Canllawiau

Cylch 4 y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol: sut i fynegi eich diddordeb mewn gwneud cais

Mae'r gronfa hon yn helpu grwpiau cymunedol i brynu neu adnewyddu asedau y byddai'r gymuned yn eu colli fel arall.

Cyn dechrau Cylch 4, sef cylch olaf y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol, rydym wedi ceisio gwella’r ffurflen Mynegi Diddordeb er mwyn gwella profiad ymgeiswyr a chwtogi’r amser a gymerir i’r ymgeisydd gael canlyniad.

Mae’r broses Mynegi Diddordeb newydd wedi’i symleiddio i sicrhau bod ymgeiswyr yn cael canlyniad o fewn munudau, sy’n golygu y byddant yn gallu gweld a allai eu prosiect fod yn addas ar gyfer y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn gyflymach o lawer nag o’r blaen.

I alluogi’r newid i’r system newydd, ni fydd ffurflenni Mynegi Diddordeb a gyflwynwyd cyn mis Chwefror 2024 yn ddilys mwyach. Os hoffech gyflwyno cais llawn am gyllid o’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol mewn cyfnod gwneud cais arall, bydd angen i chi gwblhau ffurflen Mynegi Diddordeb newydd. Dim ond ymgeiswyr a gyflwynodd ffurflenni Mynegi Diddordeb yn y system newydd a fydd yn cael eu hysbysu pan fydd cyfnod gwneud cais ar fin agor ac yn cael y ddolen sydd ei hangen i wneud cais i’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol.

Crynodeb o’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol

Rhaid i chi ddarllen manylion llawn y gronfa yn y prosbectws cyn dechrau mynegi diddordeb. Mae’r prosbectws yn cynnwys popeth y mae angen i chi ei wybod am ein meini prawf cymhwystra.

Mae’r gronfa hon yn helpu grwpiau cymunedol i brynu neu adnewyddu asedau y byddai’r gymuned yn eu colli fel arall.

Lleoliadau a mannau cyfarfod a ddefnyddir gan y gymuned leol yw asedau, er enghraifft:

  • canolfannau cymunedol
  • sinemâu a theatrau
  • orielau
  • amgueddfeydd
  • lleoliadau cerddoriaeth
  • parciau
  • adeiladau swyddfa bost
  • tafarndai
  • shops
  • cyfleusterau chwaraeon a hamdden

Gall fod perygl y bydd y gymuned yn colli’r ased o ganlyniad i:

  • benderfyniad i gau neu les yn dod i ben
  • esgeulustod neu gyflwr adfeiliedig
  • model busnes anghynaliadwy ar hyn o bryd
  • ar werth
  • wedi’i restru i’w waredu
  • yn rhan o broses trosglwyddo asedau cymunedol

Rhaid i’r ased gynnig gwerth i bobl leol. Rhaid ichi allu ei redeg yn gynaliadwy yn yr hirdymor.

Sut i ddechrau cais

Cyn y gallwch gyflwyno cais llawn i’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol, rhaid i chi gyflwyno ffurflen Mynegi Diddordeb i ddechrau. Ffurflen fer yw hon sy’n ein galluogi i asesu a all eich prosiect fod yn addas i gael cyllid o’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol.

Pan fydd wedi ei chwblhau, bydd y ffurflen yn rhoi canlyniad o fewn munudau. 

Caiff ymgeiswyr nad ydynt yn addas ar gyfer y gronfa eu hysbysu ar unwaith ar ôl cyflwyno eu ffurflen Mynegi Diddordeb. Bydd pob ymgeisydd arall yn cael e-bost yn cadarnhau y gall fod yn addas i gael cyllid drwy’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol. Mewn rhai amgylchiadau, pan fydd atebion ymgeisydd yn dangos ei bod yn debygol y bydd yn addas ond bod perygl nad yw’n bodloni holl ofynion y cais llawn, bydd yr e-bost yn cynnwys canllawiau pellach. Bydd hyn yn cynnwys cyngor ar unrhyw faterion y mae’n rhaid iddo fynd i’r afael â nhw cyn cwblhau cais llawn. 

Mae cymorth datblygu bellach ar gael i ymgeiswyr drwy wefan My Community.

Mae ein darparwr cymorth datblygu yn cynnig cymorth a chyngor cychwynnol i bob ymgeisydd sydd â diddordeb hyd at y cam Mynegi Diddordeb.

Ar ôl y cam Mynegi Diddordeb, bydd modd i rai ymgeiswyr gael cymorth manwl ar gyfer datblygu eu cais a’u hachos busnes. Gall hyn hefyd gynnwys cael grantiau refeniw bach i sicrhau cymorth arbenigol.

Dechrau eich proses mynegi diddordeb

Mae’r cwestiynau’n syml, ac rydym yn disgwyl y bydd yn cymryd tua 20-30 munud i’w chwblhau. Atebwch yr holl gwestiynau’n gywir ac yn onest.

