Papur polisi

Y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol: prosbectws (Ddim mewn defnydd)

Diweddarwyd 23 March 2024

Fe’ch anogir yn gryf i ddarllen y canllawiau hyn, gan gynnwys y canllawiau newydd ar sut i gwblhau eich cais, yn llawn cyn gwneud cais i’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol.

Os bydd gennych ymholiadau, cysylltwch â’r darparwr cymorth datblygu drwy’r ffurflen ymholi ar wefan My Community i gael cyngor a chymorth. Bydd hefyd yn cynnal gweminarau yn llawn gwybodaeth am y pynciau canlynol, a gallwch gofrestru ar eu cyfer nawr:

1. Rhagair gan y Gweinidog

Mae Ffyniant Bro’n golygu newid mawr ac uchelgeisiol mewn buddsoddiad a phwerau er mwyn gwrthdroi anghydraddoldebau daearyddol parhaus a chreu cyfleoedd mewn lleoedd a gaiff eu hanwybyddu ac na chânt eu gwerthfawrogi ddigon ym mhob cwr o’r Deyrnas Unedig.

Ond, fel y nodir yn ein Papur Gwyn Ffyniant Bro, mae hefyd yn golygu diogelu’r asedau lleol bach sydd mor bwysig i bobl ac na allwn roi pris arnynt.

O sefydliadau chwaraeon a diwylliant i ganolfannau cymunedol, tafarndai a siopau’r stryd fawr, yr asedau hyn yw’r edau aur yn ein gwead cymdeithasol a’n treftadaeth gyffredin; gan hybu balchder, ymdeimlad o berthyn ac ansawdd bywyd.

Pan fyddant mewn perygl, byddwn yn aml yn gweld cymunedau’n dod ynghyd i frwydro yn erbyn pob tebygolrwydd i’w hachub.

Mae’n iawn ein bod gwneud mwy i wella eu tebygolrwydd o lwyddo.

Dyna’n union yw nod y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol gwerth £150 miliwn, sef sicrhau y gall pobl leol ledled y DU gefnogi sefydliadau lleol a drysorir sydd â dyfodol ansicr o bosibl, a pharhau i gael budd ohonynt.

Boed yn dafarn ar y stryd fawr sydd mewn perygl o gau, yn siop bentref neu’n dîm chwaraeon lleol a allai golli ei gae chwarae, mae’r Gronfa’n cynnig cyfle gwych i grwpiau lleol gymryd yr awenau a’u rhedeg fel busnesau – gan y gymuned, ar gyfer y gymuned.

Rydym yn gwneud cynnydd da ar y gwaith pwysig hwn; mae bron i £50 miliwn wedi’i gyhoeddi ar gyfer 195 o brosiectau hyd yma fydd o fudd i ganolfannau cymunedol, adeiladau treftadaeth, tafarndai, a chyfleusterau chwaraeon ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig.

Megis dechrau yw hyn. Mae dwy flynedd ar ôl i wneud mwy o geisiadau a rhyddhau mwy o fuddsoddiad, ac edrychaf ymlaen at weld llawer mwy o asedau lleol bach ond grymus yn sicrhau ffyniant bro yn y lleoedd sydd mor bwysig i ni ac yn cael eu sicrhau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.

Y Gwir Anrh. Michael Gove AS

Yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau

2. Y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol – crynodeb

Diben: Gwneud cais am gyllid i gymryd perchnogaeth dros asedau sydd mewn perygl o gael eu colli yn eich cymuned

Math o gronfa: Cystadleuol

Pwy all wneud cais: Sefydliadau gwirfoddol a chymunedol corfforedig, a chynghorau plwyf, tref a chymuned (yn dibynnu ar y gofynion cymhwysedd)

Y cyllid cyfalaf sydd ar gael: Hyd at £2 miliwn ar gyfer pob math o ased, ond rydym yn disgwyl y bydd y rhan fwyaf o ddyfarniadau am hyd at £250,000 o gyllid cyfalaf.

Y cyllid refeniw sydd ar gael: Dim mwy na £50,000 neu 20% o gyfanswm y cyllid cyfalaf y gwneir cais amdano, pa un bynnag yw’r lleiaf. Rydym yn annog pob grŵp i wneud cais, gan y bydd pob prosiect yn mynd i gostau rhedeg cychwynnol.

Nodau:

  • helpu grwpiau cymunedol i gymryd perchnogaeth dros asedau y mae’r gymuned mewn perygl o’u colli
  • helpu grwpiau cymunedol lle mae’r ased eisoes dan berchnogaeth gymunedol ond lle mae angen gwneud gwaith adnewyddu hanfodol er mwyn iddo fod yn gynaliadwy er budd hirdymor y gymuned
  • atgyfnerthu perchnogaeth gymunedol ledled y DU
  • atgyfnerthu’r seilwaith cymdeithasol sy’n helpu cymunedau i ffynnu

Dyddiadau allweddol i’w nodi:

  • Cam Mynegi Diddordeb – ar agor bob amser
  • Cylch 3, Cyfnod Gwneud Cais 2 – 30 Awst – 11 Hydref 2023
  • Cylch 3, Cyfnod Gwneud Cais 3 – 6 Rhagfyr 2023 – 31 Ionawr 2024
  • Rhaid i geisiadau gael eu cyflwyno erbyn 11.59am (cyn hanner dydd) ar ddyddiad cau pob cyfnod gwneud cais
  • Bydd pedwar cyfnod gwneud cais bob blwyddyn, a chyfnodau rheolaidd rhyngddynt
  • Mis Mawrth 2025 – y Gronfa’n cau

Rydym wedi gwneud rhai newidiadau ers Cylch 2 y gallwch ddarllen amdanynt yn llawn yn adran 15.

3. Nodau’r Gronfa

Cronfa gwerth £150 miliwn dros bedair blynedd yw’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol, a’i nod yw helpu grwpiau cymunedol ledled Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i gymryd perchnogaeth dros asedau y mae’r gymuned mewn perygl o’u colli.

Mae’n rhan o becyn sylweddol o ymyriadau ledled y DU i sicrhau ffyniant bro drwy greu cyfleoedd a grymuso cymunedau i wella eu lleoedd lleol.

Rydym yn cydnabod y gall fod yn anodd i grwpiau cymunedol godi’r arian sy’n ofynnol i brynu neu adnewyddu asedau a’u rhedeg mewn modd cynaliadwy er budd hirdymor y gymuned. Bydd y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn cyfrannu at helpu pobl leol i achub asedau cymunedol lleol sydd mewn perygl.

Mae’r Gronfa’n cefnogi prosiectau sy’n cyflawni un o’r nodau canlynol neu gyfuniad ohonynt. Ystyrir pob un o’r rhain yng nghyd-destun achub ased er mwyn i’r gymuned ei ddefnyddio:

  • cymryd perchnogaeth dros ased cymunedol ffisegol mewn perygl, megis tir ac adeiladau, sydd o fudd i bobl leol
  • adnewyddu, atgyweirio neu ailwampio ased er mwyn ei wneud yn gynaliadwy ar gyfer y tymor hir
  • sefydlu neu brynu busnes cymunedol
  • prynu stoc, casgliadau neu eiddo deallusol cysylltiedig
  • symud ased cymunedol i leoliad newydd a mwy priodol yn yr un gymuned. Gallai hyn fod am fod lleoliad gwahanol yn cynnig gwell gwerth er mwyn i’r ased barhau, neu am fod y lleoliad ei hun yn ased sydd o werth i’r gymuned
  • datblygu asedau newydd sy’n gysylltiedig ag achub, gwarchod neu adleoli ased o’r gorffennol neu ased sy’n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd

4. Pwy all wneud cais – crynodeb

Gallwch wneud cais am gyllid os yw eich sefydliad, eich prosiect, a’r ased rydych am ei achub yn bodloni gofynion cymhwysedd penodol.

Yr ased

  • mae mewn perygl o gael ei golli os na fydd y gymuned yn ymyrryd
  • gellir ei redeg mewn modd hyfyw a chynaliadwy yn nwylo’r gymuned er budd hirdymor y gymuned
  • os yw eisoes dan berchnogaeth, mae angen gwneud gwaith adnewyddu hanfodol er mwyn iddo fod yn gynaliadwy er budd hirdymor y gymuned

Y prosiect

  • mae’n gwneud cais am hyd at £2 miliwn ar gyfer pob math o ased, ond rydym yn disgwyl y bydd y rhan fwyaf o ddyfarniadau am hyd at £250,000 o gyllid cyfalaf
  • mae’n gwneud cais am gyllid refeniw, a gaiff ei ddefnyddio i dalu costau rhedeg cychwynnol y prosiect, hyd at uchafswm o £50,000 neu 20% o gyfanswm y cyllid cyfalaf y gwneir cais amdano, pa un bynnag yw’r lleiaf (gweler adran 9 am eglurhad o ystyr cyllid refeniw)
  • mae’n gallu cyfrannu arian cyfatebol ar y gyfradd ofynnol ar gyfer y grant cyfalaf o’r Gronfa
  • mae’n gallu dangos y bydd y cyllid grant cyfalaf a’r arian cyfatebol yn cael eu gwario o fewn 12 mis ar ôl y dyddiad y cewch gynnig cyllid (bydd hyn wedi’i nodi ar y llythyr cynnig)

Eich sefydliad

  • mae’n sefydliad gwirfoddol neu gymunedol corfforedig neu’n gyngor plwyf, tref neu gymuned
  • mae’n gallu prynu’r ased ar sail rhydd-ddaliad, neu ar sail lesddaliad hirdymor am 15 mlynedd o leiaf gyda chymalau terfynu rhesymol
  • hwn yw’r un sefydliad a fydd yn cael y cyllid ac yn rhedeg y prosiect

Rydym yn esbonio’r rhain mewn mwy o fanylder isod yn adran 6.

