Canllawiau

Da byw mewn sioeau a marchnadoedd: rheoliadau lles

Deddfau a rheoliadau sy'n diogelu anifeiliaid fferm mewn sioeau a marchnadoedd, gan gynnwys addasrwydd corlannau, cewyll neu gytiau

Cyflwyniad

Mae Deddf Lles Anifeiliaid (2006) yn nodi bod gan berchenogion a cheidwaid – gan gynnwys unigolion â chyfrifoldeb dros dro megis gweithredwyr marchnadoedd – ddyletswydd gofal i sicrhau y caiff anifeiliaid eu diogelu bob amser. Rhaid sicrhau bod gan anifeiliaid amgylchedd a deiet addas a’u bod yn gallu ymddwyn mewn ffordd naturiol. Rhaid diogelu anifeiliaid rhag poen, dioddefaint, anaf a chlefyd a’u cadw dan do yn unol â’u hanghenion penodol. Mae’r ddyletswydd gofal sylfaenol hon yn gymwys ym mhob sefyllfa, gan gynnwys tra bydd anifeiliaid mewn marchnadoedd a sioeau.

Ceir hefyd ddeddfwriaeth benodol sy’n ymdrin â lles anifeiliaid mewn marchnadoedd a sioeau. Mae’n cynnwys Gorchymyn Lles Anifeiliaid mewn Marchnadoedd 1990 (fel y’i diwygiwyd yn 1993) a Gorchymyn Lles Ceffylau mewn Marchnadoedd (a Mannau Gwerthu Eraill) 1990. Mae Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Lloegr) 2006 a Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2007 hefyd yn gymwys pan fydd anifeiliaid yn cael eu cludo i’r farchnad ac oddi yno.

Mae’r canllaw hwn yn esbonio’r ddeddfwriaeth sy’n diogelu anifeiliaid pan fyddant mewn sioeau neu farchnadoedd, eich dyletswyddau i ddiogelu anifail rhag anaf a dioddefaint a rheoliadau ynglŷn â rhoi anifeiliaid mewn corlannau a chewyll a thrin anifeiliaid ifanc.

Diogelu anifeiliaid mewn marchnadoedd

Gweithredwr y farchnad sy’n gyfrifol am oruchwylio lles anifeiliaid sy’n cael eu gwerthu mewn marchnadoedd a sicrhau y gofelir amdanynt ac y cânt eu trin heb greulondeb. Y perchennog a gweithredwr y farchnad sy’n gyfrifol am sicrhau na chaiff unrhyw anifail nad yw’n iach ei gyflwyno i’w werthu yn y farchnad. Gall APHA ac awdurdodau lleol atal anifeiliaid nad ydynt yn iach rhag cael eu gwerthu a chymryd camau gorfodi pellach, gan gynnwys difa anifeiliaid nad ydynt yn ddigon iach i’w cludo i safle arall heb greulondeb.

Trin anifeiliaid yn wael

Os bydd gennych bryderon ynglŷn â’r ffordd y mae anifeiliaid yn cael eu trin mewn marchnad, sioe neu grynhoad arall, dylech gysylltu ag unrhyw un o’r canlynol:

  • swyddog lles anifeiliaid a benodwyd gan weithredwr y farchnad
  • arolygydd awdurdod lleol
  • swyddogion APHA, gan gynnwys milfeddygon swyddogol

Cosbau

Mae cosbau llym am greulondeb i anifail neu fethu â darparu ar gyfer ei les. Mae’r rhain yn gymwys p’un a yw’r anifail mewn marchnad, yn cael ei gludo neu ar y fferm. Y cosbau mwyaf y gallech eu hwynebu yw unrhyw un – neu bob un – o’r canlynol:

  • gwaharddiad rhag bod yn berchen ar anifeiliaid
  • dirwy o hyd at £20,000
  • carchar

Deddfwriaeth lles anifeiliaid a gorfodi

Mae’r brif ddeddfwriaeth sy’n ymwneud â lles anifeiliaid mewn sioeau a marchnadoedd yn cynnwys y canlynol:

  • Deddf Lles Anifeiliaid 2006
  • Gorchymyn Lles Anifeiliaid mewn Marchnadoedd 1990
  • Orchymyn Lles Anifeiliaid mewn Marchnadoedd (Diwygio) 1993
  • Gorchymyn Lles Ceffylau mewn Marchnadoedd (a Mannau Gwerthu Eraill) 1990
  • Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Lloegr) 2006
  • Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2007

