Guidance

Gwobr gwirfoddoli jiwbilî platinwm y frenhines

Gwobr gwirfoddoli jiwbilî platinwm y frenhines.

Eleni mae Gwobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol (QAVS) yn cynnal gwobr ychwanegol arbennig i goffáu’r Jiwbilî Platinwm. Rydym am ddathlu gwaith gwych gan elusennau cenedlaethol a’u gwirfoddolwyr i rymuso pobl ifanc a darparu sgiliau a chyfleoedd iddynt.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth, a lawrlwytho ffurflen gais, isod.

Pwrpas y wobr

Cydnabod 20 elusen genedlaethol ragorol sy’n gweithio i rymuso pobl ifanc a darparu sgiliau a chyfleoedd iddynt, gyda gwirfoddolwyr yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni’r gwaith hwn.

Pwy all wneud cais?

Elusennau cenedlaethol cofrestredig sydd:

  • wedi’u lleoli yn y DU, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw
  • wedi’u trefnu ar sail genedlaethol (naill ai ledled y DU neu sydd â chyrhaeddiad cenedlaethol yng Nghymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu Lloegr)
  • wedi bod yn gweithredu am o leiaf pum mlynedd
  • â gwirfoddolwyr yn ymwneud â chyflawni eu gwaith
  • yn cydymffurfio â’r holl ofynion llywodraethu perthnasol ar gyfer eu sector, gan gynnwys ffurflenni treth, diogelwch ac yswiriant

Sut i wneud cais

Llenwch y ffurflen gais isod a’i dychwelyd i jubileeaward@dcms.gov.uk. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 6.00pm ar ddydd Gwener 17 Mehefin 2022.

Sawl gwobr byddech yn eu rhoi?

Rydym yn bwriadu rhoi 20 gwobr - i adlewyrchu 20 mlynedd o Wobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol.

Pwy fydd yn beirniadu?

Bydd ceisiadau’n cael eu beirniadu gan banel o arbenigwyr o’r sector gwirfoddol. Bydd y rhain wedyn yn argymell rhestr derfynol o enillwyr i’r Frenhines. Bydd ffocws y panel ar y canlynol:

  • maint ac effaith yr elusen yn ei gwaith gyda phobl ifanc 16-25 oed
  • i ba raddau y mae gwirfoddolwyr yn ymwneud â chyflawni’r canlyniadau hyn

Gofynnir i elusennau ddarparu tystiolaeth ac enghreifftiau i ddangos hyn wrth gyflwyno eu cais.

Amserlen

26 Ebrill: Ceisiadau’n agor

17 Mehefin: Ceisiadau’n cau

Mis Gorffennaf-Mis Medi Beirniadu’r: ceisiadau a chytuno ar y 20 enillydd

diwedd mis Hydref: Cyhoeddi’r enillwyr yn y wasg genedlaethol

diwedd mis Tachwedd: Y cyflwyniad

Cwestiynau a Ofynnir yn Aml

Pryd mae’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau?

Dydd Gwener 17 Mehefin am 6.00pm

Pryd y byddaf yn cael gwybod a yw fy nghais wedi bod yn llwyddiannus?

Byddwn yn cysylltu ag ymgeiswyr ym mis Hydref.

Sawl gwobr fydd yna?

Rydym yn bwriadu cael 20 gwobr er mwyn dathlu 20 mlynedd o Wobr y Frenhines am Wasanaeth Gwirfoddol

Beth fydd yr enillwyr yn ei chael?

Tystysgrif wedi’i dylunio’n arbennig, yr hawl i ddefnyddio arwyddlun arbennig Gwobr y Jiwbilî a gwahoddiad i ddigwyddiad cyflwyno proffil uchel.

Sut byddwch yn diffinio elusen ‘cenedlaethol’?

Elusen sydd a’i waith yn cwmpasu’r DU gyfan neu un neu fwy o’r canlynol yn eu cyfanrwydd Cymru/Gogledd Iwerddon/yr Alban/Lloegr).

Beth am yr elusennau sy’n helpu grwpiau oedran iau hefyd?

Gall elusennau sydd o fudd i blant o dan 16 oed wneud cais, ond bydd y beirniaid am asesu a ydynt yn cael effaith ddigonol ar bobl ifanc 16-25 oed i fod yn deilwng o’r wobr.

A all elusen arbenigol (e.e. cefnogi pobl sydd â phroblem feddygol benodol) wneud cais?

Allith, ond byddai angen i’r elusen gael rhaglenni/gwasanaethau penodol wedi’u hanelu at bobl ifanc 16-25 oed ac i allu dangos effaith sylweddol ar y grŵp hwn.

Beth os oes gan elusen yn y DU gangen unigol ym mhob gwlad hefyd? Byddem yn disgwyl i’r canghennau cenedlaethol gyflwyno un cais ar y cyd.

Published 11 November 2022