Canllawiau

Canllawiau ynglŷn â gwneud ewyllysiau drwy ddefnyddio fideogynadledda

Mae’r Llywodraeth yn cyflwyno deddfwriaeth er mwyn caniatáu i bobl ddefnyddio technoleg fideogynadledda ar gyfer ardystio gwneud ewyllysiau.

Applies to England and Wales

Deddfwriaeth newydd ynglŷn â gwneud ewyllysiau

Mae’r ddeddfwriaeth yn cydnabod:

  • Bod nifer cynyddol o bobl wedi ceisio gwneud ewyllysiau yn ystod pandemig Covid 19, ond ar gyfer pobl sy’n gwarchod neu’n hunanynysu, mae’n hynod o heriol i ddilyn cyfreithlondeb arferol gwneud ewyllys – sef ei bod yn cael ei hardystio gan ddau o bobl.
  • Mewn ymateb i hyn, bydd y gyfraith (Deddf Ewyllysiau 1837) yn cael ei diwygio i ddatgan tra bod y ddeddfwriaeth hon mewn grym, mae ‘presenoldeb’ y rhai hynny sy’n gwneud ac yn ardystio ewyllysiau yn cynnwys presenoldeb rhithwir, drwy gyswllt fideo, fel ffordd amgen i bresenoldeb corfforol.

Bydd y ddeddfwriaeth yn berthnasol i ewyllysiau a wnaed ers 31ain Ionawr 2020, y dyddiad y cofrestrwyd yr achos cyntaf o Covid-19 yng Nghymru a Lloegr, ac eithrio:

  • achosion lle mae Grant Profiant eisoes wedi cael ei gyhoeddi mewn perthynas â’r ymadawedig
  • lle mae’r cais eisoes yn y broses o gael ei weinyddu

Mae’r ddeddfwriaeth yn berthnasol i ewyllysiau a wneir hyd at 31 Ionawr 2024, ond gellir lleihau neu ymestyn hyn os tybir bod hynny’n angenrheidiol, yn unol â’r dull a fabwysiadwyd ar gyfer mesurau deddfwriaethol eraill ar gyfer coronafeirws. Bydd y Llywodraeth yn ystyried a ddylid newid y gyfraith yn barhaol maes o law. Y cyngor o hyd yw lle y gall pobl wneud ewyllysiau yn y ffordd gonfensiynol, y dylent barhau i wneud hynny.

Pan fydd y gyfraith newydd yn pallu bod mewn grym, dim ond drwy ddefnyddio’r dulliau arferol y bydd pobl yn gallu gwneud ewyllysiau cyfreithiol newydd.

Mae’r ddeddfwriaeth yn berthnasol i godisiliau (dogfennau sy’n addasu neu’n diwygio ewyllys wreiddiol yn ffurfiol). Mae’n rhaid i godisiliau fodloni’r un rheolau llofnodi ac ardystio sydd ynghlwm â gwneud yr ewyllys.

Mae’r canllawiau hyn yn adlewyrchu’r gofynion a’r ymarfer gorau a awgrymir fel ei gilydd:

  • lle defnyddir ‘rhaid’, mae’n adlewyrchu gofyniad cyfreithiol
  • • lle defnyddir ‘dylid’, mae’n adlewyrchu ymarfer gorau (anorfodol)

Y gyfraith bresennol ynglŷn â gwneud ewyllysiau

Y ddeddfwriaeth sy’n rheoli gwneud ewyllysiau yng Nghymru a Lloegr yw Deddf Ewyllysiau 1837

Nid oes unrhyw un o’r gofynion perthnasol presennol yn cael eu newid gan y gyfraith newydd.

Mae Adran 9 o’r Ddeddf yn amlinellu’r gofynion ar gyfer gwneud ac ardystio ewyllys fel a ganlyn, ac mae’r gofynion hyn yn parhau mewn grym:

Ni fydd unrhyw ewyllys yn ddilys oni bai –
(a) ei bod yn ysgrifenedig ac wedi’i llofnodi gan yr ewyllysiwr neu gan unigolyn arall yn ei bresenoldeb ac o dan ei gyfarwyddyd; ac
(b) ei bod yn ymddangos bod yr ewyllysiwr yn bwriadu drwy ei lofnod i weithredu’r ewyllys; a
(c) bod y llofnod yn cael ei wneud neu’i gydnabod gan yr ewyllysiwr ym mhresenoldeb dau neu fwy o dystion sy’n bresennol ar yr un pryd; a
(ch) bod pob tyst un ai yn ardystio ac yn llofnodi’r ewyllys neu’n cydnabod ei lofnod ym mhresenoldeb yr ewyllysiwr (ond nid o angenrheidrwydd ym mhresenoldeb unrhyw dyst arall), ond ni fydd angen unrhyw fath o ardystiad.