Mae deddfwriaeth sy’n ymwneud yn benodol â marchnadoedd yn sicrhau safonau lles uchel ar gyfer pob anifail sy’n mynd drwy farchnadoedd ac yn creu rheolau penodol y dylech eu dilyn. Mae’r rheolau ynglŷn â marchnadoedd yn gymwys cyn gynted ag y caiff unrhyw anifail ei ddadlwytho mewn sioe neu farchnad a byddant yn parhau mewn grym nes i’r anifail gael ei symud oddi ar y safle. Mae’r ddeddfwriaeth ynglŷn â chludo yn sicrhau na chaiff anifeiliaid nad ydynt yn iach eu cludo i farchnad nac oddi yno.

Gorchymyn Lles Anifeiliaid mewn Marchnadoedd 1990

Mae Gorchymyn Lles Anifeiliaid mewn Marchnadoedd 1990 yn atgyfnerthu darpariaethau lles anifeiliaid cyffredinol a’i nod yw sicrhau nad achosir anaf na dioddefaint diangen i anifeiliaid. Mae’n gwneud perchenogion a cheidwaid anifeiliaid yn gyfrifol am ddiogelu anifeiliaid ac yn ymdrin â’r meysydd canlynol:

  • rhoi anifeiliaid mewn corlannau
  • bwyd a dŵr
  • gofalu am anifeiliaid ifanc
  • anifeiliaid nad ydynt yn iach, anaf neu ddioddefaint

Caiff Gorchymyn Lles Anifeiliaid mewn Marchnadoedd 1990 ei orfodi gan awdurdodau lleol, sy’n nodi problemau mewn marchnadoedd, a swyddogion APHA, sy’n ymweld â marchnadoedd ac yn eu harchwilio yn rheolaidd.

Gorchymyn Lles Ceffylau mewn Marchnadoedd (a Mannau Gwerthu Eraill) 1990

Mae Gorchymyn Lles Ceffylau mewn Marchnadoedd (a Mannau Gwerthu Eraill) 1990 yn gymwys yn benodol i geffylau mewn sioeau a marchnadoedd ac yn ymdrin â’r un meysydd â Gorchymyn Lles Anifeiliaid mewn Marchnadoedd 1990.

Diogelu anifeiliaid mewn sioeau

Ymdrinnir â maes diogelu lles anifeiliaid yn gyffredinol gan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. Fodd bynnag, nid oes unrhyw reoliadau lles penodol ar gyfer sioeau na chrynoadau anifeiliaid eraill.

Mae trefnwyr sioeau yn aml yn pennu amodau mynediad i’w digwyddiad, sy’n rhoi rhai canllawiau ar sut i drin anifeiliaid. Os ydych yn bwriadu dangos da byw, cewch y rhestr o dda byw, a fydd yn nodi amodau’r trefnydd. Mae’r Ddeddf Lles Anifeiliaid yn ei gwneud yn ofynnol i bob person cyfrifol ddarparu dyletswydd gofal i’r anifeiliaid lle bynnag y bônt.

Dylech roi gwybod i’ch awdurdodau lleol neu eich swyddfa APHA agosaf am unrhyw achosion o beryglu lles anifeiliaid neu dystiolaeth o ddioddefaint diangen mewn sioeau, marchnadoedd neu grynoadau eraill.

I gael manylion cyswllt eich swyddfa APHA leol defnyddiwch yr adnodd chwilio cod post ar wefan APHA.

Gorfodi

Mae awdurdodau lleol yn gorfodi deddfwriaeth iechyd a lles mewn marchnadoedd. Mae gan swyddogion APHA bwerau o dan Orchymyn Lles Anifeiliaid mewn Marchnadoedd 1990 i gadw anifeiliaid, eu hatal rhag cael eu gwerthu a’u trin a chymryd camau i leihau’r perygl i les anifeiliaid a dioddefaint mewn marchnadoedd.

