Skip to main content
Canllawiau

Cael mynediad at Wasanaethau Gwe SOG

Defnyddiwch y ffurflen hon i gael rhif defnyddiwr a chyfrinair ar gyfer Gwasanaethau Gwe y System Olrhain Gwartheg (SOG).

Yn berthnasol i Loegr a Chymru

Dogfennau

Cais am rif defnyddiwr a chyfrinair Gwasanaeth Gwe SOG

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch Webmaster.RPA@rpa.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Gallwch ddefnyddio meddalwedd fferm gydnaws (tudalen gwe yn Saesneg) i gofrestru genedigaethau gwartheg ac i roi gwybod am symudiadau a marwolaethau i Wasanaeth Symud Gwartheg Prydain (GSGP).

I wneud hyn, bydd angen ichi ymrestru ar gyfer Gwasanaethau Gwe SOG drwy lenwi’r ffurflen hon.

Mae rhoi gwybod am y digwyddiadau hyn yn ofyniad cyfreithiol er mwyn atal clefydau a chyfyngu clefydau.

Sut i lenwi’r ffurflen

  1. Lawrlwythwch y ffurflen a’i chadw.
  2. Llenwch y ffurflen a’i chadw eto.
  3. Anfonwch y ffurflen drwy’r ebost at bcmsenquiries@rpa.gov.uk. Defnyddiwch ‘Cais am rif defnyddiwr a chyfrinair Gwasanaeth Gwe SOG’ fel pennawd eich neges ebost.

Beth sy’n digwydd nesaf

Bydd GSGP yn anfon yr wybodaeth y mae arnoch ei hangen er mwyn defnyddio Gwasanaethau Gwe SOG.

Rhagor o wybodaeth am yr hyn mae’n rhaid ichi ei gofnodi a rhoi gwybod amdano pan fyddwch chi’n symud gwartheg, buail neu fyfflos a’r terfynau amser.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 4 Mehefin 2026

Argraffu'r dudalen hon