Canllawiau

Credyd Treth Gwaith: cymorth ar gyfer uchafswm o 2 o blant

Gwybodaeth am roi cefnogaeth i uchafswm o 2 blentyn a beth i’w wneud os yw eithriad yn berthnasol i chi.

Trosolwg

O 6 Ebrill 2017 ymlaen, roedd 2 brif newid i Gredyd Treth Plant. O’r dyddiad hwnnw ymlaen, ni chewch y canlynol mwyach:

  • elfen deuluol y Credyd Treth Plant os nad oes plant ar eich hawliad a aned cyn 6 Ebrill 2017
  • elfen plentyn y Credyd Treth Plant ar gyfer trydydd plentyn, nac unrhyw blant dilynol, a aned ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017, oni bai bod un o’r eithriadau yn gymwys

Ers 28 Tachwedd 2018, mae’r polisi wedi newid o ran pryd y byddwn yn talu ar gyfer plant sydd dan drefniadau gofal di-riant neu sydd wedi’u mabwysiadu.

Os ydych yn gyfrifol am blentyn neu blant drwy fabwysiadu, neu fel rhan o drefniad gofal di-riant (gan gynnwys pan fo’r plentyn yr ydych yn gyfrifol amdano yn cael ei blentyn ei hun), byddwch yn gallu cael swm ychwanegol ar gyfer y plant hyn. Ni fydd hyn yn effeithio ar unrhyw symiau y gallech eu cael ar gyfer plant eraill yn eich aelwyd. Bydd raid i chi roi dogfennau ategol ar gyfer hyn.

Bydd elfen anabledd y Credyd Treth Plant yn dal i gael ei thalu ar gyfer pob plentyn cymwys, hyd yn oed os na fyddwn yn talu’r elfen plentyn unigol ar gyfer y plentyn hwnnw. Bydd gofal plant yn dal i gael ei dalu ar gyfer pob plentyn cymwys, hyd yn oed os na fyddwn yn talu’r elfen plentyn unigol ar gyfer y plentyn hwnnw.

Yn yr arweiniad hwn, dyma ddiffiniad plentyn:

Eithriadau

Os ydych yn gyfrifol am drydydd plentyn, neu blentyn dilynol, ac mae’r plentyn hwnnw’n bodloni’r meini prawf ar gyfer yr eithriadau genedigaeth luosog neu feichiogrwydd o ganlyniad i ryw anghydsyniol a restrir isod, efallai y cewch swm plentyn ychwanegol y Credyd Treth Plant ar ei gyfer.

Efallai, hefyd, y gallwch gael eithriad ar gyfer unrhyw blentyn yn eich aelwyd sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer yr eithriadau gofal di-riant (gan gynnwys plentyn plentyn) neu fabwysiadu. Ni fydd y swm plentyn a gewch ar gyfer hyn yn effeithio ar swm y Credyd Treth Plant y gallech ei gael ar gyfer unrhyw blant eraill yn eich aelwyd.

Mae’r adrannau canlynol yn disgrifio’r eithriadau i’r rheol gyffredinol, sef y bydd Credyd Treth Plant yn rhoi cymorth ar gyfer uchafswm o 2 o blant.

Genedigaeth luosog

Os yw beichiogrwydd pellach yn arwain at enedigaeth luosog ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017, byddwch yn cael yr elfen plentyn ar gyfer pob un o’r plant hynny, ac eithrio un.

Er enghraifft, os ydych eisoes yn cael Credyd Treth Plant ar gyfer 2 neu fwy o blant, a’ch bod yn cael gefeilliaid, byddwch yn cael yr elfen plentyn ar gyfer un o’r efeilliaid. Os ydych yn cael tripledi, byddwch yn cael yr elfen plentyn ar gyfer 2 o’r tripledi.

Pan fo plentyn cyntaf yr enedigaeth luosog yn blentyn cyntaf neu’n ail blentyn yn yr aelwyd, byddwn yn talu swm plentyn ar gyfer yr holl blant a aned fel rhan o’r enedigaeth luosog.

Anfonwch ddogfennau ategol i’r Tîm Eithriadau Arbenigol

Mae’n rhaid i chi anfon tystysgrif geni lawn wreiddiol pob plentyn a aned fel rhan o’r enedigaeth luosog.