At hynny, mae gan awdurdodau lleol a swyddogion APHA bwerau y gellir eu defnyddio mewn marchnadoedd a chrynoadau anifeiliaid eraill o dan y Ddeddf Lles Anifeiliaid sy’n cynnwys y canlynol:

  • pwerau argyfwng mewn perthynas ag anifeiliaid sy’n dioddef
  • pwerau mynediad ac archwilio, gan gynnwys y pŵer i atafaelu dogfennau
  • pwerau erlyn
  • hysbysiadau gwella

Darpariaethau lles cyffredinol mewn marchnadoedd

Rhaid i chi sicrhau eich bod yn darparu ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid pan fyddant mewn marchnadoedd a sioeau. Ymdrinnir â darpariaethau iechyd a lles anifeiliaid pan fyddant mewn marchnadoedd a sioeau o dan ddeddfwriaeth ynglŷn â marchnadoedd. Mae hyn yn cynnwys canllawiau ar y canlynol:

  • diogelu anifeiliaid rhag anaf a dioddefaint
  • rhoi anifeiliaid mewn corlannau a chewyll
  • rhoi bwyd a dŵr i anifeiliaid

Diogelu anifeiliaid rhag anaf a dioddefaint

Mae’n drosedd achosi i anifail ddioddef neu gael ei anafu. Ni ddylech byth:

  • ddangos anifail nad yw’n iach i’w werthu – mae hyn yn cynnwys anifeiliaid sydd wedi’u heintio, sy’n sâl, sydd wedi’u hanafu, sy’n gloff, sy’n anffurfiedig neu’n denau, ac anifeiliaid sy’n debygol o roi genedigaeth
  • anafu anifail nac achosi ‘dioddefaint diangen’ – mae hyn yn cynnwys amlygiad i dywydd garw, system awyru annigonol neu drin anifeiliaid yn wael
  • cam-drin anifeiliaid mewn marchnad – mae hyn yn cynnwys mewn ffyrdd megis codi neu lusgo anifeiliaid, hongian anifeiliaid oddi ar y ddaear, clymu neu safnffrwyno lloi neu glymu dofednod yn anghywir
  • defnyddio grym gormodol i reoli anifail - mae cyfyngiadau hefyd ar y defnydd o ffyn, chwipiau, carnau a symbylau, gan gynnwys y rhai a all roi siociau trydanol
  • gyrru nac arwain unrhyw anifail dros unrhyw dir na llawr, sy’n debygol o achosi i’r anifail lithro neu gwympo oherwydd ei natur neu ei gyflwr
  • rhwystro anifail sy’n cael ei arwain drwy’r farchnad, a hynny’n fwriadol
  • cythruddo anifail yn bwrpasol

Rhoi anifeiliaid mewn corlannau a chewyll

Rhaid i chi sicrhau bod staff y farchnad yn rhoi eich anifeiliaid mewn corlannau a chewyll mewn ffordd sy’n golygu nad ydynt mewn perygl o ddioddef na chael eu hanafu. Rhaid i weithredwr y farchnad neu berson cyfrifol arall sicrhau’r canlynol:

  • bod corlannau, cewyll neu gytiau yn addas ar gyfer maint a rhywogaeth yr anifail, gan gynnwys galluogi cwningod i eistedd a dofednod i sefyll yn naturiol
  • bod y trefniadau ar gyfer rhoi bwyd, dŵr a sarn i anifeiliaid yn ddigonol
  • bod y systemau goleuo ac awyru mewn corlannau yn briodol
  • y gellir darparu llety ar gyfer anifeiliaid nad ydynt iach

Rhaid i gorlannau a chewyll fod yn ddigon mawr i foch a lloi allu gorwedd i lawr ynddynt a phan fydd sawl anifail yn rhannu corlan, rhaid sicrhau bod digon o le er mwyn iddynt allu gorwedd i lawr ar yr un pryd. Ni ddylid byth rhoi gormod o anifeiliaid mewn corlannau na chewyll.

Dylid corlannu anifeiliaid gyda’u rhywogaeth eu hunain ac ni ddylid cymysgu rhywogaethau. Gallwch helpu staff y farchnad drwy roi gwybod iddynt am grwpiau a all fod yn fwy addas i’w cymysgu – e.e. y rhai sydd wedi cael eu magu gyda’i gilydd – a dylech osgoi cymysgu grwpiau sy’n cynnwys anifeiliaid o wahanol faint oni bai eu bod wedi cael eu magu gyda’i gilydd.

Dylech hefyd roi gwybod i staff y farchnad am anifeiliaid sy’n llai hydrin ac y dylid eu corlannu ar wahân. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn achos teirw, y mae’n rhaid eu cadw ar wahân oni bai bod grwpiau wedi cael eu magu gyda’i gilydd ac y byddai’n achosi mwy o ddioddefaint pe baent yn cael eu gwahanu oddi wrth ei gilydd. At hynny, rhaid corlannu pob baedd dros chwe mis oed ar wahân.

