Gwneud cais i dŷ amlfeddiannaeth (HMO) gael ei brisio fel un eiddo
Defnyddiwch y ffurflen hon os ydych chi’n berchen ar Dŷ Amlfeddiannaeth (HMO) neu’n byw mewn tŷ amlfeddiannaeth sy’n cael ei brisio fel mwy nag un eiddo.
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Mae Tŷ Amlfeddiannaeth (HMO) yn eiddo sy’n cael ei rentu gan sawl person o wahanol aelwydydd, ond sy’n rhannu cyfleusterau fel ystafell ymolchi a chegin. At ddibenion Treth Gyngor, mae eiddo yn cael ei ystyried i fod yn dŷ amlfeddiannaeth os caiff ei rentu gan:
-
2 neu fwy o bobl o wahanol aelwydydd, os yw’r eiddo yn Lloegr
-
3 neu fwy o bobl o wahanol aelwydydd, os yw’r eiddo yng Nghymru
Mae’r Swyddfa Brisio’n prisio’r rhan fwyaf o Dai Amlfeddiannaeth fel un eiddo at ddibenion Treth Gyngor, ac wedi gwneud hynny ers:
-
1 Rhagfyr 2023 yn Lloegr
-
3 Mehefin 2026 yng Nghymru
Pryd i wneud cais
Gallwch wneud cais i Dŷ Amlfeddiannaeth gael ei brisio fel un eiddo os oeddech chi’n berchen arno neu’n byw ynddo ers:
-
1 Rhagfyr 2023 yn Lloegr
-
3 Mehefin 2026 yng Nghymru
Nid oes angen i chi fod yn berchen ar y Tŷ Amlfeddiannaeth nac yn byw ynddo ar hyn o bryd i wneud cais.
Gallwch herio band Treth Gyngor y tŷ amlfeddiannaeth rydych chi’n berchen arno ar hyn o bryd, neu’n byw ynddo ar hyn o bryd, os ydych chi’n meddwl ei fod yn anghywir.
Sut i lenwi’r ffurflen
Bydd angen i chi wneud y canlynol:
-
Lawrlwytho’r ffurflen a’i chadw ar eich cyfrifiadur.
-
Agor y ffurflen gan ddefnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o Adobe Reader sy’n rhad ac am ddim.
-
Llenwi’r ffurflen ar y sgrin.
Efallai na fydd y ffurflen yn gweithio os byddwch yn ceisio’i hagor yn eich porwr rhyngrwyd. Os nad yw’r ffurflen yn agor, cysylltwch â gwasanaeth cwsmeriaid Cymraeg CThEF.
Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar eich cyfer os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol (megis darllenydd sgrin). Os oes angen fformat mwy hygyrch arnoch, e-bostiwch gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk a rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd o gymorth i ni os nodwch pa dechnoleg gynorthwyol yr ydych yn ei defnyddio. Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni CThEF (yn agor tudalen Saesneg).
I ble i anfon y ffurflen
Anfon drwy e-bost
Anfonwch y ffurflen wedi’i llenwi mewn e-bost at ctinbox@hmrc.gov.uk.
Anfon drwy’r post
Os na allwch e-bostio’r ffurflen, gallwch anfon y ffurflen wedi’i llenwi at:
Swyddfa Brisio
Wycliffe House
Green Lane
Durham
DH1 3UW
Updates to this page
-
The Houses in Multiple Occupation (HMO) proposal form has been added. Also, information on how to fill in the form and where to send the form. A Welsh translation has been added.
-
The content has been revised per new guidelines.
-
Changes to wording under Licensed HMOs
-
The content has been updated.
-
The content has been revised slightly.
-
First published.