Dylech nodi’r gair ‘eithriad’ a’ch rhif Yswiriant Gwladol ar frig eich llythyr a’i anfon i:

Eithriadau
Cyllid a Thollau EM
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM
Tŷ Thedford
Stryd Fawr
PORTHMADOG
LL49 9BF

Os ydych eisoes wedi anfon tystysgrifau geni fel rhan o hawliad Budd-dal Plant, does dim rhaid i chi eu hanfon eto. Rhowch enwau llawn pob plentyn, gan gynnwys unrhyw enwau canol, a’u dyddiadau geni.

Mae plentyn yr ydych yn hawlio Credyd Treth Plant ar ei gyfer yn cael plentyn

Os ydych yn cael Credyd Treth Plant ar gyfer unrhyw blant, ac mae un ohonynt yn cael plentyn ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017, gallwch hawlio ar gyfer ei blentyn.

Gallwch barhau i hawlio ar gyfer eich plentyn a’r babi tan fod y canlynol yn wir:

  • mae’ch plentyn yn gwneud hawliad yn ei enw ei hun
  • nid ydych yn gyfrifol mwyach am y plentyn neu’r plant – er enghraifft, mae’r plentyn wedi gadael yr aelwyd neu wedi gadael addysg neu hyfforddiant cymeradwy

Os yw’ch plentyn yn gadael ac mae ei blentyn ef yn parhau yn eich gofal, ni fyddwch yn gallu hawlio’r eithriad hwn mwyach. Efallai y byddwch yn dal i allu cael cymorth ychwanegol os byddwch yn parhau i fod yn gyfrifol am eich ŵyr/wyres, os ydych yn gymwys dan yr eithriad trefniadau gofal di-riant.

Anfonwch ddogfennau ategol i’r Tîm Eithriadau Arbenigol

Mae’n rhaid i chi anfon tystysgrif geni lawn wreiddiol y plentyn rydych yn hawlio’r eithriad hwn ar ei gyfer.

Dylech nodi’r gair ‘eithriad’ a’ch rhif Yswiriant Gwladol ar frig eich llythyr a’i anfon i:

Eithriadau
Cyllid a Thollau EM
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM
Tŷ Thedford
Stryd Fawr
PORTHMADOG
LL49 9BF

Rydych yn mabwysiadu plentyn

Ers 28 Tachwedd 2018, mae’r polisi wedi newid o ran pryd y byddwn yn talu ar gyfer plant sydd wedi’u mabwysiadu.

Os ydych yn gyfrifol am blentyn neu blant drwy fabwysiadu, efallai y byddwch yn gallu cael swm ychwanegol ar gyfer y plant hyn. Ni fydd hyn yn effeithio ar unrhyw symiau y gallech eu cael ar gyfer plant eraill yn eich aelwyd. Bydd yr eithriad fel arfer yn gymwys o’r dyddiad rydych yn dod yn gyfrifol am y plentyn mabwysiedig.

Gallai hyn fod y dyddiad mabwysiadu ffurfiol, neu’r dyddiad gosod, yn dibynnu pryd rydych yn ysgwyddo cyfrifoldeb rhiant dros y plentyn.

Bydd raid i chi roi gwybod i ni am unrhyw newidiadau cyn gynted â phosibl a rhoi dogfennau ategol i ni ar gyfer unrhyw blentyn neu blant mabwysiedig sy’n byw gyda chi.

Nid yw’r eithriad hwn yn berthnasol os byddwch yn mabwysiadu plentyn o dramor, neu os mai chi neu’ch partner oedd rhiant neu lys-riant y plentyn yn union cyn i chi ei fabwysiadu.

Anfonwch ddogfennau ategol i’r Tîm Eithriadau Arbenigol

Mae’n rhaid i chi anfon tystysgrif mabwysiadu wreiddiol eich plentyn.