Rhoi bwyd a dŵr i anifeiliaid

Rhaid i chi sicrhau y gall staff y farchnad roi’r canlynol i’ch anifeiliaid:

  • digon o ddŵr iachus mor aml â phosibl – e.e. a roddir i’r anifeiliaid mewn cafnau neu fwcedi
  • bwyd a dŵr o leiaf bob 12 awr ar ôl iddynt gyrraedd y farchnad

Os bydd anifeiliaid yn cael eu cadw dros nos yn y farchnad, rhaid i chi sicrhau y darperir bwyd addas a dŵr iachus iddynt.

Gofynion ychwanegol mewn marchnadoedd ar gyfer grwpiau risg uchel

Ceir darpariaethau arbennig ar gyfer diogelu anifeiliaid ifanc sy’n wynebu mwy o risg y caiff eu lles ei beryglu, yn ogystal â darpariaethau cyffredinol ar gyfer lles anifeiliaid mewn sioeau a marchnadoedd.

Mae’r darpariaethau ychwanegol hyn yn ymwneud â’r canlynol:

  • argaeledd llety dan do a sarn i anifeiliaid ifanc
  • lles lloi, ŵyn a myn
  • lles ebolion

Darparu llety dan do a sarn

Rhaid i weithredwyr marchnadoedd sicrhau bod gan anifeiliaid ifanc lety dan do pan fyddant yn y farchnad. Mae’r rheol hon yn gymwys i’r canlynol:

  • lloi (gwartheg o dan chwe wythnos oed)
  • buchod godro sy’n rhoi llaeth neu fuchod godro cyflo
  • moch
  • geifr
  • cwningod
  • dofednod
  • ŵyn o dan bedair wythnos oed, oni bai eu bod yn cael eu cadw gyda’r fam

Rhaid darparu sarn ar gyfer y canlynol:

  • lloi o dan chwe mis oed
  • buchod godro sy’n rhoi llaeth neu fuchod godro cyflo
  • geifr sy’n sy’n rhoi llaeth neu eifr cyflo
  • moch
  • unrhyw ŵyn – oni bai eu bod yn cael eu cadw gyda’r fam – o dan bedair wythnos oed
  • unrhyw fyn o dan bedair wythnos oed

Rhaid i chi gydymffurfio â rheoliadau penodol os byddwch yn mynd ag unrhyw anifeiliaid ifanc i’r farchnad. Mae’r rhain yn amrywio yn dibynnu ar y math o anifail rydych yn ei werthu.

Lloi

Rhaid i chi sicrhau’r canlynol:

  • na ddeuir â lloi o dan 7 diwrnod oed na lloi heb fogail wedi’i wella i’r farchnad
  • mai dim ond unwaith mewn cyfnod o 28 diwrnod y bydd lloi o dan 12 wythnos oed mewn marchnad – gallwch ddod â lloi i farchnad am yr ail dro o fewn cyfnod o 28 diwrnod, ar yr amod bod gennych ddogfennaeth ysgrifenedig sy’n nodi cyfeiriad y farchnad flaenorol a’r dyddiad y daethpwyd â’r lloi yno
  • bod lloi yn cael eu symud o’r farchnad o fewn pedair awr i’r gwerthiant olaf
  • nad yw lloi yn cael eu clymu na’u safnffrwyno mewn corlannau

Rhaid i weithredwyr marchnadoedd gadw cofnodon clir ynglŷn â lloi mewn marchnadoedd. Mae’n rhaid i chi:

  • gadw cofnod o’r manylion a roddir i brynwr y llo
  • cadw’r cofnod am chwe mis o leiaf
  • cyflwyno cofnodion i arolygydd os gofynnir i chi wneud hynny

Ŵyn a myn

Rhaid i chi sicrhau’r canlynol:

  • na chaiff ŵyn na myn heb fogail wedi’i wella eu cyflwyno i’w gwerthu
  • bod gan ŵyn a myn lety cyfforddus heb ddrafft lle y gallant orwedd i lawr
  • bod ŵyn a myn yn cael eu gwerthu yn y gorlan a’u symud o’r farchnad cyn gynted â phosibl

Ebolion

Mae Gorchymyn Lles Ceffylau mewn Marchnadoedd (a Mannau Gwerthu Eraill) 1990 yn creu rheoliadau ychwanegol y mae’n rhaid cydymffurfio â nhw pan fydd ebolion mewn sioeau neu farchnadoedd. Rhaid i chi sicrhau y deuir â phob ebol i’w werthu gyda’i fam ac na chaiff ei wahanu oddi wrth ei fam pan fydd yn y farchnad.

