Skip to main content
Canllawiau

Sut i wybod a yw gohebiaeth gan Gofrestrfa Tir EF yn ddilys

Edrychwch ar ein rhestr o gyfeiriadau ebost a rhifau ffôn i'ch helpu i benderfynu a yw'r gohebiaeth a gawsoch yn sgam.

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Ni fydd Cofrestrfa Tir EF byth yn gofyn am eich cyfrinair ar gyfer unrhyw gyfrifon dros y ffôn na thrwy ebost.

Ebost

Dyma’r parthau ar gyfer cyfeiriadau ebost rydym yn eu defnyddio:

  • @landregistry.gov.uk
  • @notifications.service.gov.uk
  • @email.landregistry.gov.uk
  • @mail.landregistry.gov.uk
  • @email-communication.landregistry.gov.uk

Os hoffech wybod rhagor am Gofrestrfa Tir EF, gallwch gofrestru i gael negeseuon ebost dilys gennym.

Ffôn

Dyma’r rhifau ffôn byddwn yn eu defnyddio i’ch ffonio:

  • 0300 006 0422 (Cymraeg)
  • 0300 006 0411 (Saesneg)

Cysylltu â Chofrestrfa Tir EF

Os oes arnoch angen unrhyw beth gennym, cysylltwch â Chofrestrfa Tir EF.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 6 Awst 2026

Argraffu'r dudalen hon