Dylech nodi’r gair ‘eithriad’ a’ch rhif Yswiriant Gwladol ar frig eich llythyr a’i anfon i:

Eithriadau
Cyllid a Thollau EM
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM
Tŷ Thedford
Stryd Fawr
PORTHMADOG
LL49 9BF

Os ydych yn y broses o fabwysiadu plentyn, ac nid oes gennych dystysgrif mabwysiadu, mae’n rhaid i chi gyflwyno llythyr gan weithiwr cymdeithasol cofrestredig sy’n cynnwys y canlynol:

  • enw’r plentyn
  • y dyddiad y cafodd y plentyn ei osod gyda chi
  • eich enw chi ac enw’ch partner, os yw’n berthnasol

Trefniadau gofal di-riant

Efallai y bydd gennych hawl i swm ychwanegol o Gredyd Treth Plant ar gyfer plentyn neu blant os ydynt yn rhan o drefniad gofal di-riant ac os rhoddir y dogfennau ategol.

Ers 28 Tachwedd 2018, mae’r polisi wedi newid o ran pryd y byddwn yn talu ar gyfer plant sydd dan drefniadau gofal di-riant. Byddwch yn gallu cael y swm plentyn ar gyfer plentyn sy’n byw gyda chi naill ai:

  • fel rhan o drefniad gofalu ffurfiol megis gorchymyn trefniadau plant neu orchymyn gwarcheidwaeth arbennig (neu os oedd dan y fath drefniadau tan ei ben-blwydd yn 16 a’i fod wedi parhau i fyw gyda chi), neu
  • fel rhan o drefniad gofalu anffurfiol, a elwir yn aml yn ofal gan berthynas, gofal ffrindiau a theulu neu ofal pobl gysylltiedig, pan fo’n debygol y byddai fel arall yn cael gofal gan yr awdurdod lleol

Bydd yr eithriad fel arfer yn gymwys o’r dyddiad rydych yn dod yn gyfrifol am y plentyn dan ofal di-riant. Ni fydd hyn yn effeithio ar unrhyw symiau y gallech eu cael ar gyfer plant eraill yn eich aelwyd.

Nid yw’r eithriad hwn yn gymwys os mai chi neu’ch partner yw rhiant neu lys-riant y plentyn.

Trefniad gofalu ffurfiol

Mae’n rhaid i chi anfon prawf o unrhyw un o’r canlynol i’r Tîm Eithriadau Arbenigol:

  • Gorchymyn Trefniadau Plant
  • Gorchymyn Gwarcheidwaeth
  • Gorchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig
  • rydych wedi’ch penodi’n Warcheidwad (yn yr Alban)
  • Gorchymyn Gofal gan Berthynas (yn yr Alban)
  • Gorchymyn Sefydlogrwydd (yn yr Alban)

Dylech nodi’r gair ‘eithriad’ a’ch rhif Yswiriant Gwladol ar frig eich llythyr a’i anfon i:

Eithriadau
Cyllid a Thollau EM
Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM
Tŷ Thedford
Stryd Fawr
PORTHMADOG
LL49 9BF

Trefniad gofalu anffurfiol

Trefniad gofalu anffurfiol yw trefniad lle y mae plentyn yn byw gyda chi ac nid y chi yw ei riant biolegol na’i lys-riant, ac rydych wedi ymgymryd â’r cyfrifoldeb o ofalu amdano ar sail amser llawn, a elwir weithiau yn ofal ffrindiau a theulu.

Mae’n rhaid i chi lenwi’r ffurflen gofalu anffurfiol.

Bydd angen help arnoch gan weithiwr cymdeithasol cofrestredig i lenwi hon, gan fod rhaid iddo gadarnhau ei bod yn debygol y byddai’r plentyn yr ydych yn gofalu amdano wedi dod o dan ofal awdurdod lleol fel arall.

Plentyn a aned o ganlyniad i ryw anghydsyniol

Gallwch hawlio ar gyfer y plentyn hwn os ydych yn cael Credyd Treth Plant ar gyfer 2 neu fwy o blant a bod plentyn ychwanegol, a aned ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017, yn debygol o fod wedi cael ei genhedlu naill ai:

  • o ganlyniad i weithred rywiol na wnaethoch gytuno iddi neu na allech gytuno iddi
  • ar adeg pan oeddech mewn perthynas ddifrïol, o dan reolaeth neu orfodaeth barhaol gan riant biolegol arall y plentyn

Ni allwch hawlio’r eithriad hwn os ydych yn byw gyda rhiant biolegol arall y plentyn.

Gallwch fod yn gymwys ar gyfer yr eithriad hwn p’un a fu achos llys neu euogfarn droseddol ai peidio.