Diogelu Lles Anifeiliaid mewn Marchnadoedd Da Byw

Lansiwyd y Strategaeth ar gyfer Diogelu Lles Anifeiliaid mewn Marchnadoedd Da Byw 1998 er mwyn gwella safonau lles mewn marchnadoedd.

Prif nodau’r strategaeth oedd:

  • symleiddio ac esbonio pwy sy’n gyfrifol am les anifeiliaid mewn marchnadoedd
  • annog gweithredwyr marchnadoedd i ddefnyddio swyddogion lles marchnadoedd
  • tynnu sylw at fanteision codau ymarfer
  • mynd i’r afael â’r materion lles pwysicaf drwy ddefnyddio cynlluniau gweithredu penodol
  • annog cyrff marchnadoedd i gyfathrebu â’i gilydd
  • monitro safonau lles yn gyson er mwyn ymdrin â meysydd sy’n achosi pryder

Fel rhan o waith dilynol y strategaeth, datblygwyd cynllun gweithredu er mwyn i APHA barhau i fynd i farchnadoedd er mwyn sicrhau y caiff yr anifeiliaid eu trin heb greulondeb. Mae APHA bellach yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd â gweithredwyr marchnadoedd er mwyn adolygu archwiliadau yn sgil llwyddiant y gweithdrefnau hyn.

Monitro cydymffurfiaeth a gwella perfformiad

Mae APHA yn cynnal archwiliadau o farchnadoedd gweithredol ddwywaith y flwyddyn er mwyn cadarnhau eu bod yn cydymffurfio â’r strategaeth. Diben yr ymweliadau yw asesu safonau cyffredinol mewn marchnadoedd a monitro cynnydd marchnadoedd sy’n destun gorchmynion gorfodi.

Mae ymweliadau strategaeth yn helpu i orfodi safonau lles cyson ym mhob marchnad. Maent yn helpu i sicrhau’r canlynol:

  • bod APHA yn gallu gweld pa mor aml y mae problemau lles yn codi
  • bod safonau gweithredwyr marchnadoedd yn uchel
  • bod gweithredwyr marchnadoedd yn gallu nodi problemau yn gynnar
  • bod awdurdodau lleol yn gallu monitro sut y caiff marchnadoedd eu rhedeg
  • bod asiantaethau gorfodi yn gallu datrys problemau posibl yn effeithlon

Rhagor o wybodaeth am les anifeiliaid fferm mewn sioeau a marchnadoedd

Mae sawl sefydliad yn cynnig cymorth a chyngor i ffermwyr ynglŷn â lles anifeiliaid mewn sioeau a marchnadoedd.

Nod Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) yw helpu’r diwydiant ffermio i weithredu mor effeithlon â phosibl. Mae hefyd yn goruchwylio nifer o asiantaethau sy’n gweithio gyda ffermwyr, yn rheoleiddio mewnforion ac allforion cnydau ac yn rhoi rheolaethau plâu a chlefydau ar waith. I gael rhagor o wybodaeth am hyn gallwch ffonio Llinell Gymorth Defra ar 08459 33 55 77.

Mae APHA yn un o asiantaethau’r Llywodraeth sy’n gyfrifol am sicrhau bod anifeiliaid fferm yn y DU yn iach a’u bod yn cael gofal da. Drwy weithio gydag awdurdodau lleol, mae swyddogion APHA – sydd wedi’u lleoli yn swyddfeydd rhanbarthol APHA – yn cynnal archwiliadau ar ffermydd er mwyn gorfodi’r gyfraith ynglŷn â lles anifeiliaid fferm.

I gael manylion cyswllt eich swyddfa APHA leol defnyddiwch yr adnodd chwilio cod post ar wefan APHA.

Mae pwerau gorfodi lles anifeiliaid awdurdodau lleol a swyddogion iechyd anifeiliaid yn cynnwys y canlynol:

  • pwerau argyfwng mewn perthynas ag anifeiliaid sy’n dioddef
  • pwerau mynediad ac archwilio, gan gynnwys y pŵer i atafaelu dogfennau
  • pwerau erlyn
  • yr awdurdod i gyflwyno hysbysiadau gwella

Mae’n drosedd rhwystro arolygydd rhag cyflawni ei ddyletswydd.

