Canllawiau

Sut i yswirio eich elusen

Sut y gall yswiriant eich helpu i ddiogelu arian, eiddo ac enw da eich elusen - a phryd y mae ei angen yn ôl y gyfraith.

This guidance was withdrawn on

This information is covered in our guidance Charities and insurance (CC49).

Applies to England and Wales

Pryd i yswirio eich elusen

Yn ôl y gyfraith, mae dyletswydd gofal gennych i ddiogelu asedau ac adnoddau eich elusen. Yn dibynnu ar yr hyn y mae’ch elusen yn ei wneud, gallwch chi brynu yswiriant i ddiogelu ei harian, ei heiddo a’i henw da. Er enghraifft:

  • yswiriant ar gyfer colli arian neu niwed i’w hadeiladau a’i heiddo
  • yswiriant teithio i staff a gwirfoddolwyr os yw’ch elusen yn gweithredu dramor
  • yswiriant yn erbyn twyll ac anonestrwydd (yswiriant ffyddlondeb)
  • yswiriant ar gyfer gwasanaeth rydych yn ei ddarparu, megis rhoi cyngor (yswiriant indemniad proffesiynol)

Gwnewch asesiad risg i benderfynu a oes angen i chi yswirio eich elusen.

Gofyniad cyfreithiol: mae’n rhaid i chi gael yswiriant os yw’ch elusen yn cyflogi staff neu’n gweithredu cerbydau ar ffyrdd cyhoeddus

Mathau o yswiriant elusen

Yswiriant staff a gwirfoddolwyr

Mae’n rhaid i chi gael yswiriant atebolrwydd cyflogwyr os yw’ch elusen yn cyflogi staff. Mae hyn yn diogelu eich elusen yn erbyn hawliadau ar gyfer unrhyw anafiadau y bydd pobl yn eu cael tra byddant yn gweithio i chi.

Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i chi:

  • gael o leiaf gwerth £5 miliwn o yswiriant
  • prynu yswiriant atebolrwydd cyflogwyr gan yswiriwr awdurdodedig
  • dangos eich tystysgrif yswiriant mewn lle amlwg ar safle eich elusen

Gallwch chi gael dirwy o £2,500 ar gyfer pob diwrnod y mae angen yswiriant atebolrwydd cyflogwyr arnoch ond does dim yswiriant gennych chi.

Gwnewch yn siŵr bod yswiriant atebolrwydd eich cyflogwr yn cynnwys unrhyw wirfoddolwyr sy’n gweithio ar ran eich elusen. Hyd yn oed os nad yw’ch elusen yn cyflogi staff, efallai y byddwch yn penderfynu prynu yswiriant atebolrwydd cyflogwyr i ddiogelu eich gwirfoddolwyr.

Gallwch chi hefyd yswirio eich staff a’ch gwirfoddolwyr drwy gael:

  • yswiriant teithio os yw’ch elusen yn gweithredu dramor
  • yswiriant yn erbyn twyll ac anonestrwydd (yswiriant ffyddlondeb)
  • yswiriant rhag ofn y bydd problemau gyda gwasanaeth rydych yn ei ddarparu, megis rhoi cyngor (yswiriant indemniad proffesiynol)

Yswiriant eiddo a cherbydau

Mae’n rhaid i chi yswirio unrhyw gerbydau modur y mae’ch elusen yn eu gweithredu ar ffyrdd cyhoeddus.

Os yw’ch elusen yn berchen ar dir neu adeiladau, dylech chi ystyried prynu yswiriant atebolrwydd cyhoeddus. Mae hyn yn diogelu eich elusen yn erbyn ceisiadau cyfreithiol gan unrhyw un a gafodd ei anafu neu mae ei eiddo personol yn cael ei golli neu ei ddifrodi ar safle eich elusen.

Efallai y bydd angen mathau eraill o yswiriant arnoch chi hefyd, er enghraifft:

  • yswiriant adeiladau i dalu am gost atgyweirio eiddo a ddifrodwyd
  • yswiriant cynnwys i dalu am gost lladrad, colled neu ddifrod damweiniol i eitemau megis cyfrifiaduron
  • yswiriant treuliau cyfreithiol i dalu am gost cyfreithiwr neu achos llys yn dilyn damwain cerbyd

Yswiriant digwyddiadau

Prynwch yswiriant atebolrwydd cyhoeddus os oes ei angen arnoch ar gyfer digwyddiadau codi arian, megis ffeiriau, sioeau neu berfformiadau. Gall rhai lleoliadau fynnu eich bod yn prynu lefel arbennig o yswiriant. Efallai y byddwch yn gallu cael yswiriant ar gyfer canslo digwyddiad oherwydd tywydd gwael.

Sut i yswirio eich elusen

Chwiliwch am ddarparwyr yswiriant ar-lein. Neu gallwch chi:

Cyhoeddwyd ar 23 May 2013