnodi gradd y deunydd allbwn penodedig, gan gyfeirio at y deunyddiau canlynol:

  • gwydr
  • papur
  • cerdyn
  • alwminiwm
  • dur
  • plastig
  • cyfansoddion wedi’u seilio ar ffeibrau

Mae graddio yn ddisgrifiad sy’n seiliedig ar fanyleb y deunydd. Er enghraifft, gall graddau gwydr fod yn seiliedig ar liw, fel gwydr clir ‘fflint’. Gall graddau plastig fod yn seiliedig ar bolymerau, fel poteli polyethylen dwysedd-uchel (HDPE) lliw.

Ar ôl graddio’r deunydd, bydd angen i’r MFs gymryd sampl, yna mesur a chofnodi:

  • cyfanswm yr holl samplau a gymerwyd mewn cyfnod adrodd
  • cyfanswm pwysau mewn kg yr holl samplau a gymerwyd mewn cyfnod adrodd
  • y dyddiad y cymerwyd y sampl
  • p’un a yw’r deunydd yn ddeunydd targed, yn ddeunydd heblaw deunydd targed neu’n ddeunydd na all gael ei ailgylchu
  • cyfrannau’r pecynwaith a’r deunydd DRS
  • manylion y fethodoleg samplu a ddefnyddiwyd, i ddangos sut mae’r MFs yn sicrhau bod y samplau yn adlewyrchu cyfansoddiad y deunydd gwastraff yn gywir

Amlder a maint y samplau

Mae amlder a maint y samplau yn dibynnu ar y deunydd allbwn penodedig. Pan fydd dau neu ragor o ddeunyddiau mewn allbwn penodol, defnyddiwch amlder a maint y deunydd sydd â’r ffigur isaf yn y golofn amlder isaf yn y tabl.

Enghreifftiau:

  • byddai cymysgedd o blastig ac alwminiwm angen amlder o bob 15 tunnell, a maint sampl o 20kg
  • byddai cymysgedd o ddur a gwydr angen amlder o bob 20 tunnell, a maint sampl o 10kg
Deunydd allbwn penodedig Isafswm amlder Pwysau’r sampl
Gwydr bob 50 tunnell 10kg
Papur a cherdyn bob 60 tunnell 50kg
Metel (alwminiwm, dur neu’r ddau) bob 20 tunnell 10kg
Plastig bob 15 tunnell 20kg
Cyfansoddion wedi’u seilio ar ffeibrau bob 60 tunnell 50kg

Adroddiadau

Rhaid ichi:

  • cyflwyno adroddiad ar yr holl fesuriadau a chofnodion a gymerwyd yn ystod y cyfnod adrodd 3 mis
  • cyflwyno adroddiad ar ddiwedd pob cyfnod adrodd mewn fformat electronig a ddarperir gan y rheoleiddiwr
  • cyflwyno adroddiadau o fewn mis ar ôl diwedd y cyfnod adrodd
  • cadw cofnodion am 7 mlynedd o’r mesuriadau a gymerwyd a’r adroddiadau a gynhyrchwyd, a’u cyflwyno os yw’r rheoleiddiwr yn gofyn amdanyn nhw

Wedi’u cyhoeddi 28 Mehefin 2023

Cyhoeddwyd ar 28 June 2023
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 March 2024 + show all updates
  1. This update adds more details on which materials facilities will be in and out of scope of these regulations, gives examples of who is affected, gives more detail on sampling requirements, and adds examples for sampling too.

  2. Added Welsh translation.

  3. First published.