Skip to main content
Canllawiau

Newidiadau i reolau archebu profion gyrru yn 2026

Mae'r rheolau ar gyfer archebu a rheoli profion gyrru car wedi newid yn awr. Dysgwch beth yw'r rheolau newydd a sut y byddant yn effeithio arnoch chi.

Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru

Mae’r rheolau newydd yn berthnasol i brofion gyrru car yn unig. Nid ydynt yn berthnasol i fathau eraill o brofion.

Beth yw’r rheolau newydd

Cafodd y rheolau newydd ar gyfer archebu a rheoli profion gyrru car eu cyflwyno mewn camau.

Pwnc rheol Hen reol Rheol newydd Ers pryd
Nifer o newidiadau a ganiateir Hyd at 6 newid Dim ond 2 newid Ers 31 Mawrth 2026
Pwy sy’n gallu archebu eich prawf Chi neu’ch hyfforddwr gyrru Chi yn unig Ers 12 Mai 2026
Pwy sy’n gallu rheoli eich prawf Chi neu’ch hyfforddwr gyrru Chi yn unig Ers 12 Mai 2026
Defnyddio gwasanaethau swyddogol i chwilio’r gwasanaeth archebu am brofion Caniateir Ni chaniateir Ers 12 Mai 2026
I ble y gallwch symud eich prawf Unrhyw ganolfan brawf I’r 3 canolfan brawf agosaf yn unig Ers 9 Mehefin 2026

Archebu eich prawf gyrru car

Mae angen i chi archebu eich prawf gyrru car eich hun ar GOV.UK Ni chaniateir i’ch hyfforddwr gyrru ei archebu ar eich rhan.

Cyn i chi archebu eich prawf

Cyn i chi archebu, siaradwch â’ch hyfforddwr gyrru i:

  • gytuno eich bod chi’n barod i sefyll y prawf
  • ofyn iddi/iddo am ei rhif/rif cyfeirnod hyfforddwr gyrru - gallwch chi gofnodi hwn pan fyddwch chi’n archebu i sicrhau bod eich hyfforddwr ar gael

Archebu eich prawf

Pan archebwch eich prawf

  • archebwch yn y ganolfan brawf rydych chi’n bwriadu ei defnyddio yn unig - dim ond i ganolfannau cyfagos y byddwch chi’n gallu symud eich prawf
  • dewiswch ddyddiad rydych chi’n disgwyl yn realistig i fod yn barod ar ei gyfer - caniateir i chi wneud 2 newid yn unig i’ch apwyntiad
  • defnyddiwch rif cyfeirnod eich hyfforddwr gyrru

Mae’n rhaid i chi gadarnhau mai chi:

  • yw’r dysgwr a fydd yn sefyll y prawf
  • eich bod yn cytuno i set o delerau ac amodau

Mae’n groes i’r gyfraith i archebu prawf i rywun arall.

Gwneud newidiadau i’ch prawf gyrru car

Mae 3 rheol newydd ynghylch sut rydych yn rheoli eich apwyntiad prawf gyrru:

  • gallwch wneud 2 newid yn unig i’ch archeb
  • caniateir i chi wneud newidiadau i’ch archeb eich hun yn unig
  • gallwch symud eich prawf i ganolfannau cyfagos yn unig

Sawl gwaith y gallwch chi newid eich prawf

Dim ond 2 newid y gallwch eu gwneud i’ch archeb bresennol. Os oeddech chi wedi defnyddio’ch holl newidiadau o dan yr hen reolau, gallwch chi wneud 2 newid arall o 31 Mawrth 2026.

Defnyddiwch eich newidiadau cyfyngedig dim ond pan fydd eich amgylchiadau’n newid go iawn.

Beth sy’n cyfrif fel newid

Dim ond y pethau hyn sy’n cyfrif fel newid:

  • newid y dyddiad neu’r amser
  • newid y ganolfan brawf
  • cyfnewid eich apwyntiad â gyrrwr arall sy’n dysgu sydd eisoes wedi archebu prawf

Os byddwch chi’n newid mwy nag un peth ar yr un pryd (er enghraifft, y dyddiad a’r ganolfan brawf gyda’i gilydd), mae hyn yn dal i gyfrif fel un newid.

Enghraifft

Os byddwch chi’n newid eich prawf o Northampton ar 4 Mehefin i Kettering ar 12 Mai, mae hyn yn cyfrif fel un newid.

