Papur polisi

Prosbectws y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol

Mae prosbectws gwneud cais y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn darparu canllawiau manwl ar bwrpas y gronfa, meini prawf cymhwyster, cyllid a meini prawf asesu cymorth a'r broses o wneud penderfyniadau. Gweler isod am ddiweddariad ar Gylch 4.

Dogfennau

Manylion

Cylch 4 yw cylch olaf y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol. Bydd dau gyfnod gwneud cais yng Nghylch 4 er mwyn dyrannu’r cyllid sy’n weddill.

Mae Cylch 4 Ffenestr 1 ar agor o 25 Mawrth 2024 i 10 Ebrill 2024.

Bydd Cylch 4 Ffenestr 2 yn agor ddiwedd mis Mai. Caiff yr amseroedd penodol ar gyfer y ffenestr olaf eu cyhoeddi maes o law.

Mae’r llywodraeth yn darparu £150 miliwn dros bedair blynedd er mwyn helpu grwpiau cymunedol ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i gymryd perchnogaeth dros asedau a mwynderau y mae’r gymuned mewn perygl o’u colli.

Gall grwpiau gwirfoddol a chymunedol wneud cais am gyllid i gaffael asedau pwysig a’u rhedeg er budd y gymuned leol.

Lansiodd y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol brospectws wedi’i ddiweddaru ar gyfer Cylch 4 ar 11 Mawrth 2024.

Mae Mynegiant o Ddiddordeb y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol newydd yn agored ar gyfer ceisiadau.

Mae cymorth datblygu bellach ar gael i ymgeiswyr drwy wefan My Community. Bydd hefyd yn cynnal gweminarau yn llawn gwybodaeth am y pynciau canlynol, a gallwch gofrestru ar eu cyfer nawr:

Mae ein darparwr cymorth datblygu yn cynnig cymorth a chyngor cychwynnol i bob ymgeisydd sydd â diddordeb hyd at y cam Mynegi Diddordeb. Ar ôl y cam Mynegi Diddordeb, bydd modd i rai ymgeiswyr gael cymorth manwl ar gyfer datblygu eu cais a’u hachos busnes, gall hyn hefyd gynnwys mynediad at grantiau refeniw bach i sicrhau cymorth arbenigol.

Cyhoeddwyd ar 15 July 2021
Diweddarwyd ddiwethaf ar 23 March 2024 + show all updates
  1. Updated to show the opening date of the Round 4 Window 1.

  2. Added new version of the prospectus for Round 4.

  3. Added Welsh translation of the round 3 Community Ownership Fund prospectus

  4. Updated to show the opening date of the next window.

  5. Prospectus updated to reflect extension of the maximum capital funding available to new applicants from Round 3 Window 2 onwards. Applicants are now able to apply for up to £2 million in capital funding.

  6. Update made to sections 7 and 11 to clarify assessment criteria for larger projects and the documents that applicants should upload.

  7. Added Community Ownership Fund prospectus, Round 3.

  8. Updated to reflect the opening of the third bidding window of Round 2.

  9. Change to eligible funding requirement.

  10. Added translation

  11. Added new version of prospectus covering changes to the eligibility requirements and application process.

  12. Details of new round 2 start date and reopening of round 1 added.

  13. Added Welsh translation

  14. First published.