Cyngor i ddefnyddwyr ynghylch cyffeithio bwyd gartref
Mae’r canllawiau hyn yn esbonio’r risgiau diogelwch bwyd yn sgil cyffeithio (‘preserving’) bwyd yn y cartref, ac yn rhoi cyngor ar sut mae defnyddwyr yn gallu lleihau’r risgiau hynny.
Yn berthnasol i Loegr, Gogledd Iwerddon a Chymru
Mae cyffeithio bwyd gartref yn gallu bod yn ddiogel os caiff ei wneud yn gywir, ond mae camgymeriadau’n gallu arwain at ganlyniadau difrifol. Dylai defnyddwyr wneud y canlynol bob amser:
-
deall y dull cyffeithio maen nhw’n ei ddefnyddio
-
dilyn cyfarwyddiadau dibynadwy yn union
-
osgoi cymryd risgiau os nad ydyn nhw’n siŵr a yw bwyd wedi’i gyffeithio’n ddiogel
Risgiau diogelwch bwyd
Os na chaiff bwyd ei baratoi, ei brosesu neu ei storio’n gywir, mae bacteria niweidiol a micro-organebau eraill yn gallu tyfu.
Mae rhai micro-organebau’n gallu achosi i fwyd fynd yn ddrwg a gwneud pobl yn sâl. Un o’r risgiau mwyaf difrifol yw clostridiwm botwlinwm.
Mae’r bacteriwm hwn yn gallu goroesi mewn bwyd fel sborau ac, o dan rai amodau, mae’n gallu tyfu a chynhyrchu tocsin sy’n achosi botwliaeth (‘botulism’). Mae botwliaeth yn salwch prin ond difrifol sy’n effeithio ar y system nerfol ac sy’n gallu achosi parlys (‘paralysis’) neu farwolaeth.
Mae’n bosib y bydd bwyd wedi’i gyffeithio yn dal i edrych, arogli neu flasu’n normal, hyd yn oed os nad yw e wedi cael ei baratoi’n gywir. Peidiwch â dibynnu ar sut mae bwyd yn edrych, yn arogli neu’n blasu i benderfynu a yw’n ddiogel i’w fwyta.
Peidiwch â bwyta bwyd wedi’i gyffeithio os oes un o’r canlynol yn wir:
-
mae’r cynwysyddion yn chwyddo (‘bulge’)
-
mae’r cynwysyddion yn gollwng, wedi’u difrodi, neu â llawer o rwd (‘rust’)
-
mae’r bwyd yn dangos arwyddion o lwydni neu ddifetha (‘spoilage’)
-
nid ydych chi’n siŵr a yw’r bwyd wedi’i gyffeithio’n ddiogel
Beth yw cyffeithio bwyd?
Cyffeithio bwyd yw’r broses o baratoi bwyd fel y gellir ei storio’n ddiogel am gyfnod hirach.
Efallai y bydd pobl yn cyffeithio bwyd gartref i ddefnyddio cynnyrch tymhorol, lleihau gwastraff neu arbed arian, neu oherwydd eu bod nhw’n mwynhau bwydydd wedi’u cyffeithio.