Bydd angen i chi lenwi’r ffurflen beichiogrwydd o ganlyniad i ryw anghydsyniol gyda help trydydd parti proffesiynol cymeradwy. Does dim rhaid i chi siarad â staff Cyllid a Thollau EM (CThEM), na rhoi manylion ynghylch amgylchiadau’r beichiogrwydd.

Bydd angen i’r trydydd parti cymeradwy gyflwyno gwybodaeth ategol i ddangos eich bod wedi cysylltu ag ef a bod eich amgylchiadau’n bodloni amodau’r eithriad hwn.

Trydydd partïon proffesiynol cymeradwy yw:

  • gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, er enghraifft meddygon, nyrsys, bydwragedd neu ymwelwyr iechyd
  • gweithwyr cymdeithasol cofrestredig
  • sefydliadau penodol, megis elusennau trais rhywiol arbenigol – gweler rhestr o’r sefydliadau hyn

Os oes angen i chi siarad â ni am yr eithriad hwn, gallwch ffonio Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEM a gofyn am gael siarad â’r ‘tîm eithriadau arbenigol’ oherwydd eich amgylchiadau.

Os ydych wedi dioddef trosedd neu gam-drin domestig, neu os yw’r wybodaeth hon wedi peri gofid i chi, mae cymorth ar gael i chi.

Os oes angen i chi siarad â rhywun, cysylltwch ag un o’r sefydliadau canlynol:

  • Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol (SARCs) - mae’r canolfannau hyn mewn rhai mannau o’r DU. Defnyddiwch yr offeryn NHS Choices i ddod o hyd i un yn eich ardal

  • Mae gan The Survivors Trust fwy na 135 o aelod-asiantaethau ledled y DU sy’n rhoi cymorth i oroeswyr trais, ymosodiadau rhywiol neu gamdriniaeth rywiol yn ystod plentyndod (Ffôn: 0808 801 0818)

  • Rape Crisis England and Wales - elusen genedlaethol a’r corff ambarél ar gyfer rhwydwaith o Ganolfannau Argyfwng Trais annibynnol (Ffôn: 0808 802 9999)

  • Mae’r Llinell Gymorth Genedlaethol Cam-drin Domestig - a redir gan Refuge, yn wasanaeth cenedlaethol 24 awr, sy’n rhad ac am ddim. (Ffôn: 0808 2000 247)

  • Rape Crisis Scotland - (Ffôn: 0808 801 0302)

  • Scottish Domestic Abuse and Forced Marriage Helpline - llinell gymorth rad ac am ddim yw hon sydd ar gael 24 awr y dydd. Mae gweithwyr a gwirfoddolwyr y llinell gymorth wedi cael hyfforddiant arbenigol ac maent yn cael eu rheoli gan Scottish Women’s Aid (Ffôn: 0800 027 1234)

  • Llinell Gymorth Byw Heb Ofn - llinell gymorth rad ac am ddim yw hon sydd ar gael 24 awr y dydd. Caiff ei rhedeg gan Gymorth i Ferched Cymru (Ffôn: 0808 80 10 800)

  • Cymorth i Ddioddefwyr - elusen annibynnol sy’n cynnig cymorth i bobl sydd wedi dioddef trosedd neu ddigwyddiadau trawmatig (Ffôn: 0808 168 9111)

  • Mae’r Llinell Gymorth Genedlaethol Stelcian yn rhoi arweiniad a gwybodaeth i unrhyw un sy’n destun aflonyddu neu stelcian ar hyn o bryd, neu sydd wedi bod yn destun aflonyddu neu stelcian yn flaenorol (Ffôn: 0808 802 0300 neu e-bost advice@stalkinghelpline.org)

Efallai y bydd y wefan Victim’s Information Service o ddefnydd i chi wrth geisio dod o hyd i gymorth yn eich ardal leol.

Cyhoeddwyd ar 6 April 2017
Diweddarwyd ddiwethaf ar 19 August 2020 + show all updates
  1. We have updated the section "A child you’re claiming Child Tax Credit for has a child" to confirm that you must send the original full birth certificate of the child you’re claiming an exception.

  2. The National Domestic Abuse helpline has been added to the guidance.

  3. The guidance has been updated to show changes to the rules for claiming support for a maximum of 2 children.

  4. Welsh translation added.

  5. First published.