Beth sydd ddim yn cyfrif fel newid

Nid yw’r pethau hyn yn cyfrif tuag at eich terfyn newid:

  • diweddaru eich cyfeiriad neu fanylion cyswllt ar eich archeb
  • ychwanegu neu ddileu rhif cyfeirnod eich hyfforddwr gyrru
  • unrhyw newidiadau y mae angen i’r Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) eu gwneud i’ch prawf (er enghraifft, oherwydd tywydd gwael)

Os bydd DVSA yn newid eich prawf (er enghraifft, oherwydd tywydd gwael), byddwch yn cael eich ailosod i gael 2 newid ar gael eto.

Os oes angen i chi wneud rhagor o newidiadau

Os oes angen i chi wneud rhagor o newidiadau ar ôl i chi ddefnyddio eich 2 newid, mae’n rhaid i chi ganslo eich prawf ac archebu un newydd.

Cewch ad-daliad llawn os byddwch yn canslo o leiaf 10 diwrnod gwaith llawn cyn dyddiad y prawf.

Pwy sy’n cael gwneud newidiadau i’ch prawf

Dim ond chi a ganiateir i newid, canslo neu ffeirio eich prawf gyrru eich hun.

Mae’n rhaid i chi gadarnhau mai chi:

  • yw’r dysgwr a fydd yn sefyll y prawf
  • eich bod yn cytuno i set o delerau ac amodau

Ni chaniateir i chi newid, ffeirio na chanslo prawf gyrru i rywun arall.

Defnyddio gwasanaethau answyddogol

Ni chaniateir i chi ddefnyddio gwasanaethau answyddogol sy’n sganio’r gwasanaeth archebu profion gyrru ar gyfer apwyntiadau. Mae hyn yn cynnwys gwefannau neu apiau canfod canslo profion gyrru.

Mae DVSA yn monitro’r gwasanaeth archebu profion gyrru yn barhaus. Os byddwch yn archebu neu’n rheoli eich prawf mewn ffordd sy’n torri’r telerau ac amodau, gall DVSA:

  • atal eich mynediad ar-lein i archebu a rheoli eich prawf gyrru - caniateir i chi wedyn wneud hyn dros y ffôn yn unig
  • canslo eich archeb

I ble y gallwch symud eich prawf

Pan archebwch brawf newydd, gallwch ond ei symud i:

  • unrhyw un o’r 3 canolfan agosaf at ble mae eich prawf wedi’i archebu
  • y ganolfan brawf y gwnaethoch chi archebu ynddi gyntaf ar yr archeb gyfredol honno

Enghraifft

Rydych chi’n archebu eich prawf yn Chesterfield. Y 3 canolfan agosaf at Chesterfield yw:

  • Sheffield (Handsworth)
  • Ashfield
  • Sheffield (Middlewood Road)

Gallwch ddefnyddio eich newid cyntaf i symud eich prawf i un o’r rheini.

Rydych chi’n penderfynu symud eich prawf i Sheffield (Handsworth). Caniateir i chi wneud un newid arall.

Gallwch ddefnyddio eich ail newid i symud eich prawf i’r 3 chanolfan agosaf at Sheffield (Handsworth). Y rhain yw:

  • Rotherham
  • Sheffield (Middlewood Road)
  • Worksop

Gallwch hefyd ddefnyddio eich ail newid i symud yn ôl i’r ganolfan brawf y gwnaethoch archebu gyntaf ynddi, sef Chesterfield.

Siart yn dangos enghraifft o'ch opsiynau ar gyfer newid eich prawf.

Os gwnaethoch archeb cyn 9 Mehefin 2026

Os oedd gennych archeb yn bodoli, mae’r rheol newydd yn berthnasol i ble y cafodd eich prawf ei archebu ar 9 Mehefin 2026 - nid lle gwnaethoch archebu gyntaf.

Enghraifft

Ym mis Chwefror 2026, fe wnaethoch chi archebu eich prawf yn St Helens â dyddiad prawf o fis Gorffennaf 2026. Ym mis Mai 2026, rydych chi’n penderfynu defnyddio’ch newid cyntaf i’w symud i Watford â dyddiad prawf o fis Gorffennaf 2026.

Ar 9 Mehefin 2026, daeth y rheol newydd i mewn. Mae eich prawf nawr yn Watford, felly gallwch ddefnyddio eich ail newid i symud i’r 3 canolfan agosaf at Watford. Y rhain yw:

  • Borehamwood (Llundain)
  • Pinner (Llundain)
  • Mill Hill (Llundain)

Dim ond i’r canolfannau hyn y gallwch symud eich prawf. Ni allwch symud eich prawf yn ôl i St Helens.

Helpu rhywun i archebu a rheoli ei brawf/phrawf gyrru

Gallwch helpu rhywun rydych yn ei adnabod o hyd i archebu a rheoli ei brawf/phrawf gyrru. Gall fod yn ffrind, yn aelod o’r teulu, neu’n rhywun rydych chi’n ei gynorthwyo fel rhan o’ch swydd.

Mae’n rhaid i’r person rydych chi’n ei helpu fod gyda chi tra byddwch chi’n ei helpu.

Mae angen i chi ofyn i’r person rydych chi’n ei helpu i gwblhau cynifer o’r camau ag y gall ei hun.

Defnyddiwch gyfeiriad e-bost a rhif ffôn sydd naill ai’n perthyn iddi/iddo neu y mae ganddi/ganddo fynediad hawdd atynt. Os nad oes ganddi/ganddo ei chyfeiriad/gyfeiriad e-bost ei hun, gallwch chi ei helpu i sefydlu un.

Sut mae hyfforddwyr gyrru yn cael eu heffeithio

Os ydych yn hyfforddwr gyrru, ni allwch archebu na rheoli profion gyrru ar gyfer eich disgyblion mwyach.

Mae’n groes i’r gyfraith nawr i chi neu unrhyw un arall archebu prawf i’ch disgyblion. Ni chaniateir i chi chwaith newid, ffeirio na chanslo prawf gyrru ar ran rhywun arall.

Beth sy’n digwydd i brofion rydych wedi eu harchebu eisoes

Mae unrhyw brofion gyrru roeddech chi wedi eu harchebu eisoes i’ch disgyblion yn ddilys o hyd a byddant yn digwydd fel y cynlluniwyd.

Mae’n rhaid i chi roi eu rhifau cyfeirnod profion gyrru i’ch disgyblion ar gyfer y profion hyn. Mae hyn er mwyn iddyn nhw allu rheoli eu profion eu hunain.

Rheoli eich argaeledd i fynd â’ch disgyblion i brofion gyrru

Os ydych yn hyfforddwr gyrru, gallwch reoli pan fyddwch ar gael o hyd i fynd â’ch disgyblion i brofion gyrru.

Gallwch chi osod:

  • oriau’r bore a’r prynhawn rydych chi ar gael ar gyfer pob dydd o’r wythnos
  • adegau nad ydych ar gael - er enghraifft, pan fyddwch ar wyliau
  • faint o funudau sydd eu hangen arnoch rhwng profion

Mae hyn yn golygu os yw gyrrwr sy’n dysgu yn ychwanegu eich rhif cyfeirnod hyfforddwr gyrru personol at eich archeb, bydd y system archebu yn gwirio’n awtomatig os ydych chi ar gael.

Dysgwch sut i reoli pan fyddwch ar gael i fynd â’ch disgyblion i brofion gyrru.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 9 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 Mehefin 2026 Show all updates
  1. Under the heading 'What does not count as a change', updated what happens if DVSA changes your test (for example, due to bad weather). You are reset to having 2 changes available again. If DVSA changes your test from 19 June 2026, you will now be able to use the 2 reset changes online - you could only previously use them by calling DVSA.

  2. Updated as the rules about where you can move your car driving test to has changed today (9 June 2026).

  3. Updated the summary table and 'Making changes to your car driving test' section to make it clear that you are not allowed to use unofficial services that scan the driving test booking service for available appointments.

  4. Updated as the rules about who can book and manage car driving tests has changed today (12 May 2026).

  5. Under the 'How many times you can change your test' section, added a sentence to confirm that if DVSA changes your test (for example, due to bad weather), you will be reset to having 2 changes available again.

  6. Added information about 2 changes to car driving test booking rules coming into effect in spring 2026. From 12 May 2026, it will be against the law for anyone other than the learner driver to book, change or cancel a car driving test, including driving instructors and third-party services. From 9 June 2026, learner drivers will only be able to move their test to one of the 3 nearest test centres to where their test is booked. Also added a Welsh translation of the page.

  7. Added clarification that changing multiple details at once (such as date and test centre together) counts as one change. This is in the 'What will count as changes' section.

  8. From 31 March 2026, you will only be allowed to make 2 changes to your car driving test appointment after you've booked it.

  9. First published.

Argraffu'r dudalen hon