Yr hyn na allwn ei ariannu

Ni fydd y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn darparu cyllid:

  • i dalu dyledion busnesau neu brynu busnes sydd mewn dyled. Ni ellir defnyddio cyllid grant y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol i ad-dalu benthyciadau na dyledion.
  • i brynu neu ddatblygu asedau tai (gan gynnwys tai cymdeithasol). Fodd bynnag, gallwch gynnwys elfennau sy’n gysylltiedig â thai yn eich prosiect os ydynt yn rhan fach o gefnogi cynaliadwyedd ariannol cyffredinol yr ased neu ariannu refeniw cyffredinol ar gyfer gweithgareddau cymunedol neu ddigwyddiadau nad ydynt yn gysylltiedig â chaffael, adnewyddu neu drosglwyddo ased cymunedol
  • i dalu costau prynu asedau dan berchnogaeth gyhoeddus lle y byddai’r awdurdod cyhoeddus yn credydu derbyniad cyfalaf, ac eithrio yn achos cynghorau plwyf, tref a chymuned. Fodd bynnag, gall prosiect ddefnyddio ei gyllid ei hun i brynu ased dan berchnogaeth gyhoeddus a defnyddio cyllid grant y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol ar gyfer gwaith ailwampio hanfodol
  • er mwyn helpu i gaffael asedau’r sector cyhoeddus os bydd hyn yn golygu trosglwyddo cyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau statudol oddi wrth unrhyw awdurdod cyhoeddus i’r sefydliad cymunedol.
  • i gyrff cyhoeddus, cwmnïau cyfyngedig drwy gyfranddaliadau, a sefydliadau anghorfforedig (oni bai eich bod yn bwriadu dod yn gorfforedig cyn y cam gwneud cais llawn) nac unigolion preifat
  • ar gyfer asedau sydd eisoes wedi cael cyllid o’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol
  • i dalu am ehangu ased nad yw mewn perygl, h.y. codi estyniad fel y gall mwy o bobl gael mynediad i’r ased, neu wneud gwelliannau i ased o’r fath

Ar wahân i gynghorau plwyf, tref a chymuned, nid yw awdurdodau lleol yn gymwys i wneud cais i’r Gronfa. Fodd bynnag, rydym yn gobeithio y bydd cynghorau lleol ym mhob cwr o’r Deyrnas Unedig yn chwarae rhan weithredol drwy helpu eu grwpiau cymunedol lleol i wneud cais.

Mae’n bosibl y bydd tystiolaeth o gymorth gan awdurdodau lleol yn helpu i ategu eich cais.

5. Sut i wneud cais

  • Gallwch fynegi eich diddordeb yn y gronfa drwy gydol y flwyddyn
  • Gwnewch gais yn ystod cyfnod gwneud cais os byddwch yn llwyddiannus
  • Cadwch eich cais a dychwelwch ato yn ystod y cyfnod gwneud cais rydych yn gwneud cais ynddo

Mynegwch eich diddordeb yn y gronfa

Y cam cyntaf yw cael cymeradwyaeth i’ch ffurflen Mynegi Diddordeb, a fydd yn cadarnhau a yw’n debygol y bydd eich cynnig prosiect yn gymwys i gael cyllid.
Bydd y ffurflen fer hon yn holi am y canlynol:

  • manylion y sefydliad sy’n gwneud cais
  • disgrifiad o’r prosiect
  • faint o arian y gwneir cais amdano mewn cyllid cyfalaf a refeniw
  • sut mae’r prosiect yn bodloni’r gofynion cymhwysedd
  • ble mae eich prosiect arni, a’ch anghenion posibl o ran cymorth

Cyn i chi ddechrau llenwi eich ffurflen Mynegi Diddordeb, sicrhewch eich bod yn gyfarwydd â gofynion cymhwysedd y Gronfa, sydd wedi’u hamlinellu yn y prosbectws hwn.

Os bydd eich mynegiant o ddiddordeb yn llwyddiannus, cewch eich gwahodd i gyflwyno cais llawn. Ni fydd rhaid i chi wneud hyn ar unwaith, felly dewiswch yr adeg gywir ar gyfer eich prosiect. Byddwn yn cynnal pedwar cyfnod gwneud cais bob blwyddyn, felly cewch gyfle i wneud cais bob tri mis, yn fras, tan fis Mawrth 2025. Ar ôl i chi fynegi diddordeb yn llwyddiannus, byddwn yn rhoi gwybod i chi pryd y bydd y cyfnodau gwneud cais yn dechrau ac yn gorffen.

Mae’n bosibl y byddwn yn rhoi rhywfaint o adborth i chi ar eich ffurflen Mynegi Diddordeb hefyd, drwy dynnu sylw at rai meysydd i’w hystyried cyn cyflwyno eich cais llawn neu ddweud wrthych nad yw eich prosiect yn gymwys i gael cyllid heb newid sylweddol.

Rhaid i chi gyflwyno eich ffurflen Mynegi Diddordeb o leiaf dair wythnos cyn diwedd y cyfnod gwneud cais yr hoffech wneud cais ynddo, er mwyn sicrhau y bydd digon o amser i chi gael adborth ac yna gyflwyno eich cais.

Dim ond os byddwch wedi cael cadarnhad bod eich prosiect yn gymwys ar y cam Mynegi Diddordeb y gallwch gyflwyno cais llawn. Gallwch hefyd wneud cais ar wahân am brosiect cwbl newydd sy’n gysylltiedig ag ased gwahanol, ond bydd angen i chi gyflwyno ffurflen Mynegi Diddordeb newydd a chael cymeradwyaeth cyn cyflwyno cais llawn ar gyfer y prosiect hwn.

Bydd y cam Mynegi Diddordeb ar agor drwy’r amser, sy’n golygu y gallwch lenwi ffurflen Mynegi Diddordeb unrhyw bryd. I fynegi eich diddordeb, gweler Y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol, cylch 3: sut i fynegi eich diddordeb mewn gwneud cais.

Cyflwyno cais llawn

Ar ôl darllen eich ffurflen Mynegi Diddordeb, os byddwn yn credu ei bod yn debygol y bydd eich prosiect yn gymwys, byddwn yn rhannu’r ddolen i’r ffurflen gais lawn â chi drwy e-bost yn ystod cyfnod gwneud cais, ac yn eich gwahodd i wneud cais.

Mae’r ffurflen gais i gyd ar-lein ac wedi’i rhannu’n adrannau yn seiliedig ar y ffordd y caiff ei hasesu. Gallwch ei llenwi mewn unrhyw drefn a dychwelyd ati fwy nag unwaith yn ystod yr un cyfnod gwneud cais.

Bydd y ffurflen gais yn eich holi am y canlynol:

Eich sefydliad

  • Gwybodaeth am y sefydliad
  • Gwybodaeth am yr ymgeisydd

Eich prosiect

  • Gwybodaeth am y prosiect
  • Gwybodaeth am yr ased

Achos strategol

  • Defnydd cymunedol
  • Ymgysylltu â’r gymuned
  • Cefnogaeth leol
  • Budd i’r gymuned
  • Cynaliadwyedd amgylcheddol

Achos rheoli

  • Y cyllid sydd ei angen
  • Dichonoldeb
  • Risg
  • Costau’r prosiect
  • Sgiliau ac adnoddau
  • Cynrychiolaeth gymunedol
  • Cynwysoldeb ac integreiddio

Rheoli cymorthdaliadau a chymorth gwladwriaethol

  • Cymwysterau’r prosiect

Datganiadau

Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ychwanegol er mwyn helpu ymgeiswyr i gwblhau eu cais llawn. Fe’ch cynghorir yn gryf i ddarllen y canllawiau hyn yn ofalus cyn dechrau gwneud cais.

Sut y gallwn eich cefnogi

Mae cyngor a chymorth ar gael i bob darpar ymgeiswyr drwy wefan My Community.

Bydd cymorth manwl i ddatblygu cais llawn ar gael i rai ymgeiswyr. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y darparwr cymorth datblygu manwl yn adran 14.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus

  • Byddwch yn cael llythyr cynnig drwy e-bost i gadarnhau eich bod wedi llwyddo
  • Bydd eich rheolwr grant penodedig yn rhannu eich Cytundeb Cyllid Grant â chi
  • Bydd yn ofynnol i chi roi gwybod i’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau am gynnydd yn rheolaidd drwy gydol eich prosiect

Ar ôl i’r cais gael ei asesu a’i gymeradwyo, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn cael llythyr cynnig gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau drwy e-bost. Wedyn, bydd ein tîm o reolwyr grantiau yn cysylltu â chi ac yn eich gwahodd i Gyfarfod Prosiect Cychwynnol er mwyn trafod y gofynion ar gyfer derbynyddion grant y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol, gan gynnwys sicrhau pridiant cyfreithiol a monitro drwy gydol y prosiect ac ar ôl iddo gael ei gwblhau.

Byddwch yn cael Cytundeb Cyllid Grant i sefydliad y prosiect a’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau ei lofnodi ac, ar ôl hynny, byddwn yn gallu rhyddhau’r cyllid i chi. Cyfrifoldeb y prosiect fydd gweithio gyda’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau i sicrhau pridiant cyfreithiol yn erbyn yr ased.

Er mwyn bodloni’r gofynion archwilio a sicrwydd, rhaid i chi gytuno i gyflwyno sicrwydd annibynnol bod y grant wedi cael ei ddefnyddio i gyflawni gweithgareddau’r prosiect. Bydd hyn yn cynnwys ardystiad annibynnol o archwiliad ariannol ar unrhyw adeg pan fydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn gofyn am hynny, yn ogystal â chadw’r holl anfonebau, cofnodion cyfrifyddu a dogfennaeth ohebu sy’n gysylltiedig â gwariant cymwys y prosiect. Bydd hefyd yn ofynnol i chi roi’r wybodaeth ddiweddaraf am lwyddiant y prosiect ei hun yn rheolaidd yn y tymor hwy - am hyd at saith mlynedd fel arfer.

Ochr yn ochr â thîm rheoli grantiau’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol, bydd y darparwr cymorth datblygu yn darparu adnoddau ar gyfer prosiectau llwyddiannus. Bydd hyn er mwyn sicrhau y byddwch yn cyflawni’r prosiect yn llwyddiannus ac yn unol â gofynion y rhaglen. Bydd y cymorth a gaiff ei gynnig yn cynnwys cyngor drwy weminarau neu weithdai, deunyddiau canllaw, a hwyluso cymorth gan gymheiriaid.