Dyma’r rhestr o gwestiynau a ofynnir i chi wrth gyflwyno cais Mynegi Diddordeb.

Adran 1: Manylion Sefydliad

  1. Enw’r sefydliad
  2. Enwau amgen eich sefydliad (dewisol)
  3. Cyfeiriad y sefydliad
  4. Sut y caiff eich sefydliad ei ddosbarthu
  5. A yw eich sefydliad yn destun unrhyw gamau ansolfedd?

Adran 2: Ynglŷn â’ch ased

  1. A yw eich sefydliad yn bwriadu cael y cyllid a rhedeg y prosiect?
  2. Y math o ased
  3. A yw’r ased yn y DU?
  4. Cyfeiriad yr ased
  5. A yw’r ased mewn perygl?
  6. Beth yw’r perygl i’r ased? (dewisol)
  7. A yw’r ased erioed wedi cael ei ddefnyddio gan y gymuned neu wedi bod yn arwyddocaol iddi?
  8. A ydych eisoes yn berchen ar yr ased?
  9. A yw’r ased yn perthyn i awdurdod cyhoeddus? (dewisol)
  10. Dewiswch yr opsiwn sy’n cynrychioli’r cam rydych wedi’i gyrraedd yn y broses o brynu’r ased yn y ffordd orau (dewisol)

Adran 3: Eich cais am gyllid

  1. At ba ddiben ydych chi’n bwriadu defnyddio cyllid o’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol?
  2. A fydd gan y lesddaliad o leiaf 15 mlynedd pan fydd eich sefydliad yn cyflwyno cais llawn? (dewisol)
  3. Faint o gyllid cyfalaf ydych chi’n gwneud cais amdano o’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol?
  4. A ydych yn bwriadu gwneud cais am unrhyw gyllid refeniw?
  5. A ydych yn bwriadu sicrhau arian cyfatebol (arian parod neu mewn nwyddau neu wasanaethau)?
  6. O ble rydych yn bwriadu cael arian cyfatebol? (dewisol)
  7. Pa gynnydd ydych chi wedi’i wneud i sicrhau’r arian hwn? (dewisol)
  8. A yw eich prosiect yn cynnwys elfen dai?
  9. A fydd angen caniatâd cynllunio ar gyfer eich prosiect?
  10. Pa gam ydych chi wedi’i gyrraedd yn y broses o sicrhau caniatâd cynllunio? (dewisol)

Adran 4: Darparwr cymorth datblygu

  1. A hoffech i’r darparwr cymorth datblygu gysylltu â chi, os ydych yn gymwys i gael cymorth manwl?
  2. Beth yw’r prif bethau y mae angen cymorth arnoch gyda nhw er mwyn cyflwyno cais da i’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn eich barn chi?
  3. Disgrifiwch eich prosiect a’i nodau
  4. Manylion y prif unigolyn cyswllt

Gall unrhyw un o Gymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon fynegi diddordeb mewn gwneud cais. Mae’r broses yr un fath ym mhob ardal.

Os ydych yn bwriadu gwneud cais ar y cyd â sefydliad arall, dim ond un o’r sefydliadau all gyflwyno ffurflen Mynegi Diddordeb.

Gallwch gynllunio i wneud cais ar gyfer mwy nag un ased, ond rhaid i chi gyflwyno ffurflen Mynegi Diddordeb ar gyfer pob un.

Gallwch fynegi eich diddordeb ar unrhyw adeg. Os byddwch yn llwyddiannus, cewch eich gwahodd i gyflwyno cais llawn. Ni fydd yn rhaid i chi wneud hyn ar unwaith, felly dewiswch yr adeg gywir ar gyfer eich prosiect. Fodd bynnag, nodwch mai dyma gylch olaf y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol ac na fydd yn derbyn rhagor o geisiadau ar ôl mis Mawrth 2025.

Beth sy’n digwydd nesaf?

Caiff ymgeiswyr sydd wedi cyflwyno ffurflen Mynegi Diddordeb ac sydd wedi cael canlyniad llwyddiannus eu hysbysu bythefnos cyn i unrhyw gyfnod gwneud cais agor i geisiadau llawn, ac ar y diwrnod y bydd yn agor yn ffurfiol.

Os cewch ganlyniad llwyddiannus ar ôl cyflwyno’r ffurflen Mynegi Diddordeb newydd, byddwch yn cael dolen i’r ffurflen gais lawn ar gyfer pob cyfnod arall. Ni fydd angen i chi gyflwyno ffurflen Mynegi Diddordeb newydd ar gyfer pob cyfnod gwneud cais.

Gofyn cwestiwn am eich ffurflen Mynegi Diddordeb

Dewch o hyd i’r darparwr Cymorth Datblygu ar wefan My Community.

Cyhoeddwyd ar 6 March 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 March 2024 + show all updates
  1. Updated to show the opening date of the Round 4 Window 1.

  2. First published.