Canllawiau

Ewyllysiau a chymynroddion elusennol

Sut i godi arian yn gyfreithiol i'ch elusen drwy gymynroddion.

Applies to England and Wales

Sut gall eich elusen elwa o gymynroddion

Gall unrhyw un adael arian i elusen yn ei ewyllys - gelwir hyn yn gymynrodd. Gallwch ei gwneud hi’n haws i bobl adael cymynrodd i’ch elusen fel rhan o’ch gweithgareddau codi arian.

Mae codi arian drwy gymynroddion yn bwnc sensitif. Efallai y bydd rhaid i chi ddelio â sefyllfaoedd anodd fel siarad â phobl am yr hyn sy’n digwydd ar ôl iddynt farw, neu siarad ag aelodau’r teulu ar ôl i rywun farw. Dylech chi, eich ymddiriedolwyr a’ch staff fod yn sensitif i bawb.

Mae canllawiau gan y Sefydliad Codi Arian ar yr egwyddorion y dylech fod yn ymwybodol ohonynt, sut i gyfathrebu â’r cyhoedd am gymynroddion, a grwpiau arbennig i rannu syniadau.

Elusennau yn talu am ewyllysiau

Efallai yr hoffai’ch elusen helpu gyda’r gost ewyllys:

  • i hyrwyddo nod eich elusen - er enghraifft os yw’ch elusen yn helpu pobl â salwch terfynol
  • fel cynllun codi arian i annog pobl i roi yn eu hewyllysiau

Mae’r Comisiwn Elusennau yn argymell nad yw unrhyw un sy’n gysylltiedig â’ch elusen yn helpu i lunio ewyllys sy’n cynnwys rhodd ar gyfer eich elusen. Mae hyn yn cynnwys gweithredu fel tyst i’r ewyllys. Mae hyn yn helpu i leihau unrhyw risg o her gyfreithiol.

Er enghraifft, gallai perthynas unigolyn oedrannus deimlo fod eich elusen wedi gweithredu’n anghywir drwy ddwyn perswâd ar yr unigolyn hwnnw i roi’r arian i chi yn ei ewyllys.

Dylech hefyd:

  • ystyried sut y bydd eich elusen yn elwa - ydych chi’n siŵr y bydd y gost o dalu am yr ewyllys yn llai na’r rhodd sydd i’w derbyn?
  • byddwch yn ymwybodol fod gan bawb hawl i ddarparu ar gyfer ei deulu a’i ffrindiau ei hun - ydych chi’n siŵr nad yw’r unigolyn yn teimlo o dan bwysau i roi i’ch elusen?

Mae’n rhaid i ewyllys ddilyn rhai gofynion cyfreithiol er mwyn bod yn ddilys. Er enghraifft, rhaid iddi gael ei harwyddo gerbron dau dyst. Os nad yw’n cael ei wneud yn iawn, gallai’ch elusen golli’r rhodd.

I wybod rhagor am sut i ysgrifennu ewyllys a gadael cymynroddion:

Sut i adael rhodd i elusen yn eich ewyllys - Remember a Charity

Gwneud ewyllys - Cymdeithas y Gyfraith

Materion moesegol ar gyfer codi arian gyda chymynroddion

Mae codi arian drwy gymynroddion yn fater sensitif. Mae’n bwysig dilyn safonau arfer da a rhoi polisïau yn eu lle er mwyn osgoi risgiau posibl, megis:

  • darpar roddwr yn magu perthynas rhy agos â chodwr arian sy’n gweithio i’ch elusen - gall hyn arwain at eich gweithiwr yn cael rhodd yn ei ewyllys yn hytrach na’r elusen.
  • rhoddwr sy’n dewis rhoi i’ch elusen yn hytrach nag i’w deulu ei hun - mae’n bosib y bydd y teulu yn cysylltu â chi ac yn gofyn i chi esbonio pam bod y penderfyniad hwn wedi cael ei wneud.

Mae canllawiau gan y Sefydliad Codi Arian ar sut i ddelio â materion moesegol:

Materion moesegol ar gyfer codi arian drwy gymynroddion - Y Sefydliad Codi Arian

Materion cyfreithiol ar gyfer codi arian gyda chymynroddion

Gall eich elusen leihau’r risg o wynebu her gyfreithiol yn erbyn ewyllys rydych wedi talu amdani drwy roi rhai mesurau diogelu syml yn eu lle. Mae’r comisiwn yn argymell eich bod yn ceisio eich cyngor cyfreithiol eich hun ar y rhagofalon a allai fod yn angenrheidiol ar gyfer eich elusen:

Cael hyd i gyfreithiwr - Cymdeithas y Gyfraith

Mae’r comisiwn yn cynghori y dylai rhoddwyr ddefnyddio eu cyfreithwyr eu hunain i lunio eu hewyllysiau. Os nad oes cyfreithiwr ganddynt, gall eich elusen eu cynghori i gael hyd i un, ond ni ddylent argymell cwmni neu unigolyn arbennig.

Mae’n rhaid i’r cyfreithiwr dan sylw fod yn hapus bod yr ewyllys yn adlewyrchu dymuniadau’r rhoddwr, a bod y rhoddwr yn deall pa effaith y bydd ei ewyllys yn ei chael. Dylai hyn gael ei gofnodi ar bapur.

Dylai’ch elusen hefyd sicrhau:

  • bod eglurhad ysgrifenedig yn cael ei roi i’r rhoddwr a’r cyfreithiwr sy’n esbonio pam eich bod yn cynnig talu am yr ewyllys a pha weithdrefnau gaiff eu dilyn
  • mae’r cyfreithiwr sy’n paratoi’r ewyllys yn egluro ei fod yn gweithredu er lles y rhoddwr yn unig, er ei fod yn cael ei dalu gan eich elusen.
  • bod y cyfreithiwr yn cymryd cyfarwyddiadau gan y rhoddwr yn unig, nid gan eich elusen, a bod hyn yn cael ei gadarnhau ar bapur

Cewch wybod yma am y cyfreithiau a’r codau ymarfer sy’n ymwneud â chodi arian drwy gymynroddion:

Codi arian drwy gymynroddion - Y Sefydliad Codi Arian

Will writing jargon buster - Remember a Charity

Cyhoeddwyd ar 23 May 2013