Cysylltu ag ASCA yn gyfrinachol neu wneud cwyn ffurfiol
Sut i wneud cwyn ffurfiol neu gysylltu â Dyfarnwr y Gadwyn Gyflenwi Amaethyddol (ASCA) yn gyfrinachol.
Dyfarnwr y Gadwyn Gyflenwi Amaethyddol (ASCA) sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau’r Rhwymedigaethau Delio’n Deg. Mae’r rheoliadau hyn yn berthnasol i gontractau ar gyfer prynu nwyddau gan gynhyrchwr (ffermwr) yn y sectorau canlynol:
- llaeth (llaeth buwch) o 9 Gorffennaf 2024 ymlaen ar gyfer cytundebau newydd, ac o 9 Gorffennaf 2025 ymlaen ar gyfer pob cytundeb
- moch o 13 Awst 2025 ymlaen ar gyfer cytundebau newydd, ac o 13 Awst 2026 ymlaen ar gyfer pob cytundeb
Mae’r rheoliadau’n helpu i sicrhau bod contractau ar gyfer cyflenwi nwyddau gan gynhyrchwr yn deg ac yn dryloyw.
Os ydych chi’n gynhyrchwr, gallwch anfon cwyn ffurfiol at y dyfarnwr, a fydd wedyn yn gallu cynnal ymchwiliad a gweithredu. Os bydd y dyfarnwr yn canfod bod y rheoliadau wedi cael eu torri, bydd ganddo’r pŵer i wneud y canlynol:
- gosod cosb ariannol ar y prynwr busnes
- rhoi iawndal i’r achwynydd
Anfon cwyn ffurfiol
Rhaid i chi gyflwyno’r wybodaeth ganlynol drwy’r ffurflen hon:
- manylion y methiant honedig i gydymffurfio
- unrhyw dystiolaeth o’r methiant honedig i gydymffurfio
- datganiad ynghylch a yw’r cynhyrchwr yn ceisio iawndal gan y prynwr dan sylw
- swm unrhyw iawndal a geisir
- y rhesymau pam y ceisir iawndal o’r fath
Anfonwch y ffurflen wedi’i llenwi at: asca@defra.gov.uk
Codi mater yn gyfrinachol
Os byddwch yn codi mater gyda ni yn gyfrinachol, bydd yr wybodaeth a roddwch yn gwbl gyfrinachol a gallwch hefyd aros yn ddienw. Gall unrhyw un gysylltu â’r dyfarnwr yn gyfrinachol.
Er na fydd y dyfarnwr yn gallu agor ymchwiliad o dan y rheoliadau heb gŵyn ffurfiol, bydd yr wybodaeth a roddwch yn helpu i lywio gweithgareddau’r dyfarnwr a gall helpu i ddylanwadu’n gadarnhaol ar ymddygiad busnes yn y dyfodol.
Anfonwch e-bost at y dyfarnwr yn gyfrinachol: ASCA-in-confidence@defra.gov.uk
Am beth y gallwch chi anfon cwyn ffurfiol
Mae gennych chi (y cynhyrchwr) hawl i gwyno wrth y dyfarnwr am gontractau prynu llaeth neu foch sy’n peidio â chydymffurfio â’r gofynion rheoleiddio, neu’r rhwymedigaethau nad yw’r prynwr rydych chi dan gontract ag ef yn eu bodloni.
