Canllawiau

Gwneud hysbysiad i CThEF i ddod yn gwmni sy’n dal asedion cymwys

Rhowch wybod i CThEF os yw cwmni eisiau ymuno â’r gyfundrefn cwmnïau sy’n dal asedion cymwys (QAHC), llenwi datganiad gwybodaeth neu wneud hysbysiadau eraill.

Bydd buddsoddwr mewn cwmni sy’n dal asedion cymwys (QAHC) yn cael canlyniad treth tebyg i’r hyn sy’n deillio o fuddsoddi yn asedion gwaelodol y cwmni. Bydd hysbysiad QAHC yn cael ei drethu ar elw sydd mewn perthynas â’r gweithgarwch y mae’n ei gyflawni.

Wrth fod ynghlwm â QAHC, bydd angen i chi wneud y canlynol:

  • gwneud hysbysiad mynediad — cyn y caiff cwmni ymuno â’r gyfundrefn
  • gwneud datganiad gwybodaeth — gofyniad blynyddol sydd ar wahân i Ffurflen Dreth y Cwmni

Mae’n bosibl y bydd angen i chi roi gwybod i ni os bydd unrhyw ddigwyddiadau eraill, er enghraifft torri’r meini prawf cymhwystra.

Er mwyn ymuno â’r gyfundrefn, bydd yn rhaid i gwmni fodloni meini prawf cymhwystra penodol.

Os nad ydych yn siŵr a yw’ch cwmni’n bodloni’r amodau gofynnol, gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am feini prawf cymhwystra yn y Llawlyfr Cronfeydd Buddsoddi (yn agor tudalen Saesneg).

Gallwch gysylltu â ni os nad ydych yn siŵr o hyd.

Mae’n bosibl y byddwch eisiau cyflwyno cais clirio anstatudol (yn agor tudalen Saesneg).

Mae grym cyfraith yn perthyn i’r hysbysiad canlynol.

Hysbysiad — gofyniad i wneud hysbysiadau a datganiadau drwy’r cysylltiad sydd wedi’i nodi ar y dudalen hon (FA22/SCH2/PARA57)


Mae CThEF yn gofyn bod hysbysiadau a datganiadau gwybodaeth QAHC yn cael eu gwneud yn electronig, gan ddefnyddio’r cysylltiad sydd wedi’i nodi ar y dudalen hon. Os bydd unrhyw un o’r hysbysiadau sy’n cael eu nodi ar y dudalen hon yn cael eu gwneud drwy unrhyw ddull arall, ni fydd CThEF yn eu derbyn — ni fyddant yn ddilys.

Os ydych yn dewis ymuno â’r gyfundrefn QAHC

Mae’n rhaid i chi fodloni’r holl feini prawf cymhwystra.

I wneud hysbysiad ymuno, bydd angen yr wybodaeth ganlynol arnoch:

  • enw’r cwmni
  • cyfeirnod unigryw y trethdalwr (UTR) ar gyfer y cwmni (os oes un gennych)
  • dyddiad ymuno — mae’n rhaid i hwn fod ar ôl y dyddiad y gwnaethoch yr hysbysiad mynediad
  • datganiad sy’n nodi y bydd y cwmni yn bodloni’r holl feini prawf cymhwystra ar y dyddiad ymuno — bydd angen datganiad gwahanol arnoch os na fyddwch yn bodloni’r amod perchnogaeth

Os nad yw’r cwmni yn breswyl yn y DU wrth wneud yr hysbysiad, bydd angen y canlynol arnoch:

  • tiriogaeth breswyl gyfredol
  • rhif cofrestru’r cwmni
  • y dyddiad y mae’r cwmni yn bwriadu bod yn breswyl yn y DU — ni chaiff y dyddiad hwn fod cyn y dyddiad ymuno

Os nad ydych yn bodloni’r amod perchnogaeth

Bydd angen i chi wneud datganiad gwahanol fel rhan o’ch hysbysiad mynediad. Mae’n rhaid i chi ddatgan bod y cwmni yn gwneud y canlynol:

  • cyrraedd yr holl feini prawf cymhwystra ar y dyddiad ymuno, oni bai am yr amod perchnogaeth
  • disgwyl yn rhesymol y bydd yn cyrraedd yr amod perchnogaeth cyn pen y ddwy flynedd gyntaf o’r dyddiad ymuno

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am feini prawf cymhwystra yn y Llawlyfr Cronfeydd Buddsoddi (yn agor tudalen Saesneg).