Enghreifftiau o gyffeithio bwyd
| Dull | Diffiniad |
|---|---|
| Canio | Rhoi bwyd mewn jariau neu ganiau aerdyn, ac yna eu cynhesu ar dymheredd penodol am gyfnod penodol i ddinistrio bacteria a micro-organebau eraill sy’n gallu tyfu ac achosi gwenwyn bwyd neu ddifetha bwyd. |
| Ciwrio | Ffordd o gyffeithio bwydydd trwy ychwanegu halen neu gynhwysion eraill i dynnu lleithder allan. Mae dulliau cyffredin yn cynnwys mygu, halltu a sychu. |
| Mygu | Mae mygu oer yn ychwanegu blas mwg ond nid yw’n cyffeithio bwyd yn llawn. Fel arfer, mae angen ciwrio cynhyrchion yn gyntaf, ac yna mae angen eu cadw’n oer oni bai eu bod wedi’u sychu’n llwyr. Mae mygu poeth yn defnyddio gwres a mwg i ladd bacteria a lleihau lleithder ond, er mwyn storio bwyd yn y tymor hir, mae mygu poeth yn aml yn cael ei gyfuno â chiwrio. |
| Halltu | Defnyddio halen i dynnu lleithder allan a chreu amgylchedd sy’n atal bacteria niweidiol rhag tyfu. |
| Eplesu | Pan fo bacteria da yn torri siwgrau yn y bwyd i lawr a’u troi’n asidau, nwyon neu alcoholau. Mae hyn yn newid y blas a’r gwead ac yn creu cyffeithydd (‘preservative’) naturiol. Mae bwydydd fel sauerkraut, iogwrt a surdoes (‘sourdough’) yn fwydydd wedi’u heplesu. |
| Piclo | Trochi a marinadu bwyd mewn hylifau asidig fel finegr neu heli (‘brine’), a heb ocsigen i atal twf microbiolegol a chyffeithio’r bwyd. |
| Siwgro | Defnyddio siwgr i dynnu dŵr allan o gynhyrchion bwyd er mwyn creu amgylchedd heb lawer o leithder sy’n atal twf micro-organebau niweidiol a difetha. |
Sut i gyffeithio bwyd yn ddiogel
-
golchwch eich dwylo’n drylwyr cyn, wrth, ac ar ôl paratoi bwyd
-
glanhewch a diheintiwch yr arwynebau gwaith a’r offer
-
defnyddiwch gyfarwyddiadau a chanllawiau o ffynhonnell ddibynadwy, a’u darllen i gyd cyn i chi ddechrau
-
dilynwch y cyfarwyddiadau’n union, gan gynnwys defnyddio’r tymheredd a’r amser prosesu iawn
-
defnyddiwch gynwysyddion ac offer sy’n addas ar gyfer y dull cyffeithio rydych chi’n ei ddefnyddio, a storiwch fwydydd yn unol â’r cyfarwyddiadau
-
gwiriwch jariau, caeadau a chynwysyddion am arwyddion o ddifrod cyn eu defnyddio, a thaflwch unrhyw rai sydd wedi’u difrodi
-
sterileiddiwch gynwysyddion pan fo cyfarwyddyd i wneud hynny
-
defnyddiwch gynhwysion sy’n ffres a heb eu difetha’n unig
-
rhowch label a’r dyddiad ar fwydydd wedi’u cyffeithio
-
defnyddiwch fwydydd wedi’u cyffeithio o fewn yr oes silff a argymhellir
-
gwiriwch fwydydd sydd wedi’u storio yn rheolaidd am arwyddion eu bod wedi’u difetha
-
gwnewch yn siŵr bod yr holl offer a chynwysyddion yn lân cyn eu defnyddio
Sterileiddio cynwysyddion
Mae rhai dulliau cyffeithio yn gofyn bod cynwysyddion yn cael eu sterileiddio. Pan fo angen sterileiddio, mae hyn yn hanfodol i sicrhau bod y bwyd yn ddiogel. Dilynwch bob amser unrhyw gyfarwyddiadau sterileiddio a ddarperir gyda’ch cynwysyddion neu’ch offer cyffeithio.
Canio a photelu
Mae’n gallu bod yn anodd canio a photelu bwyd gartref mewn ffordd ddiogel.
Er mwyn gwneud bwyd yn ddiogel, rhaid iddo gyrraedd y tymheredd cywir am y cyfnod cywir o amser. Mae’r tymheredd a’r amser prosesu sydd eu hangen yn dibynnu ar ffactorau fel:
-
y math o fwyd
-
pa mor asidig yw’r bwyd
-
maint a math y cynhwysydd a ddefnyddir
Dilynwch bob amser y cyfarwyddiadau a ddarperir gyda’ch offer, neu gyfarwyddiadau o ffynhonnell gydnabyddedig. Os nad ydych yn siŵr a yw proses yn ddiogel, peidiwch â chymryd y risg.
Defnyddio gwybodaeth o’r cyfryngau cymdeithasol
Efallai na fydd cyngor cyffeithio bwyd ar y cyfryngau cymdeithasol bob amser yn dod gan bobl sydd â’r wybodaeth neu’r profiad angenrheidiol.
Os byddwch chi’n defnyddio gwybodaeth o’r cyfryngau cymdeithasol, gwnewch yn siŵr ei bod yn dod o ffynhonnell ddibynadwy ag enw da, a dilynwch ganllawiau diogelwch bwyd cydnabyddedig bob amser.
Gwybodaeth bellach
Gallwch chi ddod o hyd i fwy o gyngor diogelwch bwyd ar: