Canllawiau

Rheoli eich cyllid Cynllun Kickstart

Sut y bydd cyflogwyr yn cael cyllid y Cynllun Kickstart a newidiadau mae'n rhaid i chi ddweud wrthym amdanynt.

This guidance was withdrawn on

The Kickstart Scheme has closed.

Applies to England, Scotland and Wales

Canllawiau cyflogwr

  1. Darganfyddwch sut mae cynllun Kickstart yn gweithio

  2. Rheoli eich cyllid

Os ydych yn borth Kickstart, gwiriwch y canllawiau ar gyfer pyrth.

Cyn y gallwch reoli eich cyllid Cynllun Kickstart

Mae’n rhaid i chi fod:

  • wedi gwneud cais llwyddiannus ar-lein neu fod wedi gwneud cais trwy borth Kickstart am grant Cynllun Kickstart cyn hanner dydd ar 17 Rhagfyr 2021
  • wedi llofnodi a dychwelyd eich cytundeb grant Cynllun Kickstart i DWP neu’ch porth Kickstart erbyn 11:59pm ar 7 Ionawr 2022
  • dylech fod wedi cyflwyno eich swyddi gwag i DWP erbyn 11.59pm ar 31 Ionawr 2022
  • wedi dechrau’r person ifanc yn y swydd ar neu cyn 31 Mawrth 2022
  • wedi dweud wrthym erbyn 11:59pm ar 30 Tachwedd 2022 fod y person ifanc wedi dechrau ei swydd

Sut mae’r cyllid yn cael ei gyfrifo ar gyfer pob person ifanc

Mae cyfanswm y grant yn cynnwys:

  • 25 awr bob wythnos ar Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu Gyflog Byw Cenedlaethol (yn dibynnu ar eu hoedran ar ddiwedd y swydd) wedi’i luosi â 26 wythnos
  • Cyfraniadau Yswiriant Gwladol a phensiwn yn y gweithle
  • yna ychwanegir y cyllid o £1,500 ar gyfer costau sefydlu at y swm hwn

  • Er enghraifft, os yw person ifanc yn dechrau y swydd yn 17 oed ac yn 18 oed cyn diwedd y 26 wythnos, bydd y cyllid yn talu Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer pobl 18 oed o ddiwrnod cyntaf eu swydd.

Sut y cewch gyllid Cynllun Kickstart

Os gwnaethoch gais ar-lein, bydd DWP yn anfon y cyllid yn uniongyrchol atoch chi.

Os gwnaethoch gais trwy borth Kickstart, bydd DWP yn anfon yr arian atynt hwy. Bydd porth Kickstart yn gyfrifol am anfon y cyllid atoch cyn pen 5 diwrnod gwaith o’i dderbyn gan DWP.

Cyllid o £1,500 ar gyfer costau sefydlu fesul swydd

Byddwch yn cael cyllid o £1,500 fesul swydd. Dylai hyn gael ei wario ar gostau sefydlu a chefnogi’r person ifanc i ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd.

Er enghraifft:

  • cefnogaeth hyfforddiant a chyflogadwyedd (a ddarperir gennych chi, porth Kickstart neu ddarparwr arall)
  • offer a meddalwedd TG
  • gwisg neu Offer Amddiffynnol Personol

Efallai bydd DWP yn gofyn i chi am eich cofnodion i ddangos eich bod wedi gwario’r cyllid ar gostau sefydlu ac yn cefnogi cyflogadwyedd y person ifanc.

Sut y cewch y £1,500

Os gwnewch gais yn uniongyrchol, telir y cyllid o £1,500 ar gyfer costau sefydlu pan ddywedwch wrthym fod y person ifanc wedi dechrau’r swydd (rhaid eich bod wedi gwneud hyn erbyn 11:59pm ar 30 Tachwedd 2022). Fe’ch hysbysir sut i wneud hyn yn yr e-bost a dderbyniwch pan fydd anogwr gwaith yn atgyfeirio person ifanc at eich swydd wag.

Os gwnewch gais trwy borth Kickstart, mae angen i chi ddweud wrthynt pryd mae’r person ifanc yn dechrau ei swydd. Yna gallant anfon y cyllid o £1,500 atoch ar ôl iddynt ei dderbyn gan DWP. Rhaid iddynt ddweud wrthym am ddechrau’r swydd erbyn 11:59pm ar 30 Tachwedd 2022.

Os yw porth Kickstart neu ddarparwr arall yn gwneud rhywfaint o’r cymorth sefydlu swyddi neu gyflogadwyedd i chi, gallwch ddefnyddio’r cyllid o £1,500 i dalu am hyn.

Cyflog a chostau perthnasol Cynllun Kickstart

Mae’r cyllid yn cwmpasu:

Gall cyflogwyr dalu cyflog uwch ac am fwy o oriau, ond ni fydd y cyllid yn cwmpasu hyn.

Sut y cewch y cyllid ar gyfer cyflogau a chostau cysylltiedig

Bob 30 diwrnod rydym yn defnyddio gwybodaeth gan Gyllid a Thollau EM i wirio bod y person ifanc yn cael ei dalu trwy Talu Wrth Ennill (TWE).

Yna byddwn yn anfon y cyllid ar gyfer y cyflogau a’r costau cysylltiedig i dalu am y 30 diwrnod blaenorol o gyflogaeth.

Bob tro byddwch chi’n derbyn hysbysiad talu yn egluro’r hyn sydd gennych chi. Byddwch yn gallu adnabod y person ifanc yn y hysbysiad talu trwy ei ‘Cais ID’. Byddwn yn anfon cais ID atoch mewn e-bost pan fydd yr unigolyn yn cael ei atgyfeirio gan anogwr gwaith at eich swydd.

Amserlen cyllid

Mae’r tabl yn dangos pryd yr anfonir y cyllid at naill ai:

  • atoch chi os gwnaethoch gais yn uniongyrchol
  • eich porth (yna bydd angen iddynt drosglwyddo’r cyllid atoch o fewn 5 diwrnod gwaith)
Math o gyllid Pan fyddwn fel arfer yn prosesu’r cyllid Pan fyddwch fel arfer yn derbyn yr arian
Costau sefydlu Ar ôl i chi neu’ch porth ddweud wrth DWP, bod y person ifanc wedi dechrau (gwnewch hyn erbyn 11:59pm ar 30 Tachwedd 2022) Hyd at 11 diwrnod gwaith ar ôl iddo gael ei brosesu
Taliad cyflog cyntaf 6 wythnos ar ôl y dyddiad dechrau Hyd at 11 diwrnod gwaith ar ôl iddo gael ei brosesu
Pob taliad cyflog arall 30 diwrnod ar ôl y taliad cyflog blaenorol Hyd at 11 diwrnod gwaith ar ôl iddo gael ei brosesu

Y diwrnod olaf ar gyfer prosesu taliadau yw 30 Tachwedd 2022.

Cyhoeddwyd ar 13 September 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 August 2022 + show all updates
  1. The deadline for telling DWP that a young person has started their job is 30 November 2022.

  2. Updated page because the deadline for telling us that the young person has started their job has now passed.

  3. Updated page as the deadline for submitting vacancies has now passed.

  4. Updated page as the deadline for grant agreements to be signed and returned has now passed.

  5. Updated page to say applications for Kickstart Scheme funding closed at midday on 17 December 2021 and removed links to the apply guides.

  6. Added deadlines for completing Kickstart Scheme tasks.

  7. Added information about Kickstart Scheme applications closing on 17 December 2021.

  8. First published.