Yn ogystal, mae’r gyfraith yn cynnwys nifer o ofynion eraill. Er enghraifft, bod gan yr unigolyn sy’n gwneud yr ewyllys ‘gymhwyster ewyllysiol’ – ei fod yn gwybod yn llawn beth mae’n ei wneud a’i fod yn gallu mynegi ei fwriadau – ac nad yw’n cael ei ddylanwadu yn ormodol gan unrhyw un.

Ar gyfer tystion, mae’r gyfraith bresennol yn caniatáu ysgutor yr ewyllys i fod yn dyst, ond ni all buddiolwr yr ewyllys (na’i briod/bartner sifil) fod yn dyst heb ddirymu’r anrheg a gymunroddwyd iddo. Caniateir i ‘blant dan oed aeddfed’ ardystio ewyllys, ond ni all pobl ddall wneud hyn. Mae tybiaeth gyffredinol fod gan dyst gymhwyster ewyllysiol.

Tystio o bell – ‘gweld yn glir’

Yn y gyfraith bresennol, mae’n rhaid i dyst allu ‘gweld yr ewyllysiwr yn glir’ yn llofnodi a’i fod yn deall ei fod yn ardystio ac yn cydnabod llofnodi’r ddogfen, er enghraifft, os yw hunanynysu neu gadw pellter cymdeithasol wedi rhwystro pobl rhag llofnodi ac ardystio ewyllys yn yr un ystafell.

Mae’n rhaid i’r unigolyn sy’n gwneud yr ewyllys allu gweld y tystion sy’n llofnodi’r ewyllys yn glir er mwyn cadarnhau eu bod wedi ardystio llofnod yr ewyllysiwr (neu unigolyn sy’n llofnodi ar ei ran ac o dan ei gyfarwyddyd).

Byddai’r senarios canlynol yn arwain at ewyllys sydd wedi cael ei gweithredu yn gywir yn ystod y pandemig o fewn y gyfraith bresennol, cyn belled â bod yr ewyllysiwr a’r tystion yn gweld ei gilydd yn glir:

  • ardystio drwy ffenestr neu ddrws agored mewn tŷ neu gerbyd
  • ardystio o goridor neu ystafell gyfagos i mewn i ystafell gyda’r drws yn agored
  • ardystio yn yr awyr agored o bellter byr, er enghraifft mewn gardd

Ardystio drwy gyfrwng fideo

O dan y gyfraith newydd, mae’r holl ddeddfwriaeth a amlinellwyd uchod yn berthnasol pan mae ewyllys yn cael ei hardystio trwy gyfrwng fideo.

Nid yw’r math o fideogynadledda na’r ddyfais a ddefnyddir yn bwysig, cyhyd â bod yr ewyllysiwr a’i ddau dyst yn gallu gweld llofnodi’r ddogfen yn glir.

Er mwyn adlewyrchu hyn, gallai’r ewyllysiwr ddefnyddio’r ymadrodd enghreifftiol canlynol:

‘Rydw i, enw cyntaf, cyfenw, yn dymuno gwneud ewyllys o’m gwirfodd a’i llofnodi yma gerbron y tystion hyn, sy’n ardystio fy mod yn gwneud hyn o bell’.

Ni fydd ardystio drwy gyfrwng fideos a recordiwyd ymlaen llaw yn cael ei ganiatáu – mae’n rhaid i’r tystion weld yr ewyllys yn cael ei llofnodi mewn amser real. Mae’n rhaid i’r unigolyn sy’n gwneud yr ewyllys weithredu â chymhwyster ac yn absenoldeb unrhyw ddylanwad gormodol. Os yw’n bosibl, dylid recordio’r holl broses o lofnodi ac ardystio’r ewyllys ar fideo a chadw’r recordiad. Gall hyn gynorthwyo llys pe digwydd i’r ewyllys gael ei herio – yn nhermau a ysgrifennwyd yr ewyllys mewn ffordd sy’n gyfreithiol ddilys ai peidio, ond yn ogystal, er mwyn ceisio canfod unrhyw arwyddion o ddylanwadu gormodol, twyll neu ddiffyg cymhwyster.

Mae’r senarios canlynol yn dangos amgylchiadau lle gall ardystio trwy gyfrwng fideo gael ei ddefnyddio yn briodol:

Enghraifft 1:

Mae’r ewyllysiwr (E) ar ei ben ei hun ac mae tyst un (T1) yn gorfforol bresennol gyda thyst dau (T2). Gyda’i gilydd, mae T1 a T2 mewn cysylltiad fideogynadledda ffilmio byw dwyffordd gydag E.