Os na fyddwch yn llwyddiannus

  • Byddwch yn cael hysbysiad drwy e-bost ynghyd â chrynodeb o adborth
  • Bydd pob penderfyniad yn derfynol

Bydd ymgeiswyr aflwyddiannus yn cael hysbysiad drwy e-bost yn nodi’r penderfyniad ynghyd â chrynodeb o adborth. Bydd y penderfyniad hwn yn derfynol.

Fel arfer, bydd croeso i chi wneud cais arall yn ystod cyfnod gwneud cais arall, cyn belled â’ch bod yn gweithredu ar y sylwadau yn yr adborth a gawsoch drwy e-bost.

Er nad oes terfyn ar faint o weithiau y cewch wneud cais, rydym yn cadw’r hawl i wrthod ceisiadau yn y dyfodol os yw eich prosiect yn sylfaenol anaddas ar gyfer y Gronfa.

Gallwch hefyd wneud cais ar wahân ar gyfer prosiect cwbl newydd sy’n gysylltiedig ag ased gwahanol.

Noder na allwch wneud cais am ragor o gyllid o’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol ar gyfer ased rydych eisoes wedi cael cyllid ar ei gyfer.

6. Pwy all wneud cais – yn fanwl

Fel yr amlinellir uchod yn adran 4, bydd angen i’r ased, eich prosiect a’ch sefydliad fodloni gofynion cymhwysedd penodol er mwyn i ni ystyried rhoi cyllid.

Yr ased

Nid oes gennym restr bendant o fathau o asedau sydd o fewn cwmpas y Gronfa hon. Y rheswm dros hyn yw ein bod yn cydnabod ei bod yn bwysig bod cymunedau’n nodi’r hyn sydd bwysicaf iddyn nhw, sy’n gallu amrywio.

Rhaid i’r ased rydych yn ei achub fod yn cael ei ddefnyddio gan y gymuned ar hyn o bryd, neu fod wedi cael ei ddefnyddio gan y gymuned yn y gorffennol. Nid oes terfyn amser o ran pryd y cafodd yr ased ei ddefnyddio ddiwethaf gan y gymuned, a gallwch adleoli neu ailadeiladu asedau os mai hynny fydd y peth mwyaf priodol i’w wneud.

Mae’r prosiectau llwyddiannus rydym wedi’u hariannu hyd yma yn cynnwys asedau megis:

  • canolfannau cymunedol
  • cyfleusterau chwaraeon a hamdden
  • tafarndai
  • adeiladau diwylliannol
  • adeiladau treftadaeth

Gweler rhestr lawn o brosiectau llwyddiannus hyd yma.

Mae unrhyw adeilad neu dir sydd wedi’i restru gan awdurdod lleol fel Ased o Werth Cymunedol o fewn y cwmpas ar gyfer prosiectau yn Lloegr. Fodd bynnag, nid oes rhaid i’r ased fod yn Ased o Werth Cymunedol i fod yn gymwys.

Byddwn yn ariannu prosiectau i brynu asedau sy’n eiddo i gynghorau plwyf, tref a chymuned. Bydd y gofynion tystiolaeth ychwanegol mewn perthynas â throsglwyddo asedau’r sector cyhoeddus a amlinellir yn adran 8 yn berthnasol o hyd.

Mae mewn perygl o gael ei golli os na fydd y gymuned yn ymyrryd

Gallai risg ddeillio o’r canlynol:

  • cau
  • gwerthu
  • esgeulustod a dirywiad o dan y berchnogaeth bresennol
  • aneffeithlonrwydd ynni sy’n bygwth gweithrediadau cynaliadwy hirdymor, neu
  • model busnes anghynaliadwy ar hyn o bryd

Dylech esbonio’r risgiau sy’n wynebu’r ased a dangos tystiolaeth ohonynt. Mae hyn yn cynnwys sut y bydd y gymuned yn ei golli os na fydd ymyriad.

Gellir ei redeg mewn modd hyfyw a chynaliadwy

Dylai eich ceisiadau ddangos sut y caiff yr ased ei ddiogelu er budd hirdymor y gymuned.Rhaid i sefydliadau ddangos hyn drwy eu diben elusennol a/neu glo asedau yn eu dogfennau llywodraethu.

Dylech ddangos sut rydych yn atebol i’r gymuned rydych yn ei chynrychioli, sut y byddwch yn gweithredu er budd y gymuned ehangach yn yr ardal lle mae’r ased wedi’i leoli, a sut y byddwch yn defnyddio’r ased i sicrhau effaith ar y gymuned.

Dylai elw o’r ased cymunedol a busnesau cysylltiedig gael ei ailfuddsoddi yn yr ased er mwyn sicrhau budd i’r gymuned.

Mae angen gwneud gwaith adnewyddu hanfodol er mwyn iddo fod yn gynaliadwy er budd hirdymor y gymuned

Mae sefydliadau sydd eisoes yn berchen ar eu hased yn gymwys i wneud cais am gyllid i adnewyddu’r ased, ar yr amod bod risg y byddai’r ased yn cau neu y byddai’r gymuned yn ei golli oni chaiff y gwaith adnewyddu hwn ei wneud.

Ni fydd gwaith adnewyddu i wella’r ased, ond nad yw’n hanfodol er mwyn iddo barhau i weithredu, yn cael ei ariannu.

Eich prosiect

Mae’n gallu cyfrannu arian cyfatebol ar y gyfradd ofynnol ar gyfer y grant cyfalaf o’r Gronfa

Gall ymgeiswyr gyflwyno’r achos o blaid hyd at £2 miliwn o arian cyfatebol ar gyfer pob math o ased, ond rydym yn disgwyl y bydd y rhan fwyaf o ddyfarniadau am hyd at £250,000 o gyllid cyfalaf.

Mae rhagor o fanylion am arian cyfatebol a’r gyfradd briodol i’w gweld yn adran 9.

Bydd modd i’r elfen o’r prosiect a gaiff ei ariannu gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol gael ei gwblhau ymhen 12 mis ar ôl dyddiad y gynnig

Os byddwch yn defnyddio cyllid o’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol i brynu’r ased sydd mewn perygl o gael ei golli, rhaid bod posibilrwydd realistig o’i werthu neu ei drosglwyddo i berchnogaeth y gymuned o fewn 12 mis ar ôl i’r cyllid gael ei gynnig.

Os ydych eisoes yn berchen ar eich ased, ond mae angen gwaith adnewyddu hanfodol er mwyn iddo fod yn gynaliadwy er budd hirdymor y gymuned, rhaid i chi allu cwblhau’r gwaith hwn o fewn 12 mis i gael cynnig cyllid.

Er mwyn tynnu eich grant i lawr, rhaid i’r swm priodol o arian cyfatebol fod wedi’i drefnu, h.y. wedi’i sicrhau, a thystiolaeth o hyn wedi’i chyflwyno.

Gwneir cais am gyllid refeniw heb fod yn fwy na £50,000 neu 20% o gyfanswm y cyllid cyfalaf y gwneir cais amdano, pa un bynnag yw’r lleiaf

Gallwch wneud cais am gyllid refeniw yn ychwanegol at gyllid cyfalaf.

Bydd pob prosiect yn mynd i gostau rhedeg yn ystod ei flwyddyn gyntaf, sy’n golygu y bydd yn gymwys i gael y cyllid hwn. Rydym yn annog pob grŵp i wneud cais (gweler y wybodaeth ar wneud cais am gyllid refeniw yn adran 11).

Nid oes angen arian cyfatebol ar gyfer cyllid refeniw.

Bydd prosiectau sy’n gwneud cais am fwy na £250,000 o gyllid cyfalaf wedi’u cyfyngu i £50,000 mewn cyllid refeniw.

Eich sefydliad

Mae’n sefydliad cymwys

Mae hyn yn golygu bod eich sefydliad:

  • yn sefydliad gwirfoddol neu gymunedol neu’n gyngor plwyf, tref neu gymuned
  • wedi’i gofrestru yn y DU

Ymhlith yr enghreifftiau o strwythurau cyfreithiol cyffredin y sefydliadau rydym yn disgwyl iddynt wneud cais mae:

  • Sefydliadau corfforedig elusennol
  • Sefydliadau corfforedig elusennol yn yr Alban
  • Cwmnïau cydweithredol gan gynnwys Cymdeithasau Budd Cymunedol
  • Cwmnïau Buddiannau Cymunedol
  • Cwmnïau cyfyngedig drwy warant

Os nad yw eich sefydliad yn gorfforedig, gallwch gwblhau’r cam Mynegi Diddordeb o hyd. Ond, os cewch eich gwahodd i wneud cais am gyllid, bydd yn rhaid cofrestru eich sefydliad cyn i chi gyflwyno eich cais.

Hefyd, ni allwn roi cyllid i gyrff cyhoeddus, cwmnïau cyfyngedig drwy gyfranddaliadau (nad ydynt yn Gwmnïau Buddiannau Cymunedol), unigolion preifat na chymdeithasau anghorfforedig.

Mae’n gallu prynu’r ased ar sail rhydd-ddaliad, neu ar sail lesddaliad hirdymor am 15 mlynedd o leiaf gyda chymalau terfynu rhesymol

Dylech allu dangos sut y byddwch yn gwarantu sicrwydd hirdymor yr ased dan berchnogaeth gymunedol. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno cynllun busnes hirdymor cynaliadwy i ni.

Mae’n well gennym asedau sydd â lesddaliadau 25 mlynedd a dim ond cymalau terfynu rhesymol am fod hynny fel arfer yn ei gwneud yn haws profi cynaliadwyedd hirdymor yr ased yn nwylo’r gymuned. Fodd bynnag, byddwn yn derbyn lesddaliad 15 mlynedd o leiaf. Dylai cymalau terfynu fod yn gymesur ac ni ddylent gynyddu’r tebygolrwydd y byddai’r gymuned yn colli defnydd o’r ased yn sgil terfynu cynnar.

Rhaid mai’r sefydliad sy’n gwneud cais am gyllid yw’r un sefydliad a fydd yn cael y cyllid ac yn rhedeg y prosiect

Bydd hyn yn ein helpu i wybod bod y sefydliad sy’n gwneud cais yn gallu rhedeg busnes cynaliadwy yn nwylo’r gymuned.

