Skip to main content
Canllawiau

Archebu prawf gyrru: os yw eich mynediad ar-lein wedi'i atal

Darganfyddwch pryd y gall DVSA atal eich mynediad ar-lein i archebu a rheoli eich prawf gyrru, beth sydd angen i chi ei wneud, a sut y gallwch ofyn am adolygiad.

Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru

Mae’r canllaw hwn yn ymwneud â’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) yn atal eich mynediad i archebu profion gyrru ar-lein.

Mae canllawiau ar wahân ynghylch beth i’w wneud os oes gennych broblemau wrth gael mynediad i’r gwasanaeth archebu, er enghraifft, cael neges gwall 15 neu os nad yw’r dudalen yn llwytho.

Pryd y gall DVSA atal eich mynediad ar-lein

Gall DVSA atal eich mynediad i archebu a rheoli eich prawf gyrru ar-lein mewn rhai sefyllfaoedd.

Mae DVSA yn monitro’r gwasanaeth archebu profion gyrru i:

  • ei gadw’n deg a sicrhau bod pobl yn dilyn y telerau ac amodau
  • eich amddiffyn rhag camddefnydd a thwyll

Pan fydd DVSA yn gweld gweithgaredd nad yw’n edrych fel defnydd personol arferol, mae’n atal mynediad ar-lein ar gyfer y rhif trwydded yrru hwnnw.

Bydd y gwaharddiad yn parhau yn ei le am 12 mis.

Mae’n golygu na allwch archebu, newid, canslo na ail-archebu prawf gyrru ar-lein. Bydd angen i chi wneud hyn dros y ffôn gyda DVSA.

Os oes gennych chi brawf wedi’i archebu eisoes, bydd yn dal i fynd yn ei flaen fel y cynlluniwyd.

Sut y byddwch chi’n gwybod bod DVSA wedi atal eich mynediad

Byddwch yn gwybod bod DVSA wedi atal eich mynediad os naill ai:

  • cewch e-bost gan DVSA i ddweud wrthych amdano
  • cewch un o’r negeseuon gwall hyn

Archebu prawf: neges gwall

Ni allwch archebu prawf ar gyfer y categori hwn. Dewiswch fath arall o brawf neu cysylltwch â’r DVSA ar 0300 200 1122 am fwy o fanylion.

Newid neu ganslo prawf: neges gwall

Bydd angen i chi ffonio’r DVSA ar 0300 200 1122 os ydych chi eisiau gwneud newidiadau i’r cais hwn.

Beth i’w wneud os bydd hyn yn digwydd i chi

Bydd angen i chi ffonio DVSA os ydych chi am archebu, newid neu ganslo eich prawf gyrru.

Canolfan gwasanaeth cwsmeriaid DVSA
Ffôn: 0300 200 1133
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 5pm
Dysgwch fwy am gostau galwadau

Dim ond i brofion gyrru ymarferol y mae’r ataliad yn berthnasol. Os oes angen i chi archebu prawf theori arall yn y 12 mis nesaf, a fyddwch chi’n dal i allu gwneud hyn ar-lein.

Gofyn am adolygiad o benderfyniad DVSA i atal eich mynediad

Gallwch ofyn i DVSA adolygu ei phenderfyniad i atal eich mynediad ar-lein.

Rhaid i chi ddilyn y ddau gam hyn yn eu trefn.

Cam 1: gofyn am adolygiad

Llenwch y ffurflen ar-lein i ofyn am adolygiad o’r penderfyniad i atal eich mynediad.

Bydd angen:

  • rhif eich trwydded yrru
  • rhif cyfeirnod archebu eich prawf gyrru (os oes gennych brawf wedi’i archebu)
  • manylion unrhyw apiau, gwefannau neu wasanaethau answyddogol rydych chi wedi’u defnyddio i archebu neu ddod o hyd i brawf gyrru
  • esbonio pam eich bod yn credu nad ydych wedi torri’r telerau ac amodau
  • uwchlwytho unrhyw brawf sydd gennych fod rhywun arall wedi bod yn camddefnyddio eich trwydded yrru

Gofyn am adolygiad

Mae DVSA yn anelu at adolygu’r penderfyniad o fewn 10 diwrnod gwaith. Byddan nhw’n anfon e-bost atoch chi i ddweud wrthych chi am eu penderfyniad.

Tra bydd yr adolygiad yn digwydd, bydd angen i chi ffonio DVSA o hyd os ydych chi am newid neu ganslo eich prawf.

Cam 2: cwyno os ydych chi’n dal i feddwl bod penderfyniad DVSA yn anghywir

Anfonwch e-bost at dîm diogelu data DVSA os ydych chi am gwyno am benderfyniad DVSA ar ôl i’r adolygiad ddod i ben.

Mae angen i chi gynnwys eich:

  • enw llawn fel y mae’n ymddangos ar eich trwydded yrru
  • rhif eich trwydded yrru
  • rhif cyfeirnod archebu prawf gyrru (os oes gennych brawf wedi’i archebu)
  • rhif cyfeirnod o’r adolygiad yng ngham 1

Mae DVSA yn anelu at ymateb o fewn 30 diwrnod i dderbyn eich cwyn. Byddan nhw’n anfon e-bost atoch chi i ddweud wrthych chi am eu penderfyniad.

Ni fydd yr un person a adolygodd y penderfyniad yn wreiddiol yn adolygu eich cwyn.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 12 Mai 2026
Diweddarwyd ddiwethaf ar 22 Mehefin 2026 Show all updates
  1. Updated as suspensions to online booking access will now last for 12 months. Updated the process to request a review of the decision to suspend online booking access. Added Welsh translation.

  2. First published.

Argraffu'r dudalen hon