Elusennau: gweithio gyda chwmnïau a chodwyr arian proffesiynol
Sut gall eich elusen weithio gyda busnesau a chodwyr arian proffesiynol i godi arian neu ymwybyddiaeth gyhoeddus.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Partneriaethau masnachol
Gall eich elusen ffurfio partneriaeth fasnachol i godi arian, er enghraifft gyda:
- manwerthwr sy’n cytuno i roi canran o elw gwerthu rhai eitemau i elusen
- darparwr cerdyn credyd sy’n rhoi canran o bob trafodiad i elusen
Gall hyn gynnwys arddangos enw a logo eich elusen ar gynnyrch.
Gall unrhyw elusen weithio gyda chwmni, waeth beth fo’i maint.
Y manteision i elusennau sy’n gweithio gyda chwmnïau
Gallai gweithio gyda chwmni gynhyrchu mwy o incwm i’ch elusen a’ch helpu i gyflawni nod eich elusen. Gall manteision eraill gynnwys:
- mwy o ymwybyddiaeth gyhoeddus o’ch achos
- sylw yn y cyfryngau a allai eich gwneud yn fwy poblogaidd
- mynediad i adnoddau’r cwmni, megis staff â sgiliau arbenigol
- annog mwy o bobl i wirfoddoli i chi
Diogelu enw ac enw da eich elusen
Mae enw ac enw da eich elusen yn asedau gwerthfawr. Gallai cwmni elwa’n fawr o gael defnyddio’ch enw drwy ffurfio partneriaeth â chi.
Dylech gymryd camau priodol i ddiogelu enw eich elusen, megis sicrhau bod yr hawl genych i atal y cwmni rhag defnyddio eich enw yn y dyfodol. Efallai y bydd rhaid i chi geisio cyngor cyfreithiwr neu gynghorydd proffesiynol arall er mwyn deall gwerth eich enw a sut i’w ddiogelu.
Gall llunio partneriaeth â sefydliad masnachol effeithio ar enw da eich elusen. Er enghraifft, dylech fod yn wyliadwrus rhag gweithio gyda chwmni sydd wedi masnachu’n anfoesegol oherwydd gallai hyn adlewyrchu’n wael arnoch chi.
Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n ymchwilio i unrhyw gwmni cyn llofnodi cytundeb.
Cyn mynd i bartneriaeth â busnes, dylech ymchwilio i weld:
- a oes gan y cwmni hanes o gefnogi elusennau - oedden nhw’n llwyddiannus yn y gorffennol?
- a yw’n ariannol gadarn - a phrofi hyn?
- a yw’n arddel gwerthoedd a moeseg debyg - ydyn nhw’n cyd-fynd â rhai eich elusen chi?
Cynllunio i gydweithio
Gall gweithio gyda sefydliad arall fel hyn arwain at anghytuno, lle mae ymagwedd wahanol gan bob parti tuag at weithio. Dylech chi roi cynlluniau yn eu lle i ddelio â meysydd o wrthdaro posibl, megis:
- brand, enwau a logos yr elusen - sut y cânt eu defnyddio
- hawlfraint, digwyddiadau, gwasanaethau a chynhyrchion - pwy sy’n berchen arnynt
- rolau a chyfrifoldebau - sut y cânt eu dyrannu
- arian - sut y caiff ei drosglwyddo rhwng y ddau barti
- llwyddiant prosiect - sut byddwch yn gwybod a ydych wedi cyrraedd eich nod
Codwyr arian proffesiynol
Efallai fod eich elusen yn ceisio cyrraedd adran ehangach o’r cyhoedd a chynyddu ei phroffil. Os nad oes digon o adnoddau neu gysylltiadau gan eich elusen i godi arian yn effeithiol, gallech ystyried talu codwyr arian proffesiynol i godi arian ar eich rhan.
Gall busnesau codi arian gynnig:
- codwyr arian stryd hyfforddedig
- casgliadau o ddrws i ddrws
- gwasanaethau marchnata dros y ffôn
- ymgyrchoedd post uniongyrchol wedi’u teilwra
Dylech ymchwilio i bob cwmni codi arian yn ofalus cyn penderfynu gweithio gydag un ohonynt. Bydd y cwmni hwn yn eich cynrychioli chi’n gyhoeddus felly mae’n bwysig i:
- gael geirdaon gan elusennau eraill - oes enw da gan y cwmni?
- gofynnwch sut i dalu - oes rhaid i chi dalu ymlaen llaw ac a fyddwch yn cael cyfran deg o’r arian a godir?
- ceisiwch wybod sut mae’r cwmni yn hyfforddi gweithwyr - fydd staff yn gallu ateb cwestiynau am waith eich elusen?
- ymchwiliwch i’r hyn y gall codwyr arian eraill ei gynnig - ydych chi’n cael y gwerth gorau?
Gallech hefyd ofyn a yw’r codwr arian proffesiynol yn aelod o gorff sector cymeradwy, megis Rheoleiddiwr Codi Arian neu Y Sefydliad Codi Arian.
Y gofynion cyfreithiol pan fyddwch yn gweithio gyda sefydliadau eraill
Yn ôl y gyfraith, mae’n rhaid i chi gael contract ysgrifenedig i weithio gyda chodwr arian proffesiynol neu bartner masnachol. Efallai yr hoffech geisio cyngor proffesiynol cyn llunio cytundeb o’r fath.
Am arweiniad pellach darllenwch:
- Beth i’w gynnwys mewn cytundeb ysgrifenedig: elusennau a chodi arian
- Contractau a chytundebau - Rheoleiddiwr Codi Arian
- Partneriaethau corfforaethol, cod ymarfer codi arian - Rheoleiddiwr Codi Arian
Dylai’r cwmni rydych yn gweithio gydag ef ddarparu datganiad deisyfu i roddwyr cyn i arian gael ei drosglwyddo. Rhaid iddo ddatgan yn glir y bydd eich elusen yn elwa ar y rhodd a faint y byddwch yn ei gael.
Hefyd darllenwch ganllawiau Cyllid a Thollau EM ar faterion treth pan fyddwch yn gweithio gyda sefydliadau eraill.