Gall sefydliadau fod yn berchen ar gwmnïau eraill sy’n gwneud elfen o’u gwaith, neu reoli cwmnïau o’r fath, megis cwmni cyfyngedig er mwyn masnachu’n fwy effeithiol neu i ddal eiddo.

Rhaid i chi roi gwybod i ni yn y cais os byddwch yn bwriadu cynnwys cwmni cysylltiedig, a rhoi enw a rhif cofrestru’r cwmni hwnnw. Rhaid i chi roi gwybod i ni sut y byddwch yn rheoli gwaith y cwmni. Bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn cwblhau proses diwydrwydd dyladwy ar bob parti a gaiff ei enwi wrth asesu’r cais.

Os bydd y cais yn llwyddiannus, bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn ymrwymo i Gytundeb Cyllid Grant â’r ymgeisydd, ond caiff y partïon eraill eu nodi a darperir ar eu cyfer. Rhaid i’r sefydliad sy’n gwneud cais fod yn gymwys – gweler y gofynion cymhwysedd uchod.

Noder nad yw awdurdodau lleol (ac eithrio cynghorau plwyf, tref a chymuned) na chwmnïau a reolir gan awdurdodau lleol yn gymwys i wneud cais ac na allant weithredu fel corff atebol.

7. Canllawiau ar gyfer prosiectau sy’n gwneud cais am fwy na £250,000 o gyllid cyfalaf

Rydym yn disgwyl i’r mwyafrif o ymgeiswyr wneud cais am hyd at £250,000 o gyllid cyfalaf. Fodd bynnag, bydd angen i rai prosiectau gael mwy o gyllid er mwyn achub eu hased cymunedol a sicrhau mwy o fudd i’r gymuned.

Rydym wedi cynyddu’r uchafswm cyllid er mwyn i brosiectau ar gyfer unrhyw fath o ased allu gwneud cais am hyd at £2 miliwn o gyllid cyfalaf.

Dylai ceisiadau am fwy na £250,000 ddangos achos strategol cadarn o blaid cyllido, gan gynnwys gallu dangos y bydd y cyllid ychwanegol yn arwain at fudd pellach sy’n gymesur â maint y cais. Dylech amlinellu’r gwerth ychwanegol y bydd y cyllid ychwanegol dros £250,000 yn ei gynnig i’r gymuned yn benodol.

Er enghraifft, efallai y byddwn yn disgwyl i brosiect treftadaeth sy’n gwneud cais am grant mwy ddangos sut y bydd yn trawsnewid yr ased ac yn cynyddu ei effaith a’i bwysigrwydd drwy ehangu ei weithgareddau. Gallai hyn gynnwys cynyddu’r effaith ar bobl leol drwy greu canolfan ddysgu ar gyfer plant ysgol, neu sicrhau cydnabyddiaeth ehangach i’r ased yn y rhanbarth y tu hwnt i ardal leol yr ased.

Rydym yn disgwyl y bydd gan bob prosiect, gan gynnwys y rhai sy’n gwneud cais am fwy na £250,000, gynllun ar gyfer gwario’r holl gyllid y bydd wedi gwneud cais amdanom, a’r arian cyfatebol, o fewn 12 mis.

Hefyd, rhaid i bob cais i’r Gronfa fod yn seiliedig ar ardal ddaearyddol benodol, gan sicrhau budd i’w gymuned leol.

Bydd pob ased yn cynnig ei fanteision unigryw ei hun. Gweler y canllawiau ar y meini prawf asesu am ragor o fanylion ac arweiniad.

Dylai eich cynllun busnes ac unrhyw dystiolaeth ategol gynnwys mwy o fanylder, a hynny’n gymesur á faint o gyllid rydych yn gwneud cais amdano a maint a chymhlethdod eich prosiect. Bydd angen i chi ddangos bod eich sefydliad yn meddu ar y sgiliau, y profiad a’r arbenigedd i redeg prosiect ar y raddfa hon, ynghyd â dangos tystiolaeth bod gennych arbenigedd proffesiynol perthnasol i gyflawni’r prosiect hwn neu y byddwch yn cyflogi arbenigedd o’r fath. O ystyried maint y grant, mae’n debygol y bydd ceisiadau llwyddiannus wedi cadarnhau dichonoldeb y prosiect ac wedi rhoi cynllun cyflawni a thîm arwain ar waith.

Dylech hefyd ddangos eich bod wedi archwilio ffynonellau cyllid eraill cyn gwneud cais am fwy o gyllid o’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol.

8. Asedau dan berchnogaeth gyhoeddus – gofynion ychwanegol

Asedau dan berchnogaeth gyhoeddus

Ochr yn ochr â’r gofynion cymhwysedd gorfodol y bydd angen i bob ymgeisydd eu bodloni, bydd hefyd angen i geisiadau sy’n gysylltiedig ag asedau dan berchnogaeth gyhoeddus fodloni’r gofynion ychwanegol canlynol:

  • Ni fydd y cyfrifoldeb am ddarparu unrhyw wasanaethau statudol ei drosglwyddo oddi wrth yr awdurdod cyhoeddus i’r sefydliad cymunedol
  • Dim ond i dalu costau adnewyddu ac ailwampio ar ôl trosglwyddo ased i berchnogaeth gymunedol y caiff y grant o’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol ei ddefnyddio; ni fydd yr awdurdod cyhoeddus yn credydu derbyniad cyfalaf o gyllid o’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol, ac eithrio yn achos cynghorau plwyf, tref a chymuned.

Asedau dan berchnogaeth gyhoeddus – tystiolaeth ategol

Ar gyfer prosiectau sy’n gysylltiedig ag asedau dan berchnogaeth gyhoeddus, bydd angen i ni gael tystiolaeth benodol sy’n ymwneud â’r pwyntiau canlynol:

  • Risg sy’n wynebu’r ased – dim ond mewn asedau cymunedol a fyddai’n cael eu colli fel arall y bydd y Gronfa’n buddsoddi. Felly, bydd angen i ni gael tystiolaeth gan y perchennog cyhoeddus presennol a’r ymgeisydd ynglŷn â statws presennol yr ased a pham mae ei ddyfodol mewn perygl
  • Effaith ar ddarparu gwasanaethau – tystiolaeth y bydd yr awdurdod cyhoeddus yn parhau ag unrhyw wasanaethau statudol sy’n cael eu darparu o’r ased sydd mewn perygl ar hyn o bryd. Gellir dangos tystiolaeth o hyn drwy gyflwyno llythyr neu bapur cabinet priodol gan awdurdod lleol

9. Cyllid sydd ar gael

  • Gallwch wneud cais am gyfuniad o gyllid cyfalaf a refeniw
  • Bydd angen i chi gyfrannu swm o arian sy’n cyfateb i’r cyllid cyfalaf o ffynonellau eraill (arian cyfatebol)
  • Cyllid cyfalaf – hyd at £2 miliwn ar gyfer pob math o ased, ond rydym yn disgwyl y bydd y rhan fwyaf o ddyfarniadau am hyd at £250,000 o gyllid cyfalaf
  • Cyllid refeniw – ni all fod yn fwy nag 20% o’r cyllid cyfalaf, neu £50,000, pa un bynnag yw’r lleiaf

Dylech nodi na fydd unrhyw gostau yr eir iddynt cyn dyddiad cau’r cyfnod gwneud cais y byddwch yn gwneud cais ynddo yn cyfrif fel gwariant cymwys. Mae’n bosibl y bydd unrhyw wariant yr eir iddo ar ôl cyflwyno eich cais ond cyn cael eich llythyr canlyniad yn gymwys, ond caiff ei wario ar eich menter eich hun.

Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd eich Rheolwr Grant yn bwrw golwg drosto er mwyn penderfynu a ellir ei gyfrif fel cyllid cymwys.

Os na fyddwch yn llwyddiannus yn ystod yr un cyfnod gwneud cais â’r gwariant, ni fydd y gwariant hwn yn gymwys os byddwch yn penderfynu gwneud cais yn un o gyfnodau gwneud cais nesaf y Gronfa.

Cyllid cyfalaf

Gellir defnyddio cyllid cyfalaf i brynu neu lesio’r ased a thalu costau ailwampio.

Rydym yn disgwyl i gyllid cyfalaf gael ei ddefnyddio ar gyfer elfennau cyfalaf y prosiect ac nid ar gyfer costau y byddai’n well iddynt gael eu talu drwy gyllid refeniw yn unig.

Mae manylion am gyllid refeniw i’w gweld isod.

Cyllid refeniw

Caiff cyllid refeniw ei ddefnyddio i dalu costau rhedeg cychwynnol y prosiect. Bydd pob prosiect yn mynd i gostau rhedeg yn ystod ei flwyddyn gyntaf, sy’n golygu y bydd yn gymwys i gael y cyllid hwn. Rydym yn annog pob grŵp i wneud cais.

Rhaid gwneud cais am gyllid refeniw gyda’r grant cyfalaf fel rhan o’ch cais llawn, a chaiff ei ddyfarnu ochr yn ochr â’r grant cyfalaf er mwyn helpu i dalu am eitemau fel:

  • cyfleustodau (e.e. biliau ynni)
  • costau staffio a recriwtio (e.e. cyflogau staff)
  • astudiaethau dichonoldeb (e.e. ffioedd ymgynghori)
  • gwasanaethau proffesiynol (e.e. pensaer, ffioedd cyfreithiol)
  • cymorth busnes ar gyfer sefydlu’r ased (e.e. cymorth rheoli ariannol, dylunio/hyrwyddo gwefan)
  • rheoli llif arian parod yn ystod y flwyddyn gyntaf o weithredu

Nid oes angen arian cyfatebol ar gyfer cyllid refeniw.

Ni all cyllid refeniw fod yn fwy nag 20% o’ch cais am gyllid cyfalaf, neu £50,000, pa un bynnag yw’r lleiaf. Bydd hyn hefyd yn berthnasol i bob ased sy’n destun cais am hyd at £2 miliwn o gyllid cyfalaf.

Er enghraifft, gallai grŵp cymunedol sy’n gwneud cais am £250,000 o gyllid cyfalaf i brynu tafarn ond gwneud cais am £50,000 mewn cyllid refeniw i’w wario ar gostau ynni a chostau staff cychwynnol.

