Skip to main content
Canllawiau

Gwneud hawliad am arian a gedwir gan Adran Fusnes ac Eiddo yr Uchel Lys

Canllawiau ar gyfer ceisiadau i hawlio arian a dalwyd i’r llys yn dilyn achos cyfreithiol ynghylch meddiant eiddo neu anghydfod rhwng cyfranddalwyr.

Trosolwg

Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i gwblhau cais i Adran Fusnes ac Eiddo yr Uchel Lys i hawlio arian a dalwyd i’r llys ar eich rhan yn ôl:

  • yn dilyn achos cyfreithiol sy’n ymwneud ag adfeddiannu eiddo
  • yn unol ag adran 63 o Ddeddf Ymddiriedolwyr 1925
  • os ydych chi’n gyfranddaliwr sy’n anghytuno â phenderfyniad mawr a wnaed gan gwmni

Er mwyn gwneud cais, bydd angen i chi lenwi a dychwelyd:

Adfeddiannu eiddo

Ar ôl i eiddo gael ei adfeddiannu, os oes arian dros ben ac nad yw’n bosibl lleoli neu nodi pwy allai fod â hawl i’r arian hwn, cânt eu dal gan Adran y Siawnsri.

Gallwch ddefnyddio ffurflen BP34 i ddarparu tystiolaeth o’ch hunaniaeth a’i chyflwyno gyda’ch hysbysiad cais i hawlio unrhyw arian y gallech fod â hawl iddo.

Adran 63 Deddf Ymddiriedolwyr 1925

Mae Adran 63 yn caniatáu i ymddiriedolwyr dalu arian ymddiriedolaeth i’r llys mewn rhai amgylchiadau – er enghraifft, lle nad ydynt wedi gallu dod o hyd i fuddiolwr na chael eu manylion banc.

Gallwch ddefnyddio ffurflen BP34 i ddarparu tystiolaeth o’ch hunaniaeth a’i chyflwyno gyda’ch hysbysiad cais i hawlio unrhyw arian y gallech fod â hawl iddo.

Anghydfodau cyfranddalwyr

Pan fydd cwmni’n cael ei gymryd drosodd, gwneir cynnig i’r cyfranddalwyr gan y cwmni sy’n gwneud y cynnig i gymryd drosodd. Weithiau gall y gwerthiant fynd rhagddo er nad yw pob cyfranddalwyr wedi derbyn y cynnig. Gelwir y rhain yn ‘gyfranddalwyr sy’n anghytuno’ ac mae eu henwau’n cael eu cadw ar gofrestr anghytuno. Yna gall y cwmni dalu arian hyd at werth eu cyfranddaliadau i’r llys. Mae’r arian hwn yn cael ei gadw gan Adran y Siawnsri.

Os ydych chi’n gyfranddaliwr sy’n anghytuno, gallwch ddefnyddio ffurflen BP34 i ddarparu tystiolaeth o’ch hunaniaeth a’i chyflwyno gyda’ch hysbysiad cais i hawlio unrhyw arian y gallech fod â hawl iddo.

Gwiriwch a oes arian yr ydych yn gymwys i’w gael

Rhaid i chi wirio a oes arian heb ei hawlio yr ydych yn gymwys i’w gael gan lys sifil yng Nghymru a Lloegr.

Os ydych chi’n credu bod Swyddfa Cronfeydd y Llys (CFO) yn dal arian ac yr hoffech chi ddarganfod faint o arian sy’n cael ei ddal, rhaid i chi gysylltu â nhw a gofyn iddyn nhw wneud chwiliad.

Court Funds Office
Sunderland
SR43 3AB

Rhif ffôn: 0300 0200 199
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am i 5pm
Gwybodaeth am gostau galwadau

Os oes gennych rif cyfeirnod o’ch chwiliad ar-lein am gyfrifon llys heb eu hawlio, rhaid i chi ddyfynnu hwn pan fyddwch yn cysylltu â’r CFO.

Os byddwch yn canfod bod gennych hawl i arian a gedwir gan lys sifil, rhaid i chi lenwi hysbysiad cais: ffurflen N244. Rhaid i chi gynnwys:

  • seiliau eich apêl
  • unrhyw dystiolaeth sydd gennych

Os na fyddwch yn llenwi’r hysbysiad cais yn gywir, efallai y bydd eich cais yn cael ei ohirio.