Enghraifft 2:

Mae E, T1 a T2 i gyd ar eu pennau eu hunain mewn lleoliadau ar wahân ac maen nhw mewn cysylltiad fideogynadledda ffilmio byw tairffordd.

Enghraifft 3:

Mae E yn gorfforol bresennol gyda T1, ac maen nhw mewn cysylltiad â T2 drwy fideogynadledda ffilmio byw dwyffordd.

Enghraifft 4:

Mae E yn gorfforol bresennol gydag unigolyn sy’n llofnodi’r ewyllys ar ei ran (ac o dan ei gyfarwyddyd), ac wedi’u cysylltu â T1 a T2 drwy fideogynadledda ffilmio byw ddwyffordd neu dairffordd (yn dibynnu a yw T1 a T2 yn yr un lleoliad neu mewn lleoliadau ar wahân).

Llofnodi ac ardystio ewyllys drwy gyswllt fideo

Dylai llofnodi ac ardystio drwy gyswllt fideo ddilyn proses debyg i hon:

Cam 1:

  • Mae’r ewyllysiwr yn sicrhau bod ei ddau dyst yn gallu ei weld, gweld ei gilydd a’r hyn y maen nhw’n ei wneud.
  • Dylai’r ewyllysiwr neu’r tystion ofyn am recordio’r broses o wneud yr ewyllys
  • Dylai’r ewyllysiwr ddal tudalen flaen dogfen yr ewyllys at y camera er mwyn ei dangos i’r tystion, ac yna troi at y dudalen y byddan nhw’n ei llofnodi a dal hon at y camera hefyd.
  • Drwy’r gyfraith, mae’n rhaid i’r tystion weld yr ewyllysiwr (neu’r sawl sy’n llofnodi o dan ei gyfarwyddyd ar ei ran) yn llofnodi’r ewyllys. Cyn llofnodi, dylai’r ewyllysiwr sicrhau bod y tystion mewn gwirionedd yn gallu ei weld yn ysgrifennu ei lofnod ar yr ewyllys, ac nid gweld ei ben a’i ysgwyddau yn unig.
  • Os nad yw’r tystion yn adnabod yr unigolyn sy’n gwneud yr ewyllys, dylen nhw ofyn am gadarnhad o hunaniaeth yr unigolyn – fel trwydded deithio neu drwydded yrru.

Cam 2:

Dylai’r tystion gadarnhau eu bod yn gallu gweld, clywed (os nad oes ganddyn nhw nam ar eu clyw), cydnabod a deall eu swyddogaeth o ardystio llofnodi dogfen gyfreithiol. Yn ddelfrydol, dylen nhw fod yn gorfforol bresennol gyda’i gilydd, ond os nad yw hyn yn bosibl, mae’n rhaid iddyn nhw fod yn bresennol ar yr un pryd drwy gyswllt fideo dwyffordd neu gyswllt fideo tairffordd.

Cam 3:

  • Yna, dylid mynd â’r ewyllys at y ddau dyst er mwyn iddyn nhw ei llofnodi, yn ddelfrydol o fewn 24 awr. Mae’n rhaid iddi fod yr un ddogfen (gweler Dogfennau gwrthrannol).
  • Gall fod yn anochel bod cyfnod hirach rhwng yr amser y mae’r ewyllysiwr a’r tystion yn llofnodi’r ewyllys (er enghraifft, os oes rhaid postio’r ddogfen), ond dylid cofio yr hiraf y mae’r broses hon yn ei chymryd, y mwyaf yw’r posibilrwydd y bydd problemau yn codi.
  • Mae ewyllys wedi cael ei hardystio yn llawn yn unig pan mae’r ewyllyswyr (neu unigolyn o dan eu cyfarwyddyd nhw) a’r ddau dyst wedi ei llofnodi ac un ai wedi cael eu hardystio yn ei llofnodi neu wedi cydnabod eu llofnod i’r ewyllysiwr. Mae hyn yn golygu bod risg os yw’r ewyllysiwr yn marw cyn i’r broses lawn ddigwydd, ni fydd yr ewyllys sydd wedi cael ei chwblhau yn rhannol yn gyfreithiol effeithiol.

Cam 4:

Y cam nesaf yw i’r ddau dyst lofnodi dogfen yr ewyllys – fel arfer, bydd hyn yn cynnwys yr ewyllysiwr yn gweld y ddau dyst yn llofnodi ac yn cydnabod ei fod wedi’u gweld yn llofnodi.