Arian cyfatebol

Bydd yn ofynnol i chi godi arian o ffynonellau eraill ochr yn ochr â buddsoddiad o’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol. Mae’n bosibl y bydd cael amrywiaeth o gyllidwyr yn cyfrannu at eich prosiect yn dangos ansawdd y prosiect a’r gefnogaeth yn y gymuned.

Bydd y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn cyfrannu hyd at 80% o gyfanswm y cyfalaf y bydd ei angen. Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr godi’r 20% sy’n weddill o ffynonellau cyllid eraill. Bydd angen i chi nodi cyfanswm costau’r prosiect, y cyllid sydd eisoes wedi’i sicrhau, a chynlluniau i godi unrhyw gyllid ychwanegol y bydd ei angen yn eich cais llawn.

Mewn achosion eithriadol lle y byddwn wedi asesu bod eich prosiect yn un sydd fwyaf mewn angen, mae’n bosibl y byddwn yn cyfrannu 10% yn rhagor o gyllid cyfalaf. Dan yr amgylchiadau hyn, gall y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol gyfrannu hyd at 90% o gyfanswm y cyfalaf y bydd ei angen a bydd yn ofynnol i ymgeiswyr godi’r 10% sy’n weddill o ffynonellau cyllid eraill. Mae rhagor o wybodaeth am y broses gwneud penderfyniadau ar gyfer cynnig cymorth manwl i’w gweld yn adran 14.

Bydd y ffynonellau cymwys o arian cyfatebol yn cynnwys:

  • Codi arian yn eich cymuned
  • Eich adnoddau ariannol eich hun
  • Cyrff cyhoeddus
  • Gweinyddiaethau datganoledig
  • Ymddiriedolaethau elusennol
  • Cyllidwyr y Loteri Genedlaethol
  • Cyfranddaliadau cymunedol
  • Buddsoddwyr cymunedol
  • Benthycwyr eraill

Fel rhan o’r broses diwydrwydd dyledus, bydd aseswyr yn bwrw golwg dros amodau unrhyw fenthyciad y mae’r sefydliad wedi’i gael, yn cynnal gwiriadau sylfaenol ar gyfarwyddwyr y sefydliad ac yn cynnal “archwiliad iechyd” cyffredinol cyn gwneud unrhyw argymhelliad.

Mae’n bosibl y bydd y mathau canlynol o arian cyfatebol ‘mewn nwyddau neu wasanaethau’ hefyd yn cyfrif fel ffynhonnell gymwys i arian cyfatebol:

  • Rhoddion o nwyddau sy’n berthnasol i’r prosiect ac a fyddai wedi cael eu prynu fel arall
  • Gwerth disgownt ar lesddaliad hirdymor neu rydd-ddaliad, er enghraifft fel rhan o Drosglwyddo Ased Cymunedol. Rhaid i werth disgownt o’r fath fod wedi’i brisio’n broffesiynol
  • Gwasanaethau proffesiynol a fyddai wedi cael eu prynu fel arall, gyda thystiolaeth o hynny ar ffurf anfoneb ostyngol briodol.

Nid yw’r canlynol yn gymwys fel arian cyfatebol mewn nwyddau neu wasanaethau

  • Amser gwirfoddoli cyffredinol
  • Elfen Cymorth Rhodd unrhyw roddion

Ni fydd yn ofynnol i ymgeiswyr fod wedi sicrhau’r holl ffynonellau arian cyfatebol ar adeg gwneud cais y prosiect. Fodd bynnag, rhaid i chi nodi cynlluniau clir a realistig i sicrhau arian cyfatebol yn eich cynllun busnes a bydd angen iddo fod ar waith er mwyn tynnu eich cyllid grant i lawr os byddwch yn llwyddiannus.

Os na fyddwch yn gallu dangos cynnydd rhesymol tuag at sicrhau a gwario’r cyllid hwn, ceidw Llywodraeth y DU yr hawl i dynnu’r cynnig o gyllid yn ôl.

10. Enghreifftiau o gyllid

Senarios cyllid refeniw

  • os byddwch yn gwneud cais am £150,000 mewn cyllid cyfalaf, gallwch wneud cais am hyd at £30,000 mewn cyllid refeniw yn ychwanegol at eich grant cyfalaf
  • os byddwch yn gwneud cais am £150,000 mewn cyllid cyfalaf a £50,000 mewn cyllid refeniw, byddai hyn dros y terfyn 20% a byddai eich cais yn cael ei wrthod
  • os byddwch yn gwneud cais am £250,000 mewn cyllid cyfalaf, gallwch wneud cais am hyd at £50,000 mewn cyllid refeniw yn ychwanegol at eich grant cyfalaf
  • os byddwch yn gwneud cais am £2 miliwn mewn cyllid cyfalaf ar gyfer ased chwaraeon, gallwch wneud cais am hyd at £50,000 mewn cyllid refeniw yn ychwanegol at eich grant cyfalaf

Senario arian cyfatebol

  • mae ymgeisydd am brynu ased cymunedol am £300,000
  • gall wneud cais am grant gyfalaf o £240,000 o’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol a rhaid iddo godi o leiaf y £60,000 arall ei hun
  • gall yr ymgeisydd hefyd wneud cais am hyd at £48,000 o gyllid refeniw (20% o’r grant cyfalaf y gwneir cais amdano)
  • ni fydd angen i’r ymgeisydd gyfrannu arian cyfatebol ar gyfer y cyllid refeniw

Senario arian cyfatebol – £2 miliwn o gyllid cyfalaf

  • mae ymgeisydd am brynu ased cymunedol am £2,500,000
  • gall wneud cais am grant gyfalaf o £2 miliwn o’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol a rhaid iddo godi o leiaf y £500,000 arall ei hun
  • gall yr ymgeisydd hefyd wneud cais am hyd at £50,000 o gyllid refeniw
  • ni fydd angen i’r ymgeisydd gyfrannu arian cyfatebol ar gyfer y cyllid refeniw

Senario arian cyfatebol ‘mewn nwyddau neu wasanaethau’

  • mae cwmni gosod ffenestri’n cyflenwi ac yn gosod y ffenestri newydd ar gyfer y prosiect yn rhad ac am ddim
  • er mwyn i hynny gael ei ystyried yn arian cyfatebol, bydd angen i’r ased ddangos anfonebau priodol i ddangos gwerth y gwasanaeth hwnnw ar y farchnad agored a’r disgownt a roddwyd

11. Sut y byddwn yn asesu eich cais

  • Asesu ceisiadau yn erbyn dau brif faen prawf
  • Gallwch lanlwytho tystiolaeth o’ch cais i ategu rhai cwestiynau
  • Gofynnwn am gynllun busnes i ategu’r adran achos busnes

Bydd Llywodraeth y DU yn asesu ceisiadau o bob rhan o’r DU yn erbyn fframwaith asesu cyffredin.

Caiff ceisiadau eu sgorio gan ddefnyddio’r fframwaith hwn a’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau a fydd yn gwneud penderfyniadau terfynol ynghylch cyllido.

Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ychwanegol ar asesiadau a sut i gwblhau eich cais. Fe’ch cynghorir yn gryf i ddarllen y canllawiau hyn yn ofalus cyn dechrau gwneud cais.

Caiff proses diwydrwydd dyledus a gwiriadau twyll llawn eu cynnal ar y prosiect a’r ymgeisydd ar ôl i gais gael ei gyflwyno a chyn i unrhyw gyllid gael ei ryddhau.

Meini prawf asesu

Ar ôl i chi gael gwybod bod eich prosiect yn gymwys ar y cam Mynegi Diddordeb, cewch eich gwahodd i gyflwyno cais llawn i’r Gronfa.

Ar y cam hwn, caiff eich cais ei asesu yn unol â’r meini prawf canlynol:

1. Achos strategol: dylech ddangos y byddai’r gymuned yn colli’r ased oni fydd ymyriad, beth fyddai effaith hyn, a’r gefnogaeth sydd gennych gan y gymuned a phartneriaid eraill. Dylech esbonio sut y bydd perchnogaeth gymunedol dros yr ased yn cynnig budd i’r gymuned leol, a dangos sut rydych wedi ystyried cynaliadwyedd amgylcheddol fel rhan o’ch prosiect

2. Achos rheoli: dylech ddangos amcanion a chyflawnadwyedd y prosiect a sut y caiff yr ased ei redeg mewn modd cynaliadwy. Dylech hefyd ddangos tystiolaeth o’r ffordd rydych yn atebol i’r gymuned rydych yn ei chynrychioli, ynghyd â dangos sut y bydd yr ased yn hygyrch ac yn gynhwysol i holl aelodau’r gymuned

Mae’r manylion llawn i’w gweld yn y canllawiau ar y meini prawf asesu.

Rhaid i bob cais ddod i law cyn 11:59am ar ddyddiad cau’r cyfnod gwneud cais y byddwch yn gwneud cais ynddo. Rhaid i’ch ffurflen gais fod wedi’i llenwi’n llwyr gyda’r ddogfennaeth ofynnol wedi’i hatodi.