Rhowch dystiolaeth ar gyfer eich cais

Yn eich cais neu ddatganiad tyst, rhaid i chi gynnwys unrhyw dystiolaeth sydd gennych sy’n dangos bod arian yn ddyledus i chi. Dylai hyn gynnwys unrhyw ddogfennau perthnasol, gan gynnwys:

  • grant profiant
  • llythyrau gweinyddu
  • tystysgrif geni
  • tystysgrif priodas
  • tystysgrif marwolaeth
  • tystysgrifau cyfranddaliadau

Rhaid i chi anfon llungopïau o unrhyw ddogfennau yr hoffech eu cynnwys fel tystiolaeth. Os ydych chi’n cyflwyno tystysgrifau cyfranddaliadau, rhaid i chi anfon y dystysgrif wreiddiol os oes gennych chi un.

Rhaid i chi hefyd gynnwys tystiolaeth o’ch hunaniaeth.

Cwblhewch y ffurflen dystiolaeth o hunaniaeth a datganiad

Rhaid i chi lawrlwytho a chwblhau’r ffurflen tystiolaeth o hunaniaeth a datganiad (BP34) a’i chyflwyno gyda’ch cais. Rhaid i chi ddarparu’r canlynol:

  • tystiolaeth o’ch hunaniaeth
  • prawf o’ch cyfeiriad
  • eich datganiad
  • y cyfrif banc y gellir anfon yr arian iddo os caiff y cais ei gymeradwyo

Tystiolaeth arall y gallai fod angen i chi ei darparu

Os oes gan unrhyw un arall hawl i’r arian

Rhaid i chi ddatgan a oes gan unrhyw un arall hawl i’r arian, neu ran o’r arian, ac os ydych chi’n credu bod ganddyn nhw hawliad dilys.

Os felly, rhaid i chi ddarparu eu:

  • enw
  • cyfeiriad
  • manylion cyswllt

Os nad oes gennych chi eu manylion cyswllt cyfredol, rhaid i chi ddatgan hyn yn eich cais. Gallwch roi’r manylion cyswllt diwethaf sydd gennych chi ar eu cyfer.

Os oes gennych chi hawl i ran yn unig o’r arian a gedwir yn y llys, rhaid i chi ddatgan yn glir pa gyfran rydych chi’n ei hawlio, a pham rydych chi’n ei hawlio.

Gorchmynion methdalu

Os oes gorchymyn methdalu wedi’i wneud yn eich erbyn, rhaid i chi roi enw eich ymddiriedolwr mewn methdaliad, hyd yn oed os yw’r gorchymyn wedi’i ryddhau. Rhaid i chi esbonio pam mae’r arian rydych chi’n ei hawlio yn eiddo i chi ac nid i’ch ymddiriedolwr mewn methdaliad.

Os ydych chi’n hawlio ar ran person sydd wedi marw, neu fel cynrychiolydd personol ac nid fel buddiolwr o dan ewyllys neu ddiffyg ewyllys yr ymadawedig, dim ond darparu’r wybodaeth hon am yr ymadawedig sydd raid.

Gwerthu tir neu eiddo

Os yw’r swm o arian sy’n cael ei hawlio o werthu tir neu eiddo a dalwyd i’r llys, rhaid i chi ddarparu tystiolaeth sy’n dangos:

  • bod gennych chi deitl i’r tir neu’r eiddo hwnnw cyn iddo gael ei werthu
  • mai chi yw’r person a enwir ar deitl yr eiddo, er enghraifft bil cyfleustodau wedi’i gyfeirio atoch chi yn yr eiddo hwnnw

Yn eich datganiad ysgrifenedig ategol rhaid i chi wneud un o’r canlynol:

  • datgan nad ydych chi’n ymwybodol o unrhyw bobl eraill sydd â buddiant yn y tir neu’r eiddo
  • rhoi manylion unrhyw bobl eraill sydd â buddiant yn y tir neu’r eiddo ac esbonio pam nad oes ganddynt fuddiant yn yr arian a gedwir yn y llys

Cyfranddalwyr heb eu hawlio

Os yw’r swm o arian sy’n cael ei hawlio o gyfranddaliadau a dalwyd i’r llys o gyfranddaliadau neu ddifidendau heb eu hawlio, rhaid i chi ddarparu’r tystysgrifau cyfranddaliadau perthnasol os ydynt yn dal ar gael.

