Canllawiau

Cael help gydag incwm arall y DU ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad

Dod o hyd i wybodaeth ynghylch sut i lenwi adran ‘incwm arall y DU’ eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Mae’n bosibl y bydd angen i chi ddatgan incwm arall y DU ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad, gan gynnwys y canlynol:

  • llog o warantau

  • enillion yswiriant bywyd

  • cynlluniau cyfranddaliadau

  • cyfandaliadau cyflogaeth

Os ydych yn berchen ar gyfranddaliadau mewn cwmni ac wedi cael taliad difidend, gallwch wirio a oes angen i chi dalu treth ar ddifidendau a dysgu sut i roi gwybod am dreth ar ddifidendau.

Os yw’ch cyflogwr wedi cynnig cyfranddaliadau’r cwmni i chi fel gwobr am weithio iddo, gallwch ddysgu a oes angen i chi dalu treth ar Gynlluniau Cyfranddaliadau Cyflogeion (yn agor tudalen Saesneg).

Taflenni cymorth i’ch helpu i lenwi’ch Ffurflen Dreth

Mae taflenni cymorth yn rhoi gwybodaeth a all eich helpu i lenwi adrannau gwahanol o’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Cyfranddaliadau a gwarantau ar sail cyflogaeth

Dysgwch sut i gyfrifo’r swm trethadwy ar eich cyfranddaliadau a gwarantau ar sail cyflogaeth (HS305) (yn agor tudalen Saesneg).

Enillion ar bolisïau yswiriant bywyd yn y DU

Os oes gennych enillion ar bolisïau yswiriant bywyd yn y DU (HS320) (yn agor tudalen Saesneg), gallwch ddysgu am y canlynol:

  • pwy ddylai roi gwybod am yr enillion ar bolisïau yswiriant bywyd yn y DU

  • sut i roi gwybod am yr enillion

  • a oes hawl gennych i gael i unrhyw ryddhadau

Cynllun Incwm Cronedig

Defnyddiwch y daflen gymorth ynghylch y Cynllun Incwm Cronedig (HS343) (yn agor tudalen Saesneg) er mwyn gwneud y canlynol:

  • penderfynu a yw’r Cynllun Incwm Cronedig yn berthnasol i chi

  • cyfrifo’ch colledion neu’ch elw incwm cronedig, os yw’r cynllun yn berthnasol i chi

Incwm trethadwy arall ar gyfer Hunanasesiad

Os oes gennych incwm trethadwy arall (HS325) (yn agor tudalen Saesneg) gallwch gyfrifo unrhyw dreth y bydd angen i chi ei thalu ar incwm megis:

  • enillion achlysurol

  • comisiwn

  • incwm llawrydd

Fideo YouTube CThEF

Gwyliwch recordiad o weminar ynglŷn â rhyddhadau treth ac incwm arall ar eich Ffurflen Dreth ar-lein.

Rhyddhadau treth ac incwm arall ar eich Ffurflen Dreth ar-lein (yn agor tudalen Saesneg).

Byddwch yn dysgu am incwm arall, er enghraifft:

  • llog y DU

  • incwm o ddifidendau

  • pensiynau’r Wladwriaeth

  • Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel

Ffurflen Dreth ar bapur

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth SA100 ar bapur, efallai y bydd angen i chi ddefnyddio’r dudalen atodol SA101 er mwyn rhoi gwybod am incwm arall yn y DU.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 23 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 11 Medi 2025 show all updates
  1. The YouTube webinar about other income and tax reliefs has been updated.

  2. Added translation

Argraffu'r dudalen hon