Bydd angen i’ch sefydliad gynnwys gwybodaeth benodol mewn cais. Mae hyn yn cynnwys:

  • Cynllun busnes – dylai gynnwys y canlynol (ond nid yw’n gyfyngedig iddynt):
    • gwybodaeth am elfen gyfalaf eich prosiect. Gallai hyn gynnwys:
      • gwybodaeth am astudiaethau dichonoldeb a gwblhawyd gennych neu rydych yn bwriadu eu cynnal. Gallai hyn gynnwys unrhyw arolygon perthnasol
      • rhaglen â cherrig milltir allweddol ar gyfer cwblhau eich prosiect
    • dadansoddiad ariannol o’ch prosiect – dylai hyn gynnwys:
      • dadansoddiad clir o gyfanswm costau cyfalaf y prosiect ac esboniad o’r ffordd y cawsant eu cyfrifo. Gallai hyn gynnwys unrhyw ddyfynbrisiau neu waith meincnodi costau
      • a yw’r costau yn cynnwys TAW na ellir ei hadennill
      • y cais am gyllid cyfalaf o’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol
      • cyfanswm yr arian cyfatebol sydd ei angen
      • ffynonellau arian cyfatebol a sicrhawyd hyd yma
      • ffynonellau arian cyfatebol sydd i’w sicrhau o hyd
      • terfynau amser a ffynonellau posibl ar gyfer sicrhau’r holl arian cyfatebol sy’n weddill
      • eich sgiliau a’ch adnoddau i reoli’r prosiect cyfalaf, gan gynnwys arbenigedd perthnasol ym maes rheoli prosiectau
      • dadansoddiad clir o’r cais am gyllid refeniw o’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol a’r ffordd y cafodd ei gyfrifo
    • gwybodaeth am y ffordd y caiff yr ased ei ddefnyddio a’i reoli yn y dyfodol. Dylai hyn gynnwys:
      • trafodaeth ynghylch gweithgareddau a/neu wasanaethau arfaethedig a gaiff eu cynnal/darparu yn yr ased cymunedol
      • eich rhagolygon ariannol llawn, gan gynnwys ffynonellau incwm a chostau ynghyd â set o dybiaethau a ategir gan dystiolaeth
      • dadansoddiad clir o gostau refeniw’r prosiect ac esboniad o’r ffordd y cawsant eu cyfrifo
      • eich cyllidebau llif arian parod a refeniw
      • eich sgiliau neu’ch adnoddau i reoli a chynnal yr asedau o dan berchnogaeth gymunedol
      • rolau rydych yn bwriadu eu recriwtio er mwyn eich helpu i reoli’r ased
      • unrhyw dystiolaeth ategol y byddwch yn sicrhau’r buddion i’r gymuned a amlinellwyd gennych
    • ystyriaeth o’r risgiau a’r mesurau lliniaru sy’n gysylltiedig â’r gwariant/gwaith cyfalaf a gweithrediad parhaus yr ased
    • gwybodaeth am y sefydliad a llywodraethu – dylai hyn gynnwys:
      • strwythurau llywodraethu ac aelodaeth eich sefydliad, ynghyd â thystiolaeth ategol
      • aelodau’ch bwrdd, gan gynnwys eu rôl a’u prif gyfrifoldebau
      • tystiolaeth ategol o’r ffordd y byddwch yn rheoli cyllid ac yn atal twyll. Er enghraifft, copïau o’ch dogfennau polisi
      • tystiolaeth ategol o’r ffordd y byddwch yn rheoli perfformiad a risgiau. Er enghraifft, copïau o’ch dogfennau polisi

Cewch eich gwahodd i lanlwytho dogfennau ategol ar gyfer cwestiynau penodol ym mhob rhan o’r ffurflen gais. Dylai pob dogfen unigol fod yn 5MB neu’n llai. Y dogfennau hyn yw:

1. cynllun busnes (mae manylion am yr hyn y dylid ei gynnwys ynddo i’w gweld yn y ddogfen hon a’r canllawiau ar wneud cais sydd wedi’u cyhoeddi)

2. cofrestr risg

3. tystiolaeth o gefnogaeth leol

4. a) os byddwch yn prynu neu’n lesio’r ased: prisiad ased neu gytundeb lesio
b) os ydych eisoes yn berchen ar yr ased: datganiad sy’n cadarnhau hyn, wedi’i lofnodi gan berson priodol yn eich sefydliad, megis ymddiriedolwr. Dylai hyn gynnwys dyddiad perchnogi’r ased, neu’r dyddiad hwnnw yn fras. Fel arall, gallwch lanlwytho copi o weithredoedd yr ased, dogfennau prynu neu dystysgrif teitl

5. tystiolaeth o berchnogaeth gyhoeddus (os yw hynny’n berthnasol)

Os cewch unrhyw broblemau technegol, e-bostiwch COF@levellingup.gov.uk a byddwn yn gallu helpu.

Amodau dyfarnu cyllid cyfalaf

Os bydd eich cais i’r Gronfa yn llwyddiannus, bydd angen i ni gael dogfennau eraill cyn rhyddhau cyllid cyfalaf (os na fyddant eisoes wedi cael eu cyflwyno fel rhan o’r cais llawn). Gofynnir am y rhain ar ôl i chi gael eich llythyr canlyniad. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • prisiad annibynnol o’r adeilad wedi’i ddyddio lai na chwe mis cyn y dyddiad y caiff yr ased ei brynu gan ddefnyddio ein cyllid ni. Ni fydd hyn yn ofynnol os ydych eisoes yn berchen ar yr ased
  • arolwg strwythurol annibynnol
  • tystiolaeth o unrhyw ganiatâd cynllunio, caniatâd trwyddedu a mathau priodol eraill o ganiatâd sydd wedi’u sicrhau

Fel rhan o’r amodau ar gyfer dyfarnu cyllid, cytunir ar gerrig milltir a thargedau ar gyfer y prosiect, yn ogystal â chyfnodau monitro ac adolygu safonol. Caiff hyn ei nodi mewn Cytundeb Cyllid Grant ffurfiol. Dylech nodi na fydd modd i gyllid o’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol gael ei ryddhau heb Gytundeb Cyllid Grant wedi’i lofnodi. Os na chydymffurfir â’r amodau fel y’u nodir yn y cytundeb cyllid grant, gallai’r cyllid gael ei dynnu yn ôl.

Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus gydymffurfio â rheoliadau caffael wrth gaffael nwyddau a gwasanaethau mewn cysylltiad â gweithgareddau’r prosiect. Caiff rhagor o wybodaeth ei hamlinellu i ymgeiswyr llwyddiannus yn y Cytundeb Cyllid Grant a’r Cyfarfod Prosiect Cychwynnol.

Gan fod yr ased yn lleoliad neu’n fan cyhoeddus, dylai ymgeiswyr llwyddiannus ddangos eu bod wedi ystyried diogelwch, mesurau amddiffynnol a mesurau paratoi (gan gynnwys ystyriaethau ffisegol, personél a seiber). Mae’r Swyddfa Diogelwch Gwrthderfysgaeth Genedlaethol wedi llunio canllawiau cyhoeddus yma, sy’n ymdrin â nifer o’r themâu hyn.

Rheoli cymorthdaliadau/Cymorth Gwladwriaethol

Os caiff cyllid o’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol ei ddefnyddio i gynnig cymhorthdal, rhaid i’r gwariant gydymffurfio â rhwymedigaethau’r Deyrnas Unedig ynghylch rheoli cymorthdaliadau.

Rhaid i bob cais y gellir ei ystyried nodi sut y caiff y prosiect ei gyflawni yn unol â rhwymedigaethau rheoli cymorthdaliadau (neu Gymorth Gwladwriaethol ar gyfer cymorth yng nghwmpas Protocol Gogledd Iwerddon).Gweler canllawiau Llywodraeth y DU ar reoli cymorthdaliadau am ragor o wybodaeth.

Rhaid i gynigion a gaiff eu cefnogi gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth berthnasol yn eu priod ardaloedd daearyddol.

Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus

Fel awdurdod cyhoeddus, mae’n ofynnol i’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau gydymffurfio â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus, fel y’i nodir yn adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Rhown sylw dyledus i effeithiau ar gydraddoldeb ar gyfer unigolion drwy gyfeirio at eu nodweddion gwarchodedig ar bwyntiau penderfynu allweddol, a byddwn yn cadw golwg ar hyn yn rheolaidd.

Rydym yn cydnabod pwysigrwydd nid yn unig bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ond rhoi sylw dyledus i’r ystyriaethau cydraddoldeb sy’n berthnasol yng Ngogledd Iwerddon hefyd.

12. Sut rydym yn dyfarnu cyllid

  • Caiff penderfyniadau eu gwneud gan weinidogion gyda mewnbwn gan adrannau eraill y llywodraeth (lle bo hynny’n berthnasol)
  • Rhaid i geisiadau gyrraedd sgôr meincnod er mwyn cael eu rhoi ar y rhestr fer
  • Gall Ysgrifennydd Gwladol yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau gymhwyso pum ffactor ychwanegol wrth ystyried y rhestr fer er mwyn dethol y rhestr derfynol a fydd yn cael cyllid

Darllenwch fanylion llawn y broses gwneud penderfyniadau ar gyfer dethol cynigion llwyddiannus.

13. Monitro a gwerthuso

  • Caiff cynnydd y prosiect ei fonitro bob chwarter o leiaf
  • Bydd yn ofynnol cyflwyno set o gyfrifon chwe mis ar ôl i’r prosiect gael ei gwblhau
  • Bydd angen data ar effaith ymhen blwyddyn ar ôl dyddiad y llythyr cynnig

Bydd yn ofynnol i ymgeiswyr llwyddiannus gydymffurfio â gofynion monitro a gwerthuso’r rhaglen.

Gofynion monitro a gwerthuso

Caiff cynnydd prosiectau ei fonitro bob chwarter o leiaf, yn unol â cherrig milltir y cytunwyd arnynt. Bydd angen datganiad o ddefnydd o’r grant wedi’i archwilio’n annibynnol gan gyfrifydd ar gyfer ein prosesau sicrwydd, yn unol â cherrig milltir y cytunwyd arnynt ar gyfer y prosiect, ar ddiwedd cyfnod tynnu’r arian i lawr.

Chwe mis ar ôl i’r prosiect gael ei gwblhau, bydd yn ofynnol i chi gyflwyno set o gyfrifon ar gyfer y prosiect wedi’u cymeradwyo gan y Bwrdd (neu gorff cyfatebol). Caiff yr holl ffeiliau a chofnodion ariannol eu cadw am o leiaf saith mlynedd o’r dyddiad a nodir ar eich llythyr cynnig, a gallant gael eu harchwilio unrhyw bryd yn ystod y cyfnod hwn.

Bydd cydweithwyr archwilio a sicrwydd mewn cysylltiad â chi ar ddiwedd y prosiect ac ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod monitro estynedig.

Bydd angen data ar effaith eich prosiect ymhen blwyddyn ar ôl y dyddiad a nodir ar eich llythyr cynnig. Bydd hyn er mwyn dangos yr effaith y mae’r cyllid wedi’i chael ar eich cymuned. Caiff templed safonedig a chanllawiau eu darparu er mwyn eich helpu i ddangos effaith eich prosiect a’r ffordd rydych wedi cyflawni yn erbyn eich cynllun busnes gwreiddiol.

