Canllawiau

Help gyda chyflogaeth ar eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad

Cael gwybodaeth ynghylch sut i lenwi adran cyflogaeth eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Fel cyflogai, mae’n bosibl:

Taflenni cymorth i’ch helpu i lenwi’ch Ffurflen Dreth

Mae taflenni cymorth yn rhoi gwybodaeth a all eich helpu i lenwi adrannau gwahanol o’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Gall y taflenni cymorth canlynol eich helpu i lenwi adran cyflogaeth eich Ffurflen Dreth. Er enghraifft, rhoi gwybod i CThEF am y treuliau a dalwyd gan eich cyflogwr a chyfrifo’r ffigurau y gallai fod angen i chi eu cynnwys yn eich Ffurflen Dreth.

Treuliau a buddiannau a dalwyd gan eich cyflogwr

Darllenwch y taflenni cymorth i gael rhagor o wybodaeth am y canlynol:

Hawlio am lwfansau cyfalaf

Dysgwch ragor o wybodaeth am lwfansau cyfalaf a thaliadau mantoli (HS252) (yn agor tudalen Saesneg) fel:

  • lwfansau offer a pheiriannau

  • gwaredu cyfarpar

  • ceir

  • cyfnodau cyfrifyddu sy’n wahanol i’r flwyddyn dreth

Didyniad Enillion Morwr

Dysgwch a ydych yn gymwys ar gyfer y Didyniad Enillion Morwr (HS205) (yn agor tudalen Saesneg). (Mae’n cwmpasu gwaith ar longau, ond nid gosodiadau alltraeth eraill.).

Os nad ydych yn breswylydd yn y DU

Defnyddiwch Materion ynghylch cyflogaeth, preswylio a domisil (HS211) (yn agor tudalen Saesneg) i gyfrifo’r symiau a gawsoch o bob cyflogaeth nad ydynt yn atebol am Dreth Incwm y DU.

Cydraddoldeb treth

Bwriad cydraddoldeb treth (HS212) (yn agor tudalen Saesneg) yw cynorthwyo ymgynghorwyr proffesiynol a chyflogwyr sy’n paratoi Ffurflenni Treth ar gyfer unigolion sy’n cael eu cyfatal â threth. Mae’n darparu:

  • disgrifiad byr o gydraddoldeb treth

  • cyfarwyddiadau diwygiedig i helpu i lenwi’r adran Cyflogaeth o’ch Ffurflen Dreth

Fideos YouTube CThEF

Gwyliwch weminar wedi’i recordio am lenwi adran cyflogaeth eich Ffurflen Dreth.

Adran cyflogaeth eich Ffurflen Dreth ar-lein (yn agor tudalen Saesneg).

Byddwch yn dysgu am y canlynol:

  • cadw cofnodion

  • sut i lenwi’ch Ffurflen Dreth

  • rhyddhad treth ar gyfer treuliau cyflogaeth

  • ad-daliadau benthyciad myfyriwr a benthyciad ôl-raddedig

  • slipiau cyflog

Ffurflen Dreth bapur

Os ydych yn llenwi Ffurflen Dreth ar bapur, mae’n bosibl y bydd angen i chi ddefnyddio tudalen atodol SA102 er mwyn cofnodi incwm o gyflogaeth ar eich Ffurflen Dreth SA100.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 30 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 10 Medi 2025 show all updates
  1. The webinar about filling in the employment section of your tax return has been updated with the latest version.

  2. Added translation

Argraffu'r dudalen hon