Gwnewch adroddiad chwythwr chwiban
Canllawiau ar sut i wneud adroddiad chwythwr chwiban i'r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd.
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i roi gwybod i’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) am unrhyw weithgareddau anghyfreithlon a amheuir neu ymddygiad amheus a gyflawnir gan y busnes neu’r sefydliad yr ydych yn cael eich cyflogi ganddo, neu yr oeddech yn cael eich cyflogi ganddo yn flaenorol.
Dywedwch wrthym os ydych chi’n credu bod y busnes wedi:
- torri cyfraith cystadleuaeth
- defnyddio arferion masnachu annheg
Anhysbysrwydd
Fel rhan o’ch adroddiad, gallwch ddewis rhoi manylion cyswllt i ni neu aros yn ddienw.
Oherwydd nifer y cyflwyniadau, ni all y CMA ymateb yn uniongyrchol i bob adroddiad a dderbyniwn, fodd bynnag rydym yn monitro’r wybodaeth a ddarperir ac yn cymryd camau lle bo’n briodol.
O ganlyniad i’ch adroddiad, efallai y byddwn yn:
- cysylltu â chi am ragor o wybodaeth (os dewiswch ddarparu manylion cyswllt)
- ymchwilio a chymryd camau gweithredu (er enghraifft, drwy lansio achos CMA newydd)
- erlyn pobl sy’n ymwneud ag ymddygiad cartel anghyfreithlon
Dysgwch fwy am chwythu’r chwiban (in English) a beth mae’n ei olygu i fod yn chwythwr chwiban, gan gynnwys eich hawliau a sut y byddwn yn diogelu eich hunaniaeth.
Gwybodaeth y bydd angen i chi ei darparu
Ni fyddwch yn gallu cadw eich cyflwyniad a dod yn ôl ato yn ddiweddarach, felly mae’n bwysig bod y rhain yn barod gennych:
- disgrifiad o’r mater
- tystiolaeth ategol, er enghraifft: negeseuon e-bost, sgrinluniau neu ddogfennau