Byddwch yn dod i gysylltiad ag awdurdodau lleol mewn perthynas â nifer o reoliadau sy’n ymwneud â lles anifeiliaid, ffermio, defnydd tir, safonau bwyd a’r amgylchedd. Efallai y bydd eich awdurdod lleol hefyd yn gallu darparu rhagor o wybodaeth neu adnoddau.

Yn Lloegr, gallwch gael cyngor gan y Gwasanaeth Cynghori Ffermwyr (Saesneg yn unig).

Mae Natural England yn un o asiantaethau eraill Defra sy’n gweithio i sicrhau y caiff yr amgylchedd naturiol ei ddefnyddio a’i reoli mewn ffordd gynaliadwy. Mae’n cynnal digwyddiadau ledled y wlad, gan gynnwys teithiau cerdded ‘trawsgydymffurfio’ ar ffermydd a chlinigau galw heibio i ffermwyr.

Darllenwch am waith a gwasanaethau Natural England ar wefan Natural England.

Ar gyfer Cymru, ewch i Cyfoeth Naturiol Cymru ar wefan Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae’r Asiantaeth Taliadau Gwledig (RPA) a Thaliadau Gwledig Cymru (RPW) yn gyfrifol am drwyddedau a chynlluniau i ffermwyr. I gael rhagor o wybodaeth gallwch ffonio Llinell Gymorth RPA ar 0345 603 7777 neu RPW ar 0300 062 5004.

Mae Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr (NFU) yn cynrychioli ffermwyr a thyfwyr Cymru a Lloegr. Ei nod yw hyrwyddo amaethyddiaeth a garddwriaeth lwyddiannus a chymdeithasol gyfrifol, wrth sicrhau hyfywedd hirdymor cymunedau gwledig.

Gallwch ddarllen am waith yr undeb ar wefan yr NFU neu ar wefan NFU Cymru.

Deddfwriaeth

Nod y ddeddfwriaeth hon yw sicrhau safonau lles uchel i bob anifail sy’n mynd drwy farchnadoedd.

Mae’r rheolau hyn yn gymwys o’r adeg y caiff anifeiliaid eu dadlwytho pan fyddant yn cyrraedd y farchnad i’r gofal a roddir iddynt pan fyddant yn gadael. Ceir crynodeb o’r prif ddarpariaethau isod. Gwnaed y ddeddfwriaeth bresennol yn 1990 ac fe’i hystyriwyd gan y Cyngor Lles Anifeiliaid Fferm - sef y Pwyllgor Lles Anifeiliaid Fferm (FAWC) bellach - fel rhan o’i adolygiad o les anifeiliaid mewn marchnadoedd, gan gynnwys marchnadoedd da byw a gwerthiannau ceffylau ac ebolion. Cyhoeddodd FAWC ei adolygiad (sef lles anifeiliaid fferm mewn crynoadau) ym mis Mehefin 2005.

Gorfodi

Awdurdodau lleol sy’n bennaf cyfrifol am orfodi deddfwriaeth iechyd a lles mewn marchnadoedd. Mae gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) rôl i’w chwarae hefyd o ran helpu i sicrhau y cyrhaeddir safonau uchel yn gyson. Mae APHA yn bresennol mewn marchnadoedd er mwyn monitro cydymffurfiaeth.

Rhagor o wybodaeth

Lawrlwythwch ganllaw’r Cyngor Lles Anifeiliaid Fferm ar les anifeiliaid fferm mewn crynoadau o wefan y Llyfrgell Dogfennau Amaethyddol (PDF, 624K)

Newyddion a chanllawiau ynglŷn â lles anifeiliaid ar wefan Defra

Gwybodaeth am ffermio a stiwardiaeth tir ar wefan Natural England

Cyngor ar ffermio ar wefan yr NFU

Llinell Gymorth yr Asiantaeth Taliadau Gwledig

0345 603 7777

Llinell Gymorth Defra

08459 33 55 77

Cyhoeddwyd ar 29 August 2012
Diweddarwyd ddiwethaf ar 31 December 2023 + show all updates
  1. Removed cross compliance requirements for England. Cross compliance no longer applies in England from 1 January 2024.

  2. Welsh Translation now available

  3. Changed "under 12 weeks old are only exposed at market once in 28 days, for which you must provide written documentation attesting this fact" to " under 12 weeks are only at a market once in a 28-day period - you may bring calves to a market for a second time within the same 28-day period, providing you have written documentation stating the address of the previous market and the date on which the calf was brought there"

  4. First published.