Fel arfer, bydd cyfranddaliadau a ddaliwyd ar y cyd â chyfranddaliwr sydd wedi marw yn trosglwyddo i’r cyfranddaliwr sy’n goroesi. Os ydych chi’n gwneud hawliad am arian fel cyfranddaliwr sy’n goroesi, rhaid i chi lofnodi datganiad i ddweud:

  • eich bod chi â hawl i’r cyfranddaliadau
  • nad ydych chi’n adnabod unrhyw un arall a allai fod â hawl iddynt

Cynrychiolydd personol unigolyn sydd wedi marw neu fuddiolwr ystad

Rhaid i chi ddarparu tystiolaeth o’ch hawl i hawlio os ydych chi naill ai:

  • yn hawlio fel cynrychiolydd personol unigolyn sydd wedi marw
  • buddiolwr ystad

Rhaid i chi ddarparu copi o naill ai’r:

  • grant profiant
  • llythyrau gweinyddu

Cyflwyno eich cais

Ffi’r cais

Pan fyddwch chi’n cyflwyno’ch cais a’ch tystiolaeth, rhaid i chi gynnwys y ffi o £61. Ni ellir ad-dalu’r ffi. Efallai y bydd y swm o arian y mae gennych hawl iddo yn llai na’r ffi’r cais.

Cyflwyno eich cais ar-lein

Rhaid i chi gyflwyno’ch cais a thalu’r ffi ar-lein gan ddefnyddio gwasanaeth E-Ffeilio Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) os ydych chi’n:

  • cyfreithiwr
  • cwmni ymchwil neu olrhain buddiolwyr ymddiriedolaethau sy’n lleoli ac yn adennill asedau heb eu hawlio ar ran buddiolwyr

Gallwch ddarganfod sut i gofrestru ar gyfer a ffeilio’ch dogfennau gan ddefnyddio’r gwasanaeth E-Ffeilio.

Os ydych yn cynrychioli eich hun yn y llys, gallwch ddefnyddio gwasanaeth E-ffeilio GLlTEF. Nid oes rhaid i chi wneud hyn, fodd bynnag, dyma’r dull cyflymaf. Byddwch hefyd yn gallu talu ffi’r llys drwy E-Ffeilio. Fel arall, gallwch gyflwyno eich cais drwy’r post.

Cyflwynwch eich cais drwy’r post

Anfonwch eich cais, tystiolaeth a ffi i:

Business and Property Courts of England and Wales
Miscellaneous Payments Team
7 The Rolls Building
Fetter Lane
London
EC4A 1NL

Gallwch dalu’r ffi drwy:

  • archeb bost
  • archeb banc
  • siec

Rhaid gwneud y ffi’n daladwy i ‘Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF’.

Cael cymorth a chefnogaeth

Cymorth gyda’ch cais

Os ydych chi’n cael trafferth wrth brofi eich hawliad neu lenwi’r ffurflen, gallwch gysylltu â Chyngor ar Bopeth.

Cyngor ar Bopeth

Elusen a rhwydwaith o elusennau lleol sy’n cynnig cyngor cyfrinachol ar-lein, dros y ffôn, ac wyneb yn wyneb - yn rhad ac am ddim.

www.citizensadvice.org.uk

Sgwrsio ar-lein gydag ymgynghorydd Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 5pm Ar gau ar wyliau banc

Rhif ffôn: 0800 702 2020 (Cymru), 0800 144 8848 (Lloegr) Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 5pm.

Dod o hyd i wasanaeth yn agos atoch chi (Lloegr yn unig)

Hawliadau sy’n bodoli eisoes

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am hawliad sy’n bodoli eisoes, gallwch gysylltu â’r Tîm Taliadau Amrywiol:

Rhif ffôn: 020 7947 7929
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9:30am tan 4:30pm

E-bost: bpd.misc@justice.gov.uk
Ein nod yw ymateb o fewn 5 diwrnod gwaith.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 18 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 1 Hydref 2026 Show all updates
  1. Updates to page to change references from Chancery Division to Business and Property Division and CH60 to BP34.

  2. Added Welsh translation.

  3. First published.

Argraffu'r dudalen hon