Gall hyn gynnwys:

  • diogelu a gwella defnydd o ased cymunedol
  • cefnogaeth busnesau a sefydliadau cymunedol
  • creu swyddi a chyfleoedd gwirfoddoli
  • y mathau o wasanaethau sydd wedi’u sefydlu o fewn yr ased
  • gwella mynediad at wasanaethau

Dull gwerthuso cenedlaethol

Mae Llywodraeth y DU yn cydnabod pwysigrwydd canolog gwerthuso o safon uchel, sy’n hollbwysig er mwyn deall beth sy’n gweithio. I ategu hyn, rydym yn datblygu ein strategaeth gwerthuso rhaglenni ar lefel genedlaethol.

Bydd y gwerthusiad hwn yn ein helpu i ddeall llwyddiant y rhaglen a beth sy’n gweithio’n dda mewn prosiectau perchnogaeth gymunedol llwyddiannus, ac yn helpu i lywio penderfyniadau buddsoddi yn y dyfodol.

Bydd ein dull o werthuso rhaglenni’n defnyddio cyfuniad o ddata gweinyddol o waith monitro rhaglenni, a gallai gynnwys arolygon ac astudiaethau achos ar lefel prosiectau. Bydd y rhain yn ein helpu i werthuso llwyddiant y rhaglen a’i gwerth am arian yn erbyn y meini prawf canlynol:

  • nifer yr asedau a gafodd eu cefnogi drwy’r rhaglen
  • cyfradd goroesi asedau cymunedol – caiff hyn ei fesur yn ôl y nifer sy’n dal i weithredu dan berchnogaeth gymunedol ymhen blwyddyn ar ôl diwedd y prosiect
  • lefelau’r cynnydd mewn defnydd o asedau cymunedol a gwasanaethau cysylltiedig – caiff hyn ei fesur yn ôl nifer yr ymwelwyr, cynnydd mewn tenantiaethau, a/neu ddefnydd gan grwpiau cymunedol
  • lefelau’r cynnydd mewn ymdeimlad o falchder a chanfyddiadau gwell o’r ardal leol fel lle i fyw
  • lefelau’r cynnydd mewn ymddiriedaeth a chydlyniant cymdeithasol, ac ymdeimlad o berthyn i’r ardal leol
  • lefelau’r cynnydd mewn cyfranogiad lleol ym mywyd y gymuned, y celfyddydau a diwylliant, a chwaraeon
  • yr effaith ar ganlyniadau economaidd ychwanegol gan gynnwys:
    • achub a/neu greu swyddi
    • cyfleoedd newydd i wirfoddoli
    • gwelliannau o ran cyflogadwyedd
    • lefelau sgiliau
  • yr effaith ar ganlyniadau cymdeithasol ychwanegol: gan gynnwys gwelliannau i iechyd corfforol a/neu iechyd meddwl a lleihau unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol

14. Cymorth ychwanegol

Cymorth i bob ymgeisydd hyd at y cam Mynegi Diddordeb

Mae ein darparwr cymorth datblygu yn cynnig cymorth a chyngor cychwynnol i bob ymgeisydd sydd â diddordeb hyd at y cam Mynegi Diddordeb. Mae hyn yn cynnwys esbonio’r gofynion cymhwysedd a chynnig awgrymiadau defnyddiol er mwyn helpu eich prosiect i lwyddo.

Gallwch hefyd gael help i gyflwyno eich ffurflen Mynegi Diddordeb.

Cymorth manwl i rai ymgeiswyr wrth iddynt ddatblygu cais llawn

Ar ôl y cam Mynegi Diddordeb, bydd modd i rai ymgeiswyr gael cymorth manwl ar gyfer datblygu eu cais a’u hachos busnes.

Mae’r cymorth manwl hwn yn cynnwys:

  • cyngor a hyfforddiant wedi’u teilwra ar ddatblygu cymunedol
  • cymorth mewn perthynas â datblygu eich cynllun busnes, llywodraethu sefydliadol a chynllunio ariannol
  • mynediad at grantiau refeniw bach er mwyn sicrhau cymorth arbenigol, megis cyngor cyfreithiol neu arolygon adeiladau

Hefyd, mae’n bosibl i brosiectau a gaiff gymorth manwl gael eu hargymell ar gyfer cyfradd is o arian cyfatebol. Mewn achosion eithriadol, gall y gofyniad am arian cyfatebol ostwng o 20% i 10%.

Bydd ein darparwr cymorth datblygu yn defnyddio proses gwneud penderfyniadau pedwar cam i flaenoriaethu ymgeiswyr sydd wedi llwyddo ar y cam Mynegi Diddordeb i gael cymorth manwl. Mae hyn yn cynnwys defnyddio metrigau cenedlaethol, gwybodaeth o’r cam Mynegi Diddordeb, a chyfarfodydd prosiect un i un. Darllenwch fanylion llawn y broses gwneud penderfyniadau.

Cymorth parhaus i ymgeiswyr llwyddiannus

Bydd y darparwr cymorth datblygu yn rhoi cymorth parhaus i brosiectau llwyddiannus.

Bydd y cymorth a gaiff ei gynnig yn cynnwys:

  • Cyngor ac arweiniad drwy weminarau, gweithdai, neu ddeunyddiau sydd ar gael ar dudalen we My Community
  • Rhwydweithiau cymorth gan gymheiriaid wedi’u hwyluso
  • Cymorth manwl pellach ar gyfer rhai prosiectau sydd â lefel uwch o risg

Cael gafael ar y cymorth hwn

Gellir cysylltu â’r darparwr cymorth datblygu drwy ffurflen ymholi ar dudalen we My Community. Gallwch hefyd ddisgrifio eich anghenion cymorth ar y ffurflen Mynegi Diddordeb.

Cyflwynwch unrhyw ymholiadau sydd gennych ar y cymorth sydd ar gael drwy’r ffurflen ymholi.

15. Cefndir a datblygiad y Gronfa

Rydym yn gweithio’n barhaus i wella’r Gronfa er mwyn ei gwneud yn fwy hygyrch i ddarpar ymgeiswyr a helpu cynifer â phosibl o sefydliadau cymunedol i achub asedau cymunedol a drysorir sydd mewn perygl o gael eu colli ledled y DU.

Rydym wedi gwneud newidiadau cadarnhaol i’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol ar gyfer cyfnodau gwneud cais yn y dyfodol. Caiff newidiadau i ddyluniad y rhaglen a’r gofynion cymhwysedd eu llywio gan adborth gan ymgeiswyr, gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid, a gwersi a ddysgwyd o gyfnodau gwneud cais blaenorol.

O Gylch 3, Cyfnod Gwneud Cais 2 ymlaen, rydym wedi ymestyn yr uchafswm cyllid sydd ar gael o £1 miliwn i £2 miliwn. Bydd yn dal yn ofynnol i brosiectau sy’n gwneud cais am fwy nag £1 miliwn gyfrannu 20% o arian cyfatebol, a bydd disgwyl iddynt sicrhau buddion sy’n gymesur â chyfanswm y cyllid y maent yn gwneud cais amdano, fel yr amlinellir yn y prosbectws hwn a chanllawiau asesu’r ffurflen gais.

Newidiadau allweddol ers Cylch 2

Ymhlith y newidiadau hyn mae:

  • Lleihau’r arian cyfatebol yn gyson ar gyfer pob cais, gan ostwng y gofyniad o 50% i 20%, a gostwng y gofyniad ymhellach i 10% ar gyfer prosiectau sy’n gymwys i gael cymorth manwl ac mae asesiad wedi canfod bod ganddynt yr angen mwyaf.
  • Ymestyn y cap cyllido i £2 miliwn ar gyfer pob math o ased, ond rydym yn disgwyl y bydd y rhan fwyaf o ddyfarniadau am hyd at £250,000 o gyllid cyfalaf
  • Caniatáu ceisiadau gan gynghorau plwyf, tref a chymuned
  • Caniatáu i gynghorau plwyf, tref a chymuned gredydu derbyniad cyfalaf o’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol
  • Caniatáu aneffeithlonrwydd ynni sy’n bygwth gweithrediadau hirdymor fel risg o golled
  • Caniatáu ceisiadau gan gwmnïau cysylltiedig dan amgylchiadau penodol
  • Cynyddu nifer y cyfnodau gwneud cais bob blwyddyn
  • Cael gwared ar y terfyn dau gais ar gyfer pob prosiect
  • Penodi darparwr cymorth datblygu sydd ar waith ac wedi’i gynefino’n llawn, ac sydd bellach yn cynnig cymorth manwl i brosiectau sydd â’r angen mwyaf ynghyd â chyngor a chymorth cychwynnol mewn ymateb i ymholiadau gan bob ymgeisydd
  • Egluro ac atgyfnerthu ein dogfennau canllaw a’r ffurflen gais ar gyfer ymgeiswyr (darllenwch fanylion llawn y canllawiau ar y meini prawf asesu)
  • Cyflwyno dwy ystyriaeth ychwanegol y gall yr Ysgrifennydd Gwladol eu defnyddio i arfer disgresiwn ynghylch ceisiadau ar y rhestr fer (darllenwch fanylion llawn y broses gwneud penderfyniadau)

Mae newidiadau i’r Gronfa ers cyfnodau gwneud cais blaenorol i’w gweld yn y fersiwn wedi’i harchifo o’r prosbectws hwn.

Cefndir y gronfa

Amcanion strategol

Mae gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol bedwar amcan strategol:

  • cynnig buddsoddiadau wedi’u targedu er mwyn i gymunedau achub a chynnal asedau cymunedol y byddai cymunedau’n colli defnydd ohonynt fel arall
  • atgyfnerthu gallu a galluogrwydd mewn cymunedau, gan eu helpu i lunio eu lleoedd a datblygu busnesau cymunedol cynaliadwy
  • grymuso cymunedau mewn lleoedd a adawyd ar ôl i sicrhau ffyniant bro
  • atgyfnerthu cysylltiadau uniongyrchol rhwng lleoedd ledled y DU a Llywodraeth y DU

Canlyniadau’r rhaglen

At ddibenion y Gronfa hon, mae perchnogaeth gymunedol yn cyfeirio at berchnogaeth a rheolaeth dros asedau cymunedol lleol gan sefydliad cymunedol er mwyn sicrhau buddion i gymunedau a lleoedd.