Paratoi ar gyfer gwneud datganiad gwybodaeth QAHC

Ar ddiwedd pob cyfnod cyfrifyddu, bydd yn rhaid i chi wneud datganiad gyda’r wybodaeth ganlynol am y QAHC:

  • enw’r cwmni
  • cyfeirnod unigryw y trethdalwr (UTR) ar gyfer y cwmni
  • enw, cyfeiriad a UTR y person sydd wedi darparu gwasanaethau rheoli buddsoddiad i’r cwmni yn ystod y cyfnod cyfrifyddu — os mai partneriaeth wnaeth ddarparu’r gwasanaethau, nodwch wybodaeth y bartneriaeth yn hytrach na gwybodaeth benodol ar gyfer un o’r partneriaid
  • amcangyfrif o gyfanswm gwerth marchnadol asedion y busnes a ddiogelir ar ddiwedd y cyfnod cyfrifyddu hwnnw
  • enillion gros a ddeilliodd o waredu asedion o’r busnes a ddiogelir yn ystod y cyfnod cyfrifyddu
  • swm unrhyw daliadau a wnaed gan y cwmni wrth iddo adbrynu, ad-dalu neu brynu ei gyfranddaliadau ei hun

Mae’r hysbysiad hwn ar wahân, ac yn ategol i Ffurflen Dreth y Cwmni sy’n ofynnol i gwmni ei chyflwyno.

Cosbau

Os nad ydych yn cwblhau’r datganiad gwybodaeth erbyn y dyddiad cau, bydd eich cwmni’n agored i gosb benodol o £300. Y dyddiad cau yw’r dyddiad ar gyfer cyflwyno Ffurflen Dreth y Cwmni ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu perthnasol.

Hysbysiadau eraill y gallai fod angen i chi eu gwneud

Ar ôl i chi ymuno â’r gyfundrefn QAHC am y tro cyntaf, bydd angen i chi barhau i wneud hysbysiadau am amgylchiadau eraill, lle bo’r canlynol yn berthnasol:

  • mae’r amod perchnogaeth wedi’i dorri o fewn y ddwy flynedd gyntaf
  • nid oes tebygolrwydd o fodloni’r amod perchnogaeth o fewn y ddwy flynedd gyntaf
  • mae un o’r meini prawf cymhwystra wedi’i dorri ac mae’r cwmni wedi ymadael â’r gyfundrefn
  • mae’r amod gweithgaredd wedi’i dorri ac rydych yn dymuno bod y cwmni yn dechrau cyfnod unioni
  • mae’r amod perchnogaeth wedi’i dorri ac rydych yn dymuno bod y cwmni yn dechrau cyfnod unioni
  • mae’r amod perchnogaeth wedi’i dorri ac rydych yn dymuno bod y cwmni yn dechrau cyfnod dirwyn i ben
  • mae’r cwmni wedi dechrau cyfnod dirwyn i ben, ac felly yn caffael asedion neu’n codi cyfalaf
  • rydych yn dymuno bod y cwmni yn ymadael â’r gyfundrefn yn wirfoddol

Gallwch wirio’r nodiadau ynghylch cwblhau hysbysiadau ar gyfer y gyfundrefn cwmni sy’n dal asedion cymhwysol (QAHC) (yn agor tudalen Saesneg) i gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â’r hyn y bydd angen i chi ei wneud.

Gwneud hysbysiad

Gallwch ddefnyddio’r ffurflen hon i wneud hysbysiad mynediad ynghyd ag unrhyw hysbysiad arall sy’n ofynnol fel QAHC.

Pan fyddwch yn gwneud hysbysiad, bydd gofyn i chi wneud y canlynol:

  • mewngofnodi gan ddefnyddio’ch Dynodydd Defnyddiwr (ID) a’ch cyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth (os nad oes gennych un, gallwch greu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth am y tro cyntaf)

  • defnyddio’ch cyfeiriad e-bost i gael cod cadarnhau y gallwch ei ddefnyddio i fewngofnodi

Dechrau nawr

Ni allwch anfon nwy nag un math o hysbysiad ar y tro. Os oes angen i chi wneud mwy nag un math o hysbysiad, bydd yn rhaid i chi fewngofnodi i’r gwasanaeth eto.

Yr hyn sy’n digwydd nesaf

Byddwch yn cael cadarnhad eich bod wedi gwneud hysbysiad.

Cysylltu â ni

Os ydych yn parhau i fod yn ansicr o sut i lenwi’ch hysbysiad, neu os oes gennych unrhyw ymholiad arall am QAHC, gallwch e-bostio: qahc@hmrc.gov.uk neu ffonio: 0300 051 5900.

Gallwch hefyd ysgrifennu atom yn uniongyrchol yn:

Cydymffurfiad Unigolion Cyfoethog a Busnesau o Faint Canolig
Wealthy and Mid-Size Business Compliance
Cyllid a Thollau EF
HMRC
BX9 1QW

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 7 Mawrth 2022
Diweddarwyd ddiwethaf ar 7 Gorffennaf 2025 show all updates
  1. A Welsh translation of this page has been added.

  2. The section headed 'If you choose to enter the QAHC regime' has been updated to explain that you only need to tell us your UTR number if you have one.

  3. You can now use the form link under 'Make a noftification' to make all notification types.

  4. First published.

Argraffu'r dudalen hon