  • Mae’n rhaid i’r ddau barti (y tyst a’r ewyllysiwr) allu gweld a deall beth sy’n digwydd.
  • Dylai’r tystion ddal yr ewyllys at yr ewyllysiwr er mwyn dangos iddo eu bod yn ei llofnodi ac yna dylen nhw ei llofnodi (eto, dylai’r ewyllysiwr eu gweld yn ysgrifennu eu henwau, ac nid gweld eu pennau a’u hysgwyddau yn unig).
  • Fel arall, dylai’r tyst ddal yr ewyllys a lofnodwyd fel bod yr ewyllysiwr yn gallu gweld y llofnod yn glir a chadarnhau wrth yr ewyllysiwr mai ei lofnod ef ydyw. Gall ddymuno ailadrodd ei fwriad, er enghraifft, drwy ddweud: “dyma fy llofnod, a fwriadwyd i weithredu fy mwriad i wneud yr ewyllys hon”.
  • Dylid recordio’r sesiwn hon os yw’n bosibl.

Cam 5:

  • Os nad yw’r ddau dyst yn gorfforol bresennol gyda’i gilydd pan maen nhw’n llofnodi, yna bydd cam 4 angen digwydd ddwywaith, ac yn y ddau achos, dylid sicrhau bod yr ewyllysiwr a’r tyst arall yn gallu gweld a dilyn beth sy’n digwydd yn glir. Tra nad yw’n ofyniad cyfreithiol i’r ddau dyst lofnodi ym mhresenoldeb ei gilydd, mae’n ymarfer da.

Gellir ystyried llunio neu ddiwygio’r cymal ardystio mewn ewyllys lle defnyddir ardystio drwy gyfrwng fideo. Rhan o’r ewyllys sy’n ymdrin ag ardystio llofnod yr ewyllysiwr yw’r cymal ardystiad. Ar gyfer ewyllysiau a ardystiwyd drwy gyfrwng fideo, gall fod yn ddoeth crybwyll bod ardystio rhithwir wedi digwydd, ynghyd â manylion a oes recordiad ar gael ai peidio.

Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau ynglŷn â’r broses hon, dylech chi ymgynghori â chyfreithiwr neu weithiwr proffesiynol sy’n gwneud ewyllysiau.

Disgwylir i gyrff proffesiynol, fel Cymdeithas y Gyfraith a STEP, fod yn cyhoeddi eu canllawiau eu hunain ar gyfer eu haelodau ynglŷn â’r broses hon, a dylid darllen unrhyw ddeunydd o’r fath gyda’r canllawiau hyn.

Llofnodion electronig

Mae’r Llywodraeth wedi penderfynu peidio â chaniatáu llofnodion electronig fel rhan o’r ddeddfwriaeth dros dro hon, oherwydd y risgiau o ddylanwad gormodol neu dwyll yn erbyn y sawl sy’n gwneud yr ewyllys. Nodwyd y risgiau hyn gan Gomisiwn y Gyfraith yn ei bapur ymgynghori yn 2017 ynglŷn ag ewyllysiau. Mae Comisiwn y Gyfraith yn ymgymryd â phrosiect diwygio’r gyfraith a fydd yn cynnwys ystyried y posibilrwydd o ganiatáu ewyllysiau electronig yn y dyfodol.

Dogfennau gwrthrannol

Mae’r term ‘dogfennau gwrthrannol’ yn cyfeirio at sefyllfa lle mae dau gopi o’r ewyllys yn cael eu paratoi, a thra bod yr ewyllysiwr yn llofnodi un ddogfen, mae’r tystion yn llofnodi copi arall o’r un ddogfen. Mae’r dogfennau gwrthrannol rhyngddyn nhw yn rhan o un ewyllys ddilys.

Mae’r Llywodraeth wedi penderfynu yn erbyn cyflwyno ewyllysiau gwrthrannol fel rhan o’r ddeddfwriaeth dros dro hon. Er bod rhai awdurdodau wedi mabwysiadu’r diwygiad hwn i ategu ardystio trwy gyfrwng fideo, mae’r Llywodraeth wedi penderfynu yn erbyn ei ganiatáu yng Nghymru a Lloegr gan ei bod yn credu bod y risgiau yn drech na’r buddion ar hyn o bryd. Mae risgiau o’r fath yn cynnwys fersiynau gwahanol o’r ewyllys (gyda chynnwys gwahanol), y tyst yn llofnodi’r ddogfen anghywir, a chynnydd yn y risg o ddylanwad gormodol a thwyll.

Cyhoeddwyd ar 25 July 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 12 January 2022 + show all updates
  1. Extended until 31 January 2024.

  2. Welsh translation added

  3. First published.