Gallwch chi anfon cwyn ffurfiol ynglŷn â’r canlynol:
- nid oes contract prynu ysgrifenedig ar waith o gwbl
- nid yw rhywbeth sy’n ofynnol dan y rheoliadau wedi’i gynnwys yn eich contract prynu llaeth
- nid yw rhywbeth sydd wedi’i gynnwys yn eich contract prynu yn cydymffurfio â’r rheoliadau
- methiant y prynwr i ymateb o fewn 7 diwrnod i’ch cais am esboniad ynghylch sut mae pris newydd wedi’i bennu yn dilyn adolygiad pris ar gyfer contractau sy’n defnyddio pris newidiol a bennir gan y prynwyr
Dim ond ar ôl i chi gwyno wrth y prynwr gan ddefnyddio’r broses datrys anghydfod yn eich contract, a bod 28 diwrnod wedi mynd heibio ers hynny, y gall y dyfarnwr ymchwilio i’ch cwyn – oni bai fod y canlynol yn berthnasol:
- nid oes gennych gontract ysgrifenedig ar waith
- nid oes gan eich contract ysgrifenedig unrhyw ddarpariaeth ar gyfer datrys anghydfod
- nid yw’r weithdrefn datrys anghydfod yn eich contract yn cydymffurfio â’r Rheoliadau
Am beth na allwch chi anfon cwyn ffurfiol
Ni all y dyfarnwr roi cymorth na gwybodaeth benodol ynghylch a fydd cwyn bosibl, os gwneir cwyn o’r fath, yn cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn ai peidio. Gall gwneud hynny arwain at wrthdaro rhwng buddiannau os byddwch yn cyflwyno cwyn i’r dyfarnwr.
Gall y dyfarnwr ateb ymholiadau cyffredinol am gwmpas y rheoliadau a’ch cyfeirio at rannau perthnasol o’n canllawiau.
Yn gyntaf, dylech edrych i weld a yw’ch cwestiwn yn cael ei ateb yn y dogfennau canllaw ar y Rhwymedigaethau Delio’n Deg.
Os ydych chi’n dal yn ansicr a yw eich pryder yn un y gellir ei gyfeirio at y dyfarnwr, cysylltwch â ni neu ceisiwch gyngor cyfreithiol annibynnol cyn cyflwyno cwyn.
Os yw eich ymholiad yn un cyffredinol am fwriad polisi’r rheoliadau neu’r dyfarnwr, trowch at ein canllawiau. Ni fyddwn yn ymateb i’r ymholiadau hyn.
Cwynion sydd eisoes wedi’u penderfynu
Nid yw’r dyfarnwr yn gallu ymchwilio i gŵyn sydd eisoes wedi’i phenderfynu, oni bai ei bod yn gŵyn lle mae tystiolaeth newydd wedi dod ar gael, ac nad oes cosb sifil nac iawndal wedi’u gosod yn y gorffennol.
Anghydfodau
Efallai y bydd rhai achosion o anghydfodau cytundebol a fyddai’n dod o dan gyfraith contractau yn hytrach na chylch gwaith yr ASCA. Yn y sefyllfaoedd hyn, ceisiwch gyngor cyfreithiol annibynnol ynghylch sut y gallwch fwrw ymlaen ag anghydfod.
Os yw eich ymholiad yn ymwneud â chais Rhyddid Gwybodaeth, anfonwch e-bost at data.protection@defra.gov.uk.
Beth fydd yn digwydd nesaf
Ar ôl i chi gyflwyno cwyn, byddwn yn cydnabod ei bod wedi dod i law ac yn neilltuo rhywun i ddelio â’r achos. Y person hwn fydd eich pwynt cyswllt drwy gydol y broses gwyno.
Bydd y dyfarnwr wedyn yn gwirio eich ffurflen gwyno i wneud yn siŵr ei bod yn gyflawn a bod gennym yr holl dystiolaeth sydd ei hangen gennych i ystyried y gŵyn yn llawn. Byddwn yn cysylltu â chi os bydd angen rhagor o wybodaeth arnom ar y cam hwn.
Bydd y gŵyn wedyn yn cael ei brysbennu er mwyn asesu a yw sail y gŵyn yn cyd-fynd â’r meini prawf a nodir yn Rheoliadau Rhwymedigaethau Delio’n Deg (Llaeth) 2024 a Rheoliadau Rhwymedigaethau Delio’n Deg (Moch) 2025.
Os na allwn fwrw ymlaen â’ch cwyn, byddwn yn ysgrifennu atoch i roi gwybod i chi am y penderfyniad hwn a’n rhesymau drosto.
Updates to this page
-
Updated to confirm that complaints can be received from the pig sector from 13 August 2025, when the Fair Dealing Obligations (Pigs) Regulations 2025 come into force.
-
First published.