Canllawiau

Elusennau: sut i leihau'r risgiau wrth weithio'n rhyngwladol

Sut i adnabod a rheoli risgiau, trin arian yn ddiogel a diogelu eich staff a'ch buddiolwyr os yw'ch elusen yn gweithio dramor.

Applies to England and Wales

Gwledydd ansefydlog: asesu’r risgiau

Gall gweithio mewn gwlad sy’n ansefydlog yn wleidyddol olygu bod eich elusen yn agored i risg. Er enghraifft, gallai gwrthdaro ddigwydd sy’n rhoi staff, buddiolwyr ac asedau eich elusen mewn perygl.

Mae’n rhaid i chi ddangos eich bod chi wedi pwyso a mesur manteision gweithio mewn gwlad arall yn erbyn y niwed posibl. Er enghraifft, dylech chi nodi’r risgiau posibl y gallech chi eu hwynebu a phenderfynu sut i’w rheoli.

I wybod rhagor am reoli risg ar gyfer elusennau sy’n gweithio’n rhyngwladol:

Staff lleol: dilynwch reolau cyflogaeth

Gall pobl leol wybod mwy am y gymuned a’r diwylliant lle rydych yn gweithio. Gall cyflogi pobl yn lleol rhoi hwb i sgiliau a gwybodaeth, a allai gynnig budd i’r gymuned lle rydych yn gweithio.

Bydd rhaid i chi ymchwilio i reolau cyflogaeth lleol. Efallai fod cyfreithiau gwahanol gan wledydd eraill ar gyflogi pobl.

Diogelu staff a buddiolwyr eich elusen

Os yw’ch elusen yn gweithredu mewn ardal risg uchel, gall eich staff a’ch buddiolwyr fod mewn perygl. Er enghraifft efallai eich bod yn gweithio mewn ardal lle mae clefydau yn gyffredin. Meddyliwch am y risgiau a sut y gallwch ddiogelu eich gweithwyr a’ch buddiolwyr.

Efallai fod eich elusen yn gweithio gyda buddiolwyr a allai gael eu cam-drin. Mae’n rhaid i chi gynnal gwiriadau priodol ar unrhyw un fydd yn gweithio gyda phobl agored i niwed, a rhoi gweithdrefnau yn eu lle i ddiogelu eu buddiannau a’u hawliau.

I gael rhagor o arweiniad ar ddiogelu staff a buddiolwyr darllenwch:

Gochelwch rhag terfysgaeth

Mae’n rhaid i chi sicrhau nad yw’ch elusen yn gweithredu mewn cydweithrediad ag unigolion neu grwpiau sy’n gysylltiedig â gweithgareddau terfysgaeth, neu sy’n cefnogi terfysgwyr. Gall hyn ddigwydd yn anfwriadol os nad oes gan elusennau brosesau priodol ar gyfer monitro eu cyllid a’i hadnoddau.

Gallwch ddefnyddio’r adnoddau hyn i reoli’r risgiau sy’n gysylltiedig â therfysgaeth:

Elusennau a therfysgaeth: pecyn cymorth cydymffurfio

Olrhain: cadw golwg ar arian ac adnoddau

Mae’n bwysig eich bod yn gallu sicrhau’r cyhoedd bod cronfeydd yn mynd lle y bwriedir iddynt fynd. Er enghraifft, dylai fod llwybrau archwilio clir gennych sy’n datgan faint o arian sydd wedi cael ei symud ac i ble y cafodd ei symud.

Mae’n rhaid i chi gymryd gofal ychwanegol mewn sefyllfaoedd risg uchel megis darparu gwasanaeth brys yn ystod trychineb. Gall eich elusen fod yn agored i fwy o risg o arian neu gymorth yn cael ei ddwyn. I gael arweiniad pellach darllenwch:

Twyll a throseddau ariannol: diogelu asedau’ch elusen

Gall eich elusen fod yn fwy agored i dwyll pan fydd yn gweithio dramor, yn enwedig os ydych yn defnyddio arian parod yn lle’r system fancio i wneud trafodion.

Dylech ystyried sut y gallwch chi ddiogelu eich elusen rhag y math hwn o weithgarwch troseddol.

I wybod sut i adnabod y mathau cyffredin o weithgarwch twyllodrus ac adnabod ffyrdd o ddiogelu eich arian ac adnoddau eraill:

Trosglwyddo arian: deall y risgiau

Pan fyddwch yn penderfynu faint o arian i’w ddal yn lleol yn y wlad lle rydych yn gweithio, dylech ystyried pa risgiau y gall eich elusen eu hwynebu. Gallech golli arian os yw’r system fancio leol yn methu, neu os yw’r gyfradd cyfnewid yn gostwng, er enghraifft. Dylech geisio cadw’r swm lleiaf posib o gronfeydd lleol y bydd eu hangen arnoch.

Trosglwyddo arian drwy’r system fancio yw’r dull mwyaf diogel. Dylai fod gweithdrefnau clir gennych yn eu lle sy’n nodi sut i agor a rheoli eich cyfrifon banc. I gael arweiniad pellach darllenwch:

Dal, symud a derbyn cronfeydd yn ddiogel: pecyn cymorth cydymffurfio

Arian a materion eiddo: elusennau sy’n gweithio’n rhyngwladol - canllaw manwl

Ymchwiliwch i sefydliadau lleol cyn gweithio gyda nhw

Efallai y byddwch yn penderfynu bod yn bartner i sefydliad lleol am resymau cost-effeithlonrwydd neu oherwydd yr wybodaeth a’r cysylltiadau lleol a gynigir ganddo. Os hoffech sefydlu cronfa drychineb dramor neu apêl arbennig, gallai gweithio gydag asiantaeth neu sefydliad lleol sydd eisoes yn bodoli gynnig y ffordd gyflymaf a mwyaf cost-effeithiol o helpu pobl.

Cyn arwyddo unrhyw gytundebau, mae’n rhaid i chi ymchwilio i’r sefydliad yn drwyadl i sicrhau ei fod yn hollol ddibynadwy ac ni fydd unrhyw risg i’ch cronfeydd.

Darllenwch ganllawiau’r Comisiwn Elusennau ar sut i ymateb i drychineb a sut i asesu partneriaid posibl.

Dilysu partner arfaethedig - ffurflen

Cytundeb partneriaeth

Adroddiad monitro grantiau: datganiad gan sefydliadau partner

Gweithio gyda phartneriaid a diogelu’r elusen: pecyn cymorth cydymffurfio

Trefniadau gweithio rhyngwladol: cydweithio a chyfuniadau - canllawiau manwl

Cyhoeddwyd ar 10 May 2013