Gall perchnogaeth gymunedol dros asedau roi hwb i gysylltiadau lleol, cyfranogiad a balchder bro, ac atgyfnerthu cadernid cymunedol. Drwy fuddsoddi yng ngallu cymunedau ledled y DU i berchnogi’r lleoedd a’r mannau sydd o bwys iddyn nhw, byddwn yn atgyfnerthu’r seilwaith cymdeithasol sy’n helpu cymunedau i ffynnu.

Rydym am ariannu prosiectau cymunedol sy’n gwneud o leiaf un o’r pum peth hyn:

  • cynyddu ymdeimlad o falchder yn yr ardal leol, a gwella canfyddiadau ohoni fel lle i fyw
  • gwella ymddiriedaeth a chydlyniant cymdeithasol ac ymdeimlad o berthyn
  • cynyddu cyfranogiad lleol ym mywyd y gymuned, y celfyddydau a diwylliant, neu chwaraeon
  • gwella canlyniadau economaidd lleol – gan gynnwys creu swyddi, cyfleoedd i wirfoddoli, a gwella cyflogadwyedd a lefelau sgiliau yn y gymuned leol
  • gwella canlyniadau cymdeithasol a chanlyniadau llesiant – gan gynnwys cael effaith gadarnhaol ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl pobl leol, a lleihau unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol

Atgyfnerthu perchnogaeth gymunedol ledled y DU

Caiff y Gronfa ei chynnal gan Lywodraeth y DU yn uniongyrchol ar gyfer cymunedau yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae Llywodraeth y DU yn ymrwymedig i sicrhau cyfleoedd teg i gael cyllid drwy’r Gronfa Perchnogaeth Gymunedol ledled y DU.

Felly, mae isafswm targed gwariant sy’n gyson â dyraniadau fesul pen o’r boblogaeth wedi cael ei bennu yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Bydd y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol yn targedu o leiaf £12.3 miliwn yn yr Alban, £7.1 miliwn yng Nghymru a £4.3 miliwn yng Ngogledd Iwerddon o gyfanswm y Gronfa dros y pedair blynedd tan fis Mawrth 2025.

Mae dyluniad y Gronfa yn cydnabod y gwahanol dirweddau o ran perchnogaeth gymunedol ledled y DU, gyda gwahanol ddeddfwriaeth yng Nghymru a Lloegr, yr Alban, a Gogledd Iwerddon. Rydym wedi ymgysylltu’n eang â rhanddeiliaid lleol er mwyn sicrhau bod y Gronfa’n effeithiol, yn hygyrch ac yn cyflawni ei hamcanion.

Caiff ceisiadau eu hasesu yn erbyn fframwaith cyson. Mae cymhwysedd ar gyfer y Gronfa a’r meini prawf ar gyfer asesu ceisiadau yn gyson yn y pedair gwlad.

Rhestr termau

Ased cymunedol

At ddibenion y Gronfa hon, adeilad neu le ffisegol yw ased. Rhaid iddo gael ei ddefnyddio gan y gymuned a bod yn hygyrch i gynifer â phosibl o bobl.

Trosglwyddo Asedau Cymunedol

Ledled y Deyrnas Unedig, mae fframweithiau polisi Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn helpu i drosglwyddo asedau cymunedol oddi wrth awdurdodau cyhoeddus i sefydliadau cymunedol. Mae’r ddeddfwriaeth a’r cyd-destunau polisi’n gweithio fymryn yn wahanol mewn rhannau o’r Deyrnas Unedig.

Lloegr

Ased o werth cymunedol

Yn Lloegr, cyflwynodd Deddf Lleoliaeth 2011 hawl i grwpiau cymunedol enwebu adeiladau neu dir i’w hawdurdodau lleol fel asedau o werth cymunedol.

Pe bai’r awdurdod lleol yn cytuno bod yr enwebiad yn bodloni’r prawf ar gyfer bod yn dir o werth cymunedol, byddai’r cyngor yn gosod yr ased ar restr o asedau o werth cymunedol am gyfnod o bum mlynedd.

Cyflwynodd hyn hawl i gymunedau wneud cynnig. Pe bai perchennog ased sydd wedi’i restru yn penderfynu ei fod am werthu’r ased yn ystod y cyfnod pum mlynedd, byddai’n rhaid iddo roi gwybod i’r awdurdod lleol a fyddai’n rhoi gwybod i’r grŵp cymunedol a’i henwebodd.

Wedyn, byddai gan y grŵp hawl i sbarduno moratoriwm o hyd at chwe mis i godi arian i dalu’r pris prynu. Ar ddiwedd y cyfnod moratoriwm, bydd perchennog yr ased yn rhydd i’w werthu i unrhyw un o’i ddewis.

Yn Lloegr, awdurdodau lleol sy’n gyfrifol am reoli eu cynlluniau asedau o werth cymunedol eu hunain.

Cymru a Lloegr

Mae Deddf Llywodraeth Leol 1972: Cydsyniad Gwaredu Cyffredinol Deddf Llywodraeth Leol (2003) yn galluogi awdurdodau lleol i drosglwyddo asedau i berchnogaeth gymunedol, am lai na’u gwerth ar y farchnad neu am ddim, ar y rhagdybiaeth o sicrhau budd cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol hirdymor. Mae’n bosibl y bydd gan awdurdodau lleol unigol eu polisïau Trosglwyddo Asedau Cymunedol eu hunain sy’n pennu’r amcanion a’r prosesau penodol ar gyfer yr ardal leol honno.

Yr Alban

Mae’r Ddeddf Grymuso Cymunedol (2015) yn rhoi hawl i gyrff cymunedol wneud ceisiadau i bob awdurdod lleol, Gweinidogion yr Alban ac amrywiaeth o gyrff cyhoeddus am unrhyw dir neu adeiladau y gallent wneud defnydd gorau ohono yn eu barn nhw.

Gogledd Iwerddon

Mae’r fframwaith polisi Trosglwyddo Asedau Cymunedol (2014) yn nodi’r prosesau ar gyfer newid rheolaeth a/neu berchnogaeth tir neu adeiladau, o gyrff cyhoeddus i gymunedau. Mae’r fframwaith wedi cael ei ddatblygu fel adnodd ar gyfer buddsoddi mewn adfywio a chanlyniadau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol cadarnhaol.

Termau allweddol eraill

Astudiaeth ddichonoldeb

Dadansoddiad sy’n profi gallu’r prosiect i gyflawni ei amcanion. Dylai brofi’r cyd-destun a’r adnoddau y bydd y prosiect yn gweithredu’n unol â nhw, gan gynnwys dadansoddiad o’r farchnad ac a yw’r galluoedd ariannol, technegol a rheoli’n ddigon cadarn i gyflawni’r amrywiaeth o ffyrdd y bwriedir defnyddio’r ased. Dylid profi hyfywedd a chynaliadwyedd y prosiect yn y tymor hir. Dylai astudiaethau dichonoldeb gael eu defnyddio i ddatblygu cynllun busnes cadarn.

Cyfalaf gweithredol

Y cyllid gweithredol y bydd ei angen i dalu’r costau yn ystod y camau masnachu cynnar, wrth i’r model busnes gael ei sefydlu, ac wrth i’r gweithgareddau ddatblygu.

Dylai prosiectau ddisgwyl gallu adennill colledion yn ystod y cyfnod cynnar hwn, wrth i ffynonellau incwm dyfu, a dylent gynllunio ar gyfer digon o gyfalaf gweithredol i sicrhau bod digon o arian parod i dalu cyflogau, anfonebau a chostau eraill.

Cyfarfod Prosiect Cychwynnol

Cyfarfod cyntaf a gaiff ei gynnal rhwng y prosiect llwyddiannus a’i Reolwr Grant er mwyn trafod y gofynion ar gyfer derbynyddion grant ac ateb unrhyw gwestiynau a allai godi.

Cymhorthdal

Cyfraniad ariannol gan ddefnyddio adnoddau cyhoeddus sy’n rhoi budd i’r derbynnydd. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, taliad mewn arian parod, benthyciad â llog islaw cyfradd y farchnad neu warant benthyciad.

Caiff cymorthdaliadau eu gweinyddu gan bob lefel o lywodraeth yn y DU gan gynnwys llywodraeth ganolog, gweinyddiaethau datganoledig ac awdurdodau lleol, yn ogystal â mathau eraill o awdurdodau cyhoeddus.

Gweler rhagor o wybodaeth am reoli cymorthdaliadau.

Cyn dichonoldeb

Prosiect nad yw wedi bod yn destun gwaith dichonoldeb manwl (gweler isod) a’r cymorth a all fod ar gael er mwyn helpu i brofi syniadau cychwynnol a datblygu opsiynau ar gyfer cynllun busnes eto.

Cytundeb Cyllid Grant

Mae hwn yn nodi’r amodau sy’n berthnasol i’r sefydliad a fydd yn cael y cyllid grant gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau.

Gwaith cyfalaf

Mae’r term hwn yn cyfeirio at y gwaith adeiladu y gallai fod angen ei wneud i’r ased er mwyn ei ailwampio, er enghraifft newid defnydd ased.

Gwasanaethau statudol

Gwasanaethau y mae’n rhaid i awdurdodau cyhoeddus eu darparu yn ôl y gyfraith.

Lesddaliadau

Hawl, a nodir mewn contract, i feddiannu tir neu adeilad am gyfnod penodedig.

Model busnes

Model y mae’r sefydliad yn ei ddefnyddio i gynhyrchu incwm neu werth o’i weithgareddau. Gallai hyn gynnwys gwerthu nwyddau a gwasanaethau, contractau cyflawni neu incwm rhent.

Pridiant cyfreithiol

Bydd yn ofynnol i’r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau Pridiant Cyfreithiol o blaid yr Ysgrifennydd Gwladol dros unrhyw ased sefydlog neu ased a gaiff ei ariannu gan y Gronf