Canllawiau

Dinistrio cwrw, seidr, gwin neu win a wnaed sydd wedi’u difetha, yn ystod coronafeirws (COVID-19)

Cael gwybod am newidiadau dros dro i ddinistrio cwrw, seidr, gwin neu win a wnaed sydd wedi’u difetha, os ydych yn fragwr, yn gynhyrchydd seidr neu win, neu’n dafarnwr.

Mae CThEM wedi cyflwyno mesur dros dro i helpu gyda dinistrio cwrw, seidr, gwin neu win a wnaed sydd wedi’u difetha, yn ystod coronafeirws, ar gyfer:

  • bragwyr
  • cynhyrchwyr seidr
  • cynhyrchwyr gwin neu win a wnaed
  • tafarnwyr

Fel rheol, mae’n rhaid i berson cyfrifol o’r bragdy, man cynhyrchu seidr neu windy oruchwylio dinistrio alcohol. Oherwydd gofynion cadw pellter cymdeithasol, mae’n anodd gwneud hyn ar hyn o bryd.

Pwy all ddinistrio cwrw, seidr, gwin neu win a wnaed sydd wedi’u difetha

Gallwch nawr benodi’r tafarnwr neu berson y cytunwyd arno yn y safle i ddinistrio cwrw, seidr, gwin neu win a wnaed sydd wedi’u difetha. Does dim rhaid i Gynrychiolydd Awdurdodedig y Cwmni (ACR) fod yn bresennol.

Mae’n rhaid i chi ddilyn amodau iechyd a diogelwch a chytuno ar hyn gyda’r person sy’n ymgymryd â’r dinistrio.

Rhagor o arweiniad ar gyfer tafarnwyr sy’n dinistrio cwrw sydd wedi’i ddifetha

Dylid delio â chwrw sydd wedi’i ddifetha drwy ddilyn yr hierarchaeth gwastraff bwyd a diod, a dylid ystyried gwaredu drwy’r carthffosydd fel y dewis olaf. Cyn gwneud trefniadau i ddychwelyd neu waredu cwrw neu ei addasu at ddibenion gwahanol, dylech gael caniatâd gan y bragwr sy’n berchen ar y dafarn.

Os bydd asesiad risg yn dangos ei bod yn ddiogel cael gwared ar gynwysyddion llawn cwrw o’r safle, dylech osgoi gwaredu drwy’r carthffosydd a dylid defnyddio dulliau eraill o ddelio â chwrw sydd wedi’i ddifetha. Er enghraifft, gellid addasu cwrw sydd wedi’i ddifetha at ddibenion gwahanol drwy:

  • ei ychwanegu at fwyd anifeiliaid – i gael rhagor o wybodaeth am sut i ddarparu cwrw sydd wedi’i ddifetha yn uniongyrchol i ffermydd, cysylltwch â James McCulloch yng Nghydffederasiwn y Diwydiannau Amaethyddol (Agricultural Industries Confederation) drwy e-bostio: James.McCulloch@agindustries.org.uk.
  • porthiant ar gyfer treulio anaerobig – i gael rhagor o wybodaeth am sut i ddarparu cwrw sydd wedi’i ddifetha yn uniongyrchol i weithredwyr peirianwaith treulio anaerobig, cysylltwch â:
    • Jenny Grant yn y Gymdeithas Ynni Adnewyddadwy a Thechnoleg Lân (Association for Renewable Energy and Clean Technology), drwy e-bostio: jenny@r-e-a.net.
    • Sam Hinton yn y Gymdeithas Bioadnoddau a Threulio Anaerobig (Anaerobic Digestion and Bioresources Association), drwy e-bostio: Sam.Hinton@adbioresources.org.

Os nad oes modd addasu’r cwrw at ddibenion gwahanol, dylech gysylltu â’ch cwmni dŵr. Bydd yn rhoi cyfarwyddiadau ynghylch sut i waredu cwrw’n ddiogel drwy garthffosydd cyhoeddus.

Gall ceisiadau i gwmnïau dŵr naill ai gael eu gwneud:

  • yn unigol gennych chi, fel tafarnwr
  • gan y cwmni gweithredu ar ran mwy nag un safle

Os byddwch chi a’ch cwmni gweithredu yn cyflwyno ceisiadau dyblyg, mae’n bosibl y bydd oedi i’ch cais.

Am ba hyd y bydd y newid yn berthnasol

Bydd y newid dros dro hwn yn berthnasol tra bo cyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol yn sgil coronafeirws yn dal yn eu lle.^

Bydd CThEM yn rhoi o leiaf 30 diwrnod o rybudd cyn tynnu’r mesurau dros dro hyn yn ôl.

Yr hyn y mae angen i chi ei wneud

Mae’n rhaid i chi barhau i gadw’r wybodaeth ganlynol:

  • llwybr archwilio sy’n cadarnhau dinistrio cwrw, seidr, gwin neu win a wnaed, sydd â tholl wedi’i thalu
  • tystiolaeth o gredyd llawn o’r doll wedi’i thalu, neu dystiolaeth o ddarparu nwyddau newydd i’ch cwsmer neu i berchennog y nwyddau yn lle’r rhai gwreiddiol, ar yr adeg y cawsant eu difetha
  • cofnod o’r cwrw, seidr, gwin neu win a wnaed sydd wedi’u difetha

Y dystiolaeth sydd ei hangen arnom

Os byddwch yn hawlio’r rhyddhad, mae’n rhaid i chi fod yn fodlon bod yr alcohol wedi’i ddinistrio a chadw tystiolaeth addas. Er enghraifft, gall tystiolaeth fod ar ffurf fideo. Gall y person y cytunwyd arno yn y safle recordio hwn a’i roi i’r bragwr neu’r cynhyrchydd seidr, gwin neu win a wnaed, ar gyfer ei gofnodion.

Diwygio’ch datganiadau misol

Bragwyr

Gallwch ddiwygio’ch datganiadau misol a chyfrifo’r doll sydd arnoch drwy ddefnyddio ffurflen EX46.

Cynhyrchwyr seidr a gwin neu win a wnaed

Gallwch ddiwygio’ch datganiadau misol a chyfrifo’r doll sydd arnoch drwy ddefnyddio ffurflen EX606, os ydych yn un o’r canlynol:

Rhagor o wybodaeth

Rhagor o wybodaeth am effeithiau’r gyfraith a’r rheoliadau sy’n ymwneud â chynhyrchu, storio a rhoi cyfrif am doll ar y canlynol:

Cyhoeddwyd ar 30 March 2020
Diweddarwyd ddiwethaf ar 14 July 2020 + show all updates
  1. Information about how spoilt beer can be re-purposed has been updated.

  2. Additional guidance has been added for publicans destroying spoilt beer.

  3. We have added a Welsh language translation.

  4. We have amended temporary measures to include cider, wine or made-wine in addition to beer. This includes advice to cider producers and wine and made-wine makers in addition to brewers and publicans.

  5. Guidance about what you need to do as a brewer has been updated.

  6. First published.