Skip to main content
Canllawiau

Gwneud cais i logi lleoliad llys neu dribiwnlys

Sut i logi llys neu dribiwnlys yn yr Alban, Cymru neu Loegr ar gyfer ffilmio, ffotograffiaeth a digwyddiadau.

Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru

Trosolwg

Gallwch wneud cais i logi lleoliadau llys a thribiwnlys yn yr Alban, Cymru a Lloegr ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau, fel:

  • ffilmio a ffotograffiaeth
  • hyfforddiant
  • rhaglenni addysg
  • partïon preifat
  • arddangosfeydd
  • digwyddiadau elusennol

Fel arfer, gallwch logi lleoliad y tu allan i oriau gwaith arferol. Mae rhai lleoliadau yn cynnig eu cyfleusterau ar adegau gwahanol, cyn belled bod amodau penodol yn cael eu bodloni.

Os ydych yn bwriadu cynnal digwyddiad, ffilmio neu ffotograffiaeth y tu allan i oriau busnes, efallai bydd arnoch angen talu ffi ddiogelwch ychwanegol.

I ganfod manylion unrhyw lys neu dribiwnlys, gan gynnwys cyfeiriadau, oriau agor, cyfleusterau a manylion cyswllt, defnyddiwch ein gwasanaeth chwilio am lys neu dribiwnlys.

Cyn i chi wneud cais

Mae arnom angen 16 wythnos o rybudd ymlaen llaw ar gyfer llogi ein lleoliadau.

I wneud cais, rhaid eich bod yn fodlon:

  • cael prawf o yswiriant atebolrwydd cyhoeddus a darparu’r prawf hwnnw nes ymlaen
  • talu blaendal o £40 na fydd yn cael ei ad-dalu
  • cynnal ymweliad cychwynnol â’r lleoliad
  • cytuno i’r holl delerau ac amodau – byddwn yn anfon mwy o fanylion atoch ar ôl i chi wneud cais

Nid oes rhaid i adrannau o’r llywodraeth sy’n gwneud cais i logi lleoliad ddarparu prawf o yswiriant atebolrwydd cyhoeddus na thalu blaendal. Fodd bynnag, mae’n rhaid iddynt gynnal ymweliad cychwynnol.

Mae’r holl geisiadau yn amodol ar gymeradwyaeth a byddant ond yn cael eu cymeradwyo lle nad oes unrhyw risg i enw da Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF.

Gall ceisiadau llogi gael eu gwrthod os ydynt yn cyflwyno pryderon ynghylch iechyd a diogelwch, diogelwch tân neu ddiogelwch yn gyffredinol.

Gall ceisiadau hefyd gael eu gwrthod os na all y llys wneud lle i’r cais llogi oherwydd gwrandawiadau sydd wedi’u rhestru, argaeledd staff, cais ar fyr rybudd, neu lefel uchel o alw mewn lleoliad penodol.

O dro i dro, mae ceisiadau yn cael eu gwrthod os ydynt yn ymwneud â dyblygu gwaith sydd eisoes ar gael, fel tynnu lluniau o ardaloedd lle bo delweddau addas cyhoeddus eisoes yn bodoli.

Sut i wneud cais

Llwythwch a llenwch y ffurflen briodol:

Lawrlwythwch y ffurflen ymholiad llogi digwyddiad

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch web.comments@justice.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Lawrlwythwch y ffurflen ymholiad ffilmio a ffotograffiaeth

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch web.comments@justice.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Anfonwch y ffurflen wedi’i llenwi i hmctsvenuehire@justice.gov.uk.

Peidiwch â chysylltu ag unrhyw swyddfeydd llys neu dribiwnlys yn uniongyrchol ar gyfer ymholiadau llogi neu ffilmio.

Ar ôl ichi wneud cais

Os bydd eich cais yn gael ei gymeradwyo dros dro, byddwn yn anfon cytundeb atoch yn darparu manylion yr archeb dros dro. Bydd hyn yn cynnwys y telerau ac amodau sy’n ymwneud â’ch ymweliad cychwynnol gofynnol â’r lleoliad.

Rydym yn defnyddio contractau safonol ar gyfer yr holl archebion ffilmio a digwyddiadau Bydd yn anfon copïau o’r contractau i’w hadolygu a’u llofnodi.

Rhaid i chi dderbyn yr holl gytundebau a chontractau yn eu ffurf gwreiddiol heb eu haddasu. Nid ydym yn derbyn unrhyw newidiadau, ychwanegiadau, diwygiadau, datganiadau cysylltiedig, llythyrau neu gymalau ychwanegol. Ac ni allwn lofnodi unrhyw gytundebau peidio â datgelu (NDA) sy’n ymwneud â’ch archeb llogi.

Os ydych yn dymuno gweld y ddogfennaeth cytundebol cyn ichi wneud cais, gallwch wneud cais am gopïau o dempledi trwy anfon e-bost i hmctsvenuehire@justice.gov.uk.

Bydd arnoch angen darparu eich yswiriant atebolrwydd cyhoeddus cyn y dyddiad llogi. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am y trefniadau llogi, ffioedd a beth fydd yn digwydd nesaf yn y ffurflenni a’r wybodaeth byddwn yn eu hanfon atoch ar ôl i chi wneud cais.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 1 Hydref 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 3 Medi 2026 Show all updates
  1. Added Welsh page and forms.

  2. Updated for changes to the application process.

  3. Updated email address for hiring venues to Harry Harper.

  4. First published.

